Showing posts with label Etholiad. Show all posts
Showing posts with label Etholiad. Show all posts

2.5.08

Etholiadau Lleol VI (Bro Morganwg a David Cameron)

Roeddw ni'n darllen ar wefan y BBC fod David Cameron peth cyntaf bore ma wedi teithio draw i Fro Morganwg i ddathlu buddugoliaeth y Ceidwadwyr wrth iddynt ennill y cyngor oddi ar Lafur. Dyma ddywedodd e:

"...the Tories are now right back in contention in the country."


Wps... beth yn union wyt ti'n feddwl wrth country David, Cymru neu'r UK?! Ydy hyn yn dangos fod y Ceidwadwyr fel uned gyfan dal heb addasu i ddatganoli? Dwi'n meddwl ei fod e.

7.7.07

Llafur-Plaid: dwi WEDI fy argyhoeddi

Do, fe ges i fy argyhoeddi gan Ieuan neithiwr. Roedd ei ddadl dros Llafur-Plaid yn resymol ac hefyd yn rhoi Cymru yn gyntaf. I ddechrau mynegodd ei bryderon gyda'r Enfys yn bennaf anwadalrwydd y Democratiaid Rhyddfrydol a'r Ceidwadwyr – roedd yn gofidio y byddai'r llywodraeth enfys yn torri i lawr hanner ffordd trwy'r tymor ac y byddai y llywodraeth Plaid Cymru cyntaf erioed yn cael ei weld fel un gwan, byrhoedlog a thrychinebus. Roedd Ieuan yn tybio fod y risg yn un rhy fawr i'w gymryd – fe gytunais ag ef erbyn y diwedd.

Hefyd, pwyntiodd Ieuan allan bod hwn yn gyfle pwysig i lacio grym San Steffan ar Gymru ac hefyd i Rhodri Morgan bellhau fwy fwy oddi wrth yr AS Llafur yn Llundain. Dywedodd fod y Blaid Lafur yn debygol o weld rhwyg rhwng y bobl sydd am weld Cymru yn llwyddo ac rhwng yr unoliaethwyr sy'n hapus i weld dim byd yn digwydd am genhedlaeth arall.

Ond yn bwysicach fyth tynnodd Ieuan sylw at y ffaith fod cymaint o faniffesto'r Blaid yn y ddogfen Llafur-Plaid – ac yn bwysicach fyth fod raison d'etre y Blaid wedi ei gynnwys sef dyfodol cyfansoddiadol Cymru.

Fe fynegwyd peth amheuaeth o'r llawr yn bennaf y bryder o orfod wynebu etholwyr Ceredigion o fod wedi bod mewn llywodraeth gyda Llafur. Fodd bynnag dwi'n credu mod i'n gywir i Ieuan ac Elin Jones argyhoeddi pob wan jac un yna. Does dim un clymblaid mynd i fod yn berffaith – hanfod clymblaid yw cyfaddawdu ar rai pethau ond dwi wedi fy argyhoeddi fod Ieuan wedi cael y gorau i ni allan o'r sefyllfa anodd a chymhleth yma. Efallai fod bod mewn gyda Llafur ddim yn bywiogi'r meddwl ond mae bod mewn llywodraeth gyda'n polisïau ni yn rhan ganolog i'r llywodraeth honno yn gynhyrfus iawn.

5.7.07

Llafur-Plaid: dwi ddim wedi fy argyhoeddi

Dydw i heb sylwebu ar wleidyddiaeth Cymru na chlymbleidio ar y blog ers rhai wythnosau ond dwi wedi fy nghymell i wneud heddiw. Roeddwn ni'n darllen ar flog Vaughan Roderick fod yna bedair AC o'r Blaid Lafur wedi dod allan yn gryf yn erbyn clymblaid gyda Phlaid Cymru. Eu dadl nhw, yng ngeiriau Vaughan, ydy; '...y byddai'r bwriad i ymgyrchu dros bleidlais Ie mewn refferendwm ar bwerau llawn yn llesteirio’r gwaith o sicrhâi cyfiawnder cymdeithasol.' Nawr dyma'r hen rethreg Llafur dwi wedi hen hen flino ei glywed. Y sglodyn enfawr 'ma sydd ganddyn nhw ar eu ysgwyddau fod bod yn genedlaetholwr gyfystyr a pheidio poeni am gyfiawnder cymdeithasol/economaidd.

Plaid unoliaethol ydy'r Blaid Lafur, ac os oes yna rai oddi mewn iddi yn ddatganolwyr datganolwr reactionary ydyn nhw – dydy nhw ddim yn gweld gwerth i'r Genedl ei hun dim ond, o bosib, fel cyfrwng i hybu eu agenda economaidd, llenwi gwacter democrataidd ayyb... Dwi'n cyfaddef fod yna bethau 'cenedlaetholgar' cryf yn y ddogfen Llafur-Plaid, fodd bynnag, rhaid holi o ddifri os ydy'r Blaid Lafur wir am wireddu rhain ynteu rhyw 'take what every you want but don't touch my face' i aros mewn pŵer yw'r addo yma o Gomisiynydd Iaith, Coleg Ffederal Cymraeg, Refferendwm ar bwerau llawn ayyb...

Roeddwn ni'n gefnogol ac yn bleidiol i'r Enfys, ac fe glywai chi'n dweud nawr 'Rhys bach, mae'r Ceidwadwyr yn unoliaethwyr hefyd.' Ydyn maen nhw, ond NI, Plaid Cymru fyddai yn arwain y llywodraeth – Ieuan Wyn Jones, y cenedlaetholwyr fyddai'n Brif Weinidog. Gwahaniaeth sylfaenol felly rhwng gweithio mewn llywodraeth gyda phlaid unoliaethol (Ceidwadwyr) oddi tanom ni i fod yn gwn bach mewn llywodraeth a phlaid unoliaethol (Llafur) yn ein rheoli ni.

Dwi'n mynd i wrando ar Ieuan Wyn Jones nos Iau yn Aberystwyth gyda meddwl agored. Fodd bynnag mi fyddaf yn ail-ystyried fy lle ym Mhlaid Cymru os na argyhoeddith Ieuan Wyn Jones fi yn wahanol nos Iau. Alla i ddim gweld lle i mi mewn plaid sy'n cadw pobl gwrth-Gymreig fel Ann Jones, Karen Sinclair ac Irene James mewn llywodraeth.

Fyddai ddim yn ymaelodi a'r Ceidwadwyr fel y mai rhai (ffôl a naîf) wedi darogan fodd bynnag byddaf mwy na thebyg yn rhoi terfyn i fy nghyfraniadau ariannol (nad sydd yn fawr cofiwch, dwi'n fyfyriwr!) ac yn peidio bod yn aelod gweithredol. Sy'n biti mawr gan mod i wedi rhoi peth wmbreth o amser i mewn i'r ymgyrch lwyddiannus i ail ethol Elin Jones yng Ngheredigion (dwi dal heb ddal fyny gyda fy ngwaith ymchwil yn iawn) ac wedi mwynhau y gwaith yn fawr iawn – a beth oedd ein blurb yma yng Ngheredigion? 'Lib Dems are in talks with Labour all ready to keep Labour in power.' Bydd dim wyneb gennai wynebu etholwyr Ceredigion mwyach. Ac fe dybiaf fod unrhyw obaith oedd gan Seimon Thomas i ail-ennill y sedd wedi ei golli.

31.5.07

Cwmpawd Gwleidyddol: dwi dal ar y chwith - maen swyddogol!

Bydd sawl un ohonoch yn gyfarwydd a'r wefan www.politicalcompass.org. Ar y wefan yma fe allwch chi ateb set o gwestiynau yna ar sail eich atebion maen cyfrifo lle ydych chi ar y spectrwm gwleidyddol chwith-dde ac awdurdodol-rhyddfrydol. Gan fod yr holl gwestiwn o leoli ideoleg a pholisïau gwleidyddol yn dysen boeth ers yr etholiad a'r Sosialydd mawr Adam Price yn dod i gytundeb ar agenda llywodraeth gyda'r Ceidwadwyr (do, fe ddaeth tro ar fyd) tybiais y byddai'n ymarfer da i mi ail wneud y prawf ar y wefan.

Ers i mi ddechrau yn y Brifysgol bron a bod bedair mlynedd yn ôl maen rhaid i mi gyfaddef fy mod wedi teimlo fy hun yn symud rhywfaint i'r dde. Nid mod i bellach ar y dde ond fod fy chwithdod/sosialaeth wedi dod yn fwy pragmataidd fel yr esboniais yn fanwl yn y postiad yma. Yn eiddgar felly yr oeddwn ni'n disgwyl ymlaen i weld faint i'r dde yr oeddwn ni wedi symud. Gwnes y prawf yn wreiddiol fis Ebrill 2003 pan oeddwn dal yn ddisgybl ysgol. Wele y gymhariaeth ar y graff isod:

Dwi'n falch o fedru cadarnhau nad ydw i bellach 'ar y dde', er diddorol yw nodi mod i wedi symud fymryn i'r dde ac mod i wedi symud yn weddol i ffwrdd o ryddfrydiaeth galed (os oes yna fath beth a rhyddfrydiaeth galed – chydig bach o oxymoron yn tydy?). Diddorol byddai clywed beth ydych chi? Ac os gymeroch y prawf run pryd a mi yn 2003 faint o symud sydd wedi bod? Os nad ydych chi'n cofio eich sgor yn 2003 yna efallai eich bod chi'n un o aelodau'r maes a gyhoeddodd eich sgor fan yma neu fan yma.

Os bostiwch chi eich sgôr fel sylwad fe wnai eich ychwanegu i'r siart uchod. Byddai hi'n arbennig o ddiddorol pe tae Blogwyr o wleidyddion fel Glyn Davies neu Bethan Jenkins yn cyfranogi i'r prosiect.

29.5.07

ENFYS, (en-bys) Gr. ιρις; bwa gwlaw. Edr.


Tynodd Vaughan Roderick sylw ar ei flog rhai wythnosau yn ôl at y ffaith y gallai holl arweinwyr y DG fod yn feibion i weinidogion Presbyteraidd cyn bo hir. Alex Salmon ac Ian Paisly eisioes yn arweinwyr ac fe fydd Gordon Brown, y presbyter arall o'r Alban yn ymuno a nhw dros yr haf ac fe ddylai Ieuan Wyn Jones ymuno a hwynt yn fuan hefyd. Pa le gwell i droi felly am ddehongliad o'r gair 'enfys' nag at 'Geiriadur Charles' – Geiriadur Beiblaidd tad Eglwys Bresbyteraidd Cymru Thomas Charles o'r Bala. Doedd Thomas Charles yn fawr o wleidydd; ond yn ei ddydd roedd cynhyrchu y fath gampwaith llenyddol a diwinyddol yn y Gymraeg yn weithred wleidyddol yn ei hun (er na fyddai Thomas Charles ei hun yn sylweddoli hynny ar y pryd).

"ENFYS, (en-bys) Gr. ιρις; bwa gwlaw. Edr.
BWA. - 'Ac yr oedd enfys o amgylch yr orsedd-fainc, yn debyg yr olwg arno i smaragdus. - 'Ac enfys oedd ar ei ben.' Dat.4.3. A 10.1. Cylch yr enfys oedd yn y ddau le hyn, mae yn amlwg, ac nid hanner cylch, fel bwa gwlaw. Yr oedd o amgylch yr orsedd-fainc, ac ar ben yr angel, fel coron oddi amgylch iddo. Yr oedd yn debyg yr olwg arno i smaragdus, maen gwerthfawr o'r lliw gwyrdd mwyaf hyfryd. Cawn y cyffelyb olygiad yn Ezec. 1. 28. 'Fel gwelediad y bwa a fydd y y cwmwl ar ddydd gwlawog, fel hyn yr oedd gwelediad y dysgleirdeb o amgylch.' Gwelediad yr enfys o amgylch yr orsedd, ac ar ben angel mawr y cyfammod, a'r lliw gwyrdd hyfryd, a arwydda fod Duw yn gweithredu yn ei gyfammod grasol, yn ei holl oruchwyliaethau tu ag at ei eglwys. Cyfamod hedd yw. Fel y gwyrdd, y mae yn hyfryd yr olwg arno i Dduw a'i bobl, ac yn dragwyddol yn ei barhad. Y mae yn gylch crwn, ac yn cynnwys Duw a'i bobl mewn cymmod ac undeb anwahanol, a gogoniant y naill, ac iechydwriaeth y llall, wedi eu sicrhau ynddo; ac y mae holl oruchwyliaethau Duw tu ag at ei eglwys, o fewn y cylch hyfryd a gogoneddus hwn. Gwel Coccejus, Vitringa, Cowper, Reader."


A oes i'r dehongliad uchod o'r gair 'enfys' unrhyw berthnasedd i ni yng Nghymru heddiw tybed?

Beth sydd yn y ddogfen 'enfys' i mi?


Mae yna dipyn o bopeth i bawb yn y ddogfen enfys ond dyma un peth sy'n sefyll allan i mi. Dwi wedi bod yn weithgar yn yr ymgyrch am Goleg Ffederal Cymraeg ers pedair mlynedd bellach. Dy ni wedi gweld llanw a thrai ym mhoblogrwydd yr ymgyrch maen rhaid cyfaddef. Flwyddyn yn ôl cyhoeddodd Ymgynghorwyr Arad adroddiad ar ran Llywodraeth Llafur Cymru a Phrifysgolion Cymru yn nodi nad oedd angen strwythur newydd fel Coleg Ffederal Cymraeg. I'r Blaid Lafur dyna oedd diwedd y gan lle roedd yr alwad am Goleg Ffederal mewn cwestiwn – roedden nhw wedi addo llunio polisi ar sail awgrymiadau'r adroddiad a sypreis sypreis roedd argymhellion yr adroddiad bron yn unfath a polisi bresennol y Blaid Lafur. Roedd y momentwm wedi ei golli i raddau a chyfle wedi ei golli am rai blynyddoedd eto i gael yr alwad am Goleg Ffederal yn ôl ar yr agenda.

Ond dros y flwyddyn diwethaf mae UCMC ac yn benodol UMCA wedi llwyddo i gadw'r fflam yng nghyn drwy drefnu cyfres o ddigwyddiadau a phrotestiadau. Trefnwyd Rali Genedlaethol ym mis Chwefror ac fe brotestiwyd tu allan i Senedd Prifysgol Cymru, Aberystwyth fis Mawrth. Yn ogystal cynhyrchwyd i fideo isod i hyrwyddo'r ymgyrch:

Bu pwyso cyson ar y sefydliad a'r pleidiau gwleidyddol gydol y flwyddyn er mwyn ceisio cadw'r ymgyrch ar yr agenda wleidyddol. Gyda llawenydd felly y darganfu'r myfyrwyr fod sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg wedi ymddangos yn Maniffestôau Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol ac bo aelodau o'r Blaid Geidwadol yn gefnogol ar lafar hefyd.

Gyda hynny o gefndir felly yr es i edrych beth oedd yn y ddogfen 'enfys am Goleg Ffederal Cymraeg. Dyma sydd ganddi i ddweud am y mater:

“We will publish a national strategy to develop and encourage
Welsh-medium education from the nursery sector through to
higher education. Appropriate mechanisms will be developed in
concert with local authorities, and the FE and HE sectors,
including the establishment of a Welsh-medium Federal
College/Coleg Ffederal Cymraeg utilising existing HEI
facilities.


Felly pe tae clymblaid enfys i ffurfio llywodraeth mi fyddai gennym ni lywodraeth sydd wedi ymrwymo i sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg. Dyna, yn wir, byddai tro pedol ers blwyddyn yn ôl pan dybiais fod Arad wedi rhoi'r ergyd farwol i'r ymgyrch am flynyddoedd onid cenhedlaeth arall. Byddai hyn yn dipyn o sioc i bobl y sefydliad a phobol y status quo oddi fewn i Brifysgolion Cymru.

28.5.07

Clymblaid: Atgyfododd

Fe fynychais gyngor cenedlaethol y Blaid ddoe gan gynrychioli Cymru x, adain ieuenctid Plaid Cymru. Mae trafodaethau mewnol y Blaid i'w cadw'n gyfrinachol felly byddai'n syniad da i mi barchu hynny rhag i mi gael fy esgymuno! Ond fe fedrai ddweud gymaint ag sydd wedi cael ei adrodd gan y BBC yn barod sef na drafodwyd clymblaid mewn manylder ac ni bleidleisiwyd ar y mater chwaith ond yn hytrach y bydd cyngor arall yn cyfarfod o fewn y misoedd nesaf i drafod y mater yn drylyw.

Roedd ysbryd y cyfarfod ddoe yn drydanol ac roedd yr arweinwyr fel petaent, a dwyn idiom Saesneg, ar gwmwl naw. Roedd arddeliad a hyder nad wyf erioed wedi gweld o'r blaen gan arweinwyr cenedlaetholgar yn eu hadroddiadau oedd yn ymddangos mwy fel areithiau diwrnod ar ôl ennill rhyfel! Ac roedd geiriau aelodau llawr gwlad yn galonogol ac yn arwrol hefyd. Fe gaethom ni apologia Sosialaidd o blaid y ddogfen glymblaid (medrwch ei is-lwytho fan hyn) gan un arweinydd amlwg ac i mi dyna selio'r mater – rwy'n credu yn y ddogfen ac rwy'n credu yn y Gymru newydd all ddod o ganlyniad iddo. Mi fydd yr wythnosau nesaf yn rai diddorol a “hanesyddol”, gair o bosib gafodd ei or-ddefnyddio ddoe.

Ar nodyn ysgafnach, braf oedd gweld Celtic yn derbyn tlws cwpan pêl-droed yr Alban ddoe gan neb llai na Alex Salmond – arweinydd y genedl, arweinydd cenedlaetholgar – roedd yn wen o glust i glust.

24.5.07

Democratiaid Rhyddfrydol Ystyfnig

Mae'r blog wedi bod yn dawel ers y penwythnos tra mod i wedi bod fyny ym Mangor yn cyfarfod fy nhiwtor a hel rhyw bethau o'r llyfrgell ar gyfer gwaith y mis neu ddau nesaf. Fodd bynnag dydy gwleidyddiaeth Cymru heb fod yn ddistaw. Mae pob plaid wedi rhoi'r gorau i drafod gyda Llafur ac o ganlyniad roedd Llywodraeth Enfys i'w weld fel realiti posib ond heno fe drodd pethau yn flêr wrth i'r Democratiaid Rhyddfrydol dynnu allan o'r Glymblaid Enfys. Fe allai hyn arwain Cymru i fewn i argyfwng cyfansoddiadol.

Mae'n rhaid i'r Democratiaid Rhyddfrydol dyfu fyny a sylwi mai gwleidyddiaeth glymbleidiol fydd gwleidyddiaeth ôl-ddatganoledig yng Nghymru. A beth bynnag, does ganddyn nhw ddim gobaith caneri o ddod yn brif wrthblaid heb sôn am arwain llywodraeth felly os ydy nhw yn gwrthwynebu clymbleidio a chydweithio gyda pawb a phopeth beth yw pwynt y Democratiaid Rhyddfrydol?

Fel ag y mae pethau ar hyn o bryd dyma sut, fe dybiaf eith y bleidlais ddydd Mercher yn y Cynulliad.

Llafur yn cynnig Rhodri Morgan fel Prif Weinidog
Plaid Cymru yn cynnig Ieuan Wyn Jones fel Prif Weinidog

Rhodri Morgan: 26 (aelodau Llafur)
Ieuan Wyn Jones: 28/27 (aelodau Plaid Cymru, Ceidwadwyr a falle Trish)
Ymatal: 6/7 (Democratiaid Rhyddfrydol a falle Trish)

Oni bai i'r Ceidwadwyr gynnig Nick Bourne a phleidleisio amdano mi fyddai Ieuan Wyn Jones yn cael mwy o bleidleisiau na Rhodri Morgan ond, oherwydd ystyfnigrwydd y Democratiaid Rhyddfrydol, dim mwyafrif. Oni bai fod trafodaethau nol mlaen rhwng Plaid a Llafur, Llafur a Dem Rhydd, neu'r Enfys bydd rhaid mynd am lywodraeth leiafrifol. Ydy llywodraeth leiafrifol Plaid-Ceidwadwyr yn bosib? Ar bapur ydy gan y byddai Ieuan Wyn Jones, o dderbyn cefnogaeth y Ceidwadwyr, yn cael mwy o bleidleisiau na Rhodri Morgan. Ond mewn realiti byddai hi dipyn cymhlethach.

Dyma yw penbleth.

Ond os oes yna unrhyw eiriau doeth i'w hadrodd rheini yw rhai blogiwr y BBC, Vaughan Roderick, sy'n gynyddol ollwng ei ddi-dieddrwydd (onid ydyw hi'n gwbl amlwg ei fod yn ysu am weld clymblaid Enfys?!) pan ddywedodd am benderfyniad y Plaid Cymru i droi cefn ar Lafur; “Pan oedd yn rhaid iddi ddewis rhwng y "prosiect cenedlaethol" a chadw ei sosialaeth yn bur doedd ond un dewis mewn gwirionedd.” Amen i hynny.

21.5.07

Moesoldeb Clymblaid Enfys: mewn trwy'r drws cefn?

Dwi wedi bod yn pwyso a mesur oblygiadau moesol clymbleidiau enfys. Waeth i ni fod yn gwbwl onest fod yna elfen o “mewn trwy'r drws cefn” ynghlwm wrth glymblaid enfys. A oes gan glymblaid enfys fandand gan yr etholwyr o gwbl? Ond wedyn a oes gan lywodraeth leiafrifol fandad gan yr etholwyr? Cwestiynau dyrys yn wir. Dyma set o graffiau pei sy'n dangos sut mae seddi'r Cynulliad wedi ei dosrannu. Y Blaid Lafur yn ddigon clir yw'r blaid fwyaf felly onid hwy sydd ar mandad?


Ond fel y gwelir yn yr ail graff mae gan yr enfys fwyafrif cyffredinol yn y Cynulliad felly onid hwy sydd a'r mandad? Gellid ennill y ddadl foesol yma o bosib.


Ond wedyn beth am yr Alban, dyma sut mae'r seddi wedi ei rhannu allan. Yr SNP yw'r blaid fwyaf o drwch blewyn felly maen rhaid mae nhw sydd a'r mandad siŵr iawn?


Ond wedyn eto yn yr ail ddrafft onid y glymblaid enfys gwrth-SNP, gwrth-Annibyniaeth sydd a'r fandad mwyaf? Gellid ennill y ddadl foesol yma hefyd!


Felly o gymharu sefyllfa Llafur yng Nghymru gyda sefyllfa'r SNP yn yr Alban gellid gweld dau ochr y geiniog i fandad gyfiawn, ai peidio, clymblaid enfys. Yr unig beth sy'n sicr yw diffyg mandad Llafur i lywodraethu yn hegomonaidd bellach yng Nghymru a'r Alban. Pinau a ydy oes mandad i Lywodraeth Enfys wedi cyraedd ai peidio - dwi ddim yn siwr.

Clymblaid Enfys: Pleidwyr 'llawr gwlad' yn gymysg eu barn


Yn ystod yr ymgyrch etholiadol fe drodd coffi ar ôl cwrdd fore Sul yn sesiwn drafod gwleidyddiaeth, yn anffurfiol beth bynnag. Oherwydd y datblygiadau diddorol does dim taw ar y sgwrsio am helyntion Plaid Cymru a bore ma ces i fy nghorneli gan un fam ifanc; “Beth yw hyn am Blaid Cymru yn rhoi pŵer i'r Ceidwadwyr?” Co' ni off. Roedd hi yn grac iawn ac yn dweud na fyddai hi'n pleidleisio i'r Blaid eto pe tase y glymblaid enfys yma yn cael ei ffurfio. Yn fwy na hynny adroddodd hi stori am ei rhieni yng nghyfraith a wnaeth bleidleisio i'r Blaid am y tro cyntaf erioed eleni, cam mawr oherwydd eu bod nhw'n hen Lafurwyr mawr ac wedi pleidleisio Llafur trwy eu bywydau hyd eleni. Roedd hi'n dweud y bydden nhw yn wyllt gacwn a byth yn ymddiried pleidlais i'r Blaid eto petaent i roi pŵer yn nwylo'r Ceidwadwyr.

Ro ni'n ceisio ei hargyhoeddi hi fod Llafur ddim gwell, os nad yn waeth, na'r Ceidwadwyr bellach; ond doedd dim yn cydio. Dywedais wrthi hi nad oeddwn ni'n cofio'r 80au (er mod i'n llawn ddeall beth ddigwyddodd) ac o ganlyniad roeddwn ni'n medru edrych ar y ddadl Ceidwadwyr Vs Llafur heb unrhyw ragfarn 80au aidd.

Fe siglodd y sgwrs fy ymddiriedaeth yn y syniad o glymblaid enfys do, ond yn hytrach na rhoi mewn tybiaf mai y ffordd ymlaen yw argyhoeddi pobl Cymru mai dim ond fel hyn allwn ni balu ymlaen – am y tro beth bynnag. Hefyd rhaid pwysleisio mai nid y Ceidwadwyr fyddai'n arwain y llywodraeth – Plaid Cymru byddai'n arwain y llywodraeth a Cenedlaetholwr fyddai'n Brif Weinidog. Dyna oedd yr apêl i gyd gapelwr arall bore ma, Yr Athro Bobi Jones, roedd ef yn deall yr hang-ups am roi peth pŵer i'r Ceidwadwyr ond roedd ef yn gweld cael Pleidiwr fel Prif Weinidog, yn wir arweinydd y genedl, yn gyfle rhy dda i basio heibio.

Er yn deall consyrn real y fam ifanc dwi dal yn ffafrio arwain gyda'r Ceidwadwyr oddi tano i ni na bod oddi tan Lafur a nhw yn arwain. Ond rwy'n ymwybodol iawn fod llawer o waith argyhoeddi mynd i orfod bod dros y bedair blynedd nesaf os am osgoi dial caled gan y Blaid Lafur yn yr etholiadau nesaf.

17.5.07

iDdeiseb - Llywodraeth Well i Gymru!

Dwi wedi sefydlu iDdeiseb amhleidiol er budd hyrwyddo sefydlu llywodraeth gref (ar sail fy nghredol canol chwith i) er lles pobl Cymru.

Arwyddwch y ddeiseb YMA a lledwch y gair amdani os gwelwch yn dda.

Effaith Clymblaid/Dealltwriaeth rhwng Plaid a Llafur



Wrth edrych yn ôl dros y pleidleisiau rhanbarthol (postiad diwethaf) yr hyn sy'n taro dyn yw pa mor drychinebus o wael fu perfformiad y Democratiaid Rhyddfrydol a hynny dan drefn sydd wedi bod yn gonglfaen i ymgyrchoedd eu plaid ers tro sef sustem PR. Rwy'n cofio Lembit Opik ar raglen canlyniadau etholiadol 2003 (neu 2005, ddim yn cofio yn iawn) ar BBC2 yn dweud wedi i Blaid Cymru berfformio'n wael; “If what we'r seeing in post-devolution Wales is a shift to a traditional three party system then i think we'r going to see the nationalists struggle.” Nawr dwi ddim yn meddwl ein bod ni'n gweld system tair plaid draddodiadol yn datblygu ond os fyddwn ni mae canlyniadau 2007 yn dangos yn glir mae'r Democratiaid Rhyddfrydol fydd yn straffaglu i ddal i fyny a gweddill y pac.

Wedi dweud hynny drwy aros allan o drafodaethau gyda Llafur a gadael i Blaid Cymru fynd i mewn i'r gwely yn lle mae ganddyn nhw aur yn eu meddiant ar gyfer eu hymgyrch etholiadau cyngor sir a'i hymgyrch i gadw eu AS yng Ngheredigion, Mark Williams, yn 2009. Bydd yn rhaid i Blaid Cymru fod yn ofalus – rwy'n amau mae gem dactegol tymor hir y mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn ei chwarae gan beidio uniaethu eu hunain a'r Blaid Lafur eto. Efallai na fydd rhoi cymorth i Lafur yn rhoid bad press i'r Blaid yn y De a'r cymoedd ond gallasai delwedd o'r fath fod yn dra broblematig wrth geisio amddiffyn sedd fel Ceredigion yn erbyn y Dem Rhyddion a sedd fel Aberconwy yn erbyn y Ceidwadwyr. Cadw lled braich a bod yn wrthblaid gall ond eto cryf dwi'n meddwl ydy'r peth gorau i'r Blaid wneud am y bedair mlynedd nesaf a cheisio peidio uniaethu eu hunain yn ormod gyda Llafur.

16.5.07

Manylion y Bleidlais Ranbarthol

Fe fuodd V. Roderick ddigon caredig i anfon data manwyl y bleidlais ranbarthol i mi. A hyd y gwn i dydy nhw ddim ar y we yn nunlle eto felly dyma nhw i chi (rhowch glec i'w gweld yn fwy a chliriach):

Rhanbarth y Gogledd
(Os byddai Aberconwy wedi mynd i'r Ceidwadwyr byddai Wigely yn saff o fod mewn)


Rhanbarth Canol a Gorllewin

(Os byddai John Dixon wedi ennill yng Ngorllewin Caerfyrddin ni fyddai Nerys Evans wedi mynd mewn)


Rhanbarth De Orllewin


Rhanbarth De-Canol


Rhanbarth De-Ddwyrain
(Os byddai y Dem Rhydd wedi cipio sedd yng Nghasnewydd byddi Llafur yn ennill un yn ol ar y rhestr ranbarthol ac byddai'r Dem Rhydd yn colli un fan yna - ei harweinydd!)

Mwynhewch y cnoi cil!

15.5.07

Ateb posib i'r ddeilema Ryder Vs Wigely


Dwi wedi bod yn meddwl mwy am y busnes ym o ferched ar dop y rhestrau a gwleidydd rhagorol fel Wigely yn methu cael ei ethol oherwydd hynny. Fuesi yn siarad gyda aelod benywaidd hyn o'r Capel ddoe ac roedd hi'n gwrthwynebu'r polisi'n llwyr a hynny ar sail eitha ffeminyddol sef fod y polisi yn difrio merched oherwydd ei fod yn gosod y cynsail nad yw merched ddigon da heb bolisi o gam-wahaniaethu - dadl ddiddorol a chryf yn fy nhyb i.

Pan yn astudio un y gyrsiau Roger Scully yn yr Adran Wleidyddiaeth yn Aberystyth dwi'n ei gofio'n rhoi sampl i ni o sawl bapur pleidleisio o wahanol wledydd. Roedd rhyw of gennyf fod un ohonyn nhw yn cynnig ffordd o ddewis eich hoff ymgeisydd o fewn pleidlais restr. Wedi gwneud chydig bach o ymchwil dwi wedi ffeindio enghraifft o bapur pleidleisio o'r fath ar y we (cliciwch arno i'w wneud yn fwy) o Awstralia.

Tybed a'i dull pleidleisio o'r fath yw'r ffordd ymlaen i Gymru?

9.5.07

Fy Etholiad i

Yn wahanol i lawer o flogwyr sy'n dweud eu dweud ond yn gwneud dim byd mi fuesi yn go brysur yn ymgyrchu ar droed yn ogystal ag yn y cyber fyd dros gyfnod yr etholiad ond yn ystod yr ymgyrch etholiadol roeddwn ni'n gyndyn o rai manylion y gweithgareddau yr oeddwn ni'n rhan ohonynt rhag i'r Dem. Rhyddion gael gormod o wybodaeth am natur a maint ymgyrch y Blaid yng Ngheredigion. Ond nawr fod y cyfan drosodd dyma adrodd peth o'r hanes. Rhwng y dydd Sadwrn olaf (Ebrill 29) a cau y blychau am 10pm nos Iau (Mai 1) roeddwn wedi gyrru 550 o filltiroedd ac maen debyg mod i wedi gyrru cymaint a hynny eto yn y dair wythnos cyn yr wythnos olaf. Dyma'r pentrefi gafodd eu blitzio gan A-Team dosbarthu Plaid Cymru yng Ngheredigion gyda Chapten Machreth a Cadfridog Llwyd:

Pontarfynach x2, Cwm Ystwyth x2, Ysbytu Ystwyth x2, Llanafan, Pont Rhyd y Groes x2, Cnwc Coch, Llanfihangel y Creuddun, Trawsgoed, Gogledd Aberystwyth, Bronglais x3, Rheidol x2, Penparcau x3, Llanilar x2, Waunfawr, Bryncastell, Tal-y-Bont, Commins Coch, Llanbadarn x2, Aberteifi, Llechryd, Llangwyryfon x2, Trefenter, Bethania x2, Bwlchllan, Blaenpennal, Bontnewydd, Joppa x2, Capel Bangor, Goginan, Ponterwyd, Capel Seion.

Ar fore'r etholiad llwyddodd 13 o fyfyrwyr i ddosbarthu'r daflen 'Bore Da' rhwng 6am a 10am i'r holl Wardiau canlynol – Bronglais, Gogledd Aberystwyth, Rheidol a 2 ward yn Penparcau! Gwallgo!

Dyma rai o'r arwyr fu'n cynorthwyo:
Lois, Siwan a Branwen
Meleri, Leri a Meleri (i know!)
Rhodri, Gwenno a Dereg
Beth, Elinor ac Elen

Fe aeth yr ymgyrchu a ni i lefydd go diarffordd:
Ar ben mynydd ger Trefenter
Llyn Syfaddan
Defaid ym Mhonterwyd, hen diriogaeth Geraint Howells
Ymweld a'r Baracs ym Mhonterwyd
Ffermdy fy hen weinidog, Ifan Mason Davies, yng Ngoginan

Ac mae'n rhyfeddod mai dim ond dwy a drodd ar eu pigwrn yn ystod yr ymgyrch dyma brawf o anaf un ohonynt wedi i giat drom gau ar ei choes – mae Menna dal i ddioddef druan – battle scars:

Ac yn olaf dau lun o noson y canlyniadau, y cyntaf o'r Cwps a'r ail adref yn nhŷ Menna:

Un peth a'm trawodd i am yr ymgyrch oedd bod merched llawer mwy parod i ddod allan i ymgyrchu gyda ni na bechgyn. Chware teg iddyn nhw yn wir! Tybed os byddai hi'n wahanol os byddai ymgeisydd y Blaid yn ddyn? "na bydde hi ddim" meddai Menna.

Roedd hon yn ymgyrch sylweddol a phroffesiynol gyda'r Blaid yng Ngheredigion – degau ar y tîm ymgyrchu yn gwneud tipyn o bopeth a'r cyfan yn cael ei gydlynu gan Morgan Lloyd yn y swyddfa – gwrogaeth iddo. Pan anfonodd John Davies a'r Democratiaid Rhyddfrydol lythyr at bob etholwr yn y dyddiau olaf gyda stamp dosbarth cyntaf arno roedd hi'n amlwg nad oedd peirianwaith y Dem Rhyddion yng Ngheredigion yn medru cystadlu gydag un y Blaid.

6.5.07

Canlyniadau a Dadansoddi - II

Dyma restr o'r etholaethau hynny lle tybiaf y bu i Lafur aros mewn dim ond oherwydd fod y bleidlais yn eu herbyn wedi ei rannu:

Delyn
Llafur yn cadw gyda mwyafrif o 511 o ganlyniad i'r Bleidlais Geidwadol/Dde yn cael ei rannu rhwng y Ceidwadwyr (6,996) a UKIP (1,318).

Gwyr
Llafur yn cadw gyda mwyafrif o 1,192. Ceidwadwyr (8,214) ddim wedi gallu cipio oherwydd fod pleidlais Plaid Cymru (5,106) yn y drydedd safle wedi profi i fod yn gryf hefyd.

Gorllewin Abertawe
Llafur yn cadw gyda mwyafrif o 1,511. Eto yn elwa rhwng ras rhwng y pedwar prif blaid tro hwn gyda gweddill y bleidlais yn cael ei rannu rhwng y Dem. Rhyddion (5,882), Ceid (4,379) a PC (3,583)

Bro Morgannwg
Fel Delyn, Llafur wedi cadw'r sedd gyda mwyafrif o 83 dim ond oherwydd fod y bleidlais Geidwadol/Dde wedi hollti rhwng y Ceidwadwyr (11,432) a UKIP (2,310)

De Caerdydd a Phenarth
Llafur yn cadw yn rhydd rhag her oherwydd fod gweddill y bleidlais wedi ei rannu rhwng y Ceidwadwyr a'r Dem. Rhyddion.

Dwyrain Casnewydd
Llafur yn cadw yn rhydd rhag her (er fod y mwyafrif i lawr i 875 yn unig) oherwydd fod gweddill y bleidlais wedi ei rannu rhwng y Ceidwadwyr a'r Dem. Rhyddion.

Yr unig etholaethau sydd bellach yn cynnig ras draddodiadol dwy geffyl ydy'r canlynol:

Ceredigion
PC a Dem. Rhydd

Brycheiniog a Maesyfed
Dem. Rhydd a Ceid

Dyffryn Clwyd
Llaf a Ceid

Delyn
Llaf a Ceid

Canlyniadau a Dadansoddi - I

Talodd yr holl waith caled yng Ngheredigion ar ei ganfed i ni felly. Yn y diwedd doedd hi ddim hyd yn oed yn agos gyda Elin yn ennill bron i 4,000 o fwyafrif dros John Davies y Rhyddfrydwr. Roedd fy narogan na fyddai y Dem. Rhyddion yn llwyddo i ail-adrodd a gwella ar eu swing yn 2005 yn gywir! Pleser o'r mwyaf hefyd oedd clywed canlyniad Llanelli, nid yn unig i Helen Mary ennill ond fe enillodd hi'n dda gyda mwyafrif o yn agos i 4,000 hefyd. Yr un oedd y stori yn Aberconwy, mwyafrif ddim mor fawr ond fe arweiniodd Gareth Jones ni i fuddugoliaeth serchus a haeddiannol yn y sedd newydd honno a rhoi cic ym mhen ôl y Ceidwadwyr Cymreig hunangyfiawn drwy i Aberconwy wrthod eu rising star nhw Dylan Jones Evans.

Yn bersonol gwireddwyd bron a bod pob un o fy ngobeithion i am yr etholiad yma sef cadw'r seddi oedd ganddom ni, ennill Llanelli ac Aberconwy ac ar noson dda ennill Gorllewin Caerfyrddin. Yn anffodus collodd John Dixon allan yn y ras tri ceffyl yng Nghaerfyrddin ond mae wedi gosod sylfaen gref ar gyfer tro nesaf. Sypreis bach annisgwyl i'r noson oedd gweld ethol Mohammad Asghar i Blaid Cymru yn rhestr rhanbarth y De Ddwyrain – dwi'n meddwl ei bod hi'n arwyddocaol ac yn arloesol taw Plaid Cymru sydd wedi rhoi y sedd gyntaf i rywun o dras Ethnig. Mae hyn hefyd yn rhoi twist diddorol i'r ddarlith fyddai'n traddodi nos Fercher ar y tesun 'Plaid yn uno – crefydd yn gwahanu'.

Yr uni gbeth siomedig am y canlyniadau oedd i Lafur ddod allan ohoni yn weddol yn yr ystyr nad oedd eu perfformiad nhw yn haeddu y 26 sedd sydd ganddyn nhw. Roedden nhw yn tu hwnt o lwcus mewn sawl etholaeth ac nhw wnaeth elwa o'r ffaith fod sawl etholaeth yn ras tri ceffyl – pe tae mwy o'r etholaethau ymylol yn ras dwy geffyl fel ag yr oedd hi yng Ngheredigion dwi'n tybio y byddai y Blaid Lafur wedi colli tipyn trymach. Os am gael Llafur allan yn yr etholiad nesaf efallai y bydd rhaid i'r gwrthbleidiau ddod i ryw gonsensws rhyngddynt o pwy sy'n cael herio Llafur ym mhle oherwydd drwy gael Plaid a'r Ceidwadwyr (a'r Dem. Rhyddion mewn llefydd fel Casnewydd ac Abertawe) yn herio Llafur yn yr un etholaethau maen nhw'n gadael i Lafur aros mewn.

2.5.07

Amser i wneud Gwahaniaeth

Wrth ymgyrchu yn Aberteifi ddoe des i ar draws yr arwydd isod oedd ar ddrws deintyddfa o eiddo'r NHS. Neges sy'n portreadu cyflwr yr NHS dan Lafur i'r dim.
nhs_llafur

Mae'n amser i wneud gwahaniaeth:

1.5.07

Meri Huws a'r Mewnlifiad - amau yr ysbardun

Sylwadau diddorol a chalonogol (ar yr olwg gyntaf) gan Meri Huws o Fwrdd yr Iaith ddoe a bore ma ar y newyddion. Dywedodd pennaeth Bwrdd yr Iaith mai mewnlifiad i ardaloedd Cymraeg yw'r "her fwyaf" sy'n wynebu'r Gymraeg. Ond pam gwneud y sylwadau dadleuol yma dridiau cyn yr etholiad?

Wel, fel dwi'n deall Llafurwraig ydy Ms. Huws ac tydi ei phlaid hi ddim yn perfformio mor dda a hynny yn y polau piniwn. Ac os gofiwch chi'n iawn cam-ddefnyddiodd y Blaid Lafur a'i rhacsyn o bapur newydd,y 'Welsh Mirror', helynt y Fro Gymraeg a Chymuned i golbio Plaid Cymru a chenedlaetholwyr yn ddi-ddiwedd ac yn gwbl ffiaidd rhwng 1999-2003. Er ffiaidd y polisi gan y Blaid Lafur fe weithiodd ac fe gloffwyd Plaid Cymru erbyn 2003. A'i ymgais unwaith eto gan Lafur i gloffi Plaid Cymru a'i phortreadu fel plaid y Fro Gymraeg yn unig ydy sylwadau Ms. Huws? Ymgais i ddangos fod hollt ym Mhlaid Cymru rhwng y De a'r Gogledd, rhwng y ceidwadwr a'r sosialwyr, yr hen aelodau a'r newydd? Ceisio pegynnu Plaid a Llafur? Dim ond gofyn.

30.4.07

SNP TV


Mae'r we wedi cael ei ddefnyddio fel arf defnyddiol gan Blaid Cymru yn yr etholiad yma. Darlledu darllediadau gwleidyddol ar eu gwefan a cynnig lawr-lwythiadau o'i maniffestoau ayyb... Ond ei chwaer blaid yr SNP yn yr Alban sydd wedi bod mwyaf arloesol wrth ddefnyddio'r we wrth lansio SNP TV. Dim ond propaganda un-ochrog gewch chi ond rhywsut maen nhw'n llwyddo i guddio hynny yn reit effeithiol. Bob diwrnod ceir y newyddion diweddaraf am eu hymgyrch ac fe gyflwynir rhywun enwog neu ddynion busnes blaenllaw sy'n cefnogi'r ymgyrch bob dydd. Sean Conery lansiodd SNP TV. Pan glywes i am y syniad yn wreiddiol roeddwn ni'n amheus ac yn meddwl y buasai yn amaturaidd ac o ganlyniad yn edrych yn naff – ond chware teg mae'r SNP wedi llwyddo gyda'r fenter yma. Llongyfarchiadau – beth am i Blaid Cymru drio tro nesaf?

Mae'r tensiwn yn cynyddu yma yn Aberystwyth ond ma gennai rhyw deimlad ym mer fy esgyrn fod y gwynt yn chwythu y ffordd iawn. 'Cyfiawnder a ddyrchafa genedl' - Diarhebion 14:34