8.7.05

Pam does neb yn gofyn pam?

Does dim modd o gwbwl cyfiawnhau y gweithredoedd terfysgol heddiw. Roedd y gweithredoedd mor isel ac unrhyw ryfel arall, llofnod Satan i'w weld eto yn ein byd pechadurus ni. Wedi dweud hynny mae'n codi cwestiynau – pam? Arf y gwan ydy terfysgaeth, pe bai gan y gwan Danciau ac Awyrennau byddan nhw wedi hen ymosod ar Brydain a'r UDA gyda rheiny. Yr oll sydd gyda nhw i ymladd ydy eu dewrder a'i cyrff nhw eu hunain.

Yn lle dweud e fy hun rwyf am sôn am beth ddywedodd Geraint Gruffydd unwaith, dwi'n ei gofio'n nodi na ellid gweld daioni o gwbl yng ngweithredoedd terfysgwyr hunanladd (suecide bombers); serch hynny gellid edmygu eu dewrder y bellter, hynny yw eu fod nhw yn fodlon gwneud yr aberth eithaf dros yr hyn oedden nhw'n eu gredu.

Nid drwy roi stop yn yr ystyr rymus/rhyfel mae dod a'r terfysgwyr i stopio ond yn hytrach drwy edrych yn fanwl PAM fod nhw yn ymosod ar y gorllewin. Mae'r Gorllewin wedi ac yn rheibio gweddill y byd, ac yna dy ni ddigon haerllug i ofyn yn annwyl pam fod pobl yn ein targedu. Mae'n gwbwl amlwg pam. Gobeithio wnaiff yr G8 ystyried yn ddwys sut mae modd unioni y cam enfawr yma mae gweddill y byd yn ei gael ac yna gobeithio na fydd gweddill y byd yn cael eu gyrru i'r fath eithafion unwaith eto.

Isod mae yna luniau dynesi yng Nghaerdydd Ddydd Sul, roedd yna fom scare, sylwch ar Queen Street yn hollol wag ac roedd hyn ganol dydd.




Dyma fydd y postiad olaf am dipyn, rwy'n mynd ar daith gyda Manna fory, dewch i un o'r gigs!

9.7.04: Manna, Eglwys Efengylaidd Caerdydd, 8.00pm
11.7.05: Manna/Catrin Dafydd, Dairies Caerfyrddin, 8.00pm
12.7.05:Manna, Eglwys Efengylaidd Rhydaman, 8.00pm
13.7.05: Manna/Sam Poppies, Cwps Aberystwyth, 9.00pm
14.7.05: Manna/Gwyneth Glyn, Clwb Medi Caernarfon, 8.00pm
15.7.05: Manna, Eglwys Efengylaidd Bangor, 8.00pm

1 comment:

Rhys Wynne said...

Dois ar draws yr un plismon a thi dydd Sul felly.

Gyda llaw efallai bydde ti â diddordeb a dy fod yn ei adnabod, ac yn gwbod am ei flog - falle ddim (i'r tri pwynt), ond mae'n un o'r Efyngls Bondigrybwyll yna sy ymhobman dyddie yma ;-)

http://caleb-student-of-life.blogspot.com/

Caleb di enw'r boi o Ddolgellau, er Saeneg yw'r blog.