Showing posts with label addysg gymraeg. Show all posts
Showing posts with label addysg gymraeg. Show all posts

8.7.08

Jane Hutt yn ateb y llythyr agored am Goleg Ffed Cymraeg

Maen dda adrodd fod Jane Hutt, y Gweinidog Addysg, wedi ateb y llythyr agored gan yr academwyr ar fater Coleg Ffederal Cymraeg. Dyma oedd gan Sonia Davies (Swyddog Polisi Addysg Uwch), ar ran Jane Hutt, i ddweud mewn ymateb:

“Diolch am eich llythyr diweddar at y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, yn nodi eich safbwyntiau ar nodweddion Coleg Ffederal Cymraeg. Gofynnwyd i mi eich ateb.

Rwy'n nodi'ch awgrymiadau i gael cyfansoddiad annibynnol a strwythur statudol, ac yn nodi pa mor bwysig yn eich tyb chi yw cael Coleg Cymraeg ar sawl safle. Bydd y Gweinidog yn cyhoeddi'r camau nesaf yn fuan tuag at gyflawni ymrwymiad Llywodraeth Cynulliad Cymru yn Cymru'n Un i sefydlu rhwydwaith Coleg Ffederal Cymraeg. Bydd hyn yn adeiladu ar y gwaith y mae'r Grŵp Sector Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg eisoes wedi'i oruchwylio, gan gynnwys cynllun datblygu cenedlaethol cwbl weithredol, datblygiadau i gydweithredu â sefydliadau addysg bellach, Cymrodoriaethau ac Ysgoloriaethau Addysgu, y rhaglen gynefino i staff academaidd cyfrwng Cymraeg newydd a gwefan newydd Mantais.

Yn fuan, bydd Grŵp Llywio'r Coleg Ffederal Cymraeg yn cynnal cynhadledd ymgynghori gyda'i randdeiliaid fel rhan o'i adolygiad o gynnydd a chlustnodi'i gyfeiriad ar gyfer y dyfodol. Hefyd bydd canlyniadau'r gynhadledd hon yn helpu i lywio'n gwaith yn y dyfodol yn y maes hollbwysig hwn i Gymru”


Maen newyddion da clywed felly y bo'r addewid o Goleg Ffederal Cymraeg llawn yn parhau yn fyw ar yr agenda ar hyn o bryd ac fod y llywodraeth yn parhau i weld y modelau rhwydwaith presennol fel camau yn unig tuag at sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg llawn ac nid fel yr ateb terfynol. Fodd bynnag dwi'n sicr o'r farn y bod angen parhau i bwyso er mwyn gwneud yn siŵr fod sefydliad statudol annibynnol a chanddo lif arian annibynnol i ddatblygu addysg Cymraeg yn cael ei sefydlu.

Mae ateb Sonia Davies, ar ran Jane Hutt, yn cynnig dau gyfle posib i ni ddwyn perswâd pellach:

(i.) fe grybwylla Sonia am “Grŵp Llywio'r Coleg Ffederal Cymraeg” yn ei hymateb. Mae angen i ni ddarganfod beth a phwy yn union yw'r grŵp yma ac wedi darganfod hynny bydd rhaid achub ar bob cyfle i ddwyn perswâd trwy ohebu a chyfarfod wyneb yn wyneb a'r aelodau. Maen aneglur ar hyn o bryd os mae grŵp ad-hoc yn cynnwys ymgynghorwyr gwleidyddol y Llywodraeth ydy'r grŵp yma neu grŵp cyhoeddus yn cynnwys ffigurau blaenllaw o'r SAU. Un peth sy'n sicr yw na ddylem adael i Addysg Uwch Cymru gael monopoli o ddylanwad ar y grŵp yma a thrwy hynny lesteirio unrhyw ddatblygiadau sylweddol.

(ii.) fe grybwylla Sonia hefyd am gynhadledd arfaethedig i randdeiliaid y Coleg Ffederal Cymraeg arfaethedig. Bydd rhaid pwyso am fwy o fanylion am y gynhadledd yma er mwyn gwneud yn siŵr fod digon o gynrychiolaeth o dŷ cefnogwyr y Coleg Ffederal Cymraeg yn bresennol i gyflwyno'r achos oherwydd maen bur debyg y bydd gelynion y polisi yn gwneud pob defnydd posib o'r gynhadledd hon i ladd yr ewyllys gwleidyddol o bosib am genhedlaeth arall. Maen bwysig i ni ddadlau hefyd bod angen i'r diffiniad o “randdeiliaid y Coleg Ffederal Cymraeg” fod mor eang a phosib fel bod cynrychiolaeth deg gan fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg, staff dysgu cyfrwng Cymraeg rheng flaen yn ogystal a chynrychiolwyr o'r gymdeithas sifig yng Nghymru yn gyffredinol yn cael eu cyfri fel “rhanddeiliad” ac nid penaethiaid y SAU presennol yn unig.

Mae'r pwysau i barhau!

1.7.08

Cyflwyno deiseb i Jane Hutt ar fater Coleg Ffederal Cymraeg

Wrth i ni ddisgwyl cyhoeddiad Dydd Iau (03/07/08) gan y Gweinidog Addysg Jane Hutt ynglyn â pholisi Llywodraeth "Cymru'n Un" o Goleg Ffederal Cymraeg, bydd Cymdeithas yr Iaith yn cyflwyno deiseb gyda 1,000 o enwau i'r Gweinidog heddiw yn amlinellu'r hyn a gredwn a dderbyniwyd ers blynyddoedd fel pedair egwyddor graidd Coleg Ffederal Cymraeg. Bydd y ddeiseb hefyd yn cael ei chyflwyno i Bwyllgor Deisebau'r Cynulliad.

Dywedodd Rhys Llwyd (Fi!), Swyddog Ymgyrch Coleg Cymraeg, Cymdeithas yr Iaith:

"Credwn y gellid defnyddio'r pedair egwyddor yma fel meini prawf i farnu os ydy'r Llywodraeth ar y trywydd cywir i wireddu eu haddewid o sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg. Credwn fod yn rhaid i Goleg Ffederal gynnwys yr elfennau canlynol:

(i.) Statws statudol a chyfansoddiad annibynnol,
(ii.) Siarter a chylch gorchwyl annibynnol gan gynnwys cyfrifoldeb dros holl addysg uwch cyfrwng Cymraeg Cymru,
(iii.) Llif arian annibynnol — o leiaf £20 miliwn yn y lle cyntaf tybiwn; ac yn olaf
(iv.) Cofrestr myfyrwyr annibynnol, a fydd yn sicrhau bod modd i fyfyrwyr gofrestru gyda’r Coleg Ffederal a gyda’u coleg daearyddol, gan arwain at ymdeimlad o berthyn a pherchnogaeth ohono."


Ychwanegodd Elain Haf, myfyrwraig o Brifysgol Caerdydd:

"I'r rhai diffuant hynny sy'n gofidio y bydd creu Coleg Cymraeg fel sefydliad statudol annibynnol yn rhyddhau'r sefydliadau presennol o'u cyfrifoldebau gadewch i ni gael un peth yn glir. Mi fydd y sefydliadau presennol yn parhau i fod yn ddarparwyr dan unrhyw drefn newydd. Mor debyg yw'r gymhariaeth gyda'r dadleuon yn '79 cyn sefydlu S4C. Sianel Gymraeg v's mwy o ddarpariaeth Gymraeg ar y sianeli Saesneg. Coleg (aml-safle) Cymraeg v's mwy o ddarpariaeth Gymraeg yn y prifysgolion presennol. Mae'n amlwg bellach mai rheidrwydd oedd sefydlu S4C er mwyn datblygu teledu Cymraeg, er bod y BBC yn parhau i fod yn chwaraewr pwysig ym myd darlledu Cymraeg. Yn yr un ffordd, rhaid gweld sefydlu Coleg Cymraeg i ddatblygu addysg Gymraeg, er y bydd y prifysgolion traddodiadol yn parhau i chwarae eu rhan."


Eisoes mae llythyr agored gan dri deg a phump o academyddion blaenllaw sy'n ymarferwyr dydd i ddydd ym maes dysgu cyfrwng Cymraeg wedi ei anfon at Jane Hutt yn amlinellu'r egwyddorion craidd. Mae'r ddeiseb yma law yn llaw â llythyr yr academyddion yn dangos fod yna ewyllys gref yn bodoli i weld y Llywodraeth yn symud ymlaen ac yn sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg cyflawn ac nid bwrdd, cwango, neu rwydwaith yn unig.

21.6.08

Coleg Ffederal Cymraeg - rhaid achub ar y cyfle nawr

Yn dilyn cyfarfodydd ddoe (ni ddywedaf ymhle na gyda phwy oherwydd rwy'n parchu preifatrwydd y cyfarfodydd) rwy'n teimlo fel bod yn rhaid dweud gair am Goleg Ffederal Cymraeg eto fyth.

Gan ddisgwyl cyhoeddiad buan gan y Gweinidog Addysg Jane Hutt ynglŷn a pholisi Llywodraeth Cymru'n Un o Goleg Ffederal Cymraeg carwn dynnu eich sylw at yr hyn a gredwn a dderbyniwyd ers blynyddoedd fel pedair egwyddor craidd Coleg Ffederal Cymraeg. Gellid defnyddio'r pedwar egwyddor yma wedyn fel meini prawf i farnu os ydy'r Llywodraeth ar y trywydd cywir tuag at wireddu eu haddewid o sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg. Rhaid i Goleg Ffederal gynnwys yr elfennau canlynol:

(i.) Statws statudol a chyfansoddiad annibynnol,

(ii.) Siarter a chylch gorchwyl annibynnol gan gynnwys cyfrifoldeb dros holl addysg uwch cyfrwng Cymraeg Cymru,

(iii.) Llif arian annibynnol — o leiaf £20 miliwn yn y lle cyntaf tybiwn; ac yn olaf

(iv.) Cofrestr myfyrwyr annibynnol, a fydd yn sicrhau bod modd i fyfyrwyr gofrestru gyda’r Coleg Ffederal a chyda’u coleg daearyddol, gan arwain at ymdeimlad o berthyn a pherchnogaeth ohono.


I'r rhai diffuant hynny sy'n gofidio y bydd creu Coleg Cymraeg fel sefydliad statudol annibynnol yn rhyddhau'r sefydliadau presennol o'i cyfrifoldebau gadewch i ni gael un peth yn glir. Mi fydd y sefydliadau presennol yn parhau i fod yn ddarparwyr dan unrhyw drefn newydd. Mor debyg yw'r gymhariaeth gyda'r dadleuon yn '79 gyda sefydlu S4C. Sianel Gymraeg Vs mwy o ddarpariaeth Gymraeg ar y sianeli Saesneg. Coleg (aml-safle) Cymraeg Vs mwy o ddarpariaeth Gymraeg yn y prifysgolion presennol. Maen amlwg bellach mae rheidrwydd oedd sefydlu S4C er mwyn datblygu teledu Cymraeg, er fod y BBC yn parhau i fod yn chwaraewr pwysig ym myd darlledu Cymraeg yn yr un ffordd ac y bod yn rhaid gweld sefydlu Coleg Cymraeg i ddatblygu addysg Gymraeg er y bydd y prifysgolion traddodiadol yn parhau i chwarae eu rhan.

Eisoes mae llythyr agored gan dri deg o academwyr blaenllaw sy'n ymarferwyr dydd i ddydd ym maes dysgu cyfrwng Cymraeg wedi ei anfon at Jane Hutt yn amlinellu y pedwar egwyddor craidd. Yn ogystal, mae rhai cannoedd o bobl wedi torri eu henwau ar y ddeiseb ar-lein, croeso i chi lwybro draw i ychwanegu eich enw chi. Llwyr obeithiaf y bydd y llywodraeth yn achub ar y cyfle unigryw yma i sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg ac na fydd y cyfle yn cael ei golli am genhedlaeth arall.

Mae gair wedi mynd i mewn i'r cylchgronau a'r papurau yn dweud yr un peth... efallai i chi synhwyro mae nid di-sail yw'r gofid bellach nad ydym ni yn debygol o weld setliad sy'n anrhydeddu'r pedwar egwyddor craidd yn llawn.

13.6.08

Plaid Cymru yn troi cefn ar Goleg Ffederal Cymraeg?

Dyma beth yw Coleg Ffederal Cymraeg:

1. Statws statudol fel sefydliad addysg uwch â chyfansoddiad annibynnol.

2. Siarter annibynnol yn nodi ei gylch gorchwyl, gan gynnwys addysgu ac ymchwil, a darpariaeth addysg uwch cyfrwng Cymraeg Cymru-gyfan.

3. Llif arian annibynnol, yn hytrach na derbyn cyfran o gyllid addysg uwch Saesneg. Yn hyn o beth, galwn ar y llywodraeth i sicrhau llif arian £20 miliwn fan leiaf, £15 miliwn yn ychwanegol at yr hyn a addawyd yn eich cynllun a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd.

4. Cofrestr myfyrwyr annibynnol a fyddai’n galluogi myfyrwyr i gofrestru gyda’r Coleg Ffederal Cymraeg yn ogystal ag un coleg penodol fel bod gan y coleg gorff o fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ynddo ac yn teimlo perchnogaeth drosto.


Ond yn ôl cynnig bydd o flaen cynhadledd Plaid Cymru mis Medi dyma yw Coleg Ffederal Cymraeg:

1. Sicrhau dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg mewn pob sefydliad Addysg Uwch.

2. Gwneud y mwyaf o'r sgiliau iaith Gymraeg sydd eisoes ar gael mewn sefydliadau.

3. Rhoi arweiniad ar ddatblygu dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg mewn addysg uwch.

4. Darparu ar gyfer datblygiadau tebyg posibl mewn dysgu mewn addysg bellach.


Y pedwar egwyddor cyntaf ac nid rhyw bedwar o werthoedd pen-agored (iawn yn eu lle cofiwch) yw Coleg Ffederal Cymraeg. Symud y pyst yw sôn am sefydlu Coleg Ffederal na fydd wedi ei sefydlu ar sail y pedair egwyddor ymarferol craidd a nodais ar y top ac a nodwyd ers blynyddoedd gan yr ymgyrchwyr yn y maes. Os na theimla Plaid Cymru ei bod hi am ddilyn y trywydd yma yna efallai mae'r peth onest ac anrhydeddus i wneud ydy cydnabod nad yw sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg bellach yn rhan o'u cynlluniau ac eu bod yn anelu am setliad llai uchelgeisiol, dim byd mwy na bwrdd arall. Rwy'n hyderu a gobeithio nad dyna fydd yr achos.

9.6.08

Deiseb ar-lein am Goleg Ffederal Cymraeg

Coleg Ffederal Cymraeg

Galwn ar Lywodraeth y Cynulliad i gadw at addewid cytundeb ‘Cymru’n Un’ o sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg. Rhaid i Goleg Ffederal gynnwys yr elfennau canlynol:

1. Statws statudol a chyfansoddiad annibynnol

2. Siarter a chylch gorchwyl annibynnol gan gynnwys cyfrifoldeb dros holl addysg uwch cyfrwng Cymraeg Cymru

3. Llif arian annibynnol — o leiaf £20 miliwn yn y lle cyntaf

4. Cofrestr myfyrwyr annibynnol, a fydd yn sicrhau bod modd i fyfyrwyr gofrestru gyda’r Coleg Ffederal a chyda’u coleg daearyddol, gan arwain at ymdeimlad o berthyn a pherchnogaeth ohono.


Byddai unrhyw beth llai na chyfuniad cyflawn o’r uchod yn torri’r addewid. Galwn ar y llywodraeth i ail-ystyried eu cynlluniau os nad yw’r uchod yn rhan ohonynt.

Rho glec YMA i arwyddo'r ddeiseb