Showing posts with label Cenedlaetholdeb. Show all posts
Showing posts with label Cenedlaetholdeb. Show all posts

4.7.08

Hynt a helynt darlithio yn Undeb yr Annibynwyr

Fuesi lawr yn Abertawe heddiw yn rhoi'r ddarlith hanes yn Undeb yr Annibynwyr. Fel un sydd wedi fy magu mewn eglwys annibynnol nad sy'n aelod o'r Undeb roedd hi'n agoriad llygad gweld yr Undeb ar waith, ond trafodaeth at rywbryd eto yw hynny! Y testun heddiw oedd, sypreis sypreis, R. Tudur Jones a Phlaid Cymru. Swmp y ddarlith oedd fy nhraethawd hir gradd, mae e ar gael i ddarllen YMA (PDF) i unrhyw un a diddordeb. Fe'm harweiniwyd gan yr Ysbryd Glan i ddefnyddio'r ddarlith i herio yn ogystal a chyflwyno'r hanes moel am Dr. Tudur. Dyma oedd fy sylwadau clo, maddeuwch y llaw fer:

Casgliadau a'r Her Heddiw

Lle mae hyn yn ein gadael ni heddiw yn 2008? Pa wersi y gellid ei dysgu o hanes a syniadaeth Dr. Tudur? Eleni rydym ni'n coffau deng mlynedd ers marwolaeth R. Tudur Jones. Llawer wedi newid yn y ddeng mlynedd diwethaf: datganoli wedi blodeuo, yn ystadegol mae'r iaith Gymraeg yn y broses o gael ei hadfer, Plaid Cymru mewn Llywodraeth ac un o gyn-fyfyrwyr Dr. Tudur ym Mala-Bangor yn Weinidog Iaith a Diwylliant! Ond: dirywiad yr Eglwysi yn gwaethygu, cymunedau Cymraeg dan warchau a “cenedlaetholwyr” mewn llywodraeth yn torri addewidion

Byddai'n anghyfrifol i mi roi geiriau yng ngheg y diweddar Dr. Tudur. Ond holwch chi eich hun beth fyddai Dr. Tudur yn ei ddweud am rîn Plaid Cymru heddiw? Beth fyddai Dr. Tudur yn ei ddweud am hygrededd Gweinidogion Plaid Cymru mewn llywodraeth heddiw? Fy marn bendant i yw y bod angen dylanwad Cristnogol cryf ar y mudiad cenedlaethol yng Nghymru o'r newydd heddiw fel ag yn nydd Dr. Tudur – mae dyletswydd arnom i fod yn lefain yn y blawd.

Dywedodd Dr. Tudur yn 1976:

“Yn y diwedd, ffydd sy'n rhyddhau egni ac yn tanio hunanaberth ac ymroddiad. Dyna pam mae'n ddyletswydd ar y rhai ohonom sy'n dwyn cyfrifoldeb uniongyrchol am yr eglwysi ac am addysg gweinidogion i roi sylw gwirioneddol ddifrifol i bopeth a all beri adnewyddiad yn yr eglwysi. Achubwyd ein cenedl o bosibilrwydd difodiant fwy na unwaith gan adnewyddiad Cristnogol mawr.”


Gan adael gwrthrychedd academaidd wrth y drws rhaid i mi nodi mod i'n cyd-weld yn llwyr a gweledigaeth Dr. Tudur ac mi gredaf mai dim ond adferiad ysbrydol all ddod ac integriti gwleidyddol a diwylliannol llawn yn ôl i Gymru. Rhyddid a Hunanlywodraeth yw'r asgwrn cefn a'r ffydd Gristnogol yw'r sbeinal cord - ni all un lwyddo yn ei waith o gynorthwyo Cymru i gerdded yn gefn syth heb y llall.

21.6.08

Coleg Ffederal Cymraeg - rhaid achub ar y cyfle nawr

Yn dilyn cyfarfodydd ddoe (ni ddywedaf ymhle na gyda phwy oherwydd rwy'n parchu preifatrwydd y cyfarfodydd) rwy'n teimlo fel bod yn rhaid dweud gair am Goleg Ffederal Cymraeg eto fyth.

Gan ddisgwyl cyhoeddiad buan gan y Gweinidog Addysg Jane Hutt ynglŷn a pholisi Llywodraeth Cymru'n Un o Goleg Ffederal Cymraeg carwn dynnu eich sylw at yr hyn a gredwn a dderbyniwyd ers blynyddoedd fel pedair egwyddor craidd Coleg Ffederal Cymraeg. Gellid defnyddio'r pedwar egwyddor yma wedyn fel meini prawf i farnu os ydy'r Llywodraeth ar y trywydd cywir tuag at wireddu eu haddewid o sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg. Rhaid i Goleg Ffederal gynnwys yr elfennau canlynol:

(i.) Statws statudol a chyfansoddiad annibynnol,

(ii.) Siarter a chylch gorchwyl annibynnol gan gynnwys cyfrifoldeb dros holl addysg uwch cyfrwng Cymraeg Cymru,

(iii.) Llif arian annibynnol — o leiaf £20 miliwn yn y lle cyntaf tybiwn; ac yn olaf

(iv.) Cofrestr myfyrwyr annibynnol, a fydd yn sicrhau bod modd i fyfyrwyr gofrestru gyda’r Coleg Ffederal a chyda’u coleg daearyddol, gan arwain at ymdeimlad o berthyn a pherchnogaeth ohono.


