Showing posts with label Ieuan Wyn Jones. Show all posts
Showing posts with label Ieuan Wyn Jones. Show all posts

7.7.07

Llafur-Plaid: dwi WEDI fy argyhoeddi

Do, fe ges i fy argyhoeddi gan Ieuan neithiwr. Roedd ei ddadl dros Llafur-Plaid yn resymol ac hefyd yn rhoi Cymru yn gyntaf. I ddechrau mynegodd ei bryderon gyda'r Enfys yn bennaf anwadalrwydd y Democratiaid Rhyddfrydol a'r Ceidwadwyr – roedd yn gofidio y byddai'r llywodraeth enfys yn torri i lawr hanner ffordd trwy'r tymor ac y byddai y llywodraeth Plaid Cymru cyntaf erioed yn cael ei weld fel un gwan, byrhoedlog a thrychinebus. Roedd Ieuan yn tybio fod y risg yn un rhy fawr i'w gymryd – fe gytunais ag ef erbyn y diwedd.

Hefyd, pwyntiodd Ieuan allan bod hwn yn gyfle pwysig i lacio grym San Steffan ar Gymru ac hefyd i Rhodri Morgan bellhau fwy fwy oddi wrth yr AS Llafur yn Llundain. Dywedodd fod y Blaid Lafur yn debygol o weld rhwyg rhwng y bobl sydd am weld Cymru yn llwyddo ac rhwng yr unoliaethwyr sy'n hapus i weld dim byd yn digwydd am genhedlaeth arall.

Ond yn bwysicach fyth tynnodd Ieuan sylw at y ffaith fod cymaint o faniffesto'r Blaid yn y ddogfen Llafur-Plaid – ac yn bwysicach fyth fod raison d'etre y Blaid wedi ei gynnwys sef dyfodol cyfansoddiadol Cymru.

Fe fynegwyd peth amheuaeth o'r llawr yn bennaf y bryder o orfod wynebu etholwyr Ceredigion o fod wedi bod mewn llywodraeth gyda Llafur. Fodd bynnag dwi'n credu mod i'n gywir i Ieuan ac Elin Jones argyhoeddi pob wan jac un yna. Does dim un clymblaid mynd i fod yn berffaith – hanfod clymblaid yw cyfaddawdu ar rai pethau ond dwi wedi fy argyhoeddi fod Ieuan wedi cael y gorau i ni allan o'r sefyllfa anodd a chymhleth yma. Efallai fod bod mewn gyda Llafur ddim yn bywiogi'r meddwl ond mae bod mewn llywodraeth gyda'n polisïau ni yn rhan ganolog i'r llywodraeth honno yn gynhyrfus iawn.

5.7.07

Llafur-Plaid: dwi ddim wedi fy argyhoeddi

Dydw i heb sylwebu ar wleidyddiaeth Cymru na chlymbleidio ar y blog ers rhai wythnosau ond dwi wedi fy nghymell i wneud heddiw. Roeddwn ni'n darllen ar flog Vaughan Roderick fod yna bedair AC o'r Blaid Lafur wedi dod allan yn gryf yn erbyn clymblaid gyda Phlaid Cymru. Eu dadl nhw, yng ngeiriau Vaughan, ydy; '...y byddai'r bwriad i ymgyrchu dros bleidlais Ie mewn refferendwm ar bwerau llawn yn llesteirio’r gwaith o sicrhâi cyfiawnder cymdeithasol.' Nawr dyma'r hen rethreg Llafur dwi wedi hen hen flino ei glywed. Y sglodyn enfawr 'ma sydd ganddyn nhw ar eu ysgwyddau fod bod yn genedlaetholwr gyfystyr a pheidio poeni am gyfiawnder cymdeithasol/economaidd.

Plaid unoliaethol ydy'r Blaid Lafur, ac os oes yna rai oddi mewn iddi yn ddatganolwyr datganolwr reactionary ydyn nhw – dydy nhw ddim yn gweld gwerth i'r Genedl ei hun dim ond, o bosib, fel cyfrwng i hybu eu agenda economaidd, llenwi gwacter democrataidd ayyb... Dwi'n cyfaddef fod yna bethau 'cenedlaetholgar' cryf yn y ddogfen Llafur-Plaid, fodd bynnag, rhaid holi o ddifri os ydy'r Blaid Lafur wir am wireddu rhain ynteu rhyw 'take what every you want but don't touch my face' i aros mewn pŵer yw'r addo yma o Gomisiynydd Iaith, Coleg Ffederal Cymraeg, Refferendwm ar bwerau llawn ayyb...

Roeddwn ni'n gefnogol ac yn bleidiol i'r Enfys, ac fe glywai chi'n dweud nawr 'Rhys bach, mae'r Ceidwadwyr yn unoliaethwyr hefyd.' Ydyn maen nhw, ond NI, Plaid Cymru fyddai yn arwain y llywodraeth – Ieuan Wyn Jones, y cenedlaetholwyr fyddai'n Brif Weinidog. Gwahaniaeth sylfaenol felly rhwng gweithio mewn llywodraeth gyda phlaid unoliaethol (Ceidwadwyr) oddi tanom ni i fod yn gwn bach mewn llywodraeth a phlaid unoliaethol (Llafur) yn ein rheoli ni.

Dwi'n mynd i wrando ar Ieuan Wyn Jones nos Iau yn Aberystwyth gyda meddwl agored. Fodd bynnag mi fyddaf yn ail-ystyried fy lle ym Mhlaid Cymru os na argyhoeddith Ieuan Wyn Jones fi yn wahanol nos Iau. Alla i ddim gweld lle i mi mewn plaid sy'n cadw pobl gwrth-Gymreig fel Ann Jones, Karen Sinclair ac Irene James mewn llywodraeth.

Fyddai ddim yn ymaelodi a'r Ceidwadwyr fel y mai rhai (ffôl a naîf) wedi darogan fodd bynnag byddaf mwy na thebyg yn rhoi terfyn i fy nghyfraniadau ariannol (nad sydd yn fawr cofiwch, dwi'n fyfyriwr!) ac yn peidio bod yn aelod gweithredol. Sy'n biti mawr gan mod i wedi rhoi peth wmbreth o amser i mewn i'r ymgyrch lwyddiannus i ail ethol Elin Jones yng Ngheredigion (dwi dal heb ddal fyny gyda fy ngwaith ymchwil yn iawn) ac wedi mwynhau y gwaith yn fawr iawn – a beth oedd ein blurb yma yng Ngheredigion? 'Lib Dems are in talks with Labour all ready to keep Labour in power.' Bydd dim wyneb gennai wynebu etholwyr Ceredigion mwyach. Ac fe dybiaf fod unrhyw obaith oedd gan Seimon Thomas i ail-ennill y sedd wedi ei golli.

2.7.07

Cyflogau AC'au, Y Prif Weinidog ac Arweinydd yr Wrthblaid

Wrth bori ar wefan y Cynulliad bore ma des i ar draws dogfen tra fanwl oedd yn nodi faint yr oedd yr Aelodau Cynulliad yn ei ennill. Mae'n gwneud darllen tra diddorol. Cyflog AC cyffredin (cyn tynnu treth) ydy £46,191. Yna mae'r Prif Weinidog, Gweinidogion, Y Llywydd a'r Is-Lywydd ac, yn tra ddiddorol, arweinydd yr wrth-blaid yn derbyn cyflogau fel a ganlyn (eto, cyn treth):

Prif Weinidog (Rhodri Morgan): £122,682

Gweinidogion Cabinet (e.e. Carwyn Jones): £85,868

Llywydd (Dafydd El): £85,868

Is-Lywydd (Buttler): £71,117

Arweinydd yr wrthblaid (Ieuan Wyn Jones): £85,868


Mae'r cyflogau yn hael bid siŵr ond a bod yn hollol onest roeddwn ni'n eu disgwyl i fod yn uwch.

[Ffynhonnell: 'Penderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Aelodau’r Cynulliad a Swyddogion) (Cyflogau, Lwfansau etc.)', Y Swyddfa Ffioedd, Rhagfyr 2006]

29.5.07

ENFYS, (en-bys) Gr. ιρις; bwa gwlaw. Edr.


Tynodd Vaughan Roderick sylw ar ei flog rhai wythnosau yn ôl at y ffaith y gallai holl arweinwyr y DG fod yn feibion i weinidogion Presbyteraidd cyn bo hir. Alex Salmon ac Ian Paisly eisioes yn arweinwyr ac fe fydd Gordon Brown, y presbyter arall o'r Alban yn ymuno a nhw dros yr haf ac fe ddylai Ieuan Wyn Jones ymuno a hwynt yn fuan hefyd. Pa le gwell i droi felly am ddehongliad o'r gair 'enfys' nag at 'Geiriadur Charles' – Geiriadur Beiblaidd tad Eglwys Bresbyteraidd Cymru Thomas Charles o'r Bala. Doedd Thomas Charles yn fawr o wleidydd; ond yn ei ddydd roedd cynhyrchu y fath gampwaith llenyddol a diwinyddol yn y Gymraeg yn weithred wleidyddol yn ei hun (er na fyddai Thomas Charles ei hun yn sylweddoli hynny ar y pryd).

