Showing posts with label Elin Jones. Show all posts
Showing posts with label Elin Jones. Show all posts

9.5.07

Fy Etholiad i

Yn wahanol i lawer o flogwyr sy'n dweud eu dweud ond yn gwneud dim byd mi fuesi yn go brysur yn ymgyrchu ar droed yn ogystal ag yn y cyber fyd dros gyfnod yr etholiad ond yn ystod yr ymgyrch etholiadol roeddwn ni'n gyndyn o rai manylion y gweithgareddau yr oeddwn ni'n rhan ohonynt rhag i'r Dem. Rhyddion gael gormod o wybodaeth am natur a maint ymgyrch y Blaid yng Ngheredigion. Ond nawr fod y cyfan drosodd dyma adrodd peth o'r hanes. Rhwng y dydd Sadwrn olaf (Ebrill 29) a cau y blychau am 10pm nos Iau (Mai 1) roeddwn wedi gyrru 550 o filltiroedd ac maen debyg mod i wedi gyrru cymaint a hynny eto yn y dair wythnos cyn yr wythnos olaf. Dyma'r pentrefi gafodd eu blitzio gan A-Team dosbarthu Plaid Cymru yng Ngheredigion gyda Chapten Machreth a Cadfridog Llwyd:

Pontarfynach x2, Cwm Ystwyth x2, Ysbytu Ystwyth x2, Llanafan, Pont Rhyd y Groes x2, Cnwc Coch, Llanfihangel y Creuddun, Trawsgoed, Gogledd Aberystwyth, Bronglais x3, Rheidol x2, Penparcau x3, Llanilar x2, Waunfawr, Bryncastell, Tal-y-Bont, Commins Coch, Llanbadarn x2, Aberteifi, Llechryd, Llangwyryfon x2, Trefenter, Bethania x2, Bwlchllan, Blaenpennal, Bontnewydd, Joppa x2, Capel Bangor, Goginan, Ponterwyd, Capel Seion.

Ar fore'r etholiad llwyddodd 13 o fyfyrwyr i ddosbarthu'r daflen 'Bore Da' rhwng 6am a 10am i'r holl Wardiau canlynol – Bronglais, Gogledd Aberystwyth, Rheidol a 2 ward yn Penparcau! Gwallgo!

Dyma rai o'r arwyr fu'n cynorthwyo:
Lois, Siwan a Branwen
Meleri, Leri a Meleri (i know!)
Rhodri, Gwenno a Dereg
Beth, Elinor ac Elen

Fe aeth yr ymgyrchu a ni i lefydd go diarffordd:
Ar ben mynydd ger Trefenter
Llyn Syfaddan
Defaid ym Mhonterwyd, hen diriogaeth Geraint Howells
Ymweld a'r Baracs ym Mhonterwyd
Ffermdy fy hen weinidog, Ifan Mason Davies, yng Ngoginan

Ac mae'n rhyfeddod mai dim ond dwy a drodd ar eu pigwrn yn ystod yr ymgyrch dyma brawf o anaf un ohonynt wedi i giat drom gau ar ei choes – mae Menna dal i ddioddef druan – battle scars:

Ac yn olaf dau lun o noson y canlyniadau, y cyntaf o'r Cwps a'r ail adref yn nhŷ Menna:

Un peth a'm trawodd i am yr ymgyrch oedd bod merched llawer mwy parod i ddod allan i ymgyrchu gyda ni na bechgyn. Chware teg iddyn nhw yn wir! Tybed os byddai hi'n wahanol os byddai ymgeisydd y Blaid yn ddyn? "na bydde hi ddim" meddai Menna.

Roedd hon yn ymgyrch sylweddol a phroffesiynol gyda'r Blaid yng Ngheredigion – degau ar y tîm ymgyrchu yn gwneud tipyn o bopeth a'r cyfan yn cael ei gydlynu gan Morgan Lloyd yn y swyddfa – gwrogaeth iddo. Pan anfonodd John Davies a'r Democratiaid Rhyddfrydol lythyr at bob etholwr yn y dyddiau olaf gyda stamp dosbarth cyntaf arno roedd hi'n amlwg nad oedd peirianwaith y Dem Rhyddion yng Ngheredigion yn medru cystadlu gydag un y Blaid.

26.4.07

Hustings Ceredigion

Gair bach sydyn am yr hustingiau yn Aberystwyth echnos. Roedd y cyfan yn gwbl ddi-fflach dim dadlau tanllyd yn codi fel dwi'n cofio'n codi yn hystingiau 2005 rhwng Seimon Thomas a Marc Williams. Siom fwyaf y noson oedd John Davies, 'Wel mi fydde ti yn dweud hyny yn bydde ti Rhys' dwi'n eich clywed chi'n dweud. Wel na, ddim o'r rheidrwydd, roeddwn ni'n disgwyl y byddai John Davies yn serenni gan ei fod yn siaradwr cyhoeddus carismataidd o draddodiad y Ffermwyr Ifanc o'i gymharu ac Elin sy'n fwy tawel a dwys ei thrafod. Ond ni welwyd John y carisma echnos – roeddwn ni'n falch fod y Dem Rhyddion ddim wedi medru defnyddio eu trump card sef cymeriad John. O ran swmp a sylwedd roedd Elin ben ac ysgwyddau uwchlaw pawb arall, yn trafod polisïau ac achosion mewn manylder ac yn dangos fod hi'n byw a bod gyda'r issues sy'n berthnasol i Geredigion nid jest wedi pigo fyny arnyn nhw er mwyn ymladd yr etholiad yn unig.

Roedd yr ymgeisydd Llafur ddim yn bresennol ond daeth cynrychiolydd yn ei lle. Llipryn ffôl os fu un erioed – dyn cwbwl ddall i bob datblygiad gwleidyddol sydd wedi digwydd yng Nghymru yn yr ugain mlynedd diwethaf. Perfformiodd Trev y Tori yn reit dda unwaith eto chware teg, maen foi hoffus iawn ac i weld yn sefyll yn gadarn ar ochr Wlatgarol a Chymreig ei Blaid – er nad oes gobaith caneri ganddo fynd mewn yn sefyll dros y Ceidwadwyr yma yng Ngheredigion dwi'n ffyddiog, o ddal ati, y gwelith y Ceidwadwyr ef yn ddigon o gaffael gyda hyn i roi sedd obeithiol iddo.

Dwi'n cael fy nghyfweld ar ran y Blaid gan Owain Phillips un o 60 y Beeb ar gyfer BBC 2W p'nawma. Dwi fymryn yn nyrfys gan fod y cyfweliad am fod yn Saesneg ond bydd yn seibiant reit neis o'r traethawd bondigrybwyll yma ac yn gyfle i siarad bach o sens am bolisiau'r Blaid yn hytrach na chlymbleidio.

8.4.07

Canlyniad tebygol Ceredigion 2007

Ers pythefnos ac am y dair wythnos nesaf dwi'n bwriadu neilltuo mwy o amser na'r arfer i Blaid Cymru. Rhag ofn fod rhai o'm tiwtoriaid ym Mangor yn darllen hwn ac yn arswydo gan wybod fy mod i fod i weithio ar draethawd ar y syniad o Wladwriaeth Ddwyfol yn y cyfnod Piwritanaidd – peidiwch a phoeni mae'r gwaith yn mynd rhagddo o hyd. Hefyd mewn amddiffyniad o roi peth amser i'r Blaid dros yr wythnosau nesaf rhagor na darllen llawn amser gwerth fyddai i mi nodi i R. Tudur Jones (testun fy ymchwil gyda llaw i chi nad sy'n gwybod) roi peth amser o'r neilltu i weithio yn ddiwyd dros y Blaid adeg etholiad.

Rwy'n byw yn Aberystwyth, Ceredigion, sedd fydd yn faes brwydr galed a brwd rhwng y Blaid a'r Democratiaid Rhyddfrydol. Yn draddodiadol sedd Ryddfrydol yw Ceredigion a'r Rhyddfrydwr mawr olaf i gynrychioli'r sedd yn San Steffan oedd Geraint Howells, gwr bonheddig ac os nad oedd yn Genedlaetholwr politicaidd roedd yn sicr yn Wladgarwr brwd ac fe gefnogodd ddatganoli yn 1997. Fodd bynnag profodd ganlyniad Ceredigion (a Gogledd Penfro bryd hynny) yn etholiad cyffredinol 1992 yn 'shock result' dros Gymru. Mae atgofion gan fy rhieni o hen ffrindiau coleg yn ffonio wedi i'r blychau gau ar noson yr etholiad yn holi os oes sail i'r honiad “fod gobaith yng Ngheredigion” eu hateb oedd “na, dwi ddim yn meddwl yn anffodus.” Ond er mawr syndod a llawenydd i fy rhieni neidiodd y Blaid, gyda'i hymgeisydd Cynog Dafis, o'r pedwerydd safle i'r cyntaf gan guro y Bonheddwr poblogaidd Geraint Howells gyda mwyafrif sylweddol o dros 3,000. Wele y newid ym mhleidlais y Blaid yng Ngheredigion yn arwain fyny, ac yn cynnwys, 1992:

Collodd y Rhyddfrydwyr bob momentwm ac yn 1997 methiant trychinebus oedd eu hymgais i ail ennill y sedd – roedd hyn yn rhannol oherwydd y buzz ynghylch y Blaid Lafur yn 1997 – 'things can only get better' – perfformiodd Llafur yn well na'r arfer yng Ngeredigion yn 1997 a gellid casglu mae'r Rhyddfrydwyr fu ar eu colled ac nid y Blaid. Rhwng 1997 a 2003 mynd o nerth i nerth y gwnaeth Plaid Cymru gyda Cynog Dafis yn ennill pleidlais bersonol gref drwy gael ei weld fel deiliad mantell Geraint Howells. Wele y canlyniadau rhwng 1997 a 2003 (sydd yn cynnwys dwy etholiad Cynulliad Cenedlaethol yn 1999 a 2003 yn ogystal ac Is-Etholiad yn 2000, noder hefyd fod canlyniad y rhyddfrydwyr yn 1999 yn cynnwys eu nifer nhw+yr ymgeisydd annibynnol y credaf i oedd yn dwyn cefnogaeth Rhyddfrydwyr traddodiadol yn ogystal):

Ond wrth gwrs daeth Etholiad 2005 a tipyn o sioc i Bleidwyr Ceredigion. Roeddem ni wedi syrthio i'r trap o feddwl fod Ceredigion bellach yn sedd saff i'r Blaid. Yn amlwg toedd hi ddim ac fe gollodd Seimon Thomas y sedd yn ôl i'r Rhyddfrydwyr o 219 o bleidleisiau yn unig, wele y swing cafodd y Rhyddfrydwyr rhwng 2001 a 2005 yn y graff isod (yn dangos y swing mewn canran rhwng 2001 a 2005):

Yn hollol fecanyddol (fe ddof at beth ddigwyddith go iawn mewn munud) petae yr un swing a ddigwyddodd rhwng 2001 a 2005 i ddigwydd rhwng etholiad 2003 a 2007 dyma fyddai'r canlyniad yn seiliedig ar turn out ychydig yn uwch na 2003 sef 30,000 o etholwyr (ymgyrchu mwy gweledol a pynciau mawr lleol fel cau ysbytai yn debygol o ddod a mwy allan i bleidleisio yng Ngheredigion) a'r newid canrannau fel a ganlyn: Plaid -2.4, Rhyddfrydwyr +9.6, Llafur -3.3, Ceidwadwyr -7.1:

Fel y gwelwch chi os y digwydda swing 2005 yn 2007 yna fe fyddai'r Blaid yn dal ar y sedd a hynny gyda mwyafrif o 1,740. Ac a bod yn hollol deg re-run o 2005 fyddai y 'worst case senario' i'r Blaid yn 2007. Os ydy'r Blaid dal i ddal ar y sedd gyda'r 'worst case senario' yna mae pethau'n edrych yn reit addawol i'r Blaid.

Ond dwi ddim yn meddwl y bydd 2007 yn re-run unfath o'r hyn ddigwyddodd yn 2005 am y rhesymau canlynol:

1. Plaid Cymru wedi dysgu gwers ac felly ag ymgyrch gref broffesiynol eleni
2. Plaid Cymru, yn ystadegol, yn gwneud yn well na'r pleidiau Prydeinig yn etholiadau Caerdydd a'r pleidiau Prydeinig yn draddodiadol yn gwneud yn well na'r Blaid yn etholiadau Llundain. Y fantais yn 2007 gyda'r Blaid felly.
3. O gymhathu ystadegau 2005 i un 2007 dim ond 780 o bleidleisiau bydda'i Ceidwadwyr yn cael – mae hyn yn amlwg yn gam-arweiniol oherwydd disgwylir i'r Ceidwadwyr wneud yn rhesymol gan eu bod nhw ag ymgeisydd cryf ac hefyd fod y Ceidwadwyr yn gyffredinol mewn cyfnod o fis-mel gyda Cameron fel arweinydd – y Rhyddfrydwyr yn fwy tebygol o golli pleidleisiau i'r Ceidwadwyr na Plaid.
4. Hefyd Elin Jones yn ymgeisydd cryfach a mwy addas i Geredigion nag yr oedd Seimon Thomas dros y Blaid.

Felly fel casgliad dwi'n meddwl gallaf ddweud yn reit addawol y bydd Elin Jones a Phlaid Cymru yn cadw'r sedd er y bydd hi'n reit agos ar y noson – mae'r ystadegau a ffactorau eraill yn dangos fod Elin yn debygol o ddal gafael er y caiff ei mwyafrif ei docio ryw ychydig.