Showing posts with label Elvis. Show all posts
Showing posts with label Elvis. Show all posts

20.3.08

Ama Sumani

Darllenais y newyddion trist bore ma ar wefan y BBC fod Ama Sumani wedi marw. Ama oedd y ddynes a oedd yn derbyn triniaeth am ddealisis yn Ne Cymru ond oherwydd i'w visa hi ddirwyn i ben fe'i halltudiwyd gan Lywodraeth Prydain yn ôl i Ghana, gwlad lle na fyddai hi'n medru parhau a'r driniaeth. Ar y pryd fe holais Elvis Adjei, cyfaill i mi o Ghana sy'n gyd-warden gyda mi yn Neuadd John Morris Jones ym Mangor beth fyddai'n digwydd iddi ac fe ddywedodd yn blwmp ac yn blaen nol ym mis Ionawr, 'she'll die for sure.' Ond wrth gwrs nid yw cael gwaed ar eu dwylo yn ddim byd newydd i Lywodraeth Orllewinol Imperalaidd fel Prydain, maen rhan anatod o'i gwead ffiaidd satanaidd. Tybed gwasanaeth faint o ddoctoriaid a nyrsys o Gahana y mae'r NHS yn ei fwynhau ym Mhrydain? Mae'n ffieiddbeth fod Prydain a'i thebyg yn steilio ei hun fel y cyflwr 'gwareiddiedig' i bob gwladwriaeth arall annelu ato. Diwrnod trist iawn sy'n dangos penllanw pechod-cyfundrefnol ein dynoliaeth. Y cysur amwni yw hyn, wrth siarad gyda Elvis Adjei (sydd, gyda llaw, yn weinidog rhan-amser gyda'r Pentacostaliaid) wythnos diwethaf roedd yn esbonio i mi fod yr Eglwys Bentacostalaidd ar gynydd rhyfeddol yn Ghana a bod dros dri chwarter o bobl Ghana yn arddel ffydd real fywiog yn eu Gwaredwr a bod yr Ysbryd Glan yn syrthio ar Ghana mewn modd y gallw ni o'n ei ddeisyfu ei weld eto yma yng Nghymru.

Mae hanes Ama a chyflwr ysbrydol Ghana yn dangos i ni drachefn fod ystyr beth sy'n 'wareiddiedig' wedi ei sgiwio yn llwyr gan seciwlariaeth modern ein Gorllewin ni ac mae'r unig gynhaliaeth mewn gwirionedd sy'n pasio prawf amser ydy'r Meddyg Da.

22.9.07

Cyrraedd Bangor a Chyfarfod ag Elvis

Dwi wedi cyrraedd Bangor ers ddydd Sul ond dim ond heddiw dwi wedi cael y ŵe i weithio. Dwi wedi fy siomi ar yr ochr orau gyda fy fflat yn JMJ – roedd e braidd yn frwnt pan gyrhaeddes ond ar ôl ychydig bach o hwfro, polish a codi ambell i lun ar y wal a ryg neu ddau ar lawr maen le reit braf – nid annhebyg i oasis yng nghanol yr anialwch. Mae'r fflat yn fawr iawn, mae gennai stafell wely sbâr hyd yn oed! Ddydd Sul y bydd y myfyrwyr yn cyrraedd a dyna pryd y bydd fy nyletswyddau, yn swyddogol, yn dechrau. Fodd bynnag, gydol yr wythnos yma dwi wedi bod mewn wythnos hyfforddi ar gyfer wardeiniaid – mae wedi bod yn wythnos drwm iawn iawn. Sawl sesiwn anodd megis sesiwn ar salwch meddwl a hunan-anafu ac yna sesiynau mwy ysgafn a hwyliog a 'hands-on' megis sut mae defnyddio diffoddyddion tân!

Ond uchafbwynt yr wythnos i mi maen siŵr oedd cyfarfod Elvis. Elvis yw'r trydydd warden yn JMJ a chyfrifoldeb arbennig dros y llawr lle mae'r myfyrwyr tramor yn byw. Mae Elvis Adjei yn frodor o Ghana ac mae'n 33 mlwydd oed. Cyn dod i astudio Busnes a Chyllid yma roedd ganddo swydd dda yn y sector gyllid yn ei wlad ac wedi dysgu mwy yma mae'n gobeithio dychwelyd i'w wlad. Maen ŵr tu hwnt o annwyl ac mae'n gymeriad, ond dyma lle mae'r stori yn troi hyd yn oed yn fwy cwl i mi – mae e hefyd yn Weinidog Pentacostalaidd!

Ar y cwrs wythnos yma roedd yna oddeutu 30 o wardeiniaid o gymysgedd o gefndiroedd gwahanol. Un peth wnaeth sefyll allan i mi wythnos yma oedd fod llawer mwy yn gyffredin gyda'r Cymry gyda'r myfyrwyr rhyngwladol na'r Saeson, er fod rhai Saeson (och a gwae) yn unigolyn ddigon dymunol. Ac yn olaf – beth ddigwyddodd i bolisi iaith Prifysgol Bangor? Roedd ar goll wythnos yma.