31.5.08
24.6.07
Blair, Rhufain a Gwleidyddiaeth
Mae sî wedi bod ar led ers blynyddoedd fod Tony Blair yn Babydd tu ôl i ddrysau caeëdig ac ei fod yn bwriadu gadael yr Eglwys Anglicanaidd ac ymuno ag Eglwys Rufain wedi iddo adael 10 Stryd Downing. Gyda'r dyddiad yna yn nesáu, wythnos nesaf, mae'r diddordeb yn y saga yma yn poethi yn enwedig felly wrth i Blair, yn ei daith tramor olaf fel Prif Weinidog, ymweld a'r Pab. Beth yn union yw arwyddocâd hyn felly? Wel, ers 1688 mae deddf gwlad yn datgan na all Gatholig fod yn Sofran, yn briod i'r Sofran neu yn ddarpar Sofran, mae'r ddeddf dal mewn grym heddiw. Er, yn dechnolegol, fod perffaith hawl gyfreithiol gan Gatholig fod yn Brif Weinidog does dim un erioed wedi bod – oherwydd perthynas Gwladwriaeth ac Eglwys (h.y. Brotestannaidd) yn Lloegr/Prydain dydy cael Prif Weinidog sy'n Babydd ddim yn 'done thing.'Ond os ydy Blair wedi bod yn Babydd tu ôl i ddrysau caeedig ers blynyddoedd maith (rhai yn awgrymu ers 30 mlynedd) pa wahaniaeth mewn difri calon a wna ffydd bersonol Prif Weinidog i'w swydd? Wel, mwy na fyddech chi'n meddwl. Mae'r un dadleuon a oedd o amgylch yn 1688 yn bodoli heddiw sef bod Gwleidyddion a phobl mewn swyddi dylanwadol sydd hefyd yn perthyn i Eglwys Rufain yn, ag o fethu meddwl am air gwell, 'euog' o ddilyn cyngor/canllaw y Pab rhagor na cyngor/canllaw yr ysgrythur a'r etholwyr. Er enghraifft yn 2004 fe wrthododd rhai Esgobion Pabyddol weinyddu'r cymun i John Kerry a'i ymgyrchwyr oherwydd eu bod nhw'n fwy 'meddal' ar 'faterion mosegol' na Bush a'i ymgyrchwyr (i beg to differ!)
Yn ogystal ar ddeilema foesegol yna mae'r Pabyddion yn dal safbwynt tra gwahanol i'r Protestaniaid ar ymwnelo yr Eglwys a Gwleidyddiaeth. Mae Eglwys Rufain yn gyfrifol am osod yr Eglwys a'r Byd yn erbyn ei gilydd. Y naill yn Sanctaidd a'r llall yn parhau dan felltith. Gwelant bopeth sy tu allan i'r Eglwys fel petai dan ddylanwad yr un drwg ac fe ddefnyddiwyd Tynghedwr (Exorcist) i ddifa'r grym drwg yma o bopeth ddeuai dan ddylanwad, yn ddylanwad neu yn ysbrydoliaeth ar yr eglwys. Mewn gwlad Gristnogol (fel y mai Prydain Tony Blair) byddai rhaid i bopeth cymdeithasol gael ei roi dan adain yr Eglwys – yr unig le 'saff' i fod (dyma sy'n arwain gwleidyddion catholig i wrando ar y Pab cyn eu Beibl a chyn eu etholwyr). Canlyniad hyn fyddai fod rhaid i'r arweinwyr gwleidyddol a chyfreithiol fod yn eneiniog ac wedi eu clymu i gyffes.
Rhaid cyfaddef mod i'n ysgrifennu'r postiad yma gyda fy het diwinydd Calfinaidd ymlaen ond fy marn niwtral, academaidd hyd yn oed, i yw nad oes gan Babyddiaeth 'rational' lawn/gall i ymwneud a'r gwleidyddol all ffitio i mewn i wleidyddiaeth a threfn ddemocratiaeth gyfoes heddiw. Hyd y gwela i yr opsiynau mae Pabyddiaeth yn cynnig yw tynnu allan o'r sffêr wleidyddol yn llwyr NEU ceisio adfer trefn Theocrataidd a gorfodi moeswedd Gatholig-Gristnogol ar wrthrychau eu gwladwriaeth – ni fyddai yr un o rhain yn 'ymarferol' i Tony Blair ag yntae yn Brif Weinidog Gwladwriaeth neo-Seciwlar Ddemocrataidd Fodern. Fe wydda Blair hyn fe dybiaf, ac drwy gadw ei Babyddiaeth yn dawel tan iddo adael 10 Stryd Downing mae wedi arbed llawer iawn iawn o helynt a dadleuon mosegol, cyfansoddiadol hyd yn oed, am berthynas ffydd – gwladwriaeth – eglwys – moesau – rhyfel – sancteiddrwydd bywyd ayyb.... Yn y bôn, mae wedi dilyn cyngor ei gyn-gyfarwyddwr cyfathrebu, Alister Cambell ac mae wedi cadw at; “We don't do God.” Di-asgwrn cefn? Ofn beth fyddai'r Pab yn dweud am ei benderfyniadau? Tybiaf mai'r prif reswm am beidio 'dod allan' yn gynt oedd er mwyn osgoi gorfod ymdrin a'r gwleidyddol o safbwynt Cristnogol-Babyddol. Pe bawn i'n credu'r hyn mae'r Pabyddion yn ei gredu baswn ni'n ei chael hi'n anodd iawn gweithio o fewn unrhyw Blaid/trefn wleidyddol ym Mhrydain heddiw.
Postiwyd gan
Rhys Llwyd
am
12:35 pm
1 Sylwad
Labeli: Cristnogaeth, Eglwys Loegr, Gwladwriaeth, Pabyddiaeth, Rhufain, Tony Blair
13.3.07
UCCF, Undebau Cristnogol a'r Christian Institute
Yn y rhifyn cyfredol o'r Cylchgrawn Efengylaidd mae Steffan Jones yn rhoi sylw i hynt a helynt Undeb Cristnogol Exeter sy'n mynd a'i Prifysgol, gyda chymorth a chefnogaeth y Christian Instutute, i'r Uchel Lys am beidio gadael iddynt fod yn gymdeithas swyddogol (affiliated). Cefais fy hun yn cytuno ar lawer bwynt gan Steffan ond yn anghytuno ar ambell bwynt yn ogystal. Gan fod Steffan wedi nodi mae 'cynnig cyfraniad i'r drafodaeth' oedd ei fwriad dyma fy nghyfraniad i i'r drafodaeth – iach o beth yw trafod yn nhraddodiad y Seiat! Dwi wedi llunio ymateb mawr cynhwysfawr i'w gyhoeddi yn y rhifyn nesaf o'r cylchgrawn gobeithio ond dyma bwt bach o'r ysgrif fwy i chi:
Rhoes Steffan yn y rhifyn diwethaf gryn sylw i'r mudiad The Christian Institute, rai blynyddoedd yn ôl pan ddechreuais ymddiddori yn y berthynas rhwng Cristnogaeth a Gwleidyddiaeth edrychwn ar y mudiad hwn fel chwa o awyr iach. Cristnogion diwygiedig sy'n ymhél a Gwleidyddiaeth – rhagorol meddwn ninnau yn naïfrwydd fy ieuenctid. Erbyn heddiw fodd bynnag, wedi i mi ddod i werthfawrogi'r hyn sydd gan bobl fel Kuyper a Dooyeweerd, ac yng Nghymru R. Tudur Jones, i ddweud am sofraniaeth Duw ym mhob sffêr ac o ganlyniad pob maes gwleidyddol dwi'n tyfu'n gynyddol sgeptigaidd o ethos y Christian Institute. Fe dynnwyd fy sylw at y tyllau yng nghyfundrefn feddwl y Christian Institute wrth ddarllen llyfr gan Jim Wallis yr ydw i wedi rhoi sylw iddo yn y cylchgrawn yma o'r blaen sef 'God Politics.' Yn y llyfr hwnnw mae Wallis yn beirniadu'r Gweriniaethwyr (plaid Bush a'r rhelyw o Gristnogion Efengylaidd yr UDA) am ymladd yr etholiad ar sail 'moral issues'. Ymysg y pynciau moesol yma mae - yn ôl y disgwyl - erthylu, hawl rhieni i ddisgyblu plant, ymchwil stem cells ac yn y blaen. Dadl Wallis yw fod y Gweriniaethwyr yn anghywir i nodi beth ddylai fod yn bynciau moesol i Gristion; hynny yw fe ddylai cynnwys cyllideb y llywodraeth fod yn gymaint o bwnc moesol i Gristion ag ydyw polisi'r llywodraeth ar ymchwil geneteg.
Rwy'n cael sylwad Wallis yn graff ac yn gwbl gywir – i'r Cristion nid oes yna fath beth a phynciau moesol, y mae pob pwnc a phob agwedd o'r gwleidyddol yn ymwneud a gwneud penderfyniad moesol. O ddeddfau yn ymwneud ag erthylu i ddeddfau megis toriadau treth i aelwydydd incwm isel. Ac yn y golau yna yr wyf i wedi troi'n amheus o'r Christian Institute oblegid y mae ganddyn nhw adran ar eu gwefan lle medrwch weld sut pleidleisiodd eich AS ar y pynciau moesol yma yn San Steffan. Dim sôn o gwbl sut pleidleisiodd eich AS ar fater rhyfel Irac, dim sôn o gwbl sut y pleidleisiodd ar fater Ffioedd Dysgu Prifysgol nac ychwaith ar Breifateiddio rhannau o'r NHS. Os y cymerwn fod Iesu yn Benarglwydd ar bopeth y mae i'r materion yna gymaint o arwyddocâd moesol i'r Cristion ag ydyw pynciau megis Deddf Hapchwarae neu Erthylu.
Yn ail rhoes Steffan sylw i'r ffaith fod rhai Undebau Cristnogol yn mynd a'i Prifysgol neu eu Hundeb Myfyrwyr i'r Llys. Mae'r ddysgeidiaeth ar anghydfod yn dra ddiddorol yn y Bregeth ar y Mynydd, Mathew 5:25, sef ceisio'n frwd am gymod tu allan i lys. Rhaid i Gristnogion ddewis eu brwydrau'n ofalus.
Fe ddangosodd Steffan i ni pa mor gymhleth a dyrys yw'r mater yma ac fe ategaf hynny - cymhleth a dyrys tu hwnt yw'r busnes yma! Ond fel casglid carwn nodi dau beth. Yn gyntaf y pwysigrwydd, onid dyletswydd, i'r Cristion ymhél a Gwleidyddiaeth ar bob lefel nid dim ond pan fo'r senario yn codi lle bo rhaid dewis rhwng Iesu a Cesar. Rwy'n argyhoeddedig y byddai'r Undebau Cristnogol a'r byd Cristnogol Diwygiedig yn gyffredinol wedi eu harfogi'n well i ddelio a senario o'r fath petai yn ymhél a gwleidyddiaeth o ddydd i ddydd nid dim ond pan fo sathru ar fawd troed yn digwydd. Yn ail, neges i arweinwyr UCCF ac Undeb Cristnogol Exeter, gan eu bod nhw mor frwd i aros yn rhan o'r sefydliad gellid ond neidio i'r casgliad mai Anglicaniaid ydynt oll. Rheitiach o beth fyddai iddynt ddarllen Congregationalism in England gan Dr. Tudur er mwyn gweld fod yr eglwys ymneilltuol wedi goroesi, onid blodeuo a hynny heb unrhyw gysylltiad a'r sefydliad!
Darllen Pellach
- R. Tudur Jones: 'The Chrisistian Doctrine of the State' yn 'Congregetional Quarterly', XXXI/4, 1953
- R. Tudur Jones: 'Yr Ysbryd Glan' (Caernarfon: Llyfyrfa'r Methodistiaid Calfinaidd, 1972) – pennod 42: 'Yr Ysbryd Glan a Diwylliant'
- R.M. Jones: 'Mawl a Gelynion ei Elynion' (Abertawe: Cyhoeddiadau Barddas, 2002) - y bennod olaf: 'Hanfod Adnabod Bodolaeth yw Moli.'
- Vincent E. Bacote: 'The Spirit in Public Theology – Appropriating the Legacy of Abraham Kuyper' (Grand Rapids Michigan: Baker Academic, 2005)
Postiwyd gan
Rhys Llwyd
am
9:59 am
3
Sylwad
Labeli: Abraham Kuyper, Bobi Jones, Cristnogaeth, Gwladwriaeth, R. Tudur Jones, UCCF
24.1.07
Helynt Mabwysiadu Hoywon
Dwi wedi bod yn dilyn yr helynt hawl i fabwysiadu o asiantaethau mabwysiadu Eglwysig ers tipyn nawr ac mae wedi rhoi pen tost i mi. Ond dwi'n meddwl mod i wedi dod i safbwynt mor glir a medr dyn ddod iddo nawr. Felly dyma roi fy mhen ar y bloc - hyd yn oed os yr anghytunwch (a diau y gwnaiff y rhanfwyaf o ddarllenwyr y bloc) o leia deallwch fy safbwynt.
Er fod gennyf farn glir am wrywgydiaeth (ac wedi ei drafod yn gwbl agored gyda chyfaill i mi sydd o'r anian yna) hyderaf mod i'n dangos parch fel tasw ni'n dangos parch at unrhyw un arall, y math o barch y buaswn ni'n ei ddisgwyl i fi fy hun – dim mwy dim llai. Mae edrych i lawr ar wrywgydwyr gan Gristnogion yn gwbl anghywir oherwydd fel dywedodd yr Iesu; gadewch i hwnnw na syrthiodd daflu y garreg gyntaf. That rules me out felly. Er fod y Beibl yn glir ar y weithred wrywgydiol, nunlle yn y Beibl y maen dweud y dylid trin y bobl yna yn israddol nac yn wahanol - “Ie, pawb yn ddiwahaniaeth, oherwydd y maent oll wedi pechu, ac yn amddifad o ogoniant Duw.” (Rhuf 3:23) Wela i ddim sôn am wneud enghraifft o wrywgydwyr fan yna, yr unig air wela i ydy PAWB. Mae'r eglwys felly yn anghywir i wneud enghraifft.
Ond mae'r ddadl gyhoeddus am hawl cyplau hoyw i fabwysiadu gan asiantaethau mabwysiadu Eglwysig wedi symud ymlaen o'r ddadl draddodiadol am Gristnogaeth a Gwrywgydiaeth – ac i mi felly sy'n credu fod yr Eglwys yn anghywir i ddewis gwrywgydiaeth fel hitting point (Pam ddim meddwdod? Pam ddim y barus? ayyb...) dwi'n falch fod y ddadl wedi symud ymlaen at rywbeth y medra i gyfranogi i'r drafodaeth. Does dim diddordeb gennai i yn yr hitting point single issue o wrywgydiaeth.
Mae'r ddadl wedi symud tuag at yr issue 'Church and State' ac i ffwrdd o'r issue gwrywgydiaeth felly dyna pam mod i wedi dewis ei godi ar y blog. Mae yna egwyddorion mawr yn cael ei taflu i fyny yn yr awyr fan yma ac mae'n rhaid edrych ar rai egwyddorion Cristnogol. Lle mae eich teyrngarwch fel Cristion? Gyda'ch Duw neu gyda'r Wladwriaeth? Dyma rai adnodau perthnasol:
Ni all neb wasanaethu dau feistr; oherwydd bydd un ai'n casau'r naill ac yn caru'r llall, neu'n deyrngar i'r naill ac yn dirmygu'r llall. Ni allwch wasanaethu Duw a Mamon. [Mathew 6:24]
[mae Iesu] ....yn feistr ar bob tywysogaethau ac awdurdod a gallu ac arglwyddiaeth, a phob teitl a geir, nid yn unig yn yr oes bresennol, ond hefyd yn yr oes sydd i ddod. [Effesiaid 1:21]
Y mae ef, ar ôl mynd i mewn i'r nef, ar ddeheulaw Duw, a'r angylion a'r awdurdodau a'r galluoedd wedi eu darostwng iddo. [1 Pedr 3:21]
Hefyd Datguddiad 13 yn ei gyflawnrwydd lle y portreadir Gwladwriaeth Anghrist, dyma 3 adnod sy'n sefyll allan i mi:
Ond hefyd cafodd y gallu i roi anadl i'r ddelw o'r anghenfil cyntaf, fel bod hwnnw yn gallu siarad a gwneud i bawb oedd yn gwrthod addoli'r ddelw gael eu lladd. Roedd hefyd yn gorfodi pawb i gael marc ar eu llaw dde ac ar eu talcen – ie, pawb! Yn fach a mawr, cyfoethog a thlawd, dinasyddion rhydd a chaethweision. Doedd neb yn gallu prynu a gwerthu oni bai fod ganddyn nhw y marc, sef enw yr anghenfil neu'r rhif sy'n cyfateb i'w enw. [Datguddiad 13:15-17]
Er mod i'n weddol ryddfrydol fy agwedd, am Gristion Uniongred, at wrywgydiaeth, yn yr achos yma rwy'n credu fod y Wladwriaeth yn anghywir i orfodi rhywbeth ar gydwybod yr Eglwys a Christnogion. Mae yna asiantaethau mabwysiadu seciwlar allan yna, rhai gyda llaw a wrthododd cyfeillion i mi oedd y Gristnogion rhag mabwysiadu oherwydd iddynt nodi y byddai'r plentyn yn cael ei godi mewn teulu Cristnogol yn hytrach nag mewn teulu 'niwtral'. Plwraliaeth ar y mater yma sydd yn syrthio dawelaf ar fy nghydwybod i – dylai asiantaethau Cristnogol fod yn rhydd o ymyrraeth y wladwriaeth ac fe ddylai rhai seciwlar fod yn rhydd oddi wrth ymyrraeth yr Eglwys.
O'i roi mewn cyd-destun gwahanol. Os ydy Crefydd yr Iddew Uniongred yn dweud mae dim ond yn yr iaith wreiddiol (Hebraeg?!) y dylid darllen y Torah mewn gwasanaeth yna ni fyddai Deddf Iaith Newydd yn dweud “tyff rhaid chi ddechrau ei ddarllen yn ddwy-ieithog nawr” na fyddai!? Wrth gwrs ddim. O'i roi mewn cyd-destun gwahanol mae'r ddadl yn erbyn ymyrraeth yn yr Eglwys yn dod yn dipyn cliriach tybiaf.
Dwi cytuno gyda'r Archesgobion Rowan Williams a John Sentamu pan ddywetsant ddoe; '...conscience should never be legistlated against'. Ond lle bod y Wladwriaeth yn ymyrryd ar ryddid Cristnogion a'r Eglwys fe wydd pawb beth yw fy ateb personol innau. Yn ngeiriau R. Tudur Jones: '...credwn mai ein braint a'n dyletswydd yw llefaru yn eu herbyn.'
Postiwyd gan
Rhys Llwyd
am
11:42 pm
2
Sylwad
Labeli: Cristnogaeth, Gwladwriaeth, Gwrywgydiaeth, R. Tudur Jones