Showing posts with label Rhufain. Show all posts
Showing posts with label Rhufain. Show all posts

25.6.07

Fy Antur Ddelfrydol - teithio o Jerwsalem i Rufain

Mae wedi bod yn freuddwyd gennai ers tro i wneud un o deithiau Paul yr Apostol. Dwi ddim ar fin gwneud, nid yw amser nac arian yn caniatáu ar hyn o bryd; ond dyma nodi yn fras yr hyn baswn ni'n gobeithio ei gyflawni. Y man cychwyn fyddai Jerwsalem gan orffen y daith yn Rhufain. Cyfuno ei deithiau drwy Roeg gyda'i daith olaf i Rufain fyddai'n ddelfrydol. Yr unig ddefnydd o awyren y carwn wneud fyddai hedfan i Jerwsalem o'r DG ar y dechrau a hedfan adref i Gymru o Rufain ar y diwedd. Rhwng Jerwsalem a Rhufain fe fuaswn ni'n ceisio defnyddio trên, bws a bad yn unig – ddim cweit yn gamelod ond yn well na hedfan o un lle i'r llall!

Fodd bynnag ni fydd cyrraedd Jerwsalem yn hawdd oherwydd ers 2001 nid oes yna faes awyr yn Jerwsalem! Byddai rhaid hedfan i Tel Aviv, o Dachwedd 2007 mae Thomson yn rhedeg tair awyren bob wythnos yna o Lundain am £79.99. Beth am deithio o Tel Aviv i Jerwsalem ar drên wedyn? Dim gobaith cyn 2012, dyna pryd fydd y linell o Tel Aviv i Jerwsalem yn agor! Mae pawb sydd yn fy adnabod yn gwybod am fy ffobia o fysys... o diar.

O wel, dwi'n benderfynol o wneud y daith o Jerwsalem i Rufain rhywbryd ac ar ôl potsian ar y wê am ychydig funudau maen reit amlwg y bydd trefnu y daith, pan ddaw'r amser, yn debygol o fod yn dipyn o her a phen tost.

24.6.07

Blair, Rhufain a Gwleidyddiaeth

Mae sî wedi bod ar led ers blynyddoedd fod Tony Blair yn Babydd tu ôl i ddrysau caeëdig ac ei fod yn bwriadu gadael yr Eglwys Anglicanaidd ac ymuno ag Eglwys Rufain wedi iddo adael 10 Stryd Downing. Gyda'r dyddiad yna yn nesáu, wythnos nesaf, mae'r diddordeb yn y saga yma yn poethi yn enwedig felly wrth i Blair, yn ei daith tramor olaf fel Prif Weinidog, ymweld a'r Pab. Beth yn union yw arwyddocâd hyn felly? Wel, ers 1688 mae deddf gwlad yn datgan na all Gatholig fod yn Sofran, yn briod i'r Sofran neu yn ddarpar Sofran, mae'r ddeddf dal mewn grym heddiw. Er, yn dechnolegol, fod perffaith hawl gyfreithiol gan Gatholig fod yn Brif Weinidog does dim un erioed wedi bod – oherwydd perthynas Gwladwriaeth ac Eglwys (h.y. Brotestannaidd) yn Lloegr/Prydain dydy cael Prif Weinidog sy'n Babydd ddim yn 'done thing.'

Ond os ydy Blair wedi bod yn Babydd tu ôl i ddrysau caeedig ers blynyddoedd maith (rhai yn awgrymu ers 30 mlynedd) pa wahaniaeth mewn difri calon a wna ffydd bersonol Prif Weinidog i'w swydd? Wel, mwy na fyddech chi'n meddwl. Mae'r un dadleuon a oedd o amgylch yn 1688 yn bodoli heddiw sef bod Gwleidyddion a phobl mewn swyddi dylanwadol sydd hefyd yn perthyn i Eglwys Rufain yn, ag o fethu meddwl am air gwell, 'euog' o ddilyn cyngor/canllaw y Pab rhagor na cyngor/canllaw yr ysgrythur a'r etholwyr. Er enghraifft yn 2004 fe wrthododd rhai Esgobion Pabyddol weinyddu'r cymun i John Kerry a'i ymgyrchwyr oherwydd eu bod nhw'n fwy 'meddal' ar 'faterion mosegol' na Bush a'i ymgyrchwyr (i beg to differ!)

Yn ogystal ar ddeilema foesegol yna mae'r Pabyddion yn dal safbwynt tra gwahanol i'r Protestaniaid ar ymwnelo yr Eglwys a Gwleidyddiaeth. Mae Eglwys Rufain yn gyfrifol am osod yr Eglwys a'r Byd yn erbyn ei gilydd. Y naill yn Sanctaidd a'r llall yn parhau dan felltith. Gwelant bopeth sy tu allan i'r Eglwys fel petai dan ddylanwad yr un drwg ac fe ddefnyddiwyd Tynghedwr (Exorcist) i ddifa'r grym drwg yma o bopeth ddeuai dan ddylanwad, yn ddylanwad neu yn ysbrydoliaeth ar yr eglwys. Mewn gwlad Gristnogol (fel y mai Prydain Tony Blair) byddai rhaid i bopeth cymdeithasol gael ei roi dan adain yr Eglwys – yr unig le 'saff' i fod (dyma sy'n arwain gwleidyddion catholig i wrando ar y Pab cyn eu Beibl a chyn eu etholwyr). Canlyniad hyn fyddai fod rhaid i'r arweinwyr gwleidyddol a chyfreithiol fod yn eneiniog ac wedi eu clymu i gyffes.

Rhaid cyfaddef mod i'n ysgrifennu'r postiad yma gyda fy het diwinydd Calfinaidd ymlaen ond fy marn niwtral, academaidd hyd yn oed, i yw nad oes gan Babyddiaeth 'rational' lawn/gall i ymwneud a'r gwleidyddol all ffitio i mewn i wleidyddiaeth a threfn ddemocratiaeth gyfoes heddiw. Hyd y gwela i yr opsiynau mae Pabyddiaeth yn cynnig yw tynnu allan o'r sffêr wleidyddol yn llwyr NEU ceisio adfer trefn Theocrataidd a gorfodi moeswedd Gatholig-Gristnogol ar wrthrychau eu gwladwriaeth – ni fyddai yr un o rhain yn 'ymarferol' i Tony Blair ag yntae yn Brif Weinidog Gwladwriaeth neo-Seciwlar Ddemocrataidd Fodern. Fe wydda Blair hyn fe dybiaf, ac drwy gadw ei Babyddiaeth yn dawel tan iddo adael 10 Stryd Downing mae wedi arbed llawer iawn iawn o helynt a dadleuon mosegol, cyfansoddiadol hyd yn oed, am berthynas ffydd – gwladwriaeth – eglwys – moesau – rhyfel – sancteiddrwydd bywyd ayyb.... Yn y bôn, mae wedi dilyn cyngor ei gyn-gyfarwyddwr cyfathrebu, Alister Cambell ac mae wedi cadw at; “We don't do God.” Di-asgwrn cefn? Ofn beth fyddai'r Pab yn dweud am ei benderfyniadau? Tybiaf mai'r prif reswm am beidio 'dod allan' yn gynt oedd er mwyn osgoi gorfod ymdrin a'r gwleidyddol o safbwynt Cristnogol-Babyddol. Pe bawn i'n credu'r hyn mae'r Pabyddion yn ei gredu baswn ni'n ei chael hi'n anodd iawn gweithio o fewn unrhyw Blaid/trefn wleidyddol ym Mhrydain heddiw.

24.4.07

Ar wib yn Rhufain – III

Wedi i ni fwcio'r gwyliau fis yn ôl cynhyrfodd Adrian yn lan gyda'r syniad o fynd i'r Fatican. Er mai Anglican Protestannaidd ydyw mae pawb sydd yn ei adnabod yn gwybod yn iawn ei fod e'n reit hoff o'r diwylliant seremoniol sydd ynghlwm gydag Uchel-Eglwysiaeth ac maen cyfaddef ei hun ei fod yn Anglo-Gatholig parthed ffafriaeth am drefn gwasanaeth. Yn y bôn, mae Adrian y teip (ac mi fydde fe'n cyfaddef hyn ei hun) sy'n dotio gyda gweld crandrwydd a pa well grandrwydd trwy'r byd na chrandrwydd y Fatican. Wrth gwrs i'n cyfaill o Anglican toedd ymweld a'r Fatican fel twristiaid arferol ddim yn ddigon ac felly dyma fe'n ffonio Palas Lambeth a holi cyfaill iddo fan yna a oedd ganddo gyswllt yn y Fatican – oedd – a dyma Adrian yn cael rhif ffôn personol un o Gardinaliaid y Fatican. James Harvey oedd ei enw a fe sydd yn y swydd yr oedd y Pab yn dal cyn iddo ddod yn Bab fel rwy'n deall! Esboniodd Prefect Harvey na allai addo Private Audience gyda'r Pab ond fe allasai addo tocynnau i ni i General Audience gyda'r Pab.

Aethom ni i gasglu'r tocynnau y noson cynt ac wrth gyrraedd y bore wedyn gwawriodd arnom nad oeddem ni wedi cael cymaint a hynny o special treatment oherwydd roedd oddeutu 10,000 o bobl eraill, pererindotwyr, yn chwifio eu gwahoddiadau o amgylch y lle. Ond yna sylweddolais fod ein gwahoddiad ni liw gwahanol i un pawb arall a dyma ni'n cael ein brysio ymlaen i'r segment flaen yn y dorf i fyny ar yr un lefel a'r Pab. Eistedd yn y cefn (wel cefn y rhan lle oeddem ni) yn hapus fy myd gwnes i ond fe aeth Adrian reit i'r blaen ac fe gafodd ei gofleidio gan y Pab.

Roedd gweld y sioe yn dipyn o brofiad ac rwy'n falch mod i wedi mynychu. Ond roedd y cyfan ychydig yn anghyfforddus i mi fel Cristion. Roedd y pedastl yr oedd y Pab yn cael ei osod yn anghywir, nid yw'n Gristion mwy na gwell na fwy cyfiawn nac unrhyw Gristion arall ac mae unrhyw sôn ei fod anffaeledig yn sylfaenol Anghristnogol. Crist ydy'r unig gyfryngwr a'r unig un an-ffaeledig a fu ac sydd ond roedd llawer o'r dorf yn trin y Pab fel y cyfryngwr.

23.4.07

Ar wib yn Rhufain – II

Ar ein diwrnod llawn cyntaf yn Rhufain dyma ni'n dal bws yr hostel i ganol y ddinas. Yng nghefn y bws roedd yna griw o Americanwyr swnllyd - “I come from Utuah and he comes from Vermont” ayyb... a dyma fi'n dweud wrth Menna ei bod hi'n ddadlennol/diddorol ein bod ni wedi clywed am eu trefi/dinasoedd nhw ond na fusen nhw wedi clywed am Aberystwyth neu Gaerfyrddin. Ac yna daeth y frawddeg syfrdanol yma “We'r over at Uni in Swansea, Wales”! Yn eironig ddigon, nid yn unig yr oedden nhw yn gwybod am Gymru ond roedden nhw'n byw yng Nghymru. Rhywsut dyma ni'n dechrau trafod gwleidyddiaeth Cymru gyda nhw, roedden nhw yn ymwybodol fod etholiad ar droed yng Nghymru ond dim ond un plaid oedden nhw wedi clywed amdani ac wedi derbyn taflen sef neb llai na Phlaid Cymru – rhyfeddol! Aethant ymlaen i sôn eu bod nhw wedi astudio modiwl 'Hanes Diweddar Cymru' ac roedden nhw'n reit wybodus (ac ystyried eu bod nhw o'r UDA ac fod y sgwrs yma yn cymryd lle yn yr Eidal) ynglŷn a Gwynfor Evans a buddugoliaeth '66 ac hefyd am frwydr yr iaith Gymraeg. Roedden nhw'n gydymdeimladol iawn tuag at achos y Gymraeg ac at genedlaetholdeb Gymreig – maen amlwg fod y darlithydd, pwy bynnag ydoedd, wedi cael cryn ddylanwad arnynt. Mae hyn yn dangos yn glir y fath rym sydd gan addysg ac yn arbennig dysgu hanes ar feddwl pobl. Cyn ffarwelio a nhw dyma dynnu llun a chyfnewid rhifau 'cell phone'.

Ymweld ar hen ddinas oedd y bwriad y diwrnod hwn felly lle gwell i ddechrau ond y Colesiwm, yr adeilad enwocaf i oroesi o gyfnod yr ymerodraeth Rufeinig. Enw gwreiddiol y Colesiwm oedd yr 'Amphitheatrum Flavium'. Yn ei ddydd roedd yn medru dal hyd at 50,000 o bobl ac fe'i defnyddid ar gyfer brwydrau y Gladiators ac adloniant anwaraidd tebyg. Peidiwyd a defnyddio y Colesiwm i ddibenion ymladd (pobl nac anifeiliaid) wedi'r 6ed ganrif wedi i'r Ymeradwr ac awdurdodau'r Eglwys benderfynu ei fod yn arfer barbaraidd ac anwaraidd na fyn y Rhufeinwyr goleuedig ei gymeradwyo. Dros y canrifoedd yn dilyn fe ddefnyddiwyd yr adeilad i ddibenion gwahanol ac fe ddygwyd y cerrig gwerthfawr, megis y lloriau marmor, gan yr Ymerawdwyr a'i swyddogion ar gyfer eu palasau. Yn 1749 dynodwyd yr adeilad yn fangre sanctaidd er coffhâd i'r Cristnogion a ferthyrwyd oherwydd eu ffydd yn y gemau yna. Roedd hi'n gwbl ryfeddol fod y fath adeilad, un a oedd cymaint o faint a Stadiwm y Mileniwm, wedi ei godi dros 2,000 o flynyddoedd yn ôl ac fod ei brif furiau yn sefyll hyd heddiw.

Yn y prynhawn aethom ar daith gerdded o amgylch hen Balas yr Ymerawdwyr ac hefyd ymweld ac olion yr Hen Ddinas. Unwaith yn rhagor roedd hi'n anodd credu fod y fath waith adeiladu enfawr wedi medru digwydd mewn oes cyn Crist heb dechnoleg modern heddiw. Ymlaen a ni wedyn i godi tocynnau go hynod o'r Fatican (mwy o hanes hyn yn y postiad nesaf) ac yna mwynhau ein Pitzza cyntaf!

22.4.07

Ar wib yn Rhufain – I

Taith ffwdanus oedd hi i'r maes awyr ym Mryste. Yn hytrach na dilyn y briffordd o Landdarog (Pentre Menna) fe benderfynwyd teithio ar hyd ffordd wledig a awgrymwyd gan gyd-weithiwr i Lewis (Tad Menna). Myfi oedd yng ngofal y map ac wedi i mi fethu cyfarwyddo Lewis yn gywir unwaith aeth y cyfan yn ffradach a dyna ni ar goll ac amser cau check-in ein hawyren yn prysur agosau. Ond diolch byth yn araf bach trodd y ffyrdd bach troellog yn ffyrdd mawr syth a dyma ni'n cyradd y maes awyr.

Hedfan gyda'r cwmni hynod easyJet oeddem ni. Un o'r 'budjet airlines' – dy chi ddim yn cael dim byd heblaw am sedd ac dydy'r sedd honno ddim hyd yn oed wedi ei neilltuo yn arbennig i chi – nid annhebyg i deithio ar fws cyhoeddus neu dren; oni bai eich bod chi filltiroedd lawer yn yr awyr ac yn teithio ar cyflymder i rai cannoedd milltir yr awr! Gwydraid o win ar yr awyren ac yna eistedd yn ôl ac ymlacio (rhywbeth yr ydw i'n ei gael yn reit anodd gwneud ar awyren fel rheol – roedd y gwin yn gymorth.)

Cyrraedd y maes awyr a darganfod (yn ôl yr arfer gyda'r 'budjet airlines') fod y maes wedi ei leoli gryn bellter o ddinas Rhufain ei hun. Roedd bysys 'shuttle' yn rhedeg i ganol y ddinas ond roedd ein hostel ni tu allan i'r canol yr ochr draw i'r ddinas felly toedd y bws i ganol y ddinas fawr o help. Mynd i holi wedyn faint buasai tacsi yn costio – 60 ewro – braidd yn ddrud ond doedd hi ddim yn ymddangos fel bo fawr o opsiwn. Yna dyma ni'n dangos cyfeiriad yr hostel i aelod o staff y maes awyr ac, “wa-la”, dyma hi'n cynllunio taith hynod i ni yn defnyddio cyfuniad o fysys cyhoeddus a threnau tanddaearol. Un bws o'r maes awyr i ben pellach y linell tanddaearol – aros ar hwnnw tan y pen arall – yna dal bws arall fyddai'n ein gollwng ni union tu allan yr hostel. Awr yn ddiweddarach a dim ond 2 ewro yn dlotach dyma'r bws yn ein gollwch ger yr hostel. Roedd hi'n nosi a ninnau wedi blino teithio felly aros o amgylch yr hostel am swper oedd y cynllwyn y noson gyntaf.

Mwy am y gwyliau i ddod ar y blog dros yr wythnos nesaf, yn y cyfamser beth am i chi ddarllen blog newydd Adrian Morgan (a fu yn Rhufain gyda mi)?

13.4.07

O Cromwell i'r Cesar

Rwyf wedi dod i ben gydag cymal nesaf fy ymchwil ddoe ac wedi dechrau ysgrifennu traethawd ar sail y dwy/dair mis diwethaf o'r ymchwil – teitl bachog y traethawd fydd:

'Iesu Grist ynteu Oliver Cromwell?':
Croes-honiadau o ddwyfoldeb yng Ngwleidyddiaeth y Piwritaniaid 1640-1660


Os cai unrhyw hwyl gyda'r traethawd fe rof peth o'i gynnwys ar y blog gyda hyn i chi sydd a diddordeb. Diwrnod prysur gyda Phlaid Cymru heddiw, canfasio gyda Elin Jones yng Nghomins Coch bore 'ma, dosbarthu taflenni ym mhentrefi Gogledd y Sir megis Ffwrnes p'nawma ac yna canfasio gyda neb llai na Dafydd Wigely yn Bowstreet heno – diwrnod difyr felly.

Dyma fydd y postiad olaf am wythnos o leiaf oherwydd rwy'n cymryd seibiant o'r gwaith ymchwil a'r gwaith etholiadol ac yn dianc (gyda Menna, Adrian ac Angharad) i Rufain am wythnos. Dy ni'n hedfan o Fryste ben bore Llun a dwi'n disgwyl ymlaen yn eiddgar. Fe gewch adroddiad llawn ar y blog wedi i fi ddychwelyd.