24.1.05

Gwasanaethau Cyd-Enwadol

Noswyl fy arholiad olaf, hwre! Gwleidyddiaeth Ewropeaidd, modiwl nad ydw i wedi ei fwynhau, yn bennaf oherwydd nad i mi ei ddewis - dwi'n ei astudio oherwydd dyna yr unig fodiwl oedd ar gynnig yn Gymraeg... trafodaeth ar gyfer diwrnod arall.


Wedi bod yn capel heno ac yna darllen dros fy nodiadau ar gyfer yr arholiad fory. Isod mae trafodaeth fer ynglŷn â chyrddau cyd-enwadol, rhywbeth y bum yn ei ystyried a meddwl yn ei gylch heddiw.


Heno roedd yna gwrdd cyd-enwadol yn digwydd yn Aberystwyth. Ni chymerodd fy eglwys i ran yn y trefniadau. Felly pam? Pam fod rhai eglwysi, fel fy eglwys i yn mynnu rhaniadau yn eglwys Crist?


Dwi ddim yn gweld dim byd o gwbwl o'i le gyda Christnogion sydd â barn wahanol ar bethau'r byd yn dod at ei gilydd ag addoli, i ddweud y gwir dyna sydd yn digwydd yn fy eglwys i. Cymerir er enghraifft bolisi tramor Bush, rwyf innau yn chwyrn yn erbyn polisiau Bush tra mae yna deulu a chysylltiadau gyda'r Amerig yn oll gefnogol i Bush. Ac i ddefnyddio enghraifft arall, mae yna un gŵr nad sy'n credu fod lle i'r Cristion ymroi i'r byd seciwlar o gwbl, nid yw'n pleidleisio mewn etholiadau hyd yn oed; tu ôl iddo ef yn eistedd mae R. Geraint Gruffydd, cefnogwr brwd Plaid Cymru. Dyna brofi y gall Gristnogion o bob sffêr ag agwedd o'n cymdeithas ni fod yn unedig yng Nghrist.


Dwi wedi cyfeirio uchod at wahaniaethau ym mhersonoliaethau pobl a gwahaniaethau ar farn pobl ar faterion eilradd. Hynny yw, er y byddai'r bobl yma yn anghytuno ar bethau gwleidyddol neu ddiwylliannol o bosib, prin fyddai'r bobl yma yn anghytuno ar ddiwinyddiaeth y ffydd Gristnogol. A dyna'r pwynt allweddol a dyna pam nad ydy fy eglwys i yn cymryd rhan yn y cyfarfodydd cyd-enwadol yma. Does dim o'i le ar gyfaddawdu eich chwaeth chi ar ddewis emynau am un Sul y mis i fynychu cyfarfod cyd-enwadol OND mae llawer o'i le ar gyfaddawdu eich ffydd chi, dywed ar awdurdod y Beibl am un Sul y mis i fynychu cyfarfod cyd-enwadol.


Yr hyn sy'n bwysig i gofio fan yma ydy cariad. Cofiaf ddarllen erthygl gan Bobi Jones rai blynyddoedd yn ôl yn esbonio fod dweud y drefn a dweud 'na' yn rhan eithriadol o bwysig o gariad. Drwy wneud safiad a dweud 'na' i gyfaddawdu ar fater diwinyddiaeth y ffydd Gristnogol mae Cristnogion dros Gymru nid yn dangos diffyg cariad at addolwyr mewn Capeli eraill ond yn hytrach yn dangos cariad a chonsyrn. Drwy ymwrthod a chyd-addoli ag eglwysi nad sy'n derbyn y ffydd Gristnogol Feiblaidd, y math sydd wedi, trwy ras Duw, achub miloedd ar filoedd o Gymry dros y canrifoedd, rydym ni yn dangos cariad. Credaf fod gwirionedd efengyl Crist a gwneud safiad drosto yn dra phwysicach na llenwi un capel am un noson y mis yn enw 'undod'.


Mae'n debyg fod y ddadl uchod yn ymddangos yn gyntaf yn gymhleth ac yn ail yn ffroenuchel. Gadewch i mi felly dorri'r ddadl i lawr...

<>
  1. <>Mae un Dyn yn credu mai trwy ras a chariad Duw mae cael bywyd tragwyddol.
  2. Mae'r ail ddyn yn credu mai trwy fyw yn dda mae cael bywyd tragwyddol.


Ni welaf sut y mae hi'n bosib i'r ddau ddyn uchod gyd-addoli. Nid pethau bychan megis rheolau strwythurol enwadau, neu'r modd y rhennir y cymun allan sydd yn eu gwahaniaethu ond dim byd llai nag eu hesboniad o hanfod y ffydd Gristnogol! Cyn i eglwysi fedru uno mewn gwasanaethau ac addoliad mae'n hanfodol fod eu harweinwyr a'i haelodau oleuaf yn cytuno ar wirioneddau creiddiol y ffydd Gristnogol - wedi dod i gytundeb ar y materion yna yn unig y gellir dechrau trefnu cyrddau cyd-enwadol.

2 comments:

Aled said...

Ai ddim i dechrau ar be sydd mor rong yn hyn!

Rhys Llwyd said...

Doeddw ni ddim yn disgwyl i lawer o bobl gytuno!