Showing posts with label Clymblaid. Show all posts
Showing posts with label Clymblaid. Show all posts

1.7.08

Cyflwyno deiseb i Jane Hutt ar fater Coleg Ffederal Cymraeg

Wrth i ni ddisgwyl cyhoeddiad Dydd Iau (03/07/08) gan y Gweinidog Addysg Jane Hutt ynglyn â pholisi Llywodraeth "Cymru'n Un" o Goleg Ffederal Cymraeg, bydd Cymdeithas yr Iaith yn cyflwyno deiseb gyda 1,000 o enwau i'r Gweinidog heddiw yn amlinellu'r hyn a gredwn a dderbyniwyd ers blynyddoedd fel pedair egwyddor graidd Coleg Ffederal Cymraeg. Bydd y ddeiseb hefyd yn cael ei chyflwyno i Bwyllgor Deisebau'r Cynulliad.

Dywedodd Rhys Llwyd (Fi!), Swyddog Ymgyrch Coleg Cymraeg, Cymdeithas yr Iaith:

"Credwn y gellid defnyddio'r pedair egwyddor yma fel meini prawf i farnu os ydy'r Llywodraeth ar y trywydd cywir i wireddu eu haddewid o sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg. Credwn fod yn rhaid i Goleg Ffederal gynnwys yr elfennau canlynol:

(i.) Statws statudol a chyfansoddiad annibynnol,
(ii.) Siarter a chylch gorchwyl annibynnol gan gynnwys cyfrifoldeb dros holl addysg uwch cyfrwng Cymraeg Cymru,
(iii.) Llif arian annibynnol — o leiaf £20 miliwn yn y lle cyntaf tybiwn; ac yn olaf
(iv.) Cofrestr myfyrwyr annibynnol, a fydd yn sicrhau bod modd i fyfyrwyr gofrestru gyda’r Coleg Ffederal a gyda’u coleg daearyddol, gan arwain at ymdeimlad o berthyn a pherchnogaeth ohono."


Ychwanegodd Elain Haf, myfyrwraig o Brifysgol Caerdydd:

"I'r rhai diffuant hynny sy'n gofidio y bydd creu Coleg Cymraeg fel sefydliad statudol annibynnol yn rhyddhau'r sefydliadau presennol o'u cyfrifoldebau gadewch i ni gael un peth yn glir. Mi fydd y sefydliadau presennol yn parhau i fod yn ddarparwyr dan unrhyw drefn newydd. Mor debyg yw'r gymhariaeth gyda'r dadleuon yn '79 cyn sefydlu S4C. Sianel Gymraeg v's mwy o ddarpariaeth Gymraeg ar y sianeli Saesneg. Coleg (aml-safle) Cymraeg v's mwy o ddarpariaeth Gymraeg yn y prifysgolion presennol. Mae'n amlwg bellach mai rheidrwydd oedd sefydlu S4C er mwyn datblygu teledu Cymraeg, er bod y BBC yn parhau i fod yn chwaraewr pwysig ym myd darlledu Cymraeg. Yn yr un ffordd, rhaid gweld sefydlu Coleg Cymraeg i ddatblygu addysg Gymraeg, er y bydd y prifysgolion traddodiadol yn parhau i chwarae eu rhan."


Eisoes mae llythyr agored gan dri deg a phump o academyddion blaenllaw sy'n ymarferwyr dydd i ddydd ym maes dysgu cyfrwng Cymraeg wedi ei anfon at Jane Hutt yn amlinellu'r egwyddorion craidd. Mae'r ddeiseb yma law yn llaw â llythyr yr academyddion yn dangos fod yna ewyllys gref yn bodoli i weld y Llywodraeth yn symud ymlaen ac yn sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg cyflawn ac nid bwrdd, cwango, neu rwydwaith yn unig.

21.6.08

Coleg Ffederal Cymraeg - rhaid achub ar y cyfle nawr

Yn dilyn cyfarfodydd ddoe (ni ddywedaf ymhle na gyda phwy oherwydd rwy'n parchu preifatrwydd y cyfarfodydd) rwy'n teimlo fel bod yn rhaid dweud gair am Goleg Ffederal Cymraeg eto fyth.

Gan ddisgwyl cyhoeddiad buan gan y Gweinidog Addysg Jane Hutt ynglŷn a pholisi Llywodraeth Cymru'n Un o Goleg Ffederal Cymraeg carwn dynnu eich sylw at yr hyn a gredwn a dderbyniwyd ers blynyddoedd fel pedair egwyddor craidd Coleg Ffederal Cymraeg. Gellid defnyddio'r pedwar egwyddor yma wedyn fel meini prawf i farnu os ydy'r Llywodraeth ar y trywydd cywir tuag at wireddu eu haddewid o sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg. Rhaid i Goleg Ffederal gynnwys yr elfennau canlynol:

(i.) Statws statudol a chyfansoddiad annibynnol,

(ii.) Siarter a chylch gorchwyl annibynnol gan gynnwys cyfrifoldeb dros holl addysg uwch cyfrwng Cymraeg Cymru,

(iii.) Llif arian annibynnol — o leiaf £20 miliwn yn y lle cyntaf tybiwn; ac yn olaf

(iv.) Cofrestr myfyrwyr annibynnol, a fydd yn sicrhau bod modd i fyfyrwyr gofrestru gyda’r Coleg Ffederal a chyda’u coleg daearyddol, gan arwain at ymdeimlad o berthyn a pherchnogaeth ohono.


I'r rhai diffuant hynny sy'n gofidio y bydd creu Coleg Cymraeg fel sefydliad statudol annibynnol yn rhyddhau'r sefydliadau presennol o'i cyfrifoldebau gadewch i ni gael un peth yn glir. Mi fydd y sefydliadau presennol yn parhau i fod yn ddarparwyr dan unrhyw drefn newydd. Mor debyg yw'r gymhariaeth gyda'r dadleuon yn '79 gyda sefydlu S4C. Sianel Gymraeg Vs mwy o ddarpariaeth Gymraeg ar y sianeli Saesneg. Coleg (aml-safle) Cymraeg Vs mwy o ddarpariaeth Gymraeg yn y prifysgolion presennol. Maen amlwg bellach mae rheidrwydd oedd sefydlu S4C er mwyn datblygu teledu Cymraeg, er fod y BBC yn parhau i fod yn chwaraewr pwysig ym myd darlledu Cymraeg yn yr un ffordd ac y bod yn rhaid gweld sefydlu Coleg Cymraeg i ddatblygu addysg Gymraeg er y bydd y prifysgolion traddodiadol yn parhau i chwarae eu rhan.

Eisoes mae llythyr agored gan dri deg o academwyr blaenllaw sy'n ymarferwyr dydd i ddydd ym maes dysgu cyfrwng Cymraeg wedi ei anfon at Jane Hutt yn amlinellu y pedwar egwyddor craidd. Yn ogystal, mae rhai cannoedd o bobl wedi torri eu henwau ar y ddeiseb ar-lein, croeso i chi lwybro draw i ychwanegu eich enw chi. Llwyr obeithiaf y bydd y llywodraeth yn achub ar y cyfle unigryw yma i sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg ac na fydd y cyfle yn cael ei golli am genhedlaeth arall.

Mae gair wedi mynd i mewn i'r cylchgronau a'r papurau yn dweud yr un peth... efallai i chi synhwyro mae nid di-sail yw'r gofid bellach nad ydym ni yn debygol o weld setliad sy'n anrhydeddu'r pedwar egwyddor craidd yn llawn.

13.6.08

Plaid Cymru yn troi cefn ar Goleg Ffederal Cymraeg?

Dyma beth yw Coleg Ffederal Cymraeg:

1. Statws statudol fel sefydliad addysg uwch â chyfansoddiad annibynnol.

2. Siarter annibynnol yn nodi ei gylch gorchwyl, gan gynnwys addysgu ac ymchwil, a darpariaeth addysg uwch cyfrwng Cymraeg Cymru-gyfan.

3. Llif arian annibynnol, yn hytrach na derbyn cyfran o gyllid addysg uwch Saesneg. Yn hyn o beth, galwn ar y llywodraeth i sicrhau llif arian £20 miliwn fan leiaf, £15 miliwn yn ychwanegol at yr hyn a addawyd yn eich cynllun a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd.

4. Cofrestr myfyrwyr annibynnol a fyddai’n galluogi myfyrwyr i gofrestru gyda’r Coleg Ffederal Cymraeg yn ogystal ag un coleg penodol fel bod gan y coleg gorff o fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ynddo ac yn teimlo perchnogaeth drosto.


Ond yn ôl cynnig bydd o flaen cynhadledd Plaid Cymru mis Medi dyma yw Coleg Ffederal Cymraeg:

1. Sicrhau dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg mewn pob sefydliad Addysg Uwch.

2. Gwneud y mwyaf o'r sgiliau iaith Gymraeg sydd eisoes ar gael mewn sefydliadau.

3. Rhoi arweiniad ar ddatblygu dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg mewn addysg uwch.

4. Darparu ar gyfer datblygiadau tebyg posibl mewn dysgu mewn addysg bellach.


Y pedwar egwyddor cyntaf ac nid rhyw bedwar o werthoedd pen-agored (iawn yn eu lle cofiwch) yw Coleg Ffederal Cymraeg. Symud y pyst yw sôn am sefydlu Coleg Ffederal na fydd wedi ei sefydlu ar sail y pedair egwyddor ymarferol craidd a nodais ar y top ac a nodwyd ers blynyddoedd gan yr ymgyrchwyr yn y maes. Os na theimla Plaid Cymru ei bod hi am ddilyn y trywydd yma yna efallai mae'r peth onest ac anrhydeddus i wneud ydy cydnabod nad yw sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg bellach yn rhan o'u cynlluniau ac eu bod yn anelu am setliad llai uchelgeisiol, dim byd mwy na bwrdd arall. Rwy'n hyderu a gobeithio nad dyna fydd yr achos.

9.6.08

Deiseb ar-lein am Goleg Ffederal Cymraeg

Coleg Ffederal Cymraeg

Galwn ar Lywodraeth y Cynulliad i gadw at addewid cytundeb ‘Cymru’n Un’ o sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg. Rhaid i Goleg Ffederal gynnwys yr elfennau canlynol:

1. Statws statudol a chyfansoddiad annibynnol

2. Siarter a chylch gorchwyl annibynnol gan gynnwys cyfrifoldeb dros holl addysg uwch cyfrwng Cymraeg Cymru

3. Llif arian annibynnol — o leiaf £20 miliwn yn y lle cyntaf

4. Cofrestr myfyrwyr annibynnol, a fydd yn sicrhau bod modd i fyfyrwyr gofrestru gyda’r Coleg Ffederal a chyda’u coleg daearyddol, gan arwain at ymdeimlad o berthyn a pherchnogaeth ohono.


Byddai unrhyw beth llai na chyfuniad cyflawn o’r uchod yn torri’r addewid. Galwn ar y llywodraeth i ail-ystyried eu cynlluniau os nad yw’r uchod yn rhan ohonynt.

Rho glec YMA i arwyddo'r ddeiseb

31.5.08

Beth oedd 'plan b' Dyddiol Cyf?

Er i Dyddiol Cyf. gyhoeddi yn fuan iawn, wedi cyhoeddiad Rhodri Glyn Thomas mae dim ond £200,000 ychwanegol byddai ar gael i ddatblygu'r wasg Gymraeg, fod y cynlluniau am bapur dyddiol wedi eu rhoi o'r neilltu fe wnaeth tîm Dyddiol Cyf roi 'plan b' at ei gilydd a gwneud cas am yr arian y gwaneth Golwg ennill yn y diwedd. Roeddw ni wedi bod yn ceisio dyfalu beth oedd 'plan b' ers tro - pan oeddw ni yn gweithio iddyn nhw nid oedd neb, wrth reswm, yn trafod 'plan b' oherwydd nid oeddem ni'n meddwl y byddai Gweinidog, o Blaid Cymru o phob plaid, yn torri ei addewid o ddarparu moddion ariannol i sefydlu papur dyddiol.

Ar eu blog ddoe fe ddatgelodd Dyddiol Cyf beth oedd eu 'plan b' aflwyddiannus, dywedant:

Rydym yn naturiol yn siomedig bod ein cynllun ni wedi’i wrthod - cynllun cyffrous gydag argraffiad wythnosol o 25,000 a gwefan gyda newyddion dyddiol.


O ran pam y bu eu cais yn aflwyddianus:

Rydym yn deall bod y panel wedi bod yn gefnogol iawn i amcanion ein cais ond yn gweld bod gormod o risg i arian cyhoeddus pe na fuaswn yn cyrraedd y ffigurau hysbysebu rhagdybiedig. Does yr un fenter heb ei risg heblaw ei fod yn gynllun sy’n gwbl ddibynnol ar grant, ac yr oedd ein hasesiad ni o’r risg yn wahanol i asesiad y panel. Roedd ein hamcangyfrifon o incwm hysbysebu wedi’u paratoi gan arbenigwr allanol a hefyd aelod o’r Bwrdd oedd - y naill a’r llall - yn brofiadol iawn yn y maes fel y gwelwch o’r naratif amgaeedig.