I'r rhai diffuant hynny sy'n gofidio y bydd creu Coleg Cymraeg fel sefydliad statudol annibynnol yn rhyddhau'r sefydliadau presennol o'i cyfrifoldebau gadewch i ni gael un peth yn glir. Mi fydd y sefydliadau presennol yn parhau i fod yn ddarparwyr dan unrhyw drefn newydd. Mor debyg yw'r gymhariaeth gyda'r dadleuon yn '79 gyda sefydlu S4C. Sianel Gymraeg Vs mwy o ddarpariaeth Gymraeg ar y sianeli Saesneg. Coleg (aml-safle) Cymraeg Vs mwy o ddarpariaeth Gymraeg yn y prifysgolion presennol. Maen amlwg bellach mae rheidrwydd oedd sefydlu S4C er mwyn datblygu teledu Cymraeg, er fod y BBC yn parhau i fod yn chwaraewr pwysig ym myd darlledu Cymraeg yn yr un ffordd ac y bod yn rhaid gweld sefydlu Coleg Cymraeg i ddatblygu addysg Gymraeg er y bydd y prifysgolion traddodiadol yn parhau i chwarae eu rhan.

Eisoes mae llythyr agored gan dri deg o academwyr blaenllaw sy'n ymarferwyr dydd i ddydd ym maes dysgu cyfrwng Cymraeg wedi ei anfon at Jane Hutt yn amlinellu y pedwar egwyddor craidd. Yn ogystal, mae rhai cannoedd o bobl wedi torri eu henwau ar y ddeiseb ar-lein, croeso i chi lwybro draw i ychwanegu eich enw chi. Llwyr obeithiaf y bydd y llywodraeth yn achub ar y cyfle unigryw yma i sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg ac na fydd y cyfle yn cael ei golli am genhedlaeth arall.

Mae gair wedi mynd i mewn i'r cylchgronau a'r papurau yn dweud yr un peth... efallai i chi synhwyro mae nid di-sail yw'r gofid bellach nad ydym ni yn debygol o weld setliad sy'n anrhydeddu'r pedwar egwyddor craidd yn llawn.

11.6.08

Cenedlaetholdeb Gristnogol: ateb dadl "hen ferchetan"

Ar y blogiad yma yn trafod Cenedlaetholdeb Gristnogol R. Tudur Jones fe adawodd hen ferchetan y sylwad diddorol a heriol canlynol:

Allaim gweld unrhyw gyslltiad o gwbwl Rhys. Doesna ddim cysylltiad amlwg rhwng Cristnogaeth a Chenedlaetholdeb - mae'r syniad fod yr hen athiestaid na wedi pylu y gefnogaeth i genedlaetholdeb yn nonsens.


Rhydd i bawb ei ddehongliad ond ni all neb sydd ond wedi gwario cyn lleied a phum munud yn astudio Hanes Cymru wadu fod cysylltiad cryf os nad an-wahanadwy rhwng Cristnogaeth a Chenedlaetholdeb yng Nghymru. Cymer er enghriafft yr olyniaeth yma sydd yn cael ei chyfri fel un olyniaeth o Genedlaetholdeb Gymreig:

Dewi Sant>John Penry>Griffith Jones>Michael D. Jones>Emrys ap Iwan>Saunders Lewis>Lewis Valentine>J.E. Daniel>Gwynfor Evans>R. Tudur Jones


Maen nhw oll yn Gristnogion ac, yn fwy pwysig, eu ffydd Gristnogol oedd sail eu cenedlaetholdeb. Er nad oedd rhyw lawer o bragmatiaeth yn perthyn i genedlaetholdeb R. Tudur Jones a chyn hynny Saunders Lewis does dim gwadu fod eu cenedlaetholdeb o rîn dyfnach na chenedlaetholdeb Plaid Cymru heddiw, ac i mi y symud oddi wrth genedlaetholdeb Gristnogol i genedlaetholdeb seciwlar sydd i gyfri ac esbonio hyn.

Plaid Cymru a moesoldeb Gristnogol

Yn archifau Dr. Tudur bore me dois ar draws llyfr nodiadau gyda anerchiadau ac areithiau o'i eiddo mewn llaw fer a draddododd mewn ralîau a chyfarfodydd Plaid Cymru yn ry 1950au. Dyma fy ffefryn i:

