Showing posts with label Aberystwyth. Show all posts
Showing posts with label Aberystwyth. Show all posts

5.7.08

Tân yn y Tabernacl ond mae'r Gyffes Ffydd yn sefyll yn gadarn!

Neithiwr fe rwygodd tan drwy hen gapel y Tabernacl yn Aberystwyth. Fe gaewyd yr Eglwys bum mlynedd yn ôl a dwi'n cofio mynd i un o'r gwasanaethau olaf yna cyn iddo gau gyda Nhadcu yn pregethu. Wrth gwrs, i anghydffurfwyr nid yw'r adeilad yn bwysig, pobl yw'r eglwys ac nid adeilad. Fodd bynnag roedd i gapel y Tabernacl bwysigrwydd neilltuol yn hanes y ffydd yng Nghymru oherwydd ar y safle yn 1823 y lluniwyd a mabwysiadwyd Cyffes Ffydd enwog y Methodistiaid Calfinaidd. Mae'r gyffes i'w darllen yn llawn YMA (yn Saesneg yn anffodus, er mai Cymraeg, wrth reswm, oedd y gwreiddiol). Mae'r gyffes yn un o'r gweithiau gorau sy'n bodoli yn holl wledydd cred ac yn dangos cymaint o rîn oedd ar Gristnogaeth Cymru ar y pryd, cymaint oedd llaw Duw arnom fel cenedl.

Isod ceir crynodeb fer o'r gyffes a luniwyd ganrif yn ddiweddarach dwi'n meddwl:

Credwn yn Nuw Dad Hollalluog, Creawdwr a Llywodraethwr pob peth.

Credwn yn Iesu Grist, ei Uniganedig Fab, ein Harglwydd a'n Gwaredwr. Trwy ei fywyd, ei farwolaeth ar y groes a'i atgyfodiad, gorchfygodd bechod ac angau gan faddau i ni ein pechodau a'n cymodi â Duw.

Credwn yn yr Ysbryd Glân. Trwyddo Ef y mae Crist yn preswylio yn y credinwyr, gan eu sancteiddio yn y gwirionedd.

Credwn yn yr Eglwys, Corff Crist a chymdeithas y saint; yn yr Ysgrythyrau Sanctaidd, yng Ngweinidogaeth y Gair a'r Sacramentau.

Credwn yn nyfodiad Teyrnas Dduw ac yng ngobaith gwynfydedig y bywyd tragwyddol trwy ein Harglwydd Iesu Grist.

Credwn mai diben pennaf dyn ydyw gogoneddu Duw a'i fwynhau byth ac yn dragywydd.

6.9.07

Ydw, dwi yn hoffi chwarae golff

Mae gan bawb ei gyfrinach. Fy nghyfrinach i yr haf yma yw mod i wedi cymryd at chwarae Golff. Wn i ddim pam mod i'n galw'r peth yn gyfrinach o gwbl; amwni oherwydd fod yna rhyw stigma ynghlwm wrth chwarae golff yn union fel pe tasae fel cyfaddef eich bod chi wedi ymuno a'r Ceidwadwyr neu yn waeth byth eich bod chi'n mwynhau gwylio Star Trek: Next Generation. Dydy e, ar y cyfan, ddim i'w weld yn rhywbeth derbyniol i wneud. Ond fe synech chi faint o bobl sydd yn chwarae golff, yn betrusgar dyma fi'n sôn wrth rhai o'm ffrindiau mod i wedi dechrau chwarae golff a dyma nhw yn dweud eu bod nhw yn hefyd; a finnau'n gig-ddall i'r peth. Wrth i fi holi mwy o gwmpas daeth hi'n amlwg fod y rhan fwyaf o fy nghyfeillion yn chwarae neu wedi chwarae yn ddiweddar. Pam y stigma felly? Wn i ddim.

Sut dwi'n dod ymlaen? Wel, araf iawn iawn. Dwi'n chwarae ar gwrs hyfryd 9 twll Capel Bangor (am £6 y rownd) sydd a phar o 29. Tro cyntaf i fi chwarae a hynny ddechrau'r haf ces i sgor o 73. Dwi wedi cael fy sgor i lawr i 51 ond ddoe fe dderbyniodd cyfartaledd fy sgor glec reit hegar wrth i mi gael rownd ofandwy o 69. Dim ond un twll dwi wedi cael mewn par. Fy uchelgais i yw cael sgor 50 neu lai cyn rhoi y clybiau i gadw am y gaeaf.

Wrth gwrs rwy'n symud i Fangor ymhen rhyw wythnos ac fe fydda i yn gadael fy mhartneriaid chwarae yn ôl yn Aberystwyth. Os ydych chi'n Gymro (neu Gymraes wrth gwrs!) Cymraeg ac o safon nid anhebyg i mi (hynny yw sylfaenol iawn) yn byw yng nghylch Bangor cysylltwch a bydd rhaid mynd am rownd neu ddau unwaith y bydda i wedi symud fyny i'r Gogledd.

4.9.07

Yn ol i Fangor

Fel Ceri Cunington "geshi ngeni ym Mangor" - ac 18 mlynedd yn ddiweddarach dwi'n symud yn ol i fy nhref enedigol. Symudodd fy nheulu i Aberystwyth o Fangor yn 1989 a gan i mi aros yn Aberystwyth i fynd i'r Brifysgol dyma fydd y tro cyntaf i mi, mewn gwirionedd, adael cartre go-iawn (er i mi fyw mewn neuaddau breswyl yn Aber am dair blynedd 2003-2006). Dwi braidd yn nerfus ond hefyd yn disgwyl mlaen i'r benod nesaf yma. Bydd darllenwyr y blog yn gwybod mod i wedi bod yn fyfyriwr ymchwil ym Mangor ers blwyddyn eisioes ond penderfynais beidio symud i fyny yr haf diwethaf am sawl rheswm ond daeth yr amser i mi fudo bellach. Dwi wedi bod ddigon ffol i gymryd swydd Warden Neuadd John Morris Jones (ymysg rhesymau eraill am hyn yw'r ffaith fod fy ysgoloriaeth ddim yn ddigon mewn gwirionedd i dalu rhent, costau byw a ffi fy nghwrs). Fe fydda i wedyn - och a gwae - yn un o'r ychydig rhai prin hynny bydd wedi byw ym Mhantycelyn a JMJ! Mae hynny yn fwy o claim-of-maddness na claim-to-fame mi wn, ond dyna ni.

Mae'r Bangor-lad yn dwad adra!

6.7.07

Aberystwyth ar high terrorist alert?!

Stori ddifyr iawn am Aberystwyth heddiw. Maen debyg fod yr heddlu wedi gwneud archwiliadau manwl o holl westai y dref yn barod ar gyfer y seremonïau graddio wythnos nesaf. Yn ôl pob sôn mae Aberystwyth mynd i fod ar 'High Terrosrist Alert' wythnos nesaf ac mae staff uchaf y Brifysgol wedi cael eu symud i 'dai saff' am bythefnos. Fy theori i am y rheswm tu ôl i hyn yw, yn ogystal a'r risg uwch yn genedlaethol yw fod Prifysgol Cymru, Aberystwyth newydd apwyntio Sir Emyr Jones Parry fel olynydd i'r Arglwydd Elystan Morgan fel Llywydd y Brifysgol ac rwy'n cymryd y bydd Emyr Jones Parry yn cymryd rhan yn y seremonïau wythnos nesaf.

Emyr Jones Parry yw cynrychiolydd parhaol Prydain yn y Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd ac felly maen ffigwr o bwys ym myd Gwleidyddiaeth a Diplomyddiaeth Rhyngwladol ac o ganlyniad mae'n darged posib i derfysgwyr druan.

Er ei bod hi'n ffaith bod yr heddlu yn Aberystwyth yn wyliadwrus am derfysgwyr ac ymosodiad ganddynt dwi'n amau'n gryf bod unrhyw gynlluniau ar y gweill gan unrhyw derfysgwyr i dargedu Aberystwyth wythnos nesaf. Ond mae yn sicr yn stori ddiddorol.

15.3.07

Rali Coleg Cymraeg

Llongyfarchiadau i UMCA unwaith yn rhagor am drefn protest lwyddianus ar ddiwrnod Senedd y Brifysgol. Dowch laen UMCB ac UMCC. Dyma luniau o'r digwyddiad:






23.1.07

Rali Coleg Ffederal - 17.2.07

Dewch yn llu:

13.1.07

Mwy o drenau i Aberystwyth?

Fe wyr fy nghyfeillion fod gen i rhyw hoffter o drenau. Nid hoffter yn yr ystyr mod i'n treulio p'nawniau Sadwrn yn steshon Amwythig yn nodi rhifau trenau ond hoffter o ran eu rhinwedd fel trafnidiaeth gyhoeddus effeithiol a chyfforddus... wel ar y prif leiniau beth bynnag. Mae fy hoffter o deithio ar drên yn deillio maen debyg o'r ffaith mod i'n dioddef o mild clostrophobia. Dwi'n mynd i deimlo'n rhwystredig a gofidus tra'n teithio ar fws oherwydd nad oes modd i chi symud o gwmpas yn rhydd, mynd i'r lle chwech ayyb... i'r graddau y medr dyn ar drên. Hefyd mae peth hanes gennyf o salwch teithio ac oherwydd hynny gwella genna i deithio ar drên. Yn ychwanegol waeth i mi gyfaddef mod i'n cael teithio ar drên yn weddol egsiting, o bosib oherwydd mae dim ond lond dwrn o weithiai'r flwyddyn yr af i ar drên.

Mae unrhyw un sydd wedi ceisio cyrraedd Aberystwyth neu dianc o Aberystwyth ar drên yn gwybod yn iawn fod y linell i Aberystwyth ymysg, os nad y gwaethaf ym Mhrydain. Dim ond bob dwy awr mae trên (a dim ond unwaith y diwrnod ar y penwythnos!) a phan ddaw honno bydd yn hen un disel araf a brwnt. Problem arall yw'r ffaith mae dim ond un lein sydd felly ar bob taith rhaid aros rhyw ddeng munud (er llawer mwy weithiau) mewn 'passing loop' ger Caersws i drên y cyfeirid arall oddiweddyd! Yn y bôn mae eisiau buddsoddi sylweddol ar y lein er budd economi y canolbarth.

Chwa o awyr iach felly oedd darllen yn y Cambrian News wythnos yma am fwriad y cwmni trenau newydd Wrexham, Shropshire and Marylebone Railway Company (WSMR) o brynu etholfraint 'franchise' llinell Cambrian o'r Amwythig i Aberystwyth ac i Bwllheli. Nid oes modd rhoi mwy o drenau na rhai cyflymach ar y linell eto oherwydd fod angen buddsoddi arian er mwyn cryfhau seiliau'r linell a gosod mwy o 'passing loops'. Mae Network Rail wedi gosod y cynllun o £15 miliwn gerbron Llywodraeth y Cynulliad er mwyn gweithredu'r gwelliannau. Pe bae y Llywodraeth i ariannu'r prosiect is-adeiledd bwysig yma yna byddai WSMR yn rhoi cynnig, wedi i'r gwaith adeiladu gael ei gwblhau, i redeg trenau cyflymach a mwy aml ar y linell ac o bosib byddai Arriva o ganlyniad i'r is-adeiledd gwell yn medru gwella eu gwasanaeth nhw ar hyn y linell.

Gresyn na fyddai Llywodraeth Llafur wedi buddsoddi arian Amcan 1 o'r cychwyn cyntaf ar brosiectau is-adeiledd sylweddol fel hon yn hytrach na'i wario ar ddwsinau o brosiectau llai. O fuddsoddi'r arian ar Is-Adeiledd mi buasai prosiectau a chwmnïau yn elwa ac byddai economi y Gorllewin yn elwa i greu Cymru gryfach.