Dwi ddim cweit yn sicr o'r ffeithiau ond mae'r awgrym nesaf ar eu blog yn awgrymu mae papur am-ddim byddai'r papur wythnosol yma, byddai hynny yn sicr yn esbonio sut y bydde nhw yn cyrraedd cylchrediad o 25,000 sydd yn aruthrol fwy nag unrhyw gylchrediad Cymraeg ar hyn o bryd:

Mawr obeithiwn y bydd cynllun Golwg, pan ddaw’r manylion yn glir, yn cynnig y cam sylweddol ymlaen i’r wasg Gymraeg y byddai papur dyddiol neu wythnosolyn-am-ddim wedi’i wneud.


Hir oes i'r BYD.

29.5.08

Golwg yn curo Dyddiol Cyf. am yr arian i ddatblygu'r wasg

Mae newydd gael ei gyhoeddi mae cynnig Dylan Iorwerth a Golwg oedd yn fuddugol yn y tendar am y £600,000 (£200,000 y flwyddyn am 3 blynedd) i ddatblygu'r Wasg Gymreg.

Rwy'n eithriadol o siomedig i gais Ned Thomas a Dyddiol Cyf fethu yn arbennig gan gofio mae gwaith a gweledigaeth Ned Thomas a'r tîm sy'n gyfrifol fod yna arian ychwanegol yna o gwbl. Mae'r diolch i ddyfalbarhad Ned a'r tîm a neb arall ond ymddengys, nawr, na fydd dim materol i ddangos am yr holl waith caled. Yn bersonol mae fy nyled a fy edmygedd o waith Ned yn enfawr, er i'r BYD fethu gweld golau dydd fel arwr bydd enw Ned yn cael ei gofio i bob Cymro gwerth ei halen am byth yn awr, arwr! Rwy'n gobeithio y bydd Dylan Iorwerth a thîm Golwg yn fodlon cario mantell gweledigaeth Ned yn anrhydeddus yn awr. Rwy'n deall fod y syniad o bapur dyddiol wedi ei gladdu am y tro ond gobeithio bydd y weledigaeth am y math o newyddiadura oedd yn debygol o fod yn Y BYD yn cael ei drosi i feddwl a chalon Dylan Iorwerth. Bydd yn rhaid i Golwg godi eu gêm yn sylweddol yn awr er mwyn talu Iawn am y cam a wnaed a Ned a Dyddiol Cyf.

Ond ar nodwyn fwy cadarnhaol rwy'n falch mae i Dylan Iorwerth rhagor nag i newyddiadurwyr y BBC neu Trinity Mirror mae'r arian yn mynd. Gweledigaeth greiddiol Y BYD oedd cael math newydd o newyddiadura yma yng Nghymru, math beiddgar a ffres a chwbwl annibynol fyddai'n gwthio'r ffiniau yn wyneb tomato soup dyddiol diflas sefydliadol y BBC (clywais rhywun yn dweud am y BBC unwaith "It's like eating tomato soup all day - it will keep you going but it's hardly a healthy balanced diet") a thuedd gyfalafol-Brydeinllyd Trinity Mirror.

Beth nesaf i Dyddiol Cyf. felly? Maen debyg fod y daith wedi dod i ben go-iawn yn awr, ond gobeithio yn wir y bydd drws agored gan Dylan Iorwerth i dderbyn syniadau, gweledigaeth ac arbenigedd tîm Dyddiol Cyf fel rhan o'i brosiect ef yn awr.

Plaid Cymru yn jerimandro tuag at Ewrop?

Mae Dyfrig Jones (Golygydd bARN) ar ei flog 'answyddogol' yn datblygu i fod yn aelod mainc gefn tra effeithiol i Blaid Cymru yn fy nhyb i. Mae Dyfrig fel y fi a llawer o'm cyfeillion yn parhau i fod yn aelodau o'r Blaid ond wedi llawn ddeall erbyn hyn fod rheolau'r gêm wedi newid. Mae dyddiau amddiffyn y Blaid doed a ddelo "er budd y genedl" wedi hen basio a hynny oherwydd fod y Blaid bellach mewn llywodraeth. Anghyfrifol, an-nemocrataidd ac yn sicr ang-Nghristnogol, a dweud y lleiaf, yw amddiffyn unrhyw Blaid doed a ddelo os yw'r Blaid honno mewn llywodraeth ac yn hynny o beth rwy'n gwerthfawrogi safiad ac arweiniad Dyfrig yn arbennig felly gan ei fod yn newyddiadurwr blaenllaw hefyd yn nhraddodiad anrhydeddus Alwyn D. Rees.

Yr achos diweddaraf i Dyfrig godi yw'r busnes yma o jerimandro y broses o ddewis pwy aiff ar frig rhestr y Blaid yn etholiadau Senedd Ewrop flwyddyn nesaf. Fe gred Dyfrig fod yna faias wrth-Gwynedd ac wrth-pleidlais draddodiadol y Blaid yn perthyn i'r broses o ddewis ymgeisydd y Blaid. Er enghrifft mae gan Blaid Cymru tua 1,500 a aelodau yn Meiron-Dwyfor ond ni fydd hustuings a chyfle i bledleisio yn yr ardal yma ac mi fydd rhaid i'r aelodau, llawer yn oedranus maen siŵr, deithio awr a mwy i Aberystwyth neu Fangor i Bleidleisio - rhywbeth, wrth gwrs, nad ydy trwch helaeth o'r 1,500 mynd i allu gwneud. Mi fydd hyn wrth gwrs yn ymddieithrio llawer o'r aelodau a'r cefnogwyr draddodiadol o'r broses ddewis.

Diolch am dynny sylw at hyn Dyfrig.

27.5.08

Coleg Ffederal Cymraeg, nid bwrdd (arall) plis Cymru'n Un

Cynhelir Cynhadledd i'r Wasg am 3pm Mercher 28/5 yn uned Cymdeithas yr Iaith ar Faes Eisteddfod yr Urdd

Byddwn yn datgan fod pryder gwirioneddol y bydd Llywodraeth y Cynulliad yn cefnu ar ei addewid i sefydlu Coleg Cymraeg, sy'n rhan sylfaenol o Gytundeb "Cymru'n Un". Yn union fel y mae perygl y bydd y llywodraeth yn ildio i bwysau gan gwmnïau preifat mawr i'w hesgusodi o anghyfleustra Deddf Iaith newydd, y mae hefyd berygl y bydd y llywodraeth yn ildio i bwysau Sefydliadau Addysg Uwch i beidio a newid y statws quo trwy sefydlu Coleg Cymraeg grymus. Yn hytrach na Choleg Cymraeg aml-safle gyda'r holl rym a chyllid i sicrhau darpariaeth lawn o addysg uwch Gymraeg trwy'r sefydliadau ac yn ein cymunedau, y mae perygl na bydd ond cwango bach i di-nod i rannu cyllid bach ychwanegol i sicrhau ychydig o gyrsiau Cymraeg ychwanegol. Mae'r Gymdeithas wedi trafod ein pryderon gyda darlithwyr sy'n gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg yn ein Sefydliadau Addysg Uwch, ac y mae'r teimlad mor gryf fel bod 29 o'r academyddion eisoes wedi arwyddo llythyr agored at y Gweinidog Addysg, Jane Hutt, yn mynnu fod y llywodraeth yn cadw at ei haddewid i sefydlu Coleg Cymraeg llawn. Mae'r llythyr at Jane Hutt yn rhestru criteria sylfaenol Coleg Cymraeg, sef:

1. Statws statudol fel sefydliad addysg uwch â chyfansoddiad annibynnol.

2. Siarter annibynnol yn nodi ei gylch gorchwyl, gan gynnwys addysgu ac ymchwil, a darpariaeth addysg uwch cyfrwng Cymraeg Cymru-gyfan.

3. Llif arian annibynnol, yn hytrach na derbyn cyfran o gyllid addysg uwch Saesneg. Yn hyn o beth, galwn ar y llywodraeth i sicrhau llif arian £20 miliwn fan leiaf, £15 miliwn yn ychwanegol at yr hyn a addawyd ym mis Tachwedd 2007.

4. Cofrestr myfyrwyr annibynnol a fyddai’n galluogi myfyrwyr i gofrestru gyda’r Coleg Ffederal Cymraeg yn ogystal ag un coleg penodol fel bod gan y coleg gorff o fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ynddo ac yn teimlo perchnogaeth drosto.


Isod mae copi o'r llythyr agored bydd yn cael ei basio ymlaen i Jane Hutt ynghyd ac enwau'r llofnodwyr hyd yma.

Y Llythyr Agored:

Annwyl Weinidog,

Yn dilyn ymrwymiad Llywodraeth Cymru’n Un i sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg mae gennym gyfle arbennig yng Nghymru heddiw i wneud gwahaniaeth o bwys i addysg uwch cyfrwng Cymraeg. Ni ellir colli’r cyfle hanesyddol yma i sicrhau bod darpariaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn ein sefydliadau addysg uwch yn cael ei gyd-drefnu’n briodol mewn modd sydd yn ennyn parch y sefydliadau hynny a bod darlithwyr a myfyrwyr yn teimlo bod ganddynt berchnogaeth dros y cynllun. Er mwyn manteisio ar y cyfle hwn, mae'n bwysig bod coleg Cymraeg aml-safle yn cael ei sefydlu yn hytrach na phwyllgor neu fwrdd arall "i ddatblygu addysg uwch Gymraeg". Credwn mai nodweddion hanfodol coleg yw:-

1. Statws statudol fel sefydliad addysg uwch â chyfansoddiad annibynnol.

2. Siarter annibynnol yn nodi ei gylch gorchwyl, gan gynnwys addysgu ac ymchwil, a darpariaeth addysg uwch cyfrwng Cymraeg Cymru-gyfan.

3. Llif arian annibynnol, yn hytrach na derbyn cyfran o gyllid addysg uwch Saesneg. Yn hyn o beth, galwn ar y llywodraeth i sicrhau llif arian £20 miliwn fan leiaf, £15 miliwn yn ychwanegol at yr hyn a addawyd yn eich cynllun a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd.

4. Cofrestr myfyrwyr annibynnol a fyddai’n galluogi myfyrwyr i gofrestru gyda’r Coleg Ffederal Cymraeg yn ogystal ag un coleg penodol fel bod gan y coleg gorff o fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ynddo ac yn teimlo perchnogaeth drosto.

Dim ond trwy gyfuno pob un o’r pedwar pwynt uchod y gellir creu Coleg Ffederal Cymraeg a fydd yn newid cwrs addysg cyfrwng Cymraeg mewn modd cwbl arloesol. O’u cyfuno, bydd yr uchod yn sicrhau bod y Coleg Ffederal Cymraeg yr un mor annibynnol a safonol a phob un SAU arall yng Nghymru. Ofer fyddai cael sefydliad â chyfansoddiad annibynnol heb sicrhau cyllid digonol ar ei gyfer.

Fel ymarferwr yn y maes pwysaf arnoch i sicrhau bod y pwyntiau uchod yn cael eu gweithredu rhag blaen.

Yn gywir,


Y Llofnodwyr (hyd yma):

- Dr. Delyth Morris, Ysgol Gwyddorau Cymdeithas, Prifysgol Bangor

- Bryn Jones, Canolfan ESRC dros Ymchwil i Ddwyieithrwydd, Prifysgol Bangor

- Enlli Haf Huws Deiliad Ysgoloriaeth ôl-raddedig 'Mantais', Ysgol Gemeg, Prifysgol Bangor

- Dr. Wyn Thomas Uwch-ddarlithydd, Ysgol Gerddoriaeth, Prifysgol Bangor

- Dr William Griffith Ysgol Hanes a Hanes Cymru, Prifysgol Bangor

- Gwenda Rhian Jones Ysgol Gwyddorau Cymdeithas, Prifysgol Bangor

- Dr. Dyfed Wyn Roberts Ysgol Ddiwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol, Prifysgol Bangor

- Yr Athro Peredur Lynch Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor

- Dr. Angharad Price Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor

- Dr Wini Davies Darllenydd mewn Almaeneg, Adran Ieithoedd Ewropeaidd Prifysgol Aberystwyth

- Dr. Iolo ap Gwynn Adran Gwyddorau Biolegol, Prifysgol Aberystwyth

- Dr. Roger Owen Adran Theatr Ffilm a Theledu, Prifysgol Aberystwyth

- Andy Freeman, Adran Theatr Ffilm a Theledu, Prifysgol Aberystwyth

- Charmain S Savill, Adran Theatr Ffilm a Theledu, Prifysgol Aberystwyth

- Liz Fenwick Deiliad Ysgoloriaeth ôl-raddedig 'Mantais', Adran Theatr Ffilm a Theledu, Prifysgol Aberystwyth

- Meilyr Emrys, Deiliad Ysgoloriaeth ôl-raddedig 'Mantais', Adran Hanes, Prifysgol Aberystwyth

- Rhun Emlyn, Deiliad Ysgoloriaeth ôl-raddedig 'Mantais', Adran Hanes, Prifysgol Aberystwyth

- Hywel Griffiths Deiliad Ysgoloriaeth ôl-raddedig 'Mantais', Adran Ddaearyddiaeth, Aberystwyth

- Yr Athro Gruffydd Aled Williams Adran y Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth

- Yr Athro Marged Haycock Adran y Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth

- Dr. Huw Meirion Edwards Uwch-ddarlithydd, Adran y Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth

- Dr. Daniel Williams Adran Saesneg, Prifysgol Abertawe

- Yr Athro Dafydd Johnston Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe

- Dr. A. Cynfael Lake Uwch-ddarlithydd, Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe

- Dr. Tudur Hallam Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe

- Dr. Mererid Hopwood Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe

- Dr. Simon Brooks Adran y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd

- Llion Pryderi Roberts Adran y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd

- Dr. Dylan Foster Evans Adran y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd


[English Summary: Cymdeithas yr Iaith are launching an open letter which will be sent to Jane Hutt, Education Minister, calling on her to keep her promise of a strong, fully funded Welsh Federal Collage as promised by the One Wales Government and not hold back and establish nothing more than a weak board/quango. The open letter is signed, so far, by 29 leading academics working in the field of Welsh medium education - their names are seen above.]

8.5.08

Deddf Iaith di-ddanedd: Cymru'n Un yn methu ETO

Cyhoeddiad anhygoel o siomedig arall gan Rhodri Glyn-Thomas heddiw ynghyl a pa gwmniau/asiantaethau fydd yn dod mewn i'r Ddeddf Iaith Newyd yn cael eu tynnu fewn i'r Ddeddf Iaith bresennol - ag eithrio eithriadau prin fel y Post Brenhinol ac o bosib y Loteri Genedlaethol nid yw rhain yn gwmniau/asiantaethau mae Cymry Cymraeg yn gwneud gyda nhw dydd i ddydd fel dyweder Tesgo, Cwmniau Ffôn Symudol, Banciau y Stryd Fawr ayyb...

Er enghraifft bydd disgwyl i Fanc Lloegr gydymffurfio nawr OND dwi'n siwr mae dyna'r banc sydd a'r nifer lleiaf o gwsmeriaid sy'n Gymry Cymraeg i gymharu a dywed HSBC, Lloyds ayyb... siomedigaeth arall fan hyn o addewidion Cymru'n Un yn toddi ffwrdd.

Y rhestr:

Asiantaeth Gwella Plismona Cenedlaethol
Awdurdod Gweithredu'r Gemau Olympaidd
Awdurdod y Diwydiant Diogelwch
Banc Lloegr
Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu
Comisiwn Cystadleuaeth
Comisiwn Datblygu Cynaliadwy
Comisiwn Etholiadol
Comisiwn Hapchwarae
Comisiwn y Loteri Genedlaethol
Cronfa Loteri Fawr
Cyllid Cymru
Cymdeithas Fferyllol Frenhinol Prydain Fawr
Cyngor Ceiropracteg Cyffredinol
Cyngor Defnyddwyr Dŵr
Cyngor Llyfrau Cymru
Cyngor Optegol Cyffredinol
Cyngor Osteopathig Cyffredinol
Cyngor Prydeinig
Cyngor Rhagoriaeth Rheoleiddiol Gofal Iechyd
FFORWM NESTA (Gwaddoliad Cenedlaethol dros Wyddoniaeth, Technoleg a'r Celfyddydau)
OFCOM
Sefydliad Datblygu Cymunedol
Swyddfa Archwilio Cymru
Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru
UK Sport
Uned Ddata Llywodraeth Leol
Y Post Brenhinol
Y Rheoleiddiwr Pensiynau
Ymddiriedolaeth Arbed Ynni
Ymddiriedolaeth Carbon

Cynghorau Sgiliau Sector x 25
Cogent
Cyngor Sgiliau Gwasanaethau Ariannol
Diwydiannau Creadigol a Diwylliannol
Dysgu Gydol Oes
e-sgiliau
Go Skills
Improve
Lantra
Pobl yn 1af
Proskills
SEMTA
Sgiliau Adeiladu
Sgiliau ar gyfer Cyfiawnder
Sgiliau ar gyfer Gofal a Datblygu
Sgiliau ar gyfer Iechyd
Sgiliau ar gyfer Logisteg
Sgiliau Asset
Sgiliau Llywodraeth
Sgiliau Modurol
Sgiliau Ynni a Chyfleustodau
Skillfast
SkillsActive
Skillset
Skillsmart
Summit Skills

28.2.08

MYFYRWYR YN DYFARNU GRADDAU I'R PRIFYSGOLION

Heddiw, ar ddiwrnod canlyniadau semester un y myfyrwyr mi fydd y myfyrwyr eu hunain yn dyfarnu graddau i Brifysgolion Aberystwyth a Bangor. Dywed Bethan Griffiths, Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth:

“Os ydy'r Prifysgolion yn ein arholi ni maen ddigon teg i ni arholi eu darpariaeth Cymraeg nhw! Ein gobaith ni yw dangos fod yna rai cryfderau gan y Prifysgolion, y pynciau sy'n draddodiadol dda gydag addysg Gymraeg fel Hanes ond fod y Prifysgolion yn parhau i gael marciau isel, ac yn methu yn llwyr weithiau, gyda phynciau eraill fel rhai gwyddonol. Nid yw myfyrwyr yn derbyn gradd oni bai iddynt sgorio'n dda ym mhob modiwl yn yr un modd rydym ni'n disgwyl i'r Prifysgolion ddarparu addysg Gymraeg mewn amrediad eang o bynciau nid dim ond mewn rhai.”


Mae Myfyrwyr Aberystwyth wedi rhoi’r enghreifftiau canlynol fel pynciau sydd yn cael 2.1 am eu darpariaeth Cymraeg: Drama a Hanes. Mae'r enghreifftiau canlynol wedi eu dyfarnu a 2.2 gan y myfyrwyr: Gwleidyddiaeth Ryngwladol a Daearyddiaeth. Ond mae yna adrannau sydd yn parhau i fod ar ei hol hi gyda ddarpariaeth Gymraeg megis Astudiaethau Gwybodaeth ac adrannau Gwyddonol, trydydd dosbarth rhoddir i rhain.

Yn yr un modd mae Myfyrwyr Bangor wedi dyfarnu gradd 2.1 i'r adran Gerdd fel enghraifft o adran sy'n darparu llawer trwy gyfrwng y Gymraeg; 2.2 i'r Adran Coedwigaeth a’r Amgylchedd fel enghraifft o adran sydd a pheth darpariaeth cyfrwng Cymraeg ond â llawer o le i wella a thrydydd dosbarth i'r Adran Gwyddorau Eigion fel enghraifft o adran sy'n wan iawn eu darpariaeth ar hyn o bryd.

Cred y myfyrwyr ei bod hi'n arwyddocaol nad oes yr un adran wedi eu dyfarnu a dosbarth cyntaf o ran eu darpariaeth Cymraeg. Fe ddywed Bethan Williams, Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor:

“Rydym ni'n cefnogi'r datblygiadau sy'n cymryd lle ar hyn o bryd i ddatblygu Addysg Gymraeg yma ym Mangor ac yn Aberystwyth, fodd bynnag, credwn fod tipyn o waith gan y Prifysgolion i wneud eto cyn y medrwn ni fel myfyrwyr ddyfarnu gradd dosbarth cyntaf i unrhyw adran am eu darpariaeth cyfrwng Cymraeg. Fel myfyrwyr credwn mae dim ond wedi i'r Coleg Ffederal Cymraeg, sydd wedi ei addo gan y Llywodraeth Glymblaid, ddod i weithrediad y gwelw ni addysg Gymraeg yn cymryd camau breision ymlaen.”


Ni theimla'r myfyrwyr y bod Prifysgol Caerdydd yn barod i sefyll yr arholiadau hyd yn oed gan fod eu darpariaeth Cymraeg nhw yn anweledig i bob pwrpas. Cred y Myfyrwyr y bod yn rhaid i'r Llywodraeth gynyddu eu cyllideb o £4.3 miliwn dros dair mlynedd i ddatblygu addysg Gymraeg i o leiaf £15 miliwn os am wireddu eu haddewid o Goleg Ffederal Cymraeg gyflawn ac effeithiol.

- Mi fydd Myfyrwyr Aberystwyth yn cyflwyno canlyniadau gradd Prifysgol Aberystwyth i'r sefydliad o flaen Yr Hen Goleg am 1pm, Dydd Iau yr 28ain o Chwefror.

- Mi fydd Myfyrwyr Bangor yn cyflwyno canlyniadau gradd Prifysgol Bangor ar risiau Prif Adeilad y Celfyddydau am 10 fore Iau yr 28ain o Chwefror.


Am fwy o wybodaeth cysylltwch â:
Bethan Griffiths (Aberystwyth): 01970 621739 / 07764260670
Bethan Williams (Bangor): 01248 388 006 / 07981 343313

Beth yw Coleg Ffederal Cymraeg? Dogfen YMA (PDF)

26.2.08

Bethan Jenkins AC a'r BYD

Y diweddaraf i daflu dwr oer ar brosiect Y BYD ydy Bethan Jenkins AC a hynny ar ei blog hi. Pan oedd Bethan yn gyd-ymgyrchwraig a mi (nid mod i yn tynnu fy mhwysau fel 'ymgyrchwr' dyddiau yma chwaith cofiwch) hi fyddai'r cyntaf i ymosod ar y llywodraeth am dorri addewid. Dyma'r peth diweddaraf i Bethan ddweud:

Rhys- dydw i ddim yn erbyn cael papur newydd dyddiol i'r gymraeg, ond mae angen i ni edrych ar y opsiynau i weld beth sydd yn bosib. Does dim pwynt dechrau papur newydd heb y gwaith ymchwil ar bwy fydd yn ei ddefnyddio, a sicrhau bod digon o danysgrifwyr. Rwy'n cydnabod pwysigrwydd y pwnc, ac yn hapus i gwrdd a phobl yn y sector i drafod hwn yn bellach. Mae fy nrws i yn agored o hyd.


A dyma fy ymateb i nad sydd wedi ymddangos ar ei blog hi eto gan fod Bethan wedi troi 'message moderation' ymlaen bellach!

Diolch am gael drws agored Bethan. Ond mae dy sylwad di yn dweud fod angen neud ymchwil yn dangos nad wyt ti wedi dy briffio ar y pwnc yma cyn lleisio dy farn. Mae ymchwil trwyadl eisoes ar gael i mewn i'r farchnad - wyt ti wedi ei ddarllen? Mae ymchwil yn dangos fod yna botensial o 45,000 o households Cymraeg ABC1 byddai yn medru prynu'r BYD ag ystyried hynny dydy dechrau gyda cylchrediad o 5,000 ddim mor uchelgeisiol a hynny wedi'r cyfan. Gwnaed yr ymchwil gyda llaw gan Beaufort Research ac nid gan Y BYD eu hunain. Mae'r cynllun Busnes hefyd yn water tight a dibynnu ei fod yn cael cefnogaeth o leiaf £600,000 gan y Llywodraeth sef rhywbeth tebyg i'r norm Ewropeaidd i bapur lleiafrifol. Roedd y gwaith yma i gyd ar gael i'r Blaid ddarllen cyn iddyn nhw roi yr addewid yn y maniffesto - ond na, yr headline yn hytrach na'r nuts and bolts oedd o ddiddordeb nol yn yr haf wrth geisio ein argyhoeddi fod mynd gyda Llafur yn well nag arwain Llywodraeth.

Thanks for the open door invitation Bethan. But your comments noting that more research needs doing on the concept of a Welsh daily indicate that you have not been fully briefed on the issue which you have raised your voice about. Substantial and in-depth research into the market has already been undertaken - have you read it? Research shows, if memory serves me correctly, that there are 45,000 welsh speaking ABC1 households out there as potential buyers of Y BYD; considering this aiming for an initial circulation of 5,000 is not that unrealistic. By the way the research was undertaken by Beaufort Research and not by Y BYD itself. The Business plan is also water tight so long as it would receive government backing of at least £600,000 which is close to the European norm for similar minority language daily papers. All this research work was available to Plaid and Labour as they worked on the 'headlines' that would lure people like me to support the coalition - but i guess back then you were not that bothered in the nuts and bolts of it all. It's a pity.

22.2.08

Cynog Dafis yn beirniadu'r Blaid

Mae'n gyhoeddus bellach fod criw o Gymry blaenllaw sef Anna Brychan, Llinos a Cynog Dafis, Hywel Teifi Edwards, Meredydd Evans, Heini Gruffudd, Emyr Humphreys, Richard Wyn Jones, Gareth Miles, Jan Morris, Wynford Elis Owen a John a Luned Rowlands, wedi anfon llythyr agored at Rhodri Glyn Thomas yn ei gyhuddo o:

fradychu ymrwymiad diamwys a wnaed yng nghytundeb Cymru'n Un y byddai'r Llywodraeth yn 'cynyddu'r cyllid a roddir i gylchgronau a phapurau newydd Cymraeg, gan gynnwys sefydlu papur dyddiol Cymraeg'. Mae bradychu ymrwymiad maniffesto yn fater difrifol iawn ac yn codi cwestiynau sylfaenol ynghylch integriti gwleidyddol a dilysrwydd ymrwymiadau eraill - cyfredol ac i'r dyfodol.


Cynog Dafis, yn ôl y sôn, yw'r pen-bandit tu ôl i'r symudiad diweddaraf yma. Fodd bynnag credaf ei bod hi'n arwyddocaol fod ysgolheigion amlwg tu ôl i'r datganiad yn ogystal. Dwi wedi teimlo ers tro fod lle i ysgolheigion wneud fwy o safiad dros egwyddorion gwleidyddol.

Yn ol y disgwyl y cyntaf i feirniadu'r datganiad yw'r Arglwydd Ellis Thomas. Mae e'n dweud fod Cynog Dafis a'r cyfryw rai sydd tu ôl i'r datganiad "yng ngwlad y gwcw". Os felly Dafydd pam rhoi'r addewid yn y ddogfen Glymblaid yn y lle cyntaf? A ydw i'n iawn i ddehongli datganiad Ellis-Thomas fel ei fod yn credu fod pawb oedd yn disgwyl i Blaid Cymru gadw addewidion yn byw yng ngwlad y gwcw? Maen hen bryd iddo droi ei got go-iawn a gadael Plaid Cymru neu jest ymddeol. Does dim byw afresymol tu ol i erfyniad aelodau cyffredin Plaid Cymru ddeisyf ar ein harweinwyr gadw addewidion.

Os nad ydych wedi arwyddo'r ddeiseb yn galw ar Rhodri Glyn Thomas i gadw ei air rhowch glec YMA.

Stori ar y BBC

16.2.08

Diwedd y Glymblaid plis

Dwi'n meddwl ei bod hi'n amser i Blaid Cymru dynnu allan o'r glymblaid oherwydd dydy pethau ddim yn gweithio allan, ddim o gwbl. Dim papur dyddiol. Dim arian i sefydlu Coleg Ffederal. Beth fydd nesaf? Deddf Iaith di-ddanell maen siwr. Dwi'n meddwl mae'r cam mwyaf doeth fyddai i Blaid Cymru dynnu allan o'r glymblaid cyn gynted a phosib ac eistedd fel gwrthblaid a pharatoi i gicio Llafur mas 'for good' yn yr etholiad nesaf. Dwi ddim yn rhoi'r bai i gyd a'r y Blaid Lafur cofiwch, ddim o gwbl, wedi'r cyfan Gweinidog Plaid Cymru oedd a gofal dros wireddu'r papur dyddiol. Ond rwy'n meddwl y byddai pethau fymryn yn well gyda Phlaid Cymru yn arwain llywodraeth yn hytrach na bod yn gŵn bach.

Llafur-Plaid: the dream is at an end. Mae'r hyn roeddw ni ac eraill wedi ei ofidio wedi digwydd. Rhaid cael gwared o'r Blaid Lafur allan o Lywodraeth Cymru yn llwyr er mwyn gweld gwir newid.

Yn y cyfamser, arwyddwch y ddeiseb yma i alw at Rhodri Glyn Thomas i gadw at ei addewid o sefydlu papur dyddiol.

8.2.08

Y BYD, Byd a'r Bedwar, Marc Jones a'r BBC

Mae'r stori am Y BYD yn parhau i ddatblygu ar y cyfryngau amgen (blogs, maes-e ayyb...) ond mae'r stori yn gwbl segur o safbwynt diflas y BBC – nid yw'r BBC wedi newid nac adrodd ar y diddordeb sydd wedi codi yn dilyn camgymeriadau golygyddol y Byd ar Bedwar o anghofio nodi fod Marc Jones y sylwebydd “niwtral” bellach yn gweithio i Blaid Cymru. Ac wedyn beth am rôl Aled Eurig? Tro diwethaf i mi ddod ar ei draws oedd yn 'steddfod Abertawe 2006 bryd hynny roedd e'n gweithio fel cynghorydd i Dafydd Ellis-Thomas, ydy e dal yn y swydd honno? Os ydyw a wnaeth y Byd ar Bedwar unrhyw ymdrech i gyfathrebu hyn i'r gwylwyr? Dwi ddim yn dweud nad oes hawl gan bobl a vested intrest leisio barn ar bethau, ddim o gwbl, ond mae hawl gan y gwylwyr wybod beth yw'r vested intrest hynny er mwyn iddyn nhw ddod i benderfyniadau drostynt hwy eu hunain.

Yn y blogiad diwethaf gwnes i gymharu'r diffyg ymroddiad ariannol i'r BYD ac i Goleg Ffederal Cymraeg gyda'r tap agored oedd yna i brosiectau eraill megis clirio dyledion Canolfan y Mileniwm a'r Gerddi Botaneg. Unwaith eto heddiw mae stori wedi torri yn dweud fod yna £150m mynd i fod ar gael i ddatblygu busnesau newydd – pe bai'r llywodraeth i bennu £1m o hwnnw i'r BYD mi fyddai £149 yn parhau i fodoli i'r holl brosiectau eraill. Mewn gair, yr hyn dwi'n ei awgrymu yw mae diffyg ewyllys gwleidyddol ac nid diffyg cyllid sydd tu ôl i fethiant y Llywodraeth i ariannu prosiect Y BYD.

Y cwestiwn gwleidyddol dyfnach tu ôl i hyn i gyd yw pwy sydd ar fai? A'i Plaid Cymru sy'n methu yntau y Blaid Lafur sy'n taflu dwr oer ar yr holl addewidion blaengar oedd yn nogfen Cymru'n Un?

26.9.07

Y Blaid Lafur Gymreig-Brydeinig

Dwi wedi fy atgoffa wythnos yma am y gwahaniaeth sylfaenol sydd rhwng cenedlaetholwyr ac unoliaethwyr. Gan gofio fod y Blaid Lafur wedi methu a chael mandad clir gan yr etholwyr yn ôl ym mis Mai ac eu bod nhw wedi gorfod dibynnu ar Genedlaetholwyr i sefydlu Llywodraeth mi fyddech yn tybio y buasent yn dysgu rhai gwersi. Ond lai na chwe mis ar ôl yr etholiad mae'r hen Genedlaetholdeb Brydeinig yn dangos ei ben unwaith yn rhagor yn y Blaid Lafur Gymreig.

I ddechrau yr oedd sylwad hynod Peter Hain a Rhodri Morgan wrth lansio eu taflen "Keep Wales British!" eu bod nhw'n synnu fod Pleidwyr dal am wthio am fwy o awtonomi nawr eu bod nhw wedi cael pwer yn eu meddiant. Maen annodd gwneud pen a chynffon o'r syniad yma. Maen rhaid eu bod nhw'n ymwybodol mae nid pwrpas Plaid wleidyddol yw ennill pwer ac yna rhedeg y status quo? Pwrpas Plaid wleidyddol yw ennill pwer er mwyn rhoi eu hegwyddorion newydd a gwahanol nhw ar waith. Er, gallaf ddeall, wedi bron i ganrif mewn pwer yng Nghymru fod y Blaid Lafur wedi anghofio beth yw pwrpas plaid wleidyddol ac mae'r polisi ers 1999 yw jest aros mewn pwer a chadw'r status quo ar bob cyfri fel a bortreadwyd mor effeithol yn narllediadau gwleidyddol Plaid Cymru fis Mai.

Mae ymchwil Richard Wyn Jones a Roger Scully yn dangos yn glir fod y Cymry yn "barod" am fwy o awtonomi ond dydy'r Blaid Lafur ddim - does ganddyn nhw ddim gweledigaeth i Gymru fel cenedl awtonomws boed o fewn Prydain ffederal neu Ewrop ffederal. Tan eu bod nhw'n canfod gweledigaeth i'r Gymru awtonomws eu polisi maen amlwg yw ceisio "dal gafael ar yr hyn sy'n dda o'r hen Brydain" - nid anhebyg i Dafydd Glyn Jones yn ei chael hi'n annodd ymdopi i'r ffaith fod Prifysgol Cymru fel sefydliad ffederal yn toddi i ffwrdd yn sydyn.

Ac yna 'rhen Eluned Morgan ASE. Dyma'r gwleidydd mwyaf trahaus yng ngwleidyddiaeth Cymru (er bod Alun Davies AC yn cystadlu'n frwd ar hyn o bryd am y teitl); rwy'n falch mae draw ym Mrwsel mae hi rhan fwyaf o'r amser fel nad oes rhaid i ni wrnado ar ei rhethrheg hi'n amlach. Yr hyn sydd wedi ypsetio 'Luned fach tro yma yw fod y Blaid Lafur Gymreig wedi ymbellhau yn ormodol oddi wrth y Blaid Lafur yn Llundain. I raddau fe fedrai ddeall dadl Eluned, pan nad oedd yna'r fath beth a Llafur Gymreig (sef o'r dechrau tan tua 1997) roedd y Blaid Lafur yn mwynhau cefnogaeth mwyafrif o bobl Cymru'n ddi-gwestiwn. Ond ers i Lafur Cymru ymbellhau o'r blaid yn Llundain (1997 ymlaen) mae poblogrwydd Llafur yng Nghymru wedi syrthio. Felly hyd at rhyw bwynt gellid deall rhediad dadl 'Luned.

Ond mae hi'n methu a deall un pwynt sylfaenol am wleidyddiaeth Cymru ôl-ddatganoli sef fod y gefnodaeth i fesur cryfach o awtonomi ar gynnydd ac fod y syniad unoliaethol yn syrthio ymaith. Eironi mawr hyn yw fod y Ceidwadwyr (y gwir unoliaethwyr o argyhoeddiad) wedi derbyn ac addasu i'r reliti yma ers tro ond bod y Blaid Lafur, sef, yn ôl eu honiad nhw, "gwir blaid cymru", wedi methu'n llwyr hyd yma a derbyn ac addasu i'r Gymru newydd.

Unwaith yn rhagor mae Eluned yn dangos yn glir nad oes gan y Blaid Lafur weledigaeth go-iawn i'r Gymru newydd dyna pam mae'r unig gyfraniad sydd gan Eluned, Peter Hain a Rhodri Morgan hyd yn oed ei wneud i'r drafodaeth am Gymru newydd yw cofio am "y dyddiau da" a diolch am haelioni'r Sais trosom ni'r Cymru nad sy'n ddigon o ddynion i lywodraethu drosom ni ein hunain.

"Ond Rhys," fe glywai chi'n dweud, "mae dy blaid di mewn llywodraeth gyda Llafur!" Rwy'n gwybod er na ddeallaf yn llawn.

7.7.07

Llafur-Plaid: dwi WEDI fy argyhoeddi

Do, fe ges i fy argyhoeddi gan Ieuan neithiwr. Roedd ei ddadl dros Llafur-Plaid yn resymol ac hefyd yn rhoi Cymru yn gyntaf. I ddechrau mynegodd ei bryderon gyda'r Enfys yn bennaf anwadalrwydd y Democratiaid Rhyddfrydol a'r Ceidwadwyr – roedd yn gofidio y byddai'r llywodraeth enfys yn torri i lawr hanner ffordd trwy'r tymor ac y byddai y llywodraeth Plaid Cymru cyntaf erioed yn cael ei weld fel un gwan, byrhoedlog a thrychinebus. Roedd Ieuan yn tybio fod y risg yn un rhy fawr i'w gymryd – fe gytunais ag ef erbyn y diwedd.

Hefyd, pwyntiodd Ieuan allan bod hwn yn gyfle pwysig i lacio grym San Steffan ar Gymru ac hefyd i Rhodri Morgan bellhau fwy fwy oddi wrth yr AS Llafur yn Llundain. Dywedodd fod y Blaid Lafur yn debygol o weld rhwyg rhwng y bobl sydd am weld Cymru yn llwyddo ac rhwng yr unoliaethwyr sy'n hapus i weld dim byd yn digwydd am genhedlaeth arall.

Ond yn bwysicach fyth tynnodd Ieuan sylw at y ffaith fod cymaint o faniffesto'r Blaid yn y ddogfen Llafur-Plaid – ac yn bwysicach fyth fod raison d'etre y Blaid wedi ei gynnwys sef dyfodol cyfansoddiadol Cymru.

Fe fynegwyd peth amheuaeth o'r llawr yn bennaf y bryder o orfod wynebu etholwyr Ceredigion o fod wedi bod mewn llywodraeth gyda Llafur. Fodd bynnag dwi'n credu mod i'n gywir i Ieuan ac Elin Jones argyhoeddi pob wan jac un yna. Does dim un clymblaid mynd i fod yn berffaith – hanfod clymblaid yw cyfaddawdu ar rai pethau ond dwi wedi fy argyhoeddi fod Ieuan wedi cael y gorau i ni allan o'r sefyllfa anodd a chymhleth yma. Efallai fod bod mewn gyda Llafur ddim yn bywiogi'r meddwl ond mae bod mewn llywodraeth gyda'n polisïau ni yn rhan ganolog i'r llywodraeth honno yn gynhyrfus iawn.