Nid rhywbeth a dyfodd dros nos yw bwyd cenedl ond tyfiant araf dros y cenedlaethau. Y mae gwin y gorffennol wedi ei gostrelu yn ein harferion, a'n hiaith a'n dull o fyw. Ac os collir y gwin hwn collir rhywbeth na ellir byth ei ail gynhyrchu. Y peth tristaf ynglŷn â Chymru ar hyn o bryd yw'r perygl enbyd i'r cwbl yma fynd ar goll. A hynny oherwydd y gwrthodir inni'r rhyddid teg i fynegi cyfoeth ein traddodiad. Atelir ni ymhob rhyw fodd...
Beth allwn ni ei wneud? Sylwch mai cwestiwn moesol yw hwn, cwestiwn ynglŷn â'n hagwedd at fywyd dyn ar y ddaear, at gymdeithas a dyfodd dros lawer o genedlaethau. A ydym am helpu i ddiffodd y gymdeithas hon ai peidio? Mwy na hynny, i ni sy'n etifeddion y traddodiad Cristnogol, y mae llawer o nodweddion y gymdeithas Gymreig yn gynnyrch uniongyrchol y ffydd Gristnogol ei hun. Yn awr, fe gytunwn y profir ansawdd ein ffydd Gristnogol ni yn ein ymwneud â dynion ac â phethau. Cytunwn yn barod fod awydd Hitler i ddileu'r cymdeithasau hynny a safai ar ei ffordd yn rong. Yr oedd yn beth i'w gondemnio yn enw Duw. Cwestiwn moesol oedd hwnnw. Cytunwn fod gwaith Mussolini yn mygu rhyddid barn yn yr Eidal yn beth annuwiol. Cytunwn fod gwaith Rwsia yn Hwngari yn anghywir. Hynny yw, cwestiynau moesol a Christnogol yw'r rhain i gyd. Yn awr, cwestiwn moesol a chrefyddol yw cwestiwn Cymru hefyd. Un o egwyddorion mawr sylfaenol y ffydd Gristnogol yw parch at ddyn fel dyn, ac at y cymdeithasau y mae dynion yn eu ffurfio. Yma, fe olyga hynny, ein hagwedd ni at y gymdeithas yr ydym yn aelodau ohoni. (Gwŷl Ddewi, 1957 [Ffeil 74])


I mi, mater moesol sy'n deillio o fy ffydd Gristnogol yw Cenedlaetholdeb o hyd. Ac dwi ddim yn meddwl mod i'n siarad ar fy nghyfer wrth ddweud fod symud Plaid Cymru oddi wrth egwyddorion craidd Cenedlaetholdeb wedi dod law yn llaw a pylu ar y dylanwad Cristnogol a twf atheistiaid oddi fewn i'r Blaid.

11.1.08

Dyfyniadau gan R. Tudur Jones I

Dwi nol ym Mangor a nol a'm dannedd yn yr ymchwil. Ar hyn o bryd dwi'n darllen trwy rifynnau'r 50au o'r Welsh Nation a rhifynnau'r 60au o'r Ddraig Goch, sef papurau Plaid Cymru. R. Tudur Jones, testun fy noethuriaeth, oedd y golygydd yn ystod y ddau ddegawd yma. Dwi wedi codi sawl dyfyniad difyr o'r ysgrifau golygyddol felly dyma rannau rhai, maen debyg y byddaf yn rhannu tipyn dros yr wythnosau nesaf:

In brief, if the London Parliament sanctions the annexation of Tryweryn by the city of Liverpool, England will be as guilty of an act of international aggression as Germany was when she invaded Poland in 1939.
- R. Tudur Jones: Medi 29, 1956

Liberals have been talking about Home Rule for 80 years. They have had an excellent opportunity to achieve it, but it was conveniently forgotten in the years of power. It is too late to talk big now.
- R. Tudur Jones: Medi 22, 1956

A system where Wales and Scotland are in a permanent minority is not a democracy, it is tyranny. Politicians who are afraid to give the people of Wales the right to organise the life of their nation as they see best are obviously guilty men.
- R. Tudur Jones: Ionawr, 1955


Am gonscripsiwn yn y 50au:

The doctrine that we owe even our lives and the lives of our children to the State merely because it has been just towards us is to convert the State into a god, a thing to be worshiped. It is the essence of the Fascist doctrine of the Corporate State.
- R. Tudur Jones: Ionawr, 1956

5.9.07

Cledrau Tren newydd i Gymru?

Mae hi'n 2.19 y.b. a dwi methu cysgu (dwi'n amau fod bwyta clamp o frechdan samwn cyn mynd i fy ngwely rhywbeth i wneud a'r peth) felly beth well i'w wneud na phostio rhywbeth ar fy mlog. Dwi wedi bod yn pori gwefannau y BBC i weld os oes yna rhyw stori y carwn wneud sylwad arni a des i ar draws y stori yma sef i dren fedru teithio o Baris i Lundain mewn dwy awr tair munud. Bu'n bosib torri'r record flaenorol yn ddeilchion oherwydd i'r tren deithio ar hyd cledrau newydd sbon drwy Sir Kent ar y ffordd i Lundain a gostiodd swn nid ansylweddol o £5.8 biliwn (!!) i'r trethdalwyr - mae hynny'n £73.5 miliwn y filltir.

