Showing posts with label Piwritaniaid. Show all posts
Showing posts with label Piwritaniaid. Show all posts

4.6.08

Llythyr i'r Pedair Tudalen

Mae'r Pedair Tudalen, sef pedair tudalen cyffredin y tri papur enwadol wythnosol wedi cyhoeddi llythyr o'm heiddo i wythnos yma. Gan y tybiaf mae bychan iawn yw nifer darllenwyr y blog sydd wedi tanysgrifio i'r Goleuad, Y Tyst neu Seren Cymru dyma gyhoeddi'r llythyr yma hefyd. Gosod her ac nid beirniadu oedd diben y llythyr ond rwy'n barod am "frosty responce" ys dywed y Sais:

Annwyl Olygydd,

Cynhyrfus yn wir oedd clywed yr Annibynwyr yn ddiweddar ar donfeddi'r BBC yn beirniadu Esgobaeth Tŷ Ddewi am ddiffyg dwyieithrwydd yn eu caffi a'u canolfan groeso newydd. Mwy cynhyrfus byth oedd clywed yr Annibynwyr eto fyth yn galw ar Eglwys Loegr i ymddiheuro am ferthyru John Penry, ein John Penry ni, nol yn 1593. O roi fy mhen ar y bloc maen debyg y buaswn yn cymryd ochr yr Annibynwyr yn y ddau achos yma ond y gwir plaen amdani yw fod ein pennau ni ddim ar y bloc. Mae diffyg dwyieithrwydd yn Nŷ Ddewi yn broblem maen siŵr ac dylai fe dylai Rowan Williams, maen debyg, gydnabod yn gyhoeddus fod yr hyn ddigwyddodd i John Penry yn enghraifft ddifrifol o gam weinyddu cyfiawnder. Ond gadewch i ni ddeall un peth: er cymaint yw ein edmygedd o wŷr arbennig fel John Penry a Thomas Charles bychan iawn iawn yw eu mawredd ochr yn ochr a fy arwr i, Iesu Grist. A dyma ddod at graidd fy nghonsyrn - er fod y ddau bwnc uchod a glywyd sôn amdanynt yn y cyfryngau yn ddiweddar yn bynciau pwysig i'w trafod yn eu lle; pam, o pam! na glywir mwy o sôn yn gyhoeddus mewn ffordd feiddgar bydd yn ennyn sylw'r cyfryngau am Iesu Grist, a'i groesholiad a'i atgyfodiad drosom ni? Mae'n drist o beth mae ymylol os nad anweledig yw unrhyw sôn am Iesu Grist pan fo'r Eglwys yn llwyddo i gael sylw yn y cyfryngau.

Nid pietydd sy'n siarad yma nac ychwaith un sy'n difrîo hanes, ddim o gwbl, ond maen rhaid i ni ddeall mae nid ymarferiad wedi ei ysgaru o weddill gwaith yr Eglwys yw gwleidydda, hanesydda a rhyddhau datganiadau fel y ddau uchod - mae'r cyfan yn rhan o'r genhadaeth fawr a meiddiwn ni anghofio beth yw diben a raison d'etre y genhadaeth honno. Diben y genhadaeth honno yw gogoneddu Duw a chyflwyno Iesu Grist y gwaredwr o'r newydd i'n cyd-Gymry heddiw. Mae galw ar Eglwys Loegr i gydnabod anfoesoldeb yr hyn a wnaed i John Penry yn iawn yn ei le ond o wrando ar y ddadl gyhoeddus methwyd a'm argyhoeddi o bwrpas ehangach y datganiad na chwaith deall lle yn union yr oedd y datganiad yn ffitio mewn yn y genhadaeth ehangach i sôn am Iesu Grist.

I mi nid achos o ddathlu oedd clywed fod y BBC wedi cymryd at y stori hon am John Penry ond yn hytrach mater o dristwch gan ei fod yn arwydd o'r amserau. Ni wnaeth neb fwy na'r diweddar Dr. Tudur Jones i'n dysgu am fywyd a gwaith John Penry ond difyr oedd dod ar draws dyfyniad ganddo yn ddiweddar pan ddywedodd nol yn 1973 “mai'r Ffydd Gristnogol sydd i gael y flaenoriaeth mewn capel - nid gweithgarwch diwylliannol, pa mor werthfawr bynnag y bo.” Onid yw'r sylw diweddar a gaed yn y cyfryngau wedi profi mae llais un yn gwaeddi yn yr anialwch oedd llais proffwydol Dr. Tudur? Mae ffasiwn ddatganiadau yn iawn yn eu lle ond mae yna rhywbeth mawr o'i le pan mai datganiadau o'r fath yw'r unig ddatganiadau sy'n dod allan o'r Eglwys i'r gymdeithas ehangach. Cydblethu'r cyfan yw'r gyfrinach er mwyn i ni, fel Nehemeia, ail godi'r muriau ysbrydol yn ogystal a'r diwylliannol-wleidyddol.

Cofion pur,

Rhys Llwyd

Efrydydd Ymchwil
Adran Ddiwinyddiaeth, Bangor

2.7.07

Ar y Diwrnod hwn: Gorffennaf 2

Gorffennaf yr ail, diwrnod diddorol. Ar y diwrnod hwn yn 1644 y digwyddodd Brwydr Marston Moor – un o frwydrau enwocaf a mwyaf arwyddocaol Rhyfel Cartref Lloegr. Wedi i'r Seneddwyr drechu'r Brenhinwyr nepell o ddinas Efrog roedd y Seneddwyr yn rhydd, wedi i'r Brenhinwyr a oroesodd y frwydr ffoi i'r de, i gipio dinas Efrog cadarnle olaf y Brenin yn y Gogledd. Dyma frwydr arall lle gwelwyd Oliver Cromwell yn dod i amlygrwydd – llwyddodd i gyfeirio ei reng ef yr holl ffordd o amgylch y Brenhinwyr gan eu taro o'r cefn a rheng Fairfax yn eu taro o'r blaen. Maen siŵr ei bod hi wedi bod yn uffern ar y ddaear, yn llythrennol, i'r Brenhinwyr y diwrnod hwnnw. Ar y diwrnod hwn hefyd yn 1853 y dechreuodd Rhyfel y Crimea wrth i Rwsia ymosod ar Dwrci.

Ond mae yna bethau cadarnhaol i'w dweud am y diwrnod yma ac yn berthnasol i ni'r Cymry bethau yn ymwneud a hawliau lleiafrifol a rhyddhau y gorthrymedig. Ar y diwrnod yma yn 1777 gwaharddwyd caethwasiaeth yn Vermont, y dalaith gyntaf i'w wahardd. Ac ar y diwrnod yma yn 1964 arwyddodd yr Arlywydd Lyndon B. Johnson y 'Civil Rights Act of 1964' oedd yn gwahardd arwahanrwydd mewn llefydd cyhoeddus.

Wedyn beth am bobl enwog a fu farw ar y diwrnod yma? Neb llai na'r athronydd mawr Jean-Jacques Rousseau. Beth am bobl yn cael eu penau blwyddau ar y diwrnod hwn? Wel, neb llai na'r Ceidwadwr Ken Clarke, ac o ie, un bach arall – fi!

27.6.07

Pamffledi'r Piwritaniaid

Dwi ddim wedi sôn ar y blog am fy ngwaith ymchwil ers tro. Felly, gan wybod bod fy nhiwtor yn darllen y blog o dro i dro, dyma sôn am yr hyn dwi wedi bod yn darllen dros yr wythnosau diwethaf. Dwi, o'r diwedd, wedi gorffen cropian drwy gyfrolau sychion Thomas Richards a bellach wedi symud ymlaen i edrych beth sydd gan haneswyr eraill i ddweud am y cyfnod Piwritanaidd yn ogystal ac edrych ar weithiau'r Piwritaniaid eu hunain – ffynonellau gwreiddiol hynny yw. Gair am y rheini i ddechrau.

Roedd y Piwritaniaid yn deall yn iawn beth oedd grym y gair printiedig. Dyna oedd asgwrn cefn y symudiad i ddweud y gwir sef gallu y werin bobl i edrych ar yr ysgrythurau drostynt hwy eu hunain a dod i argyhoeddiadau yn annibynnol o unrhyw Offeiriad neu awdurdodau Eglwysig. Yng ngeiriau Christopher Hill;

...its exaltation of preaching and the study of the Bible was continually training consciences which would stand out against any attempt to regiment them or dictate to them. After their defeat in the 1590s the Puritan clergy put more emphasis on preaching, character-forming, morale-building, less on forms of church organization and discipline. In the long run they forged a better weapon, which in 1640 was too strong to be broken as it had been in the 1590s.


Yn ogystal ar Gair ei hun gwelodd y Piwritaniaid fod cyhoeddi tractiau yn fodd o ledu eu neges a'u cenhadaeth yn ogystal. Mae'r rhain ar gael, yr argraffiadau cyntaf, i'w darllen yn y Llyfrgell Genedlaethol heddiw. Ymysg y rhai dwi wedi eu darllen y mae: “Christ and Moses Excellency, or Sion and Sinai's Glory”, “'Saving Faith' set forth In Three Dialogues, or Conferences.. Whereunto is added Two Sermons One of them Preached before the Parliament the other Before the Lord Mayor of the City of London” a “Common-Prayer-Book No Divine Service” oll gan Vavasor Powell, a Vavasor, wrth gwrs, oedd testun traethawd D.Phil R. Tudur Jones.

Ar ddechrau'r llyfrau mae Vavasor Powell yn rhestru termai ac yn eu diffinio. Pam? Wel, mi dybiaf er mwyn apelio at y werin ac er mwyn addysgu'r werin. Mae prif gorff ei weithiau yn cymryd ffurf cwestiwn ac ateb – nid annhebyg i fformat llyfrau mwy diweddar Thomas Charles, Yr Hyfforddwr a Rhodd Mam. Unwaith eto, tybiaf fod y ffurf yma er mwyn gwneud y gwaith yn hygyrch i bobl cyffredin. Diddorol nodi hefyd fod Vavasor Powell yn troednodi popeth maen dweud gyda cyfeiriad Beiblaidd, bron fel petai yn bedantig am y peth. Yn amlwg yn bwysig iddo fod y ddysgeidiaeth maen gyflwyno yn ei lyfr yn ddysgeidiaeth ag iddo seiliau Beiblaidd.

Mae'r Beibl yn cael lle cwbwl ganolog yn athrawiaeth Vavasor Powell – dyma yn amlwg oedd ei arf yn erbyn ei wrthwynebwyr. Gan ei fod yn gwrthwynebu awdurdod y Pab (wrth reswm) ac awdurdod Eglwys Loegr roedd rhaid troi i rywle arall am awdurdod ac fe aeth, yn amlwg, i edrych ar yr ysgrythurau drosto ef ei hun ac felly roedd yn medru dadlau yn erbyn safbwyntiau an-Feiblaidd oedd yn codi yn ei ddydd. Dyma yn wir yw'r patrwm clasurol o Ddiwygio (Reformation), unigolion yn mynd i edrych eto ar y Gair trostynt hwy eu hunain gan oddiweddyd gau-pwysleisiau a gau-awdurdod yr Eglwys sefydledig a'i harweinwyr.

Dyma fi wedi rhoi pregeth i chi heb sylwi. Gair am y llyfrau eilradd (ond nid o ran safon) dwi wedi bod yn eu darllen rhywbryd eto!

20.5.07

Sadwrn Slobaidd


Dwi wedi cael diwrnod hollol ymlaciol heddiw, neu fel y byddai Mam yn disgrifio'r diwrnod; “Rhys, ti jest di bod yn slob heddiw.” Weithiau maen rhaid i chi gael diwrnod o beidio mynd i nunlle a pheidio gwneud dim byd o bwys yn toes? Dwi wedi bod yn cael ychydig o nostalgia heddiw drwy chwarae gemau cyfrifiadur – dwi byth yn cael cyfle i 'chwarae' ar y cyfrifiadur yn aml (er mod i ar y cyfrifiadur yn gwneud rhywbeth bob munud o'r dydd) ond pan dwi yn cael cyfle dwi'n gallu mynd yn hooked – chwarae am dridiau solet yna peidio cyffwrdd a gem am fisoedd. Ar hyn o bryd dwi yng nghanol y tridiau solet ond cyn y penwythnos yma doeddwn ni heb gyffwrdd a gemau ers cyn y Nadolig. (Dyna fy ymwadiad allan o'r ffordd rhag ofn fod fy nghariad neu fy nghyfarwyddwr ymchwil yn darllen hwn!)

Y gem heddiw oedd 'Medieval II: Total War', y gem gafodd sylw yn Golwg yn ddiweddar gan eich bod chi'n medru brwydro yn enw Owain Glyndŵr a Llywelyn – i ddweud y gwir bai Golwg yw y binge gemau dwi yn ei ganol ar hyn o bryd oherwydd oni bai i mi ddarllen am y gem yn Golwg ni fuaswn wedi syrffio draw i Amazon a'i archebu!

Ond mae yna elfen addysgol, o ryw fath, yn perthyn i'r gem. Dy chi'n rheoli brwydrau nid annhebyg i'r rhai yr oedd Vavasor Powell ac Oliver Cromwell yn eu canol yn y Rhyfel Cartref. Sydd yn dod a mi at y llyfr dwi wedi bod yn darllen penwythnos yma pan fo'n llygaid yn gwaeddi “Dim mwy o syllu ar sgrin plîs Rhys!”, 'God's Englishman' gan Christopher Hill.

Dwi wedi cwyno ar y blog yma o'r blaen am lyfrau Thomas Richards ar y cyfnod Piwritanaidd a'r gorfodaeth sydd arnaf i weithio trwyddynt oll yn araf bach. Wel, i leddfu'r boen dwi'n darllen llyfrau gan awduron eraill am yr un cyfnod run pryd. Llyfr Christopher Hill yw'r 'companion to Thomas Richards' diweddara, llyfr penodol am Oliver Cromwell. Mae'n lyfr campus, syml ond yn llawn ffeithiau angenrheidiol (mae llyfrau Thomas Richards yn llawn ffeithiau nad sydd o'r rheidrwydd yn angenrheidiol ag ystyried mod i'n bwriadu ysgrifennu PhD ar Ddiwinydd oedd yn byw dair canrif yn ddiweddarach!) ac yn dod a'r cyfnod yn fyw, rhywbeth y mae Thomas Richards yn methu'n drychinebus a gwneud.

Yn ôl i faes y gad yn awr, at Cromwell heno dwi'n meddwl cyn mentro yn ôl at y gem yfory – ar y Sabath, twt lol.

13.4.07

O Cromwell i'r Cesar

Rwyf wedi dod i ben gydag cymal nesaf fy ymchwil ddoe ac wedi dechrau ysgrifennu traethawd ar sail y dwy/dair mis diwethaf o'r ymchwil – teitl bachog y traethawd fydd:

'Iesu Grist ynteu Oliver Cromwell?':
Croes-honiadau o ddwyfoldeb yng Ngwleidyddiaeth y Piwritaniaid 1640-1660


Os cai unrhyw hwyl gyda'r traethawd fe rof peth o'i gynnwys ar y blog gyda hyn i chi sydd a diddordeb. Diwrnod prysur gyda Phlaid Cymru heddiw, canfasio gyda Elin Jones yng Nghomins Coch bore 'ma, dosbarthu taflenni ym mhentrefi Gogledd y Sir megis Ffwrnes p'nawma ac yna canfasio gyda neb llai na Dafydd Wigely yn Bowstreet heno – diwrnod difyr felly.

Dyma fydd y postiad olaf am wythnos o leiaf oherwydd rwy'n cymryd seibiant o'r gwaith ymchwil a'r gwaith etholiadol ac yn dianc (gyda Menna, Adrian ac Angharad) i Rufain am wythnos. Dy ni'n hedfan o Fryste ben bore Llun a dwi'n disgwyl ymlaen yn eiddgar. Fe gewch adroddiad llawn ar y blog wedi i fi ddychwelyd.

15.3.07

Thomas Richards


Ar hyn o bryd dwi yn darllen trwy gyfrolau Thomas Richards ar y cyfnod Piwritanaidd. Mae'r darllen yn drwm a dweud y lleiaf. I leddfu ar y boen, ac, i wneud y gwaith mwy amrywiol dwi wedi penderfynu cyfrannu at y Wiki Cymraeg o bryd i'w gilydd. Dwi wedi cychwyn tudalen ar Vavasor Powell (bydd llawer mwy eto i'w ychwanegu i'r ddalen yma) ac hefyd wedi ysgrifennu tudalen ar Thomas Richards ei hun. Dyma'r baragraff cyntaf:

Hanesydd oedd Thomas Richards (1878-1962) MA, D.Litt, F.R.Hist.S. Caiff ei adnabod yn ogystal fel 'Doc Tom'. Fe'i anwyd a'i magwyd yng ngogledd Sir Aberteifi. Graddiodd, a hynny heb gyrraedd ei botensial yn ei dyb ef, o Brifysgol Gogledd Cymru, Bangor, ac yna cychwyn gwaith fel athro ysgol ym Maesteg. Er diben profi na wnaeth gyfiawnder ag ef ei hun yn ystod ei astudiaethau is-raddedig cofrestrodd draethawd MA ar 'Cymru a Deddf Taenu'r Efengyl 1650-3' yn 1910. Hyd ei farwolaeth yn 1962 ni ddiflasodd ar astudio hanes Cymru yn yr Ail Ganrif ar Bymtheg, y cyfnod Piwritanaidd.

...darllen ymlaen

13.2.07

Annwyl Ioan Matthews

Llawer un wedi cwyno fod y blog wedi bod yn dawel yn ddiweddar. Dwi di bod reit brysur rhwng gwahanol bethau. Y Piwritaniaid yn fy nghadw'n brysur rhan fwyaf o'r dydd a digon o bethau erill mlaen hefyd. Dwi'n trio helpu Menna cymaint fedrai yn y gwaith paratoi ar gyfer y rali dydd Sadwrn (dewch!) - dwi'n helpu i ffilmio a torri fideo ddogfen fer ar ran UMCA i chwarae yn y rali. Wrth gwrs, unwaith bydd hi'n barod fe rof hi fyny ar y blog i chi weld hefyd. Gig cyntaf Kenavo ers misoedd lawer nos Wener felly bydd rhaid meddwl paratoi rywfaint ar gyfer honno hefyd. Felly ar y cyfan wythnos brysur ac felly heb amser i sgwennu postiad difyr dim ond esbonio pam nad oes amser gyda fi roi postiaid difyr!

Ond dyma rywbeth bach difyr i chithau sy'n dilyn yr ymgyrch am Goleg Ffederal Cymraeg. Yn dilyn adroddiad Arad mae'r Brifysgol a HEFCW (y cyngor cyllido) wedi symud at strwythur newydd o reoli. Dwi wedi ysgrifennu at Ioan Matthews yn holi am fanylion y strwythur newydd. Dwi'n ofni mae jest symud pethau o gwmpas yn ffenest y siop maen nhw'n gwneud a prin gallaf ddychmygu y daw y newid strwythurol/pwyllgorol yma a lawer o wahaniaeth i fyfyrwyr ar lawr gwlad. Dyma'r llythyr y gobeithiaf gael ateb iddi yn fuan:

10.2.2007

Annwyl Ioan Matthews,

Yn dilyn diddymu'r Grŵp Llywio Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg mewn Addysg Uwch dan gadeiryddiaeth Andrew Green dyma gysylltu i holi am y strwythurau newydd bydd mewn lle. Rydym ni ar ddeall y bydd HEFCW yn sefydlu Grŵp Sector Addysg Uwch fydd a chynrychiolwyr o bob SAU yn aelod gan eich cynnwys chwi o'r Ganolfan Datblygu Addysg Cyfrwng Cymraeg. A fedrwch ddatgelu a chadarnhau:

  • Pwy fydd aelodau'r Grŵp newydd yma?
  • Beth yn union bydd dyletswyddau a chyfrifoldebau'r grŵp newydd?
  • Pa mor aml y bydd y grŵp yn cyfarfod?
  • A phwy, sut a phle y bydd y grŵp yn cael ei gweinyddu?
  • Pwy fydd y Cadeirydd?

Rydym a'r ddeall hefyd fod cynlluniau ar droed gan HEFCW i sefydlu Fforwm Sector Addysg Uwch fydd a chynrychiolaeth ehangach na'r grŵp uchod fydd yn cynnwys cynrychiolaeth gan Undebau'r Myfyrwyr. A fedrwch gadarnhau aelodaeth, rôl a phwrpas y fforwm hwn:

  • Pwy fydd aelodau'r fforwm newydd yma?
  • Beth yn union bydd dyletswyddau a chyfrifoldebau'r fforwm newydd?
  • Pa mor aml y bydd y bydd y fforwm yn cyfarfod?
  • A phwy, sut a phle y bydd y fforwm yn cael ei gweinyddu?
  • Pwy fydd y Cadeirydd?
  • A fydd cyfle i Gymdeithas yr Iaith wneud cais am le ar y fforwm?

Gobeithiaf dderbyn eich cydweithrediad llwyr er mwyn i ni ddeall sut mae'r strwythurau a'r pwyllgorau newydd am weithredu i symud Addysg Gymraeg ymlaen yn y Sector Addysg Uwch.

Yn gywir,

Rhys Llwyd
Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

30.1.07

Bangor a Vavasor Powell

Dros y penwythnos fuesi lan ym Mangor ym Mhrotest Cymdeithas yr Iaith dros Ddeddf Iaith Newydd. Roedd rhyw 150 yna a rhaid mi ddeud mae dyma'r brotest fwyaf lwyddiannus i mi ei fynychu gan y Gymdeithas ers y blynyddoedd. Wedi i drafodaethau gyda chwmni Morrisons dorri i lawr fe benderfynwyd eu targedu gyda phrotest. Yn ddiddorol ddigon dywedd y rheolwr "We don't have to provide welsh stuff, we are not oblijed by law to do so - your argument is with the Welsh office therefore" A'r Llywodrarth sy'n dweud nad oes angen newid y ddeddf gan y gwnaiff cwmniau cyhoeddus fel Morrision ddarparu'n ddwy-ieithog allan o ewyllys da - hurt.

Isod wele fideo you tube o gasgliad o'r lluniau dynesi pan i lawr mewn lobi yn y Cynulliad cyn 'dolig ac yna lluniau o'r Brotest ddydd Sadwrn. Rhaid cael fy nanell nol mewn i'r Piwritaniaid yn awr - cyn mynd yn ôl at gyfrolau mawr Thomas Richards dwi'n cael hoe fach ac yn gweithio trwy Vavasor Powell gan R. Tudur Jones ei hun. Dyma'r llyfr cyntaf gan Dr. Tudur ei hun i mi weithio trwyddo yn fanwl ac dwi'n cael blas! Mwynhewch y fideo: