Showing posts with label Bethan Jenkins. Show all posts
Showing posts with label Bethan Jenkins. Show all posts

26.2.08

Bethan Jenkins AC a'r BYD

Y diweddaraf i daflu dwr oer ar brosiect Y BYD ydy Bethan Jenkins AC a hynny ar ei blog hi. Pan oedd Bethan yn gyd-ymgyrchwraig a mi (nid mod i yn tynnu fy mhwysau fel 'ymgyrchwr' dyddiau yma chwaith cofiwch) hi fyddai'r cyntaf i ymosod ar y llywodraeth am dorri addewid. Dyma'r peth diweddaraf i Bethan ddweud:

Rhys- dydw i ddim yn erbyn cael papur newydd dyddiol i'r gymraeg, ond mae angen i ni edrych ar y opsiynau i weld beth sydd yn bosib. Does dim pwynt dechrau papur newydd heb y gwaith ymchwil ar bwy fydd yn ei ddefnyddio, a sicrhau bod digon o danysgrifwyr. Rwy'n cydnabod pwysigrwydd y pwnc, ac yn hapus i gwrdd a phobl yn y sector i drafod hwn yn bellach. Mae fy nrws i yn agored o hyd.


A dyma fy ymateb i nad sydd wedi ymddangos ar ei blog hi eto gan fod Bethan wedi troi 'message moderation' ymlaen bellach!

Diolch am gael drws agored Bethan. Ond mae dy sylwad di yn dweud fod angen neud ymchwil yn dangos nad wyt ti wedi dy briffio ar y pwnc yma cyn lleisio dy farn. Mae ymchwil trwyadl eisoes ar gael i mewn i'r farchnad - wyt ti wedi ei ddarllen? Mae ymchwil yn dangos fod yna botensial o 45,000 o households Cymraeg ABC1 byddai yn medru prynu'r BYD ag ystyried hynny dydy dechrau gyda cylchrediad o 5,000 ddim mor uchelgeisiol a hynny wedi'r cyfan. Gwnaed yr ymchwil gyda llaw gan Beaufort Research ac nid gan Y BYD eu hunain. Mae'r cynllun Busnes hefyd yn water tight a dibynnu ei fod yn cael cefnogaeth o leiaf £600,000 gan y Llywodraeth sef rhywbeth tebyg i'r norm Ewropeaidd i bapur lleiafrifol. Roedd y gwaith yma i gyd ar gael i'r Blaid ddarllen cyn iddyn nhw roi yr addewid yn y maniffesto - ond na, yr headline yn hytrach na'r nuts and bolts oedd o ddiddordeb nol yn yr haf wrth geisio ein argyhoeddi fod mynd gyda Llafur yn well nag arwain Llywodraeth.

Thanks for the open door invitation Bethan. But your comments noting that more research needs doing on the concept of a Welsh daily indicate that you have not been fully briefed on the issue which you have raised your voice about. Substantial and in-depth research into the market has already been undertaken - have you read it? Research shows, if memory serves me correctly, that there are 45,000 welsh speaking ABC1 households out there as potential buyers of Y BYD; considering this aiming for an initial circulation of 5,000 is not that unrealistic. By the way the research was undertaken by Beaufort Research and not by Y BYD itself. The Business plan is also water tight so long as it would receive government backing of at least £600,000 which is close to the European norm for similar minority language daily papers. All this research work was available to Plaid and Labour as they worked on the 'headlines' that would lure people like me to support the coalition - but i guess back then you were not that bothered in the nuts and bolts of it all. It's a pity.

31.5.07

Cwmpawd Gwleidyddol: dwi dal ar y chwith - maen swyddogol!

Bydd sawl un ohonoch yn gyfarwydd a'r wefan www.politicalcompass.org. Ar y wefan yma fe allwch chi ateb set o gwestiynau yna ar sail eich atebion maen cyfrifo lle ydych chi ar y spectrwm gwleidyddol chwith-dde ac awdurdodol-rhyddfrydol. Gan fod yr holl gwestiwn o leoli ideoleg a pholisïau gwleidyddol yn dysen boeth ers yr etholiad a'r Sosialydd mawr Adam Price yn dod i gytundeb ar agenda llywodraeth gyda'r Ceidwadwyr (do, fe ddaeth tro ar fyd) tybiais y byddai'n ymarfer da i mi ail wneud y prawf ar y wefan.

Ers i mi ddechrau yn y Brifysgol bron a bod bedair mlynedd yn ôl maen rhaid i mi gyfaddef fy mod wedi teimlo fy hun yn symud rhywfaint i'r dde. Nid mod i bellach ar y dde ond fod fy chwithdod/sosialaeth wedi dod yn fwy pragmataidd fel yr esboniais yn fanwl yn y postiad yma. Yn eiddgar felly yr oeddwn ni'n disgwyl ymlaen i weld faint i'r dde yr oeddwn ni wedi symud. Gwnes y prawf yn wreiddiol fis Ebrill 2003 pan oeddwn dal yn ddisgybl ysgol. Wele y gymhariaeth ar y graff isod:

Dwi'n falch o fedru cadarnhau nad ydw i bellach 'ar y dde', er diddorol yw nodi mod i wedi symud fymryn i'r dde ac mod i wedi symud yn weddol i ffwrdd o ryddfrydiaeth galed (os oes yna fath beth a rhyddfrydiaeth galed – chydig bach o oxymoron yn tydy?). Diddorol byddai clywed beth ydych chi? Ac os gymeroch y prawf run pryd a mi yn 2003 faint o symud sydd wedi bod? Os nad ydych chi'n cofio eich sgor yn 2003 yna efallai eich bod chi'n un o aelodau'r maes a gyhoeddodd eich sgor fan yma neu fan yma.

Os bostiwch chi eich sgôr fel sylwad fe wnai eich ychwanegu i'r siart uchod. Byddai hi'n arbennig o ddiddorol pe tae Blogwyr o wleidyddion fel Glyn Davies neu Bethan Jenkins yn cyfranogi i'r prosiect.

12.5.07

Ideoleg economaidd a chymdeithasol Plaid Cymru - y chwith blithdrafflith


Cwestiwn sydd wedi codi ei ben unwaith yn rhagor ers yr etholiad (roeddem ni gyd ddigon call i beidio ei godi yn ystod yr ymgyrch etholiadol) ydy 'Sosialaeth' Plaid Cymru. Mae'r pwnc yn debygol o gael sylw arbennig dros dymor nesaf y cynulliad gan fod gan Leanne Wood bellach aelod newydd caled chwith yn y cynulliad gyda hi sef Bethan Jenkins. Mi ydw i wedi galw fy hun yn Sosialydd ers pan o ni tua 15, ac rhwng yr oedran o 15-18 roeddwn ni'n mynd mor bell a dweud mod i'n sosialydd o arlliw Marcsaidd. Roedd llun Che Guvera gyda mi ar y wâl, chi'n gwybod y math maen siŵr. Yr hyn a berodd i mi golli ysbryd sosialaeth galed i ddechrau oedd darganfod fod sosialaeth galed wedi, ac yn, wrth Gristnogol ac dan faner sosialaeth a comiwnyddiaeth y mae Cristnogion wedi eu erlid waethaf yn hanes yr Ugeinfed Ganrif. Nawr, rwy'n gwybod nad ydw i'n debygol o gael fy erlid gan Leanne Wood, Adam Price a Bethan Jenkins am fy Nghristnogaeth, fodd bynnag roedd y syniad yma o ddyrchafu ideoleg wleidyddol fel petae yn ddwyfol ac i gymryd lle Duw fel y dwyfol yn codi braw arnaf.

Yn ogystal a hyn roedd fy nghred yn y dyn syrthiedig yn peri cymhlethdod gyda credu mewn sosialaeth gomiwnyddol lwyr. Dwi'n cofio darllen pan oeddwn tua 18 fod sosialwyr yn credu fod modd dileu trachwant, cenfigen ac uchelgais bersonol drwy'r drefn addysg. Yn ogystal ag ymylu ar senario Orwell yn '1984' dwi ddim yn credu fod y peth yn bosib beth bynnag – canlyniad a cyflwr y dyn syrthiedig yw trachwant a cenfigen ac ni all addysg byth dynnu rheini allan o galon pob dyn yn llwyr. Rhaid oedd trefn sosialaidd felly oedd yn cymryd i gyfri cyflwr naturiol farus dyn. Problem arall sosialaeth lwyr i mi oedd lle mae lle creadigrwydd a menter? Efallai fod gan y chwith galed atebion i hyn ond methais i a canfod rhai call.

Fodd bynnag 'toedd troi i'r dde ddim yn opsiwn – roeddwn ni, oherwydd fy Nghristnogaeth, yn credu fod dyn yn syrthiedig ond roeddwn ni dal yn Gristion oedd yn credu fod adferiad yng Nghrist yn bodoli nid yn unig ar y lefel ysbrydol ond ar lefel cyfiawnder yn y byd. Wedi'r cyfan sosialaidd i raddau yw'r senario yn yr hanesyn yma am sut oedd Cristnogion yr eglwys fore yn cyd-fyw:

Roedd undod go iawn ymhlith y credinwyr i gyd. Doedd neb yn dweud “Fi biau hwnna!”. Roedden nhw’n rhannu popeth gyda'i gilydd. Roedd cynrychiolwyr Iesu yn cael rhyw nerth rhyfedd i dystio’n glir fod yr Arglwydd Iesu wedi dod yn ôl yn fyw, ac roedden nhw i gyd yn teimlo fod Duw mor dda tuag atyn nhw. Doedd neb ohonyn nhw mewn angen, am fod pobl oedd yn berchen tir neu dai yn eu gwerthu, ac yn rhoi’r arian i’r apostolion i’w rannu i bwy bynnag oedd mewn angen. Er enghraifft, Joseff, y dyn roedd yr apostolion yn ei alw’n Barnabas (sy’n golygu ‘yr anogwr’). Iddew o dras llwyth Lefi yn byw yn Cyprus. Gwerthodd hwnnw dir oedd ganddo a rhoi'r arian i'r apostolion. (Actau 4:32-37)


Mae'r hanesyn uchod yn seiliedig ar y ffaith fod pawb o'r gymuned wedi penderfynu cyfranogi i'r fenter, heb i bawb gyfranogi ni fuasai'r peth yn bosib. Nes ymlaen yn llyfr yr Actau mae son am griw wnaeth dorri cwys a pheidio cyfrannogi'n deg:

Roedd dyn arall o'r enw Ananias, a'i wraig Saffeira, wedi gwerthu peth o'u heiddo. Ond dyma Ananias yn cadw peth o’r arian iddo’i hun a mynd â’r gweddill i’r apostolion gan honni mai dyna’r cwbl oedd wedi ei gael. Roedd e a'i wraig wedi cytuno mai dyna fydden nhw’n ei wneud. 
Pan ddaeth at yr apostolion dyma Pedr yn dweud wrtho, "Ananias, pam rwyt ti wedi gadael i Satan gael gafael ynot ti? Rwyt ti wedi dweud celwydd wrth yr Ysbryd Glân trwy gadw peth o'r arian gest ti am y tir i ti dy hun! Ti oedd biau’r tir, ac roedd gen ti hawl i wneud beth fynnet ti â'r arian. Beth wnaeth i ti feddwl gwneud y fath beth? Dim wrthon ni rwyt ti wedi dweud celwydd, ond wrth Dduw!" (Actau 5:1-4)


Felly lle i droi? 'Centre left' dwi wedi bod yn galw fy hun ers rhyw dair mlynedd bellach ac pan fo cyfle yn codi dwi'n dyfynnu R. Tudur Jones pan ddywedodd hyn mewn llythyr at Gwynfor ddechrau'r 80au:

I mi mae'r hen bwyslais ar gydweithrediad, ar gryfhau cyfrifoldeb bro ac ardal, ar geisio creu cymdeithas aml ganolog, gyda'r Wladwriaeth yn cymryd ei lle fel ffurf gymdeithasol ymhlith llawer o ffurfiau cymdeithasol eraill, a'r cwbwl trwy ei gilydd a chyda'i gilydd yn galluogi pobl i fyw'n rhydd a ffyniannus – i mi, mae'r athrawiaeth hon yn dal yn berthnasol. Ac mae hi hefyd yn athrawiaeth sydd, yn fy nhyb i, yn gorwedd yn esmwythach ar gydwybod y Cristion na'r un arall. - R. Tudur Jones

Am arddel y fath safbwynt mae sawl un wedi nodi wrtha i fod sy syniadaeth yn debyg i 'One Nation Conservatism' (ideoleg adain chwith y Blaid Geidwadol).

Dwi mewn theori ac egwyddor yn credu mewn ail-ddosbarthu cyfoeth ond y broblem sylfaenol yw sut? Os ydy'r chwith galed o fewn Plaid Cymru yn tybied fod modd gwneud hynny dros nos (neu o leiaf mewn tymor llywodraeth) drwy ail-strwythuro sylweddol ar y wladwriaeth a'r economi yna dangoswch i mi sut? Yr unig gynnig sydd erioed wedi bod yw'r cynnig sofietaidd a wnaeth, fel a wŷr pawb, fethu a hynny gyda steil. Tra bod y chwith galed yn dod ag ateb amgen gerbron yna rwy'n dawel fy nghydwybod yn rhwyfo yn llong gwleidyddiaeth chwith-ganol, democrataidd sosialaidd sy'n ceisio canfod hanner ffordd deg rhwng ail-ddosbarthu a hybu creadigrwydd a menter.

Ydw i'n sosialydd? Ydw dwi'n credu mewn ail ddosbarthu cyfoeth mewn egwyddor ac rwyf am hybu lles pawb yng Nghymru yn ddi-wahan.

Ydw i'n Sosialydd? Nac ydw fe ymddengys.

11.5.07

Gwerth yr Iaith Gymraeg?

Dwi di tynnu nyth cacwn i fy mhen dros nos gyda fy sylwadau am Golwg yn rhoi colofn i flogiwr Saesneg. Gwerth fyddai i mi grynhoi fy marn am y pwnc drwy ddefnyddio'r alagori yma:

I fi roedd hyn fel gweld y Poppies yn neud gigs Saesneg trwy'r flwyddyn wedyn yn cael un gig mawr Cymraeg bob 'steddfod. Oce grêt bod nhw actually yn neud gig Cymraeg ond ychydig o dywod yn wyneb y rhai sydd wedi bod yn gigio'n Gymraeg trwy'r flwyddyn.


Hyd yn oed os nad ydych chi'n cytuno gobeithio eich bod chi o leiaf yn deall fy safbwynt ar y mater. Ymhellach, mae sawl person wedi nod fod hi ddim yn bwysig ym mha iaith ydych chi'n trafod gwleidyddiaeth ac mai'r trafod ei hun sy'n bwysig. “Dim ots os ydy o'n Saesneg neu Cymraeg neu fflipin Swahili.” Mae'r sylw yma yn ddifrîol i werth iaith, mae'n trin iaith fel petasai'n gyfrwng yn unig heb fod iddo werth annibynnol o'r rheidrwydd iddo ef ei hun.

Mae Bethan Jenkins AC wedi ymateb wrth ddweud:

“Mae gan ef a phawb arall rhwydd hynt i ddewis pa iaith i flogio ynddo. Fel rwyf wedi dweud o'r blaen, mae blog yn adlewyrchiad o feddyliai person, ac ni ddylir person cael ei feirniadu am ddewis blogio yn saesneg( na finne chwaith am hynny!)”


Rwy'n deall pwynt Bethan ond unwaith yn rhagor mae'r iaith yn cael ei drafod fel comodity fedrw chi benderfynu tynnu oddi ar y silff neu beidio – ac os ydy cynifer o bobl yn dewis ei adael ar y silff yna iaith eilradd bydd y Cymraeg yng Nghymru am amser eto.

Allw ni ddim gadael tynged y Gymraeg i lazzies fair oherwydd dim ond y lleiafrif bach iawn bydd yn fodlon sefyll yn erbyn y llif. Nid cyfrwng i'w ddewis neu beidio i gario dadl neu gario trafodaeth ydy'r Gymraeg ond mae'n endyd sydd a gwerth iddo yn ei hun. Ydy mae'r ddadl yn bwysig, ydy mae'r drafodaeth yn bwysig ond mae'r iaith mae hyn oll yn digwydd ynddo yn bwysig hefyd nid cyfrwng yn unig ydyw mae yn endyd gwleidyddol yn ei hun. Felly mae ots os ydy o'n Saesneg, Cymraeg neu fflipin Swahili.

Yn olaf, ydw i'n meddwl dylai Aelodau Cynulliad flogio'n Gymraeg? Ydw wrth reswm, yn enwedig felly eu bod nhw'n aelodau etholedig sydd, unwaith eto, fod i arwain y ffordd. Gyda Ciaran, er y buaswn ni wrth fy modd yn ei weld yn blogio'n Gymraeg does dim rheidrwydd arno fel aelod etholedig na dim byd felly i wneud – ond am aelodau etholedig – wrth gwrs bod dyletswydd. I Aelod Cynulliad gadw blog uniaith Saesneg mae e fel Aelod Cynulliad yn anfon gohebiaeth/flyers uniaith Saesneg allan i'w etholwyr. Trist.

10.5.07

Colofn Ciaran Jenkins yn Golwg


Colofn dda newydd yn Golwg heddiw, colofn gan Ciaran Jenkins o Ferthyr. Mae'n frawd i Bethan Jenkins aelod newydd Plaid Cymru dros Dde Orllewin Cymru ac dwi'n amau ei fod yn dod i ddiwedd ei gwrs yn y Coleg Newyddiadurol yng Nghaerdydd a chyn hynny graddiodd o Gaergrawnt neu Rhydychen (ddim yn cofio pa un!)

Mae ganddo flog Saesneg yma. mae'r blog yn un treiddgar a difyr iawn. Fodd bynnag dwi a sawl un arall yn y rhithfro wedi siomi gyda Golwg am groesi'r ffordd a chynnig colofn i flogiwr Saesneg – does dim bai ar Ciaran o gwbl am hyn; pe bai'r Western Mail yn cynnig colofn Saesneg i mi wrth gwrs y baswn ni'n derbyn. Ond mae gweld Golwg yn cynnig colofn i Ciaran yn slap yn wyneb pawb sydd wedi bod yn ddiwyd yn cynnal blogiau Cymraeg ers blynyddoedd bellach – lle mae'r gydnabyddiaeth Golwg? Gan fod Ciaran, bid siŵr, yn cael mymryn o bres prin y wasg Gymraeg bellach dwi'n gobeithio y gwnaiff wrogaeth a hi drwy ddechrau blogio'n Gymraeg yn awr.

Rwy'n ddigon o ddyn i gyfaddef fod yna elfen o eiddigedd ynghlwm wrth y gwyn (fe fydd rhai wedi sylwi fod fy ngholofn gerdd yn Barn wedi cael mynd – 'rhy hir' yn ôl y Golygydd newydd ac am gael mwy o bethau pytiog yn lle) yma ond mae yna ddicter hefyd gyda Golwg am edrych heibio'r gwaith diwyd y mae blogwyr Cymraeg wedi gwneud ers blynyddoedd ac yna cynnig colofn i flogiwr Saesneg.