Dwi wedi sôn o'r blaen ar y blog, clecyma, am broblem diffyg trenau a chledrau yng Nghymru. A dwi hefyd wedi sôn am, clec yma, amcangyfrif o gost adeiladu traffordd rhwng Caerdydd a Bangor sef oddeutu £4.6 biliwn. Pan sylweddolais beth fyddai pris prosiect o'r fath sylweddolais na chaiff ffordd o'r fath byth ei hadeiladu ond wele gledrau yn cael eu gosod yn Ne-Ddwyrain Lloegr ar gost uwch o £5.8 biliwn - nid yw gwario y ffasiwn bres ar un prosiect yn rhywbeth cwbl freuddwydiol felly wedi'r cyfan. Maen dweud y cyfan am y modd mae Cymru yn cael ei thrin fel cenedl lai pwysig mewn gwladwriaeth fwy - ni fuasai'r Wladwriaeth Brydeinig yn hanner ystyried gwario y ffasiwn arian ar brosiect is-adeiledd i Gymru ond dydy gwario £5.8 biliwn ar brosiect yn y De-Ddwyrain yn ddim byd.

O ddefnyddio'r ystadegau o'r stori newyddion heddiw felly sef bod cledrau newydd yn costio £73.5 miliwn y filltir faint byddai hi'n costio i adfer y linell rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin? £4.5 biliwn! Beth am godi llinell rhwng Stiniog a Penrhyndeudraeth? £0.95 biliwn.

O wel, fe fedrw ni wastad freuddwydio yn gallwn?

5.7.07

Llafur-Plaid: dwi ddim wedi fy argyhoeddi

Dydw i heb sylwebu ar wleidyddiaeth Cymru na chlymbleidio ar y blog ers rhai wythnosau ond dwi wedi fy nghymell i wneud heddiw. Roeddwn ni'n darllen ar flog Vaughan Roderick fod yna bedair AC o'r Blaid Lafur wedi dod allan yn gryf yn erbyn clymblaid gyda Phlaid Cymru. Eu dadl nhw, yng ngeiriau Vaughan, ydy; '...y byddai'r bwriad i ymgyrchu dros bleidlais Ie mewn refferendwm ar bwerau llawn yn llesteirio’r gwaith o sicrhâi cyfiawnder cymdeithasol.' Nawr dyma'r hen rethreg Llafur dwi wedi hen hen flino ei glywed. Y sglodyn enfawr 'ma sydd ganddyn nhw ar eu ysgwyddau fod bod yn genedlaetholwr gyfystyr a pheidio poeni am gyfiawnder cymdeithasol/economaidd.

Plaid unoliaethol ydy'r Blaid Lafur, ac os oes yna rai oddi mewn iddi yn ddatganolwyr datganolwr reactionary ydyn nhw – dydy nhw ddim yn gweld gwerth i'r Genedl ei hun dim ond, o bosib, fel cyfrwng i hybu eu agenda economaidd, llenwi gwacter democrataidd ayyb... Dwi'n cyfaddef fod yna bethau 'cenedlaetholgar' cryf yn y ddogfen Llafur-Plaid, fodd bynnag, rhaid holi o ddifri os ydy'r Blaid Lafur wir am wireddu rhain ynteu rhyw 'take what every you want but don't touch my face' i aros mewn pŵer yw'r addo yma o Gomisiynydd Iaith, Coleg Ffederal Cymraeg, Refferendwm ar bwerau llawn ayyb...

Roeddwn ni'n gefnogol ac yn bleidiol i'r Enfys, ac fe glywai chi'n dweud nawr 'Rhys bach, mae'r Ceidwadwyr yn unoliaethwyr hefyd.' Ydyn maen nhw, ond NI, Plaid Cymru fyddai yn arwain y llywodraeth – Ieuan Wyn Jones, y cenedlaetholwyr fyddai'n Brif Weinidog. Gwahaniaeth sylfaenol felly rhwng gweithio mewn llywodraeth gyda phlaid unoliaethol (Ceidwadwyr) oddi tanom ni i fod yn gwn bach mewn llywodraeth a phlaid unoliaethol (Llafur) yn ein rheoli ni.

Dwi'n mynd i wrando ar Ieuan Wyn Jones nos Iau yn Aberystwyth gyda meddwl agored. Fodd bynnag mi fyddaf yn ail-ystyried fy lle ym Mhlaid Cymru os na argyhoeddith Ieuan Wyn Jones fi yn wahanol nos Iau. Alla i ddim gweld lle i mi mewn plaid sy'n cadw pobl gwrth-Gymreig fel Ann Jones, Karen Sinclair ac Irene James mewn llywodraeth.

Fyddai ddim yn ymaelodi a'r Ceidwadwyr fel y mai rhai (ffôl a naîf) wedi darogan fodd bynnag byddaf mwy na thebyg yn rhoi terfyn i fy nghyfraniadau ariannol (nad sydd yn fawr cofiwch, dwi'n fyfyriwr!) ac yn peidio bod yn aelod gweithredol. Sy'n biti mawr gan mod i wedi rhoi peth wmbreth o amser i mewn i'r ymgyrch lwyddiannus i ail ethol Elin Jones yng Ngheredigion (dwi dal heb ddal fyny gyda fy ngwaith ymchwil yn iawn) ac wedi mwynhau y gwaith yn fawr iawn – a beth oedd ein blurb yma yng Ngheredigion? 'Lib Dems are in talks with Labour all ready to keep Labour in power.' Bydd dim wyneb gennai wynebu etholwyr Ceredigion mwyach. Ac fe dybiaf fod unrhyw obaith oedd gan Seimon Thomas i ail-ennill y sedd wedi ei golli.

5.6.07

Anglicaniaid yn Uchel - Anghydffurfwyr yn Dawel

Tawel a fu ac a fydd y blog yn anffodus. Newydd ddychwelyd o'r de ar ôl treulio cyfnod yn ardal Caerfyrddin a 'steddfod yr Urdd - llawenydd mawr oedd clywed fod Menna wedi dod yn drydydd yn y Goron! Dwi ffwrdd i Fangor am rai rai diwrnodau fory felly yn ceisio troi rhai pethau rownd gan mod i ond adre am noson felly dim amser i flogio'n iawn dim ond nodi mod i'n falch fod Barry Morgan wedi siarad allan ar ran yr Eglwys yng Nghymru ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru. Yn draddodiadol yr anghydffurfwyr sydd wedi bod yn flaenllaw yn wleidyddol ond lle oedden nhw heddiw yn cefnogi Barry Morgan? Pryd y cawsom ni ddatganiadau herfeiddiol am wleidyddiaeth a moesau ein cenedl gan ein eglwysi anghydffurfiol? Dowch laen ben bandits yr enwadau anghydffurfiol, Geraint Tudur (Annibynwyr), Ifan Roberts (Hen Gorff) a Peter Thomas (Bedyddwyr) - peidiwch a gadael i'r Eglwyswyr yma ddwyn eich mantell radical chi.

8.4.07

Canlyniad tebygol Ceredigion 2007

Ers pythefnos ac am y dair wythnos nesaf dwi'n bwriadu neilltuo mwy o amser na'r arfer i Blaid Cymru. Rhag ofn fod rhai o'm tiwtoriaid ym Mangor yn darllen hwn ac yn arswydo gan wybod fy mod i fod i weithio ar draethawd ar y syniad o Wladwriaeth Ddwyfol yn y cyfnod Piwritanaidd – peidiwch a phoeni mae'r gwaith yn mynd rhagddo o hyd. Hefyd mewn amddiffyniad o roi peth amser i'r Blaid dros yr wythnosau nesaf rhagor na darllen llawn amser gwerth fyddai i mi nodi i R. Tudur Jones (testun fy ymchwil gyda llaw i chi nad sy'n gwybod) roi peth amser o'r neilltu i weithio yn ddiwyd dros y Blaid adeg etholiad.

Rwy'n byw yn Aberystwyth, Ceredigion, sedd fydd yn faes brwydr galed a brwd rhwng y Blaid a'r Democratiaid Rhyddfrydol. Yn draddodiadol sedd Ryddfrydol yw Ceredigion a'r Rhyddfrydwr mawr olaf i gynrychioli'r sedd yn San Steffan oedd Geraint Howells, gwr bonheddig ac os nad oedd yn Genedlaetholwr politicaidd roedd yn sicr yn Wladgarwr brwd ac fe gefnogodd ddatganoli yn 1997. Fodd bynnag profodd ganlyniad Ceredigion (a Gogledd Penfro bryd hynny) yn etholiad cyffredinol 1992 yn 'shock result' dros Gymru. Mae atgofion gan fy rhieni o hen ffrindiau coleg yn ffonio wedi i'r blychau gau ar noson yr etholiad yn holi os oes sail i'r honiad “fod gobaith yng Ngheredigion” eu hateb oedd “na, dwi ddim yn meddwl yn anffodus.” Ond er mawr syndod a llawenydd i fy rhieni neidiodd y Blaid, gyda'i hymgeisydd Cynog Dafis, o'r pedwerydd safle i'r cyntaf gan guro y Bonheddwr poblogaidd Geraint Howells gyda mwyafrif sylweddol o dros 3,000. Wele y newid ym mhleidlais y Blaid yng Ngheredigion yn arwain fyny, ac yn cynnwys, 1992:

Collodd y Rhyddfrydwyr bob momentwm ac yn 1997 methiant trychinebus oedd eu hymgais i ail ennill y sedd – roedd hyn yn rhannol oherwydd y buzz ynghylch y Blaid Lafur yn 1997 – 'things can only get better' – perfformiodd Llafur yn well na'r arfer yng Ngeredigion yn 1997 a gellid casglu mae'r Rhyddfrydwyr fu ar eu colled ac nid y Blaid. Rhwng 1997 a 2003 mynd o nerth i nerth y gwnaeth Plaid Cymru gyda Cynog Dafis yn ennill pleidlais bersonol gref drwy gael ei weld fel deiliad mantell Geraint Howells. Wele y canlyniadau rhwng 1997 a 2003 (sydd yn cynnwys dwy etholiad Cynulliad Cenedlaethol yn 1999 a 2003 yn ogystal ac Is-Etholiad yn 2000, noder hefyd fod canlyniad y rhyddfrydwyr yn 1999 yn cynnwys eu nifer nhw+yr ymgeisydd annibynnol y credaf i oedd yn dwyn cefnogaeth Rhyddfrydwyr traddodiadol yn ogystal):

