Showing posts with label Efengylaidd. Show all posts
Showing posts with label Efengylaidd. Show all posts

16.6.08

Faint o'r gloch mae'r cwrdd dydd Sul?

Nid yw mynd i Capel yn boblogaidd dyddiau yma ond hyd yn oed os byddech chi eisiau mynychu cwrdd ar y Sul maen arbennig o annodd gwneud hynny oherwydd nad oes unrhyw ffordd o wybod faint o'r gloch mae'r gwasanaethau. Dim ond nifer fychan iawn iawn o Eglwysi Cymraeg sydd a gwefannau felly dwi wedi cychwyn llenwi map google gyda lleoliadau Eglwysi Cymraeg ynghyd ac amseroedd eu cyrddau. Hyd yma dwi ond wedi rhoi gwybodaeth yr Eglwysi mae gennyf gyswllt a nhw ac felly yn digwydd gwybod y lleoliad ac amseroedd y cyfarfodydd, os ydych chi am i mi ychwanegu eich eglwys chi cysylltwch gyda mi.

Yn ein dydd ni gyda cyn lleied yn mynychu'r cwrdd maen gwbl hurt nad ydy'r Eglwysi yn gwneud mwy o ymdrech i adael pobl i wybod lle a phryd maen nhw yn cwrdd. Gobeithio bydd y map yma yn gymorth:


View Larger Map

13.6.08

COI 2008 - Cristnogaeth a Thechnoleg

Penwythnos yma mi fydda i yn mynychu Cynulliad Oedolion Ifanc (COI) yn Annibynwyr ar y thema: "Dewch i addoli, dathlu, mwynhau'r cymdeithasu, rhannu gwybodaeth a thrafod defnydd Cristnogol o'r dechnoleg newydd!" Oce nid thema oedd hwna, ond dyna oedd y tag line ar Facebook i'r digwyddiad. A dyma, yn fras, beth fydd rhaglen y penwythnos:

Nos Wener
7.00 Croeso, defosiwn (Rhodri, Hawys ac Andras a’r band!)

7.20 Torri’r Iâ (Hawys)

8.00 Blogio’n enw’r Iôr (Dafydd Tudur) (Wedi’i ddilyn â thrafodaeth/ cyfnod o weddio)

Dydd Sadwrn
10.00 Defosiwn ac Addoliad (Andras a'r Band)

10.30 Coffi

11.00 Beibl.net/Gobaith i Gymru (Arfon Jones) Trafodaeth

11.45 Tystiolaethau Digidol a'r Emerging Church (Rhys Llwyd) Trafodaeth i ddilyn

12.30 Cinio

2.00 Trafodaeth gyffredinol ar yr hyn y gellid ei wneud yn arwain i ddwy opsiwn o weithdy:
a) Edrych ar Dystiolaethau Digidol gyda Rhys Llwyd
b) Gwefannau yng nghaffi Fresh Ground wedi’i arwain gan Dafydd Tudur

3.30 Adrodd yn ôl/ trafodaeth ar beth i’w wneud nesa

4.00 Addoliad (Andras a'r Band) a chyfnod o weddi cyn ymadael


Fe wnai adael prif bwyntiau fy sgwrs i ar y blog yma yn fuan gobeithio i'r rhai na fydd wedi medru mynychu. Hefyd gobeithio bydd modd cael deunydd fideo i lawer o'r gweithgareddau a'i postio yma.

Mae croeso cynnes i bawb fynychu'r gynhadledd yma, yr Annibynwyr sy'n trefnu ond mae croeso i bawb ac mae, wrth gwrs, yn rhad ac am ddim.

Festri Seion, Stryd Y Popty, Aberystwyth Mehefin 13-14eg 2008-05-29

25.5.08

Rol arweiniol merched yn yr Eglwys?

Fel un sydd wedi fy nghyhuddo yn ddiweddar o gymylu efengyl syml iachawdwriaeth Iesu gyda materion "eilradd" gwleidyddol a diwyllianol fe wnes i dagu ar fy nghorn fflêcs heno ma wrth ddod ar draws y frawddeg yma ar flog tra diwygiedig:

"...women presbyters – the first sign of a man losing his evangelical moorings would be his support for them."


O fy nealltwriaeth i o efengyl iachawdwriaeth nid yw eich barn am rôl merched o fewn yr Eglwys yn dod i mewn i'r hafaliad o gwbl! Ond ymddengys ei bod hi'n dderbyniol mewn rhaid cylchoedd i nodi rhai materion eilradd fel "rol y ferch" o dragwyddol bwys i'ch "evangelical moorings"; fodd bynnag ar y llaw arall fod materion eilradd fel "pwysigrwydd amddiffyn diwylliant" ddim yn bwysig o gwbl!

Yn ôl diffiniad y blogiwr yma maen ymddangos mod i wedi colli fy "evangelical moorings." Oherwydd mod i'n gwadu pechod gwreiddiol? Na, dwi'n parhau i gredu yn hynny. Oherwydd mod i'n gwadu athrawiaeth yr Iawn? Na, dwi'n parhau i gredu yn hynny. Oherwydd mod i'n credu fod gwirionedd ym mhob crefydd? Dwi'n parhau i gredu mae un Duw sydd. Na, dwi wedi colli fy "evangelical moorings" oherwydd mod i'n credu fod rôl bwysig, yr un mor bwysig i ferchaid wrth arwain yr Eglwys ag y mae i ddynion - os ydy hynny yn golygu mod i'n colli'r label "efengylaidd" wel dyna ni felly, rwyf wedi fy alltudio!

Rwy'n amau y byddai awdur y blog yn cymryd ei eiriau yn ôl pe byddai i edrych yn ôl dros ei neges, fodd bynnag maen ddifyr sut y bo gwahanol ddiwylliannau Cristnogol yn cymysgu gwahanol faterion "eilradd" ac yn eu trosi i fod yn "gynradd". I rai (fel y traddodiad efengylaidd Cymreig) mi fyddai perthyn i safbwynt "efengylaidd" yn golygu rheidrwydd i uniaethu ei hun ac ymgyrchoedd gwleidyddol radical-chwith, caethweisiaeth, hawliau lleiafrifol, heddychiaeth etc... ond o fewn cyd destun arall (dyweder Americanaidd neu Seisnig) mi fyddai perthyn i safbwynt "efengylaidd" yn golygu rheidrwydd i uniaethu eich hun a safbwyntiau adain dde awdur y blog dan sylw a gwadu hawliau cyfartal o fewn yr eglwys a chefnogi rhyfeloedd 'cyfiawn'.

Dwi'n hyderu ei fod yn weddol amlwg mod i'n falch iawn o'r traddodiad Cymreig.

[*maddeuwch y llun, wrth bwyso "women preachers" i fewn i 'Google Images' fe ddaeth y llun yma fyny, dwi ddim am ysgafnhau neges ddifrifol ond roedd RHAID i mi ddefnyddio'r llun doniol yma!]

25.4.08

Dylanwad (negyddol?) Martin Lloyd-Jones

I rywun fel fi sydd wedi fy magu yn y traddodiad efengylaidd does ond un Doctor sef Dr. Martin Lloyd-Jones. Ef oedd yr arwr mawr ac ef oedd y Moses a arweiniodd ei bobl drwy ddegawdau anodd ac unig yr Ugeinfed Ganrif. Fe, maen debyg, oedd y Piwritan olaf. Roedd ei ddylanwad ar y byd ceidwadol efengylaidd bron a bod yn absoliwt ac fe ddaeth y cyfan i ben yn 1966 pan alwodd ar bobl efengylaidd i 'ddod i benderfyniad' – y 'call to decision enwog' – a gwneud y safiad a gadael yr hen gyfundrefnau crefyddol a sefydlu eglwysi newydd diwygiedig. Er i lawer ei ddilyn gan gynnwys rhai Cymry Cymraeg a aeth ymlaen i sefydlu eglwysi newydd yn Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, Caerfyrddin, Llangefni, Bae Colwyn, Waunfawr a Talsarnau, fe wnaeth llawer wrthod a hynny ar egwyddor. Yr enwocaf mwy na thebyg o bobl wrthododd ddilyn MLl-J oedd John Stott yr arweinydd efengylaidd mwyaf blaenllaw o fewn yr Anglicaniaid. Ar y noson lle galwodd MLl-J ar bobl efengylaidd i ddod i benderfyniad Stott oedd yn llywyddu – ar ôl i anerchiad MLl-J ddod i ben yn hytrach na chau y cyfarfod gyda gair o weddi fe aeth Stott ati i amlinellu ei wrthwynebiad pendant i'r safbwynt yr oedd MLl-J newydd ei amlinellu a dyna gychwyn rhwyg rhwng pobl efengylaidd sy'n parhau heddiw.



Yn anorfod pan fo rhwyg yn digwydd mae'r ddwy garfan yn pwyso ac yn edrych tuag at eu harweinydd am ysbrydoliaeth ac am arweiniad a chyngor ar bron a bod popeth a dyna, yn fy nhyb i, sydd i gyfri am ddylanwad rhyfedd, anghyffredin ac absoliwt MLl-J ar y byd efengylaidd ceidwadol. Fy niddordeb arbennig i yn MLl-J yw ei gyferbynnu gyda'r cawr arall o Gymro efengylaidd gydol yr Ugeinfed Ganrif sef R. Tudur Jones, gŵr sy'n destun i fy noethuriaeth. Y gwahaniaeth sylfaenol ac amlwg rhwng MLl-J ac RTJ yw eu ymwneud a'r sffêr gyhoeddus - ar un llaw roedd RTJ yn pledio achos Cymdeithas yr Iaith ac yn Is-Lywydd ar Blaid Cymru tra oedd MLl-J, ar y llaw arall, i bob pwrpas yn bietydd. Ac rydw i yn cytuno gyda Bobi Jones fod pietistiaeth yn ddim byd llai na heresi.

Ond a oedd MLl-J wir yn bietydd? Mi fyddai ei ddilynwyr ffyddlon yn gwadu fod eu dyn mawr nhw yn bietydd gan ddadlau mae'r oll oedd yn dweud oedd na ddylai'r gweinidog a'r offeiriad, oherwydd y fuchedd neilltuedig, ymhél a gwleidyddiaeth ond fod lle i'r Cristion ymhél. Tan neithiwr roeddwn ni'n ddigon bodlon gyda'r dehongliad yna, fodd bynnag wrth bori trwy'r cofiant i MLl-J gan Ian Murray (sydd, yn fy marn i, yn ymylu ar fod môr an-wrthrychol a chofiant enwog E. Pan Jones i Michael D. Jones!) neithiwr fe ddois ar draw tystiolaeth fod safbwynt MLl-J tuag at ddiwinyddiaeth gyhoeddus yn fwy gwahanol i safbwynt RTJ nag oeddwn ni wedi dychmygu/sylwi yn wreiddiol. Nid gwahaniaeth bach neu wahaniaeth pwyslais sydd rhwng safbwyntiau'r ddau yn fy nhyb i, maen wahaniaeth llawer mwy sylfaenol.

Yn 1980, ar ddiwedd gweinidogaeth MLl-J, pan holwyd iddo gan ohebydd i Christianity Today y cwestiwn 'what do you think Christianity ought to say to the economic situation today?' roedd ei ateb fel a ganlyn:

"I think the great message we must preach is God's judgment on men and on the world... The main function of politics, culture, and all these things is to restrain evil. They can never do an ultimately positive work."


Mae'r pwyslais yn y dyfyniad yn gwbl eglur, mewn cyd destun negyddol ac i negyddu pechod y mae MLl-J yn edrych ar bethau'r sffêr gyhoeddus ac nid mewn cyd destun cadarnhaol i foli a mawrygu'r Duw byw. Ag ystyried dylanwad bron a bod absoliwt MLl-J, oliaf tan yn ddiweddar iawn, ar yr eglwysi efengylaidd ceidwadol (sy'n cynnwys y rhai Cymraeg a nodwyd uchod) does dim syndod mod i wedi fy magu mewn hinsawdd Gristnogol oedd, ar y cyfan, yn bietistaidd ag eithrio lleisiau proffwydol, ac mewn gwirionedd unig, gwyr fel Bobi Jones ac R. Geraint Gruffydd.

2.7.07

Recordio rhaglen gyda Aled Jones-Williams


Dwi wedi dychwelyd o lypder Pontrhydfendigaid ac wedi mwynhau fy hun mas draw. Roedd e'n ddigwyddiad gwych a gobeithio y tyfith e o nerth i nerth nawr. Ta waeth, ar ôl cyrraedd adref yn syth yn ôl i'r tresi es i oherwydd roeddwn ni'n cymryd rhan mewn rhaglen Radio Cymru p'nawma. Rhaglen a ddaeth i fod yn dilyn yr ohebiaeth rhyngtha i ac Aled Jones-Williams yn Golwg dros yr wythnosau diwethaf. Fformat y rhaglen oedd Gwilym Owen yn cadeirio a hynny o'i stiwdio ym Mangor ac yna Aled Jones-Williams (o'r stiwdio ym Mhenrhyndeudraeth) yn dod 'wyneb yn wyneb' a chriw Gristnogion ifainc 'diwygiedig' (neu Efengylaidd os y mynnwch).

Roeddwn ni braidd yn ofidus cyn dechrau recordio oherwydd roeddwn ni'n gwbl ymwybodol fod safbwynt Aled ar bron a bod popeth yn ymwneud a'r ffydd Gristnogol yn dra gwahanol i'm safbwynt i ar lleill yn y stiwdio yn Aberystwyth. Fodd bynnag ni chafwyd tan gwyllt go-iawn fel yr oedd Gwilym Owen wedi ei obeithio oherwydd er ein bod ni yn Aberystwyth yn arddel ffydd Efengylaidd dy ni ddim yn stereoteipiau cymdeithasol/wleidyddol o'r label 'Efengylaidd' yr oedd Aled yn eu collfarnu a'i galw yn biggots. Dydw i ddim yn 'gwth fenywod' nac yn 'gwrth hoyw'. Ac oherwydd hynny llwyddwyd i symud y drafodaeth ymlaen (er maen bosib er mawr siomiant i Gwilym Owen) o daflu mwd tuag at drafod craidd y ffydd Gristnogol. Duw.

Rwy'n cytuno gyda Aled 100% fod diwedd enwadaeth yn sicr fuan, ond i mi y cyfrwng sydd angen newid nid craidd y ddysgeidiaeth glasurol fel y mae Aled yn awgrymu. Dyna sydd, os liciwch chi, wedi 'gweithio' yma yn Aberystwyth gyda'r cwrs Alffa yn un o gaffis y dre a'n haddoliad ar nos Sul yn y Cwps. Mae craidd ein neges yn y cyfarfodydd yma yr un mor 'ddiwygiedig' a neges Cradoc i Hywel Harris i Tudur Jones, fodd bynnag dy ni wedi ei wisgo a iaith, delwedd a diwylliant cyfoes. Hyd y gwela i y ffydd ddiwygiedig ydy'r unig un sy'n cynnig fframwaith i ddod i sicrwydd ffydd o ddod o farwolaeth i fywyd fel sy'n cael ei esbonio yn Effesiaid 2:1-10.

Dwi'n eiddgar i gario ymlaen i drafod gyda Aled a phobol sy'n rhannu ei safbwynt, dydy encilio fel y gwna llawer o Gristnogion Efengylaidd di-asgwrn cefn ddim yn opsiwn i mi. Fodd bynnag rhaid mi gyfaddef mod i'n rhagweld anawsterau mawr mewn ffeindio tir cyffredin gyda Christnogion nad sydd i.) yn cydnabod bodolaeth y sffêr oruwchnaturiol ii.) yn gwrthod y posibilrwydd fod Duw yn dduw hollalluog all wneud ymysg pethau eraill wyrthiau. Y prawf cyntaf i mi wrth geisio tir cyffredin yw cytuno fod y goruwchnaturiol yn bodoli - cytuno NA ellid 'profi', yn wyddonol beth bynnag, rhai elfennau o Gristnogaeth - ond credu ynddynt fel pe baent YN ffeithiau gwyddonol – ffydd gadarn yn cymryd lle prawf wyddonol gadarn a hynny yn gwbl deilwng.

Dyna am tristaodd am eiriau Cynog Dafis yn Golwg wythnos diwethaf - mae e fel petai am dynnu'r ysbrydol a'r goruwchnaturiol (yn ei eiriau ef yr 'an-wyddonol') allan o Gristnogaeth ond, i mi, does dim o werth ar ôl os ydych chi wedi tynnu elfennau sy'n dibynnu ar 'ffydd' allan o system 'ffydd' fel Cristnogaeth.

A dyna fi wedi rhoi pregeth arall heb geisio. Rwy'n disgwyl ymlaen yn eiddgar i gael trafod gyda Aled rhywbryd eto. Er mod i yn, ac am barhau, i ddangos parch at Aled mae heddiw wedi cadarnhau y gwahaniaethau cwbwl sylfaenol rhwng ei Gristnogaeth ef a minnau. Ond maen beth iach i drafod yn tydy?

[Bydd y rhaglen yn cael ei ddarlledu am 6pm Nos Iau ar Radio Cymru]

3.4.07

Eglwysi'n Marw - Eglwysi'n Tyfu

Ystadegau diddorol allan heddiw yn adrodd fod 1 o bob 10 o Brydeinwyr yn mynychu Capel neu Eglwys yn wythnosol ac 1 o bob 7 yn mynychu'n fisol. Fodd bynnag dangosodd yr arolwg fod 53% o bobl yn adnabod eu hunain fel Cristnogion, cwymp o'r 75% fel ag yr oedd yng nghyfrifiad 2001. Mae'r ymchwil hefyd yn dangos y byddai tri miliwn yn ystyried mynychu ond iddyn nhw gael “y gwahoddiad iawn.” Dywedodd Elaine Storkey, Llywydd Tearfynd a wnaeth yr ymchwil:


The church for a lot of people is a very strange place these days. They're not familiar with what's going on inside the building, with the form of service, with the way people gather, with what they say, how they pray. So the first thing they have really got to wake up to is that there is this big cultural gap between churched and non-churched. Darllen mwy...


Rhywbeth arall diddorol yw y duedd ymysg cymunedau ethnig Prydain. Er fod yr Eglwysi a'r Capeli traddodiadol yn cwympo mae'r Eglwysi Caresmataidd a Phentacostal ar gynydd mawr, hyd yn oed yng Nghymru (er ddim yn y Gymru Gymraeg yn anffodus). Mae 17% o fynychwyr Eglwysi Prydain yn dod o leiafrif ethnig er eu bod nhw ond yn cynrychioli 8% o'r boblogaeth gyffredinol. Yn Llundain mae 44% o fynychwyr eglwysi yn ddu!

Mae reit arwyddocaol hefyd i mi fod yr Archesgob mwyaf diwygiedig (neu Efengylaidd os y mynnwch) a'r un ar neges mwyaf radical ar faterion gwleidyddol a chymdeithasol heddiw ydy Archesgob Efrog, John Sentamu, sydd hefyd yn ddu. Pam felly fod yr Eglwys yn fwy 'byw' ymysg cymunedau ethnig – tybiaf fod eu pwyslais hwy ar waith adfywiol yr ysbryd glan yn ffactor – pwyslais a gaed yng Nghymru adeg y diwygiadau ond pwyslais yn anffodus sydd wedi ei golli ac sydd, yn peri ofn i'r crefyddwr traddodiadol.

Diddorol hefyd yw'r twf mae Eglwys Rufain yn ei brofi hefyd, nid oherwydd eu bod nhw yn ennill eneidiau o'r rheidrwydd ond eu bod nhw ar gynnydd oherwydd y newydd ddyfodiaid o Wlad Pwyl a gwledydd tebyg. Darllenwch hwn:

"This means that there are now at least tens of clergy knowingly and unknowingly ministering to... parishioners who are 'irregular' or 'undocumented' in terms of their presence in the UK." The authors spoke to 1,000 migrants attending Mass in London in the dioceses of Westminster, Southwark and Brentwood as well as migrant focus groups. Researchers said some parishioners would not answer questions as they were fearful of the consequences if they were identified. Several priests also refused to take part in the survey because of the duty of care and confidentiality they felt they owed their parishioners. A statement issued by the Cardinal, the Archbishop of Southwark the Most Rev Kevin McDonald and Bishop of Brentwood the Rt Rev Thomas McMahon responded to the findings.They said: "Migrants are very much the present reality of the Catholic Church in London and one of several sources of hope for the Catholic Church of the future too. "In our view they are also a source of hope for the future of the nation." Darllen mwy...

5.12.06

Parch. J.D. Williams 1915-2006

Heddiw yma fe fynychais angladd Y Parchedig J.D. Williams yng Nghapel Bethany, Rhydaman. Ef oedd olynydd yr enwocaf o Weinidogion y Capel y Parch. Nantlais Williams; ac fe olydwyd J.D. wedi hynny gan fy Nhad-cu, Y Parch. Gareth H. Davies. Claddwyd J.D. nesaf at fy Nhad-cu – heno yma mae olion yr olyniaeth a ddefnyddiodd Duw i bregethu ei air yn Nhref Rhydaman gydol yr Ugeinfed Ganrif yn res urddasol ar Heol y Gwynt – Nantlais Williams 1874-1959 (Bethany 1901-1944) J.D Williams 1915-2006 (Bethany 1944-1981) a Gareth H. Davies 1927-2005 (Bethany 1981-1994) – y gair allweddol yw 'olion' wrth gwrs oblegid, i ddyfynnu un o'r emynau y phrynhawn yma “...bydd canu yn y nefoedd pan ddel y plant ynghyd.” Mae'r trio ohonyn nhw yn fyw ac yn iach yn y baradwys dragwyddol bellach.

J.D. Williams

Fe'i ganwyd ym Mhen-uwch, Ceredigion. Aeth ymlaen i ysgol y sir yn Nhregaron ac yna i Aberystwyth lle graddiodd yn y Gymraeg yn gyntaf ac yna a gradd BD (Diwinyddiaeth). Ei ofalaeth gyntaf oedd Eglwys Bethel, Llangyfelach – roedd felly yn weinidog yng nghylch Abertawe yn ystod blynyddoedd blin y Rhyfel. Yn 1944 daeth galwad wedi ymddeoliad Nantlais iddo symud i Bethany, Rhydaman. Cyrhaeddodd Eglwys fawr ac iddi 500 o aelodau yn ei eiriau ef; “...roedd Nantlais Williams wedi gosod yr eglwys ar sylfeini cadarn, ymhob ystyr.” Cyrhaeddodd Bethany yn llawn brwdfrydedd, fodd bynnag profodd ei ddwy flynedd gyntaf yna yn anodd iawn – doedd rhywbeth ddim yn cydio.

Dywedodd J.D. Am y cyfnod anesmwyth yma;

...bu'r ddwy flynedd gyntaf yn rhai digon anodd. Synhwyrais yn fuan fod rhywbeth yn eisiau yn fy ngweinidogaeth. Roedd nifer dda o'r aelodau wedi bod drwy Ddiwygiad 1904-05, a phrofiadau mawr y cyfnod hwnnw yn dal i liwio eu bywyd eglwysig o hyd. Ond roedd hyn oll yn ddieithr i mi! Sut y gallwn i gynorthwyo a helpu'r rhain i gynyddu ar unrhyw lefel ysbrydol?

...Ar derfyn y ddwy flynedd anniddig, trefnwyd Ymgyrch Efengylu yn yr eglwys... Bendithiwyd yr eglwys yn fawr; cafodd nifer o'r aelodau, gan gynnwys pobl ifanc, dröedigaeth – a minnau, eu gweinidog, yn eu plith.


Dechreuodd ar ei Weinidogaeth felly, fel Nantlais hefyd, cyn dod i gredu drosto ef ei hun! Profi unwaith yn rhagor fod yn rhaid i ni fod yn wyliadwrus nad ydym ni'n gwybod y geiriau heb adnabod y gair. Gweinidogaethodd yn Bethany am 37 o flynyddoedd arall wedi ei dröedigaeth. Yn ogystal a'i waith beunyddiol fel Gweinidog bu'n weithgar yn rhengoedd Mudiad Efengylaidd Cymru yn ogystal a bod yn Llywydd Sasiwn y De o'i enwad Eglwys Bresbyteraidd Cymru (aka Methodistiaid Calfinaidd). Fel Nantlais o'i flaen am Tad-cu ar ei ôl roedd J.D. (wedi ei dröedigaeth beth bynnag) yn Fethodist Calfinaidd old school – cydnabu bechod yn ei bregethu ac fe esbonia ffordd gras Duw trwy farwolaeth iawnol Iesu ar y Groes i ddyn ddianc o bechod a dod yn iawn gyda Duw. No messing chadal plant y dyddiau yma – symlrwydd Efengyl Crist ydyw'r unig Gristnogaeth sydd wedi achub ac sydd yn achub. Diolch i Dduw am ddefnyddio olyniaeth Bethany, Rhydaman i argyhoeddi dynion o'i pechod a'i galw yn ôl i'r gorlan.

I orffen fe ddyfynnaf emyn gan Nantlais a ganwyd heddiw ac a ganwyd yn angladd fy Nhad-cu y llynedd;

Trugarog a graslawn yw'r Arglwydd,
Hwyrfrydig i lid o roi lle;
Nid byth y mae'n cadw digofaint,
Nid byth yr ymryson efe;
Fel tad wrth ei blant y tosturia,
Mae'n cofio mae llwch ydynt hwy;
O f'enaid, bendithia yr Arglwydd
Bendithia yr Arglwydd byth mwy.