Showing posts with label jane hutt. Show all posts
Showing posts with label jane hutt. Show all posts

8.7.08

Jane Hutt yn ateb y llythyr agored am Goleg Ffed Cymraeg

Maen dda adrodd fod Jane Hutt, y Gweinidog Addysg, wedi ateb y llythyr agored gan yr academwyr ar fater Coleg Ffederal Cymraeg. Dyma oedd gan Sonia Davies (Swyddog Polisi Addysg Uwch), ar ran Jane Hutt, i ddweud mewn ymateb:

“Diolch am eich llythyr diweddar at y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, yn nodi eich safbwyntiau ar nodweddion Coleg Ffederal Cymraeg. Gofynnwyd i mi eich ateb.

Rwy'n nodi'ch awgrymiadau i gael cyfansoddiad annibynnol a strwythur statudol, ac yn nodi pa mor bwysig yn eich tyb chi yw cael Coleg Cymraeg ar sawl safle. Bydd y Gweinidog yn cyhoeddi'r camau nesaf yn fuan tuag at gyflawni ymrwymiad Llywodraeth Cynulliad Cymru yn Cymru'n Un i sefydlu rhwydwaith Coleg Ffederal Cymraeg. Bydd hyn yn adeiladu ar y gwaith y mae'r Grŵp Sector Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg eisoes wedi'i oruchwylio, gan gynnwys cynllun datblygu cenedlaethol cwbl weithredol, datblygiadau i gydweithredu â sefydliadau addysg bellach, Cymrodoriaethau ac Ysgoloriaethau Addysgu, y rhaglen gynefino i staff academaidd cyfrwng Cymraeg newydd a gwefan newydd Mantais.

Yn fuan, bydd Grŵp Llywio'r Coleg Ffederal Cymraeg yn cynnal cynhadledd ymgynghori gyda'i randdeiliaid fel rhan o'i adolygiad o gynnydd a chlustnodi'i gyfeiriad ar gyfer y dyfodol. Hefyd bydd canlyniadau'r gynhadledd hon yn helpu i lywio'n gwaith yn y dyfodol yn y maes hollbwysig hwn i Gymru”


Maen newyddion da clywed felly y bo'r addewid o Goleg Ffederal Cymraeg llawn yn parhau yn fyw ar yr agenda ar hyn o bryd ac fod y llywodraeth yn parhau i weld y modelau rhwydwaith presennol fel camau yn unig tuag at sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg llawn ac nid fel yr ateb terfynol. Fodd bynnag dwi'n sicr o'r farn y bod angen parhau i bwyso er mwyn gwneud yn siŵr fod sefydliad statudol annibynnol a chanddo lif arian annibynnol i ddatblygu addysg Cymraeg yn cael ei sefydlu.

Mae ateb Sonia Davies, ar ran Jane Hutt, yn cynnig dau gyfle posib i ni ddwyn perswâd pellach:

(i.) fe grybwylla Sonia am “Grŵp Llywio'r Coleg Ffederal Cymraeg” yn ei hymateb. Mae angen i ni ddarganfod beth a phwy yn union yw'r grŵp yma ac wedi darganfod hynny bydd rhaid achub ar bob cyfle i ddwyn perswâd trwy ohebu a chyfarfod wyneb yn wyneb a'r aelodau. Maen aneglur ar hyn o bryd os mae grŵp ad-hoc yn cynnwys ymgynghorwyr gwleidyddol y Llywodraeth ydy'r grŵp yma neu grŵp cyhoeddus yn cynnwys ffigurau blaenllaw o'r SAU. Un peth sy'n sicr yw na ddylem adael i Addysg Uwch Cymru gael monopoli o ddylanwad ar y grŵp yma a thrwy hynny lesteirio unrhyw ddatblygiadau sylweddol.

(ii.) fe grybwylla Sonia hefyd am gynhadledd arfaethedig i randdeiliaid y Coleg Ffederal Cymraeg arfaethedig. Bydd rhaid pwyso am fwy o fanylion am y gynhadledd yma er mwyn gwneud yn siŵr fod digon o gynrychiolaeth o dŷ cefnogwyr y Coleg Ffederal Cymraeg yn bresennol i gyflwyno'r achos oherwydd maen bur debyg y bydd gelynion y polisi yn gwneud pob defnydd posib o'r gynhadledd hon i ladd yr ewyllys gwleidyddol o bosib am genhedlaeth arall. Maen bwysig i ni ddadlau hefyd bod angen i'r diffiniad o “randdeiliaid y Coleg Ffederal Cymraeg” fod mor eang a phosib fel bod cynrychiolaeth deg gan fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg, staff dysgu cyfrwng Cymraeg rheng flaen yn ogystal a chynrychiolwyr o'r gymdeithas sifig yng Nghymru yn gyffredinol yn cael eu cyfri fel “rhanddeiliad” ac nid penaethiaid y SAU presennol yn unig.

Mae'r pwysau i barhau!

1.7.08

Cyflwyno deiseb i Jane Hutt ar fater Coleg Ffederal Cymraeg

Wrth i ni ddisgwyl cyhoeddiad Dydd Iau (03/07/08) gan y Gweinidog Addysg Jane Hutt ynglyn â pholisi Llywodraeth "Cymru'n Un" o Goleg Ffederal Cymraeg, bydd Cymdeithas yr Iaith yn cyflwyno deiseb gyda 1,000 o enwau i'r Gweinidog heddiw yn amlinellu'r hyn a gredwn a dderbyniwyd ers blynyddoedd fel pedair egwyddor graidd Coleg Ffederal Cymraeg. Bydd y ddeiseb hefyd yn cael ei chyflwyno i Bwyllgor Deisebau'r Cynulliad.

Dywedodd Rhys Llwyd (Fi!), Swyddog Ymgyrch Coleg Cymraeg, Cymdeithas yr Iaith:

"Credwn y gellid defnyddio'r pedair egwyddor yma fel meini prawf i farnu os ydy'r Llywodraeth ar y trywydd cywir i wireddu eu haddewid o sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg. Credwn fod yn rhaid i Goleg Ffederal gynnwys yr elfennau canlynol:

(i.) Statws statudol a chyfansoddiad annibynnol,
(ii.) Siarter a chylch gorchwyl annibynnol gan gynnwys cyfrifoldeb dros holl addysg uwch cyfrwng Cymraeg Cymru,
(iii.) Llif arian annibynnol — o leiaf £20 miliwn yn y lle cyntaf tybiwn; ac yn olaf
(iv.) Cofrestr myfyrwyr annibynnol, a fydd yn sicrhau bod modd i fyfyrwyr gofrestru gyda’r Coleg Ffederal a gyda’u coleg daearyddol, gan arwain at ymdeimlad o berthyn a pherchnogaeth ohono."


Ychwanegodd Elain Haf, myfyrwraig o Brifysgol Caerdydd:

"I'r rhai diffuant hynny sy'n gofidio y bydd creu Coleg Cymraeg fel sefydliad statudol annibynnol yn rhyddhau'r sefydliadau presennol o'u cyfrifoldebau gadewch i ni gael un peth yn glir. Mi fydd y sefydliadau presennol yn parhau i fod yn ddarparwyr dan unrhyw drefn newydd. Mor debyg yw'r gymhariaeth gyda'r dadleuon yn '79 cyn sefydlu S4C. Sianel Gymraeg v's mwy o ddarpariaeth Gymraeg ar y sianeli Saesneg. Coleg (aml-safle) Cymraeg v's mwy o ddarpariaeth Gymraeg yn y prifysgolion presennol. Mae'n amlwg bellach mai rheidrwydd oedd sefydlu S4C er mwyn datblygu teledu Cymraeg, er bod y BBC yn parhau i fod yn chwaraewr pwysig ym myd darlledu Cymraeg. Yn yr un ffordd, rhaid gweld sefydlu Coleg Cymraeg i ddatblygu addysg Gymraeg, er y bydd y prifysgolion traddodiadol yn parhau i chwarae eu rhan."


Eisoes mae llythyr agored gan dri deg a phump o academyddion blaenllaw sy'n ymarferwyr dydd i ddydd ym maes dysgu cyfrwng Cymraeg wedi ei anfon at Jane Hutt yn amlinellu'r egwyddorion craidd. Mae'r ddeiseb yma law yn llaw â llythyr yr academyddion yn dangos fod yna ewyllys gref yn bodoli i weld y Llywodraeth yn symud ymlaen ac yn sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg cyflawn ac nid bwrdd, cwango, neu rwydwaith yn unig.

21.6.08

Coleg Ffederal Cymraeg - rhaid achub ar y cyfle nawr

Yn dilyn cyfarfodydd ddoe (ni ddywedaf ymhle na gyda phwy oherwydd rwy'n parchu preifatrwydd y cyfarfodydd) rwy'n teimlo fel bod yn rhaid dweud gair am Goleg Ffederal Cymraeg eto fyth.

Gan ddisgwyl cyhoeddiad buan gan y Gweinidog Addysg Jane Hutt ynglŷn a pholisi Llywodraeth Cymru'n Un o Goleg Ffederal Cymraeg carwn dynnu eich sylw at yr hyn a gredwn a dderbyniwyd ers blynyddoedd fel pedair egwyddor craidd Coleg Ffederal Cymraeg. Gellid defnyddio'r pedwar egwyddor yma wedyn fel meini prawf i farnu os ydy'r Llywodraeth ar y trywydd cywir tuag at wireddu eu haddewid o sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg. Rhaid i Goleg Ffederal gynnwys yr elfennau canlynol:

(i.) Statws statudol a chyfansoddiad annibynnol,

(ii.) Siarter a chylch gorchwyl annibynnol gan gynnwys cyfrifoldeb dros holl addysg uwch cyfrwng Cymraeg Cymru,

(iii.) Llif arian annibynnol — o leiaf £20 miliwn yn y lle cyntaf tybiwn; ac yn olaf

(iv.) Cofrestr myfyrwyr annibynnol, a fydd yn sicrhau bod modd i fyfyrwyr gofrestru gyda’r Coleg Ffederal a chyda’u coleg daearyddol, gan arwain at ymdeimlad o berthyn a pherchnogaeth ohono.


I'r rhai diffuant hynny sy'n gofidio y bydd creu Coleg Cymraeg fel sefydliad statudol annibynnol yn rhyddhau'r sefydliadau presennol o'i cyfrifoldebau gadewch i ni gael un peth yn glir. Mi fydd y sefydliadau presennol yn parhau i fod yn ddarparwyr dan unrhyw drefn newydd. Mor debyg yw'r gymhariaeth gyda'r dadleuon yn '79 gyda sefydlu S4C. Sianel Gymraeg Vs mwy o ddarpariaeth Gymraeg ar y sianeli Saesneg. Coleg (aml-safle) Cymraeg Vs mwy o ddarpariaeth Gymraeg yn y prifysgolion presennol. Maen amlwg bellach mae rheidrwydd oedd sefydlu S4C er mwyn datblygu teledu Cymraeg, er fod y BBC yn parhau i fod yn chwaraewr pwysig ym myd darlledu Cymraeg yn yr un ffordd ac y bod yn rhaid gweld sefydlu Coleg Cymraeg i ddatblygu addysg Gymraeg er y bydd y prifysgolion traddodiadol yn parhau i chwarae eu rhan.

Eisoes mae llythyr agored gan dri deg o academwyr blaenllaw sy'n ymarferwyr dydd i ddydd ym maes dysgu cyfrwng Cymraeg wedi ei anfon at Jane Hutt yn amlinellu y pedwar egwyddor craidd. Yn ogystal, mae rhai cannoedd o bobl wedi torri eu henwau ar y ddeiseb ar-lein, croeso i chi lwybro draw i ychwanegu eich enw chi. Llwyr obeithiaf y bydd y llywodraeth yn achub ar y cyfle unigryw yma i sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg ac na fydd y cyfle yn cael ei golli am genhedlaeth arall.

Mae gair wedi mynd i mewn i'r cylchgronau a'r papurau yn dweud yr un peth... efallai i chi synhwyro mae nid di-sail yw'r gofid bellach nad ydym ni yn debygol o weld setliad sy'n anrhydeddu'r pedwar egwyddor craidd yn llawn.