Ond wrth gwrs daeth Etholiad 2005 a tipyn o sioc i Bleidwyr Ceredigion. Roeddem ni wedi syrthio i'r trap o feddwl fod Ceredigion bellach yn sedd saff i'r Blaid. Yn amlwg toedd hi ddim ac fe gollodd Seimon Thomas y sedd yn ôl i'r Rhyddfrydwyr o 219 o bleidleisiau yn unig, wele y swing cafodd y Rhyddfrydwyr rhwng 2001 a 2005 yn y graff isod (yn dangos y swing mewn canran rhwng 2001 a 2005):

Yn hollol fecanyddol (fe ddof at beth ddigwyddith go iawn mewn munud) petae yr un swing a ddigwyddodd rhwng 2001 a 2005 i ddigwydd rhwng etholiad 2003 a 2007 dyma fyddai'r canlyniad yn seiliedig ar turn out ychydig yn uwch na 2003 sef 30,000 o etholwyr (ymgyrchu mwy gweledol a pynciau mawr lleol fel cau ysbytai yn debygol o ddod a mwy allan i bleidleisio yng Ngheredigion) a'r newid canrannau fel a ganlyn: Plaid -2.4, Rhyddfrydwyr +9.6, Llafur -3.3, Ceidwadwyr -7.1:

Fel y gwelwch chi os y digwydda swing 2005 yn 2007 yna fe fyddai'r Blaid yn dal ar y sedd a hynny gyda mwyafrif o 1,740. Ac a bod yn hollol deg re-run o 2005 fyddai y 'worst case senario' i'r Blaid yn 2007. Os ydy'r Blaid dal i ddal ar y sedd gyda'r 'worst case senario' yna mae pethau'n edrych yn reit addawol i'r Blaid.

Ond dwi ddim yn meddwl y bydd 2007 yn re-run unfath o'r hyn ddigwyddodd yn 2005 am y rhesymau canlynol:

1. Plaid Cymru wedi dysgu gwers ac felly ag ymgyrch gref broffesiynol eleni
2. Plaid Cymru, yn ystadegol, yn gwneud yn well na'r pleidiau Prydeinig yn etholiadau Caerdydd a'r pleidiau Prydeinig yn draddodiadol yn gwneud yn well na'r Blaid yn etholiadau Llundain. Y fantais yn 2007 gyda'r Blaid felly.
3. O gymhathu ystadegau 2005 i un 2007 dim ond 780 o bleidleisiau bydda'i Ceidwadwyr yn cael – mae hyn yn amlwg yn gam-arweiniol oherwydd disgwylir i'r Ceidwadwyr wneud yn rhesymol gan eu bod nhw ag ymgeisydd cryf ac hefyd fod y Ceidwadwyr yn gyffredinol mewn cyfnod o fis-mel gyda Cameron fel arweinydd – y Rhyddfrydwyr yn fwy tebygol o golli pleidleisiau i'r Ceidwadwyr na Plaid.
4. Hefyd Elin Jones yn ymgeisydd cryfach a mwy addas i Geredigion nag yr oedd Seimon Thomas dros y Blaid.

Felly fel casgliad dwi'n meddwl gallaf ddweud yn reit addawol y bydd Elin Jones a Phlaid Cymru yn cadw'r sedd er y bydd hi'n reit agos ar y noson – mae'r ystadegau a ffactorau eraill yn dangos fod Elin yn debygol o ddal gafael er y caiff ei mwyafrif ei docio ryw ychydig.

5.4.07

Etholiad ar y gweill - cyfle i ddyrchafu cyfiawnder i Gymru?

A ninnau yn nesau at gyfnod Etholiad gadewch i mi dynnu eich sylw at bamffled ddifyr cyhoeddodd R. Tudur Jones yn 1952 'Yr Annibynwyr a Hunanlywodraeth i Gymru'. Ddwy flynedd yng nghynt pasiodd Undeb yr Annibynwyr yn Undeb Ystradgynlais (1950)

Ein bod ni gynrychiolwyr Eglwysi Annibynwyr Cymru... yn datgan yn bendant ein hargyhoeddiad ein bod yn gweithredu yn unol ag ewyllys Duw trwy hawlio Hunanlywodraeth i Gymru yn ddi-oed.


Cred Tudur Jones mae nid penderfyniad gwleidyddol oedd hwn o'r rheidrwydd ond penderfyniad yn cynrychioli barn grefyddol. Fe a Tudur Jones ymlaen yn gyntaf yn y bamffled i drafod y Wladwriaeth, dywedodd fod “...pob awdurdod a gallu wedi ei ddarostwng i Grist.” Mae Tudur Jones yn ymwrthod a'r mynegi gobaith y daw amser pan fydd pwerau “...wedi eu Cristioneiddio.” Noda eu bod nhw eisoes wedi eu darostwng. Cydnabu Tudur Jones fod gan y Wladwriaeth awdurdod ac fe all ddefnyddio grym a gorfodaeth. Ond nid yw'r awdurdod yn absoliwt, “...yr unig awdurdod terfynol yw awdurdod Crist” meddai. Os bydd y wladwriaeth neu unrhyw sefydliad arall yn defnyddio eu hawdurdod mewn ffordd sy'n groes i Arglwyddiaeth Crist cred Tudur Jones y dylid ei wrthwynebu; “...credwn mai ein braint a'n dyletswydd yw llefaru yn eu herbyn.” Cred Tudur Jones nad “...oes gylch na all yr Eglwys ddwyn ei thystiolaeth ynddo.” Ac mae Tudur Jones yn gwrthwynebu'n chwyrn Cristnogion sy'n credu y dylent beidio mela a Gwleidyddiaeth; “Petruswn rhag dilyn cyngor rhai ac ymwrthod a phob ymgais i gysylltu enw Duw a materion gwleidyddol.”

Gan symud ymlaen i drafod y genedl noda fod y genedl fel y teulu yn “...un o'r ffurfiau anhepgorol ar fywyd dyn”. Honna Tudur Jones nad oes yr un dyn nad yw'n aelod o genedl; “A oes dyn nad yw hefyd yn aelod o genedl?” Dywed yn blwmp ac yn blaen; “Trais yw ysbeilio dynion o'u treftadaeth genedlaethol”. Cred Tudur Jones fod y Genedl yn bwysicach na'r wladwriaeth; “Morwyn yw'r wladwriaeth.” Pwrpas, neu un o bwrpasau'r wladwriaeth ydy amddiffyn y genedl; “Lle bo bywyd y genedl yn nychu, dyletswydd y wladwriaeth yw ei amddiffyn a'i gryfhau.” Tudur Jones yn nodi nad ydy gofalu ar ôl buddiannau Cymru yn fwriad gan y wladwriaeth Seisnig. Ymhellach os oes yna enghreifftiau ple y bu hi i amddiffyn cenedl y Cymry “...damweiniol oedd hynny, ac yn dibynnu ar y ffaith fod diogelwch Lloegr yn cynnwys diogelu Cymru.”

Cred Tudur Jones fod gwersi hanes yn dangos “...na all yr un wladwriaeth wasanaethu dwy genedl.” a “Gwaith llywodraeth Llundain yw noddi bywyd y genedl Seisnig”. Noda hefyd; “...mae gwrthgloddiau o'r fath [cam-wahaniaethu ar sail lliw croen neu iaith tafod] yn bethau na ddichon Cristnogaeth eu goddef.” Cred Tudur Jones fod y Wladwriaeth Brydeinig yn cam ddefnyddio addysg - os y'i defnyddir i ddileu iaith a diwylliant, nid addysg mohono, noda Tudur Jones “Aeth y gwas yn deyrn.” ac mai “...offeryn i ddifa'r genedl oedd ganddynt dan eu dwylo” mewn trefn addysg. Noda oherwydd fod Cymru yn cael ei reoli gan Lundain dydy pobl Cymru ddim yn cael democratiaeth e.e. Mae mwyafrif pobl Cymru wedi cefnogi plaid 'sosialaidd' Lafur drwy ran helaeth yr G20 ond ni welwyd llywodraeth felly dros Gymru oherwydd mae Lloegr oedd a'r gair olaf; “Er i'r genedl Gymreig ddangos ei hawydd am gyfundrefn Sosialaidd... ni fuasai wedi cael profi blas y gyfundrefn honno oni bai i gyflwr gwleidyddol Lloegr wneud hynny yn bosibl.” Os nad yw'r wladwriaeth yn dilyn barn y cyhoedd “...rhaid i anghyfiawnder ddilyn”. Rhaid gwrthwynebu anghyfiawnder yn ôl Tudur Jones; “Nid oes angen cyfrif pennau wrth fesur anghyfiawnder; ni waeth pa un ai pump ai pum mil sydd yn dioddef – os gwnaethpwyd anghyfiawnder rhaid ei atal.” Wrth drafod sut bo'r Wladwriaeth Brydeinig yn nychu economi Cymru ac yn gorfodi pobl ifanc i adael Cymru i chwilio am waith dywedodd; “Nid oes dim iaith yn ddigon cryf i gondemnio'r Satneiddiwch hwn.”

Fel casgliad noda; “...credwn fod gan bob cymdeithas o ddynion hawl i'w llywodraethu ei hun, pa mor fychan bynnag y bo.” ac “... yn y maes cyd-wladol... [credwn (Annibynwyr) mae] trwy i bob cenedl ddwyn ei beichiau ei hun y dysgwn mor rhyfeddol bwysig yw dwyn beichiau ein gilydd.”

A ninnau yn nhymor etholiad ffôl o beth fyddai i mi ddatgan y dylai'r cristion bleidleisio i plaid 'bla bla bla' ond credaf fod y gwerthoedd uchel yma a ddadansoddwyd gan Tudur Jones yn ei bamffled yn ystyriaethau pwysig i'r Cristion ddilyn wrth ddewis pa Blaid i gefnogi. Yn bersonol rwyf i wedi dewis y blaid honno y credaf i sydd mwyaf unol a'r gwerthoedd Cristnogol uchod. Ordeiniad gan Dduw ydy'r genedl a rhaid ei hamddiffyn. Mae gan bawb rôl posib drwy fwrw pleidlais un ffordd neu'r llall ar Fai y 3ydd.

17.3.07

Llai o dreth i 50,000 o fusnesau medd Plaid Cymru

Heddiw, fe lansiodd Plaid Cymru gynllun i dynnu 50,000 o fusnesau Cymru allan o’r system trethi busnes. Dyma’r cyhoeddiad olaf o bolisïau 7 i ’07 Plaid Cymru i drawsffurfio Cymru. Amlinellodd Arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones y cynllun, sydd wedi’i dargedu at ardal Orllewin Cymru a’r cymoedd, a fyddai’n golygu cynnydd yn y nifer o fusnesau sydd â hawl i 50% a 25% o ostyngiad yn nhrethi busnes, a chyfanswm o 50,000 o fusnesau yn gadael y system trethi busnes yn gyfan gwbl erbyn 2011. Wedi’i gyfuno â defnydd mwy pwrpasol o gronfa gydgyfeiriol Ewrop, fe fyddai’r gostyngiadau hyn yn nhrethi busnes yn trawsffurfio economi Gorllewin Cymru a’r Cymoedd.

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru Ieuan Wyn Jones:

Ieuan Wyn Jones in the Assembly chamber“Byddai’r gostyngiadau hyn yn nhrethi busnes yn gweld 50,000 o fusnesau bach yn cael eu tynnu o’r system trethi busnes. Fe fyddai hyn yn ddatblygiad gwerthfawr iawn a fyddai o fudd i fusnesau bach. Fe fydd gostwng y trethi hyn o gymorth i fusnesau brodorol, gan wneud Cymru yn fwy atyniadol i fusnesau. Wedi’i gyfuno â defnydd mwy teg o bŵer caffael y Llywodraeth a defnydd mwy pwrpasol o’r gronfa gydgyfeiriol, fe fyddai’r polisi yma yn rhoi hwb i economi Cymru.


Mi fydd y polisi hwn yn siwr o fod o fudd mawr i lawer o gwmniau bychain Ceredigion ac yn hwb, gobeithio, i'r ymgyrch i ail-ethol Elin Jones. Dim ond Plaid Cymru sy'n medru cynnig polisiau beiddgar fel yma a wnaiff wahaniaeth - does dim gobaith gan y Democratiaid Rhyddfrydol i ennill mwyafrif dros Gymru felly pleidlais wast yw pleidlais i'r Democratiaid Rhyddfrydol yng Ngheredigion.

13.2.07

Cenedlaetholdeb

MORLAN

Dweud ei ddweud

Cyfres yn trafod pynciau cyfoes

Nos Fercher Chwefror 14 am 8.00

Cenedlaetholdeb

a Christnogaeth

Agorir gan

Robin Chapman

( Awdur cofiant Saunders Lewis )

Croeso cynnes i bawb

13.1.07

SNP Vs Gordon Brown / Cyfiawn Vs Anghyfiawn?

Mae cynnwrf mawr yn yr Alban ar hyn o bryd gyda'r SNP yn debygol o wneud yn dda iawn yn etholiadau Senedd Caeredin yn hwyrach eleni. Pan fo'r cyfiawn yn dechrau ennill y dydd mae'r anghyfiawn yn taro'n ôl gyda'r unig arf sydd ganddo i daro'n ôl sef propaganda di sail a rhagfarnllyd. Mewn ymgais i ladd momentwm yr SNP mae Gordon Brown wedi nodi mewn ysgrif fod yr Alban yn elwa'n fwy o fod mewn undeb gyda Lloegr. Wrth gwrs dydy hyn ddim yn wir ac mi fyddai'r Alban, yn fwy felly na Chymru, yn wlad gyfoethocach a chryfach o fod yn annibynnol. Mae Llywodraeth Prydain yn gwybod yn iawn fod hyn yn wir a dyna pam eu bod nhw, unwaith yn rhagor, wedi troi at bropaganda. Celwydd anfoesol ac anghristnogol o enau darpar Brif Weinidog y Wladwriaeth Brydeinig yn enw hunanoldeb imperialaidd.

Dyma ddau fideo gan yr SNP, ie mi wn mae diben propaganda yw rhain hefyd OND yn wahanol i Brown mae'r SNP yn cyflwyno'r gwir! Mae'r cyntaf yn fideo diweddar dan y thema 'It's Time' ac mae'r ail yn un ychydig bach yn hyn sy'n gosod y ddadl y byddai yr Alban yn well ffwrdd yn economaidd ar ben ei hun oherwydd yr Olew ym Mor y Gogledd. Y cyntaf sy'n eich cyffroi fwyaf, mae'r ddelwedd a'r rhethreg sydd gan yr SNP yn rhagorol ond yn yr ail mae'r dadleuon economaidd gorau o blaid annibyniaeth: