Showing posts with label Vavasor Powell. Show all posts
Showing posts with label Vavasor Powell. Show all posts

27.6.07

Pamffledi'r Piwritaniaid

Dwi ddim wedi sôn ar y blog am fy ngwaith ymchwil ers tro. Felly, gan wybod bod fy nhiwtor yn darllen y blog o dro i dro, dyma sôn am yr hyn dwi wedi bod yn darllen dros yr wythnosau diwethaf. Dwi, o'r diwedd, wedi gorffen cropian drwy gyfrolau sychion Thomas Richards a bellach wedi symud ymlaen i edrych beth sydd gan haneswyr eraill i ddweud am y cyfnod Piwritanaidd yn ogystal ac edrych ar weithiau'r Piwritaniaid eu hunain – ffynonellau gwreiddiol hynny yw. Gair am y rheini i ddechrau.

Roedd y Piwritaniaid yn deall yn iawn beth oedd grym y gair printiedig. Dyna oedd asgwrn cefn y symudiad i ddweud y gwir sef gallu y werin bobl i edrych ar yr ysgrythurau drostynt hwy eu hunain a dod i argyhoeddiadau yn annibynnol o unrhyw Offeiriad neu awdurdodau Eglwysig. Yng ngeiriau Christopher Hill;

...its exaltation of preaching and the study of the Bible was continually training consciences which would stand out against any attempt to regiment them or dictate to them. After their defeat in the 1590s the Puritan clergy put more emphasis on preaching, character-forming, morale-building, less on forms of church organization and discipline. In the long run they forged a better weapon, which in 1640 was too strong to be broken as it had been in the 1590s.


Yn ogystal ar Gair ei hun gwelodd y Piwritaniaid fod cyhoeddi tractiau yn fodd o ledu eu neges a'u cenhadaeth yn ogystal. Mae'r rhain ar gael, yr argraffiadau cyntaf, i'w darllen yn y Llyfrgell Genedlaethol heddiw. Ymysg y rhai dwi wedi eu darllen y mae: “Christ and Moses Excellency, or Sion and Sinai's Glory”, “'Saving Faith' set forth In Three Dialogues, or Conferences.. Whereunto is added Two Sermons One of them Preached before the Parliament the other Before the Lord Mayor of the City of London” a “Common-Prayer-Book No Divine Service” oll gan Vavasor Powell, a Vavasor, wrth gwrs, oedd testun traethawd D.Phil R. Tudur Jones.

Ar ddechrau'r llyfrau mae Vavasor Powell yn rhestru termai ac yn eu diffinio. Pam? Wel, mi dybiaf er mwyn apelio at y werin ac er mwyn addysgu'r werin. Mae prif gorff ei weithiau yn cymryd ffurf cwestiwn ac ateb – nid annhebyg i fformat llyfrau mwy diweddar Thomas Charles, Yr Hyfforddwr a Rhodd Mam. Unwaith eto, tybiaf fod y ffurf yma er mwyn gwneud y gwaith yn hygyrch i bobl cyffredin. Diddorol nodi hefyd fod Vavasor Powell yn troednodi popeth maen dweud gyda cyfeiriad Beiblaidd, bron fel petai yn bedantig am y peth. Yn amlwg yn bwysig iddo fod y ddysgeidiaeth maen gyflwyno yn ei lyfr yn ddysgeidiaeth ag iddo seiliau Beiblaidd.

Mae'r Beibl yn cael lle cwbwl ganolog yn athrawiaeth Vavasor Powell – dyma yn amlwg oedd ei arf yn erbyn ei wrthwynebwyr. Gan ei fod yn gwrthwynebu awdurdod y Pab (wrth reswm) ac awdurdod Eglwys Loegr roedd rhaid troi i rywle arall am awdurdod ac fe aeth, yn amlwg, i edrych ar yr ysgrythurau drosto ef ei hun ac felly roedd yn medru dadlau yn erbyn safbwyntiau an-Feiblaidd oedd yn codi yn ei ddydd. Dyma yn wir yw'r patrwm clasurol o Ddiwygio (Reformation), unigolion yn mynd i edrych eto ar y Gair trostynt hwy eu hunain gan oddiweddyd gau-pwysleisiau a gau-awdurdod yr Eglwys sefydledig a'i harweinwyr.

Dyma fi wedi rhoi pregeth i chi heb sylwi. Gair am y llyfrau eilradd (ond nid o ran safon) dwi wedi bod yn eu darllen rhywbryd eto!

20.5.07

Sadwrn Slobaidd


Dwi wedi cael diwrnod hollol ymlaciol heddiw, neu fel y byddai Mam yn disgrifio'r diwrnod; “Rhys, ti jest di bod yn slob heddiw.” Weithiau maen rhaid i chi gael diwrnod o beidio mynd i nunlle a pheidio gwneud dim byd o bwys yn toes? Dwi wedi bod yn cael ychydig o nostalgia heddiw drwy chwarae gemau cyfrifiadur – dwi byth yn cael cyfle i 'chwarae' ar y cyfrifiadur yn aml (er mod i ar y cyfrifiadur yn gwneud rhywbeth bob munud o'r dydd) ond pan dwi yn cael cyfle dwi'n gallu mynd yn hooked – chwarae am dridiau solet yna peidio cyffwrdd a gem am fisoedd. Ar hyn o bryd dwi yng nghanol y tridiau solet ond cyn y penwythnos yma doeddwn ni heb gyffwrdd a gemau ers cyn y Nadolig. (Dyna fy ymwadiad allan o'r ffordd rhag ofn fod fy nghariad neu fy nghyfarwyddwr ymchwil yn darllen hwn!)

Y gem heddiw oedd 'Medieval II: Total War', y gem gafodd sylw yn Golwg yn ddiweddar gan eich bod chi'n medru brwydro yn enw Owain Glyndŵr a Llywelyn – i ddweud y gwir bai Golwg yw y binge gemau dwi yn ei ganol ar hyn o bryd oherwydd oni bai i mi ddarllen am y gem yn Golwg ni fuaswn wedi syrffio draw i Amazon a'i archebu!

Ond mae yna elfen addysgol, o ryw fath, yn perthyn i'r gem. Dy chi'n rheoli brwydrau nid annhebyg i'r rhai yr oedd Vavasor Powell ac Oliver Cromwell yn eu canol yn y Rhyfel Cartref. Sydd yn dod a mi at y llyfr dwi wedi bod yn darllen penwythnos yma pan fo'n llygaid yn gwaeddi “Dim mwy o syllu ar sgrin plîs Rhys!”, 'God's Englishman' gan Christopher Hill.

Dwi wedi cwyno ar y blog yma o'r blaen am lyfrau Thomas Richards ar y cyfnod Piwritanaidd a'r gorfodaeth sydd arnaf i weithio trwyddynt oll yn araf bach. Wel, i leddfu'r boen dwi'n darllen llyfrau gan awduron eraill am yr un cyfnod run pryd. Llyfr Christopher Hill yw'r 'companion to Thomas Richards' diweddara, llyfr penodol am Oliver Cromwell. Mae'n lyfr campus, syml ond yn llawn ffeithiau angenrheidiol (mae llyfrau Thomas Richards yn llawn ffeithiau nad sydd o'r rheidrwydd yn angenrheidiol ag ystyried mod i'n bwriadu ysgrifennu PhD ar Ddiwinydd oedd yn byw dair canrif yn ddiweddarach!) ac yn dod a'r cyfnod yn fyw, rhywbeth y mae Thomas Richards yn methu'n drychinebus a gwneud.

Yn ôl i faes y gad yn awr, at Cromwell heno dwi'n meddwl cyn mentro yn ôl at y gem yfory – ar y Sabath, twt lol.

15.3.07

Thomas Richards


Ar hyn o bryd dwi yn darllen trwy gyfrolau Thomas Richards ar y cyfnod Piwritanaidd. Mae'r darllen yn drwm a dweud y lleiaf. I leddfu ar y boen, ac, i wneud y gwaith mwy amrywiol dwi wedi penderfynu cyfrannu at y Wiki Cymraeg o bryd i'w gilydd. Dwi wedi cychwyn tudalen ar Vavasor Powell (bydd llawer mwy eto i'w ychwanegu i'r ddalen yma) ac hefyd wedi ysgrifennu tudalen ar Thomas Richards ei hun. Dyma'r baragraff cyntaf:

Hanesydd oedd Thomas Richards (1878-1962) MA, D.Litt, F.R.Hist.S. Caiff ei adnabod yn ogystal fel 'Doc Tom'. Fe'i anwyd a'i magwyd yng ngogledd Sir Aberteifi. Graddiodd, a hynny heb gyrraedd ei botensial yn ei dyb ef, o Brifysgol Gogledd Cymru, Bangor, ac yna cychwyn gwaith fel athro ysgol ym Maesteg. Er diben profi na wnaeth gyfiawnder ag ef ei hun yn ystod ei astudiaethau is-raddedig cofrestrodd draethawd MA ar 'Cymru a Deddf Taenu'r Efengyl 1650-3' yn 1910. Hyd ei farwolaeth yn 1962 ni ddiflasodd ar astudio hanes Cymru yn yr Ail Ganrif ar Bymtheg, y cyfnod Piwritanaidd.

...darllen ymlaen

30.1.07

Bangor a Vavasor Powell

Dros y penwythnos fuesi lan ym Mangor ym Mhrotest Cymdeithas yr Iaith dros Ddeddf Iaith Newydd. Roedd rhyw 150 yna a rhaid mi ddeud mae dyma'r brotest fwyaf lwyddiannus i mi ei fynychu gan y Gymdeithas ers y blynyddoedd. Wedi i drafodaethau gyda chwmni Morrisons dorri i lawr fe benderfynwyd eu targedu gyda phrotest. Yn ddiddorol ddigon dywedd y rheolwr "We don't have to provide welsh stuff, we are not oblijed by law to do so - your argument is with the Welsh office therefore" A'r Llywodrarth sy'n dweud nad oes angen newid y ddeddf gan y gwnaiff cwmniau cyhoeddus fel Morrision ddarparu'n ddwy-ieithog allan o ewyllys da - hurt.

Isod wele fideo you tube o gasgliad o'r lluniau dynesi pan i lawr mewn lobi yn y Cynulliad cyn 'dolig ac yna lluniau o'r Brotest ddydd Sadwrn. Rhaid cael fy nanell nol mewn i'r Piwritaniaid yn awr - cyn mynd yn ôl at gyfrolau mawr Thomas Richards dwi'n cael hoe fach ac yn gweithio trwy Vavasor Powell gan R. Tudur Jones ei hun. Dyma'r llyfr cyntaf gan Dr. Tudur ei hun i mi weithio trwyddo yn fanwl ac dwi'n cael blas! Mwynhewch y fideo: