Showing posts with label Tren. Show all posts
Showing posts with label Tren. Show all posts

13.3.08

Y Gyllideb, Petrol Car a Trenau gwael Cymru

Maen ddiwrnod y gyllideb heddiw a dyma fydd y gyllideb gyntaf i'w draddodi gan rywun heblaw am Gordon Brown ers dros ddengmlynedd - Alister Darling fydd yn ei thraddodi heddiw. Un o'r cwestiynnau sydd wastad yn codi adeg y gyllideb ydy treth ar danwydd yn arbennig tanwydd petrol i geir. Mae pris petrol wedi codi 19% year-on-year dros y flwyddyn diwethaf, cynydd sylweddol iawn; pan yn llenwi'r Ddraig (fy Almera Coch!) mae tanc o betrol yn costio'n agos i £50 bellach cynnydd sylweddol er pan gychwynais fy ngyrfa fel perchenog car ddeunaw mis yn ol. Ond, er mod i yn yrrwr brwd ac aml (oherwydd y rheidrwydd i mi ddychwelyd i Aberystwyth o Fangor i bwyllgorau a ballu yn llawer amlach nag y buaswn yn dymuno) ac fod fy waled yn cael ei eiffeithio dwi, mewn theori, o blaid treth weddol uchel ar danwydd er mwyn annog mwy o bobl, fel fi, i wneud defnydd helaethach o drafnidiaeth gyhoeddus.

Fodd bynnag, os ydy'r llywodraeth am barhau i godi treth ar danwydd yna dwi'n meddwl fod hawl genym ni fel treth-dalwyr yma yng Nghymru i weld safon a dwyster y strwythur drafnidiaeth gyhoeddus yn gwella a phris trafnidiaeth gyhoeddus yn gostwng ac, ar y cyfan, nid ydy trafnidiaeth gyhoeddus yn gwella mewn cymhariaeth a chodi'r treth ar danwydd. Dyma ddau enghraifft, wythnos diwethaf fe es i a fy ffrind i Landudno, £5 yr un (felly £10 i gyd) oedd tocyn bws return o Fangor ac fe gymerodd y daith, un ffordd, 60 munud. Mi fyddai mynd yn y car ddim wedi costio mwy na £10, llai os rhywbeth ac mi fyddai'r daith, un ffordd, wedi cymryd ugain munud ar y fwyaf.

Dyma'r ail enghraifft, ddydd Gwener dwi a Menna yn teithio o Fangor i Gaerfyrddin. Pe bae ni i fynd ar y tren mi fyddai tocyn arferol ar y diwrnod yn costio £60 yr un (£120 rhwng y ddau ohonom) ac mi fyddai'r siwrne yn cymryd chwe awr a hanner! Mi fyddai'r Bws yn sylweddol rhatach, £10 dwin meddwl (felly £20 i gyd), ond byddai dal i gymryd chwe awr. O ran y car, gyda lonydd clir gellid gwneud y daith mewn teir awr a hanner, pedair awr ar y mwyaf, ac mi fyddai'r petrol yn costio rhyw £30 (£15 yr un).

Felly mewn gair, mae cyflwr trychunebus trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru yn ei gwneud hi'n rhy ddrud a rhy anghyfleus i boeni am yr amgylchedd! Codwch dreth ar danwydd ar bob cyfri ond maen rhaid buddsoddi mewn rhwydwaith drenau newydd i Gymru law yn llaw a hyn!

5.9.07

Cledrau Tren newydd i Gymru?

Mae hi'n 2.19 y.b. a dwi methu cysgu (dwi'n amau fod bwyta clamp o frechdan samwn cyn mynd i fy ngwely rhywbeth i wneud a'r peth) felly beth well i'w wneud na phostio rhywbeth ar fy mlog. Dwi wedi bod yn pori gwefannau y BBC i weld os oes yna rhyw stori y carwn wneud sylwad arni a des i ar draws y stori yma sef i dren fedru teithio o Baris i Lundain mewn dwy awr tair munud. Bu'n bosib torri'r record flaenorol yn ddeilchion oherwydd i'r tren deithio ar hyd cledrau newydd sbon drwy Sir Kent ar y ffordd i Lundain a gostiodd swn nid ansylweddol o £5.8 biliwn (!!) i'r trethdalwyr - mae hynny'n £73.5 miliwn y filltir.

Dwi wedi sôn o'r blaen ar y blog, clecyma, am broblem diffyg trenau a chledrau yng Nghymru. A dwi hefyd wedi sôn am, clec yma, amcangyfrif o gost adeiladu traffordd rhwng Caerdydd a Bangor sef oddeutu £4.6 biliwn. Pan sylweddolais beth fyddai pris prosiect o'r fath sylweddolais na chaiff ffordd o'r fath byth ei hadeiladu ond wele gledrau yn cael eu gosod yn Ne-Ddwyrain Lloegr ar gost uwch o £5.8 biliwn - nid yw gwario y ffasiwn bres ar un prosiect yn rhywbeth cwbl freuddwydiol felly wedi'r cyfan. Maen dweud y cyfan am y modd mae Cymru yn cael ei thrin fel cenedl lai pwysig mewn gwladwriaeth fwy - ni fuasai'r Wladwriaeth Brydeinig yn hanner ystyried gwario y ffasiwn arian ar brosiect is-adeiledd i Gymru ond dydy gwario £5.8 biliwn ar brosiect yn y De-Ddwyrain yn ddim byd.

O ddefnyddio'r ystadegau o'r stori newyddion heddiw felly sef bod cledrau newydd yn costio £73.5 miliwn y filltir faint byddai hi'n costio i adfer y linell rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin? £4.5 biliwn! Beth am godi llinell rhwng Stiniog a Penrhyndeudraeth? £0.95 biliwn.

O wel, fe fedrw ni wastad freuddwydio yn gallwn?

13.1.07

Mwy o drenau i Aberystwyth?

Fe wyr fy nghyfeillion fod gen i rhyw hoffter o drenau. Nid hoffter yn yr ystyr mod i'n treulio p'nawniau Sadwrn yn steshon Amwythig yn nodi rhifau trenau ond hoffter o ran eu rhinwedd fel trafnidiaeth gyhoeddus effeithiol a chyfforddus... wel ar y prif leiniau beth bynnag. Mae fy hoffter o deithio ar drên yn deillio maen debyg o'r ffaith mod i'n dioddef o mild clostrophobia. Dwi'n mynd i deimlo'n rhwystredig a gofidus tra'n teithio ar fws oherwydd nad oes modd i chi symud o gwmpas yn rhydd, mynd i'r lle chwech ayyb... i'r graddau y medr dyn ar drên. Hefyd mae peth hanes gennyf o salwch teithio ac oherwydd hynny gwella genna i deithio ar drên. Yn ychwanegol waeth i mi gyfaddef mod i'n cael teithio ar drên yn weddol egsiting, o bosib oherwydd mae dim ond lond dwrn o weithiai'r flwyddyn yr af i ar drên.

Mae unrhyw un sydd wedi ceisio cyrraedd Aberystwyth neu dianc o Aberystwyth ar drên yn gwybod yn iawn fod y linell i Aberystwyth ymysg, os nad y gwaethaf ym Mhrydain. Dim ond bob dwy awr mae trên (a dim ond unwaith y diwrnod ar y penwythnos!) a phan ddaw honno bydd yn hen un disel araf a brwnt. Problem arall yw'r ffaith mae dim ond un lein sydd felly ar bob taith rhaid aros rhyw ddeng munud (er llawer mwy weithiau) mewn 'passing loop' ger Caersws i drên y cyfeirid arall oddiweddyd! Yn y bôn mae eisiau buddsoddi sylweddol ar y lein er budd economi y canolbarth.

Chwa o awyr iach felly oedd darllen yn y Cambrian News wythnos yma am fwriad y cwmni trenau newydd Wrexham, Shropshire and Marylebone Railway Company (WSMR) o brynu etholfraint 'franchise' llinell Cambrian o'r Amwythig i Aberystwyth ac i Bwllheli. Nid oes modd rhoi mwy o drenau na rhai cyflymach ar y linell eto oherwydd fod angen buddsoddi arian er mwyn cryfhau seiliau'r linell a gosod mwy o 'passing loops'. Mae Network Rail wedi gosod y cynllun o £15 miliwn gerbron Llywodraeth y Cynulliad er mwyn gweithredu'r gwelliannau. Pe bae y Llywodraeth i ariannu'r prosiect is-adeiledd bwysig yma yna byddai WSMR yn rhoi cynnig, wedi i'r gwaith adeiladu gael ei gwblhau, i redeg trenau cyflymach a mwy aml ar y linell ac o bosib byddai Arriva o ganlyniad i'r is-adeiledd gwell yn medru gwella eu gwasanaeth nhw ar hyn y linell.

Gresyn na fyddai Llywodraeth Llafur wedi buddsoddi arian Amcan 1 o'r cychwyn cyntaf ar brosiectau is-adeiledd sylweddol fel hon yn hytrach na'i wario ar ddwsinau o brosiectau llai. O fuddsoddi'r arian ar Is-Adeiledd mi buasai prosiectau a chwmnïau yn elwa ac byddai economi y Gorllewin yn elwa i greu Cymru gryfach.