Showing posts with label bedydd yr ysbryd glan. Show all posts
Showing posts with label bedydd yr ysbryd glan. Show all posts

4.6.08

Tystiolaeth o "Fedydd yr Ysbryd Glan" yn archifau Dr. Tudur II

Dyma barhad o'r blogiad blaenorol lle roeddwn yn sôn am dystiolaeth sy'n codi o archifau Dr. Tudur Jones am brofiadau pobl o 'fedydd yr Ysbryd Glan.'...

Dwi wedi bod yn ystyried ysgrifennu rhywbeth ar y blog am y Diwygiad Iachau sydd ar gerdded yn Lakeland Florida ar hyn o bryd ar y blog ond heb gael cyfle eto. Ond yn hanesyn y wraig isod ceir sôn am y modd bu i'r Ysbryd Glan ei iachau hi a rhai eraill yn eglwys Mount Pleasant, Abertawe yn 1985:

Digwyddodd dau beth allan o'r cyffredin i mi yn ystod yr wythnosau diwethaf. A fuodd chwi erioed yn cynnal gwasanaeth o weddi, eneinio, ac arddodiad dwylo? Iago V: 14,15. Ar ddiwedd pregeth nos Fercher galwodd ein hannwyl weinidog, y Parch. Glyn Morris ar nifer ohonom i eistedd yn y seddau blaen. Yr oedd wedi galw am enwau'r cleifion cyn y gwasanaeth, ac fe'm darbwyllwyd gan gyfeilles i ymuno â'r sawl oedd i'w heneinio.

Rhaid cyfaddef fod yn well gennyf y sedd gefn bob tro, Mae gan bobl eraill ddigon o broblemau heb i mi ychwanegu atynt. Fe ddaeth tua dwsin ohonom ymlaen, yn eu plith yr oedd Mrs Morris, gwraig annwyl ein gweinidog, sy'n dioddef o “slipped disc” yn ei chefn; daeth hen wraig a'i dwy ferch briod – y dair yn hanner dall; daeth hen ŵr cynhyrfus iawn sy'n dioddef gan ddiffyg anadl, ac yn gwneud stŵr ofnadwy pan fydd yn gweddïo – mae'r peth lleiaf yn ei gynhyrfu; daeth pobl eraill, ac eisteddais innau'n y canol.

Yr oedd llais Mr Morris yn crynu pan weddïodd dros ei wraig. Yr oedd yn gweddïo dros y claf, yn eneinio, ac yna'n uno gyda'r gweinidog ieuanc a'r diaconiaid yn arddodiad dwylo ac yn galw enw'r diacon oedd i weddïo dros y claf – cafodd bod un o'r diaconiaid weddïo dros un o'r cleifion.

Fel y gwyddoch, nid ffydd emosiynol sydd gennyf, ond dechreuais wylo'n dawel. Yr oedd pob cyhyr a nerf fel petaent yn ymestyn ac yn byrhau bod yn ail – yn boenus iawn. Yr oeddwn yn rhy brysur yn gweddïo dros y lleill i boeni'n ormodol amdanaf fy hun. Wylais drwy gydol y gwasanaeth – ac ni wn paham yr oeddwn yn wylo.

Y noswaith ganlynol, daeth bws y capel at fy nrws i'm dwyn i gwrdd chwiorydd yr Hafod. Haleliwia. Dringais i'r bws heb gymorth am y tro cyntaf oddi ar y ddamwain...

Cefais fy nwyn mewn car modur i'r oedfa fore Sul – Haleliwia – heb fy ffon am y tro cyntaf, ond rhaid cyfaddef fod disgyn yn fwy anodd nag esgyn a chefais rybudd y byddai'n gallach i mi gario'r ffon bob amser rhag ofn y bydd arnai ei hangen. Rwy'n gryfach ac yn fwy syth fel y gallwch ddychmygu “Mae'r haleliwia yn fy enaid i, A rhoddaf , Iesu, fy mawrhad i Ti” Mae'n wir na allaf blygu na gorwedd heb fod pethau o'm cylch yn troi, ond gwn y gall yr Arglwydd fy ngwneud yn holliach pan y myn.' @RTJ gan XXXXX XXXXXX, Abertawe, 25.7.85 [Ffeil 72]


Mae'r hanesyn yma yn ogystal a'r hanesyn yn y blogiad diwethaf am Theo Roberts yn codi calon pob Cristion oherwydd ei fod yn eich atgoffa o'r newydd fod Duw yn Dduw sy'n ymyryd mewn ffordd nerthol, pwerus a goruwchnaturiol HEDDIW ac nid dim ond yn oes yr apostolion fel ag y mae rhai Cristnogion sy'n arddel cessationism yn credu. Gobeithio eich bod chi, fel fi, yn ysu, yn dymuno ac yn gweddio i'r Ysbryd Glan ddod i lawr a gweithio fel yma eto yng Nghymru.

[Gan nad wyf yn sicr os ydy awdur y llythyr yma at Dr. Tudur yn fyw a'i peidio gwell fyddai i mi gadw'r enw'n gyfrinachol am y tro.]

Tystiolaeth o "Fedydd yr Ysbryd Glan" yn archifau Dr. Tudur I

Dwi bellach yn adnabod fy hun fel Caresmatig-Diwygiedig ac dwi'n argyhoeddedig fod Duw yn, ac bod yn rhaid i Dduw anfon tywalltiad nerthol i lawr i unigolion ac i'r Eglwys trwy'r Ysbryd Glan. Dwi ddim yn meddwl fod y tywalltiad yna yn amod iachawdwriaeth a dwi ddim chwaith yn meddwl fod y tywalltiad yna yn amod sicrwydd ffydd ond mae, fe dybiaf, yn mynd a chi yn nes at Dduw ac yn eich gwneud chi, a'r eglwys, yn offeryn mwy effeithiol i dystiolaethu.

Wythnos yma yn yr Archifdy fe ddois ar daws dau hanesyn difyr gan ddau unigolyn fu'n gohebu ac R. Tudur Jones, y naill yn adrodd sut y bu iddynt gael "ail fendith" neu "bedydd yr Ysbryd Glan" a hynny nid er mwyn dod a nhw yn Gristnogion oherwydd roedden nhw yn Gristnogion eisoes ond er mwyn dod a gwefr a profiad dyfnach o Dduw iddynt:

Y cyntaf sy'n adrodd ei stori wrth Dr. Tudur yw Theo Roberts yn wreiddiol o Lerwl ond erbyn 1978 ac yntau'n 71 mlwydd oed yn byw yn Star, Môn. Y cyd-destun yw i Dr. Tudur amau a ddylid dysgu athrawiaeth "bedydd yr Ysbryd Glan" fel y'i deellir fel 'ail-fendith' (sylwch, dwi'n meddwl mod i wedi ffeindio rhywbeth dwi ddim yn cytuno gyda Dr. Tudur ynglyn ag ef!!):

“Nid oes le yn nysgeidiaeth y Testament Newydd [meddai RTJ] i athrawiaeth yr 'ail fendith.' Mae ei derbyn yn golygu ymarfer ffydd achubol ddwywaith.” Paul yn ysgrifennu at “Y saint sydd yn Effasus, a'r ffyddloniaid yng Nghrist Iesu” - credinwyr yn deisyf arnynt “ar rodio a honnoch yn addas i'r alwedigaeth y'ch galwyd iddi” - ac yn eu cynghori sut i ymddwyn ar y ffordd hon ac iddynt gael eu llenwi â'r Ysbryd. Onid hyn sydd yn bwysig ac yn dangos fod yr Effesiaid wedi methu i raddau? Ac yn ein hoes ni, onid oes gwahaniaeth rhwng y Cristnogion honedig, marwaidd, a phobl fel y “Pentacostals” sydd mor llawn o fywyd ac yn cael hyfrydwch wrth fyfyrio yn Ei gyfraith Ef, a'u capelau yn lawnach na'n capelau ni?

Y prif reswm i mi anfon atat yw'r ffaith, er nad wyf yn aelod o'r Eglwys Pentacostalaidd, yr wyf yn credu ym medydd yr Ysbryd Glân ac wedi cael profiad i hyn yn bersonol. Aelod ymhlith y Bedyddwyr ydwyf. Cefais fy medyddio (y Bedydd Crediniol ar broffes o ffydd yn yr Arglwydd Iesu Grist) pan yn 17 oed yn Lerpwl. Treuliais dros hanner cant o flynyddoedd yn yr ardal honno; yn ffyddlon i holl gyfarfodydd crefyddol yr Eglwys ac hefyd nifer yn perthyn i Eglwysi eraill (cyfarfodydd pregethu, ac ymlaen) a rhai Saesneg ar Nos Sadwrn yn y Central Hall yno. Dyna oedd fy mywyd.

Cymerais cwrs astudiaethau Beiblaidd am dair mlynedd; yr wyf wedi darllen y Beibl bedair o weithiau, beth bynnag, ar wahân i'r Testament Newydd yn amlach, a chefais y fraint o baratoi ychydig o bregethau, ac ar sail hyn, rhoddais i fyny fy ngwaith yn 55 oed i ddod i Gymru, yn awyddus i wasanaethu yr Eglwysi “bychain o ran nifer yr aelodaeth” - er bod y Gymraeg yn ail iaith i mi ac nid oeddwn yn cymeryd oedfaon yn yr iaith Saesneg am fy mod mor swil! Ond rhyw fore, llai na bedair o flynyddoedd ar ôl i ni ddod i Fae Colwyn i fyw, cefais profiad eithriadol wrth ddechrau codi ar ôl gweddïo – teimlad fod rhywbeth arbennig wedi fy lenwi yn gyfan gwbl o'm tu mewn a hyn mewn moment. Os oedd y llenwad yna yn un materol – o ddefnydd materol (fel “concreate”) y byddai fy nghorff wedi ymrwygo.

Y canlyniad? Negesau o'r Ysgrythur yn byrlymu allan un ar ôl y llall, a phob un wedi ei ysgrifennu i lawr ar unwaith ac wedyn wedi ei “typewritio.” Yr ysgrifau olaf hyn o'r peiriant yma yn cynnwys mwy o eiriau na'r Beibl ei hun. Wrth wasanaethu yn yr Eglwysi gwahanol – o bob enwad – yr wyf yn synnu nid yn unig at yr ymddiriedaeth wrth dderbyn y negesau hyn – nid wyf yn defnyddio esboniadau o gwbl – ond am y nerth i draethu ac i arwain y defosiwn.

Yr wyf dros 71 oed erbyn hyn, a dymunaf dystio i'r ffaith fy mod wedi cael y profiad arbennig a elwir yr “ail fendith”, neu “bedydd yr Ysbryd Glân” a chredaf fod hyn yn angenrheidiol i raddau mawr i wir lwyddiant yr Efengyl.

Yr oedd yr apostolion a'r disgyblion adeg yr Iesu yn bobl oedd yn gwybod y gyfraith ac yn ceisio deall y proffwydi, a'r Iesu yn rhoi goleuni ar yr Ysgrythurau. Credaf os ein bod yn barod i ddarllen a myfyrio Gair Duw yn yr oes hon, y bydd llawer mwy o bobl yn profi y Fendith ychwanegol, werthfawr hon. O dan arweiniad yr Ysbryd Glân.' @RTJ gan Theo Roberts, Star Gaerwen, 18.1.78 [Ffeil 67]


Ceir yr ail hanesyn yn y blogiad nesaf...

5.5.08

Dylanwad (positif?) Martin Lloyd-Jones

Rwy'n deall fod fy mlogiad diweddar am Martin Lloyd-Jones wedi peri chwithdod i rai pobl, nid dyna oedd fy mwriad, ddim o gwbl, dim ond rhannu rhai meddyliau oedd gennyf ar ôl darllen y bennod honno yn y cofiant lle roedd MLl-J yn trafod gwleidyddiaeth dyna i gyd. Er nad ydw i'n cytuno a'r safbwynt yr oedd MLl-J yn ei fynegi am rationale y Cristion i fynd at y diwylliannol a'r gwleidyddol dwi wedi dod i werthfawrogi un agwedd o waith MLl-J yn fawr yn ddiweddar felly megis i fod yn gytbwys gyda'r blogiad diwethaf am y Doctor dyma drafod coleddiad o un o'i bwysleisiadau mewn maes arall. Ei ddealltwriaeth o fedydd yr Ysbryd Glan fel y'i mynegwyd yn ei lyfr trawiadol Joy Unspeakable a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn 1976.

Ffaith weddol ddi-sôn-amdano am MLl-J yw ei fod, drwy gamgymeriad, yn dâd i'r mudiad caresmataidd modern trwy ynysoedd Prydain. Maen debyg fod sawl arweinydd o fewn yr eglwys Galfinaidd-Garesmataidd Newfrontiers wedi eu dylanwadau yn drwm gan MLl-J wedi iddynt fynychu'r frawdoliaeth enwog dan arweiniad MLl-J yn Llundain yn y 60au a'r 70au. Er ei bwyslais pendant, a hynny yn gywir, ar awdurdod y Gair rhoes MLl-J bwyslais, fel y Piwritaniaid cynnar, ar y profiad Cristnogol hefyd. Trwy ddysgu ac esboniadaeth MLl-J y daeth llawer i glywed gyntaf, gyda mi yn eu plith, am athrawiaeth bedydd yr Ysbryd Glan fel rhywbeth a phrofiad gwahanol i dröedigaeth. Dyma gyflwyno rhai dyfyniadau gan MLl-J ar y pwnc:

" . . . What is the baptism of the Holy Spirit? Now there are some, as we have seen, who say that there is really no difficulty about this at all. They say it is simply a reference to regeneration and nothing else. It is what happens to people when they are regenerated and incorporated into Christ, as Paul teaches in 1 Corinthians 12:13: 'By one Spirit are we all baptized into one body' . . . Therefore, they say, this baptism of the Holy Spirit is simply regeneration.

"But for myself, I simply cannot accept that explanation, and this is where we come directly to grips with the difficulty. I cannot accept that because if I were to believe that, I should have to believe that the disciples and the apostles were not regenerate until the Day of Pentecost---a supposition which seems to me to be quite untenable. In the same way, of course, you would have to say that not a single Old Testament saint had eternal life or was a child of God."


Yn bersonol dwi dal ddim yn llawn ddeall yr athrawiaeth yma ond tybiaf i fod MLl-J yn ein tywys ar hyd y llinellau cywir ac bod bedydd yr Ysbryd Glan yn rhywbeth gwahanol i dröedigaeth – gall ddigwydd run pryd, gall, ond nid yw o'r rheidrwydd yn digwydd run pryd. Mae peryglon amlwg i'r ddysgeidiaeth hon sef fod pobl yn chwilio a phwyso gormod ar y “profiad” fel sicrwydd ffydd yn hytrach na phwyso ar eu ffydd yn addewid Duw drwy Iesu. Perygl arall yw fod athrawiaeth o'r fath y debygol o greu dwy gynghrair o fewn yr Eglwys gyda rhai wedi derbyn bedydd yr Ysbryd Glan a rhai heb, gyda'r naill yn edrych i lawr ar y llall. Ond er gwaethaf peryglon yr athrawiaeth dwi'n gytûn gyda MLl-J fod yr athrawiaeth yn cael ei dysgu'n glir yn y Beibl a pheryglon neu beidio rhaid dilyn yr hyn sy'n ysgrythurol gywir.

Yn ddiweddar clywais sî fod MLl-J ar ddiwedd ei oes yn difaru cyhoeddi Joy Unspeakable oherwydd ei fod wedi 'newid ei feddwl' – edrychais i fewn i hyn a chanfod fod y gwrthwyneb yn wir – yn ei fisoedd olaf ategu yr hyn ddywedodd rai blynyddoedd yn gynt a wnaeth, John Piper sydd a'r hanes:

“...towards the end of his life he urged his followers to actively seek an experience of the Holy Spirit. Aside from his insistence that the baptism with the Spirit is a work of Jesus Christ distinct from regeneration, Lloyd-Jones also opposed cessationism, claiming that the doctrine is not founded upon Scripture. In fact, he requested that Banner of Truth Trust, the publishing company which he co-founded, only publish his works on the subject after his death.”


Mae hwn yn bwnc, wrth gwrs, sydd wedi bod yn destun trafod brwd ymysg Cristnogion ers degawdau os nad canrifoedd, diddorol byddai clywed ymatebion.