"ENFYS, (en-bys) Gr. ιρις; bwa gwlaw. Edr.
BWA. - 'Ac yr oedd enfys o amgylch yr orsedd-fainc, yn debyg yr olwg arno i smaragdus. - 'Ac enfys oedd ar ei ben.' Dat.4.3. A 10.1. Cylch yr enfys oedd yn y ddau le hyn, mae yn amlwg, ac nid hanner cylch, fel bwa gwlaw. Yr oedd o amgylch yr orsedd-fainc, ac ar ben yr angel, fel coron oddi amgylch iddo. Yr oedd yn debyg yr olwg arno i smaragdus, maen gwerthfawr o'r lliw gwyrdd mwyaf hyfryd. Cawn y cyffelyb olygiad yn Ezec. 1. 28. 'Fel gwelediad y bwa a fydd y y cwmwl ar ddydd gwlawog, fel hyn yr oedd gwelediad y dysgleirdeb o amgylch.' Gwelediad yr enfys o amgylch yr orsedd, ac ar ben angel mawr y cyfammod, a'r lliw gwyrdd hyfryd, a arwydda fod Duw yn gweithredu yn ei gyfammod grasol, yn ei holl oruchwyliaethau tu ag at ei eglwys. Cyfamod hedd yw. Fel y gwyrdd, y mae yn hyfryd yr olwg arno i Dduw a'i bobl, ac yn dragwyddol yn ei barhad. Y mae yn gylch crwn, ac yn cynnwys Duw a'i bobl mewn cymmod ac undeb anwahanol, a gogoniant y naill, ac iechydwriaeth y llall, wedi eu sicrhau ynddo; ac y mae holl oruchwyliaethau Duw tu ag at ei eglwys, o fewn y cylch hyfryd a gogoneddus hwn. Gwel Coccejus, Vitringa, Cowper, Reader."


A oes i'r dehongliad uchod o'r gair 'enfys' unrhyw berthnasedd i ni yng Nghymru heddiw tybed?

24.5.07

Democratiaid Rhyddfrydol Ystyfnig

Mae'r blog wedi bod yn dawel ers y penwythnos tra mod i wedi bod fyny ym Mangor yn cyfarfod fy nhiwtor a hel rhyw bethau o'r llyfrgell ar gyfer gwaith y mis neu ddau nesaf. Fodd bynnag dydy gwleidyddiaeth Cymru heb fod yn ddistaw. Mae pob plaid wedi rhoi'r gorau i drafod gyda Llafur ac o ganlyniad roedd Llywodraeth Enfys i'w weld fel realiti posib ond heno fe drodd pethau yn flêr wrth i'r Democratiaid Rhyddfrydol dynnu allan o'r Glymblaid Enfys. Fe allai hyn arwain Cymru i fewn i argyfwng cyfansoddiadol.

Mae'n rhaid i'r Democratiaid Rhyddfrydol dyfu fyny a sylwi mai gwleidyddiaeth glymbleidiol fydd gwleidyddiaeth ôl-ddatganoledig yng Nghymru. A beth bynnag, does ganddyn nhw ddim gobaith caneri o ddod yn brif wrthblaid heb sôn am arwain llywodraeth felly os ydy nhw yn gwrthwynebu clymbleidio a chydweithio gyda pawb a phopeth beth yw pwynt y Democratiaid Rhyddfrydol?

Fel ag y mae pethau ar hyn o bryd dyma sut, fe dybiaf eith y bleidlais ddydd Mercher yn y Cynulliad.

Llafur yn cynnig Rhodri Morgan fel Prif Weinidog
Plaid Cymru yn cynnig Ieuan Wyn Jones fel Prif Weinidog

Rhodri Morgan: 26 (aelodau Llafur)
Ieuan Wyn Jones: 28/27 (aelodau Plaid Cymru, Ceidwadwyr a falle Trish)
Ymatal: 6/7 (Democratiaid Rhyddfrydol a falle Trish)

Oni bai i'r Ceidwadwyr gynnig Nick Bourne a phleidleisio amdano mi fyddai Ieuan Wyn Jones yn cael mwy o bleidleisiau na Rhodri Morgan ond, oherwydd ystyfnigrwydd y Democratiaid Rhyddfrydol, dim mwyafrif. Oni bai fod trafodaethau nol mlaen rhwng Plaid a Llafur, Llafur a Dem Rhydd, neu'r Enfys bydd rhaid mynd am lywodraeth leiafrifol. Ydy llywodraeth leiafrifol Plaid-Ceidwadwyr yn bosib? Ar bapur ydy gan y byddai Ieuan Wyn Jones, o dderbyn cefnogaeth y Ceidwadwyr, yn cael mwy o bleidleisiau na Rhodri Morgan. Ond mewn realiti byddai hi dipyn cymhlethach.

Dyma yw penbleth.

Ond os oes yna unrhyw eiriau doeth i'w hadrodd rheini yw rhai blogiwr y BBC, Vaughan Roderick, sy'n gynyddol ollwng ei ddi-dieddrwydd (onid ydyw hi'n gwbl amlwg ei fod yn ysu am weld clymblaid Enfys?!) pan ddywedodd am benderfyniad y Plaid Cymru i droi cefn ar Lafur; “Pan oedd yn rhaid iddi ddewis rhwng y "prosiect cenedlaethol" a chadw ei sosialaeth yn bur doedd ond un dewis mewn gwirionedd.” Amen i hynny.

21.5.07

Clymblaid Enfys: Pleidwyr 'llawr gwlad' yn gymysg eu barn


Yn ystod yr ymgyrch etholiadol fe drodd coffi ar ôl cwrdd fore Sul yn sesiwn drafod gwleidyddiaeth, yn anffurfiol beth bynnag. Oherwydd y datblygiadau diddorol does dim taw ar y sgwrsio am helyntion Plaid Cymru a bore ma ces i fy nghorneli gan un fam ifanc; “Beth yw hyn am Blaid Cymru yn rhoi pŵer i'r Ceidwadwyr?” Co' ni off. Roedd hi yn grac iawn ac yn dweud na fyddai hi'n pleidleisio i'r Blaid eto pe tase y glymblaid enfys yma yn cael ei ffurfio. Yn fwy na hynny adroddodd hi stori am ei rhieni yng nghyfraith a wnaeth bleidleisio i'r Blaid am y tro cyntaf erioed eleni, cam mawr oherwydd eu bod nhw'n hen Lafurwyr mawr ac wedi pleidleisio Llafur trwy eu bywydau hyd eleni. Roedd hi'n dweud y bydden nhw yn wyllt gacwn a byth yn ymddiried pleidlais i'r Blaid eto petaent i roi pŵer yn nwylo'r Ceidwadwyr.

Ro ni'n ceisio ei hargyhoeddi hi fod Llafur ddim gwell, os nad yn waeth, na'r Ceidwadwyr bellach; ond doedd dim yn cydio. Dywedais wrthi hi nad oeddwn ni'n cofio'r 80au (er mod i'n llawn ddeall beth ddigwyddodd) ac o ganlyniad roeddwn ni'n medru edrych ar y ddadl Ceidwadwyr Vs Llafur heb unrhyw ragfarn 80au aidd.

Fe siglodd y sgwrs fy ymddiriedaeth yn y syniad o glymblaid enfys do, ond yn hytrach na rhoi mewn tybiaf mai y ffordd ymlaen yw argyhoeddi pobl Cymru mai dim ond fel hyn allwn ni balu ymlaen – am y tro beth bynnag. Hefyd rhaid pwysleisio mai nid y Ceidwadwyr fyddai'n arwain y llywodraeth – Plaid Cymru byddai'n arwain y llywodraeth a Cenedlaetholwr fyddai'n Brif Weinidog. Dyna oedd yr apêl i gyd gapelwr arall bore ma, Yr Athro Bobi Jones, roedd ef yn deall yr hang-ups am roi peth pŵer i'r Ceidwadwyr ond roedd ef yn gweld cael Pleidiwr fel Prif Weinidog, yn wir arweinydd y genedl, yn gyfle rhy dda i basio heibio.

Er yn deall consyrn real y fam ifanc dwi dal yn ffafrio arwain gyda'r Ceidwadwyr oddi tano i ni na bod oddi tan Lafur a nhw yn arwain. Ond rwy'n ymwybodol iawn fod llawer o waith argyhoeddi mynd i orfod bod dros y bedair blynedd nesaf os am osgoi dial caled gan y Blaid Lafur yn yr etholiadau nesaf.