28.9.05

Oes yna lwyth o Gristnogion yng Nghymru?

Wedi dod ar draws ystadegau heno ar wefan CYTUN yn dangos faint o aelodau sydd gan y gwahanol enwadau yng Nghymru. Reit ddiddorol.

Mae gan y:

Methodistiaid Calfinaidd 34,819

Annibynwyr Cymraeg 31,383

Ac yn ddiddorol dydy'r Eglwys yng Nghymru ddim yn datgelu nifer eu haelodau OND yn hytrach yn dweud faint o bobl sydd ar y rhestr etholiadol sef 77,881. Efallai y gallai dogfael fel Eglwyswr esbonio beth mae hynny'n ei feddwl.

Nawr – cwestiwn bach i chi ddarllenwyr. Ydy'r enwadau yma yn edrych ac yn rhoi yr argraff i chi eu bod nhw ac aelodaeth gyda'i gilydd ddegau o weithiau mwy na Phlaid Cymru?

Dydy nhw ddim i mi ta beth. A dyna yw un o broblemau Cristnogaeth yng Nghymru debyg yw fod yna lawer o bobl – miloedd lawer fe ymddengys yn aelodau allan o draddodiad a phrin yn mynychu cyfarfod ar y Sul heb sôn am fynd allan i rannu y newyddion da am Iesu!

Mae'r ystadegau uchod yn dwyllodrus tybiaf – yn gwneud i argyfwng Cristnogaeth yng Nghymru ymddangos yn dipyn llai nag ydyw mewn gwirionedd.

3 comments:

Aled said...

Debyg dy fod yn iawn. Gredi di fy mod i'n parhau yn aelod o Gapel Methodistiaid Calfinaidd Peniel ger Dinbych?! Mam a dad sy'n talu'r aelodaeth drosof (ac wrth gwrs mae'r swm yn ymddangos yn yr adroddiad blynyddol i bawb gael gweld a thwt twtio'r rhai sydd ddim yn rhoi digon). O ran egwyddor dylwn 'godi fy nhocyn' debyg ond os yw'n gneud fy rhinei yn hapus does dim drwg yn y peth chwaith.

Rhys Llwyd said...

diddorol, mi rwyt ti felly yn text book case or hyn mi o ni'n tybio.

Mar busnes yma o gyhoeddi faint ma pawb yn rhoi yn gwbwl ang-Nghyristnogol! Ond os na fydde nhw'n cyhoeddi debyg y bydde ti (wel dy rieni) debyg yn peidio rhoi yn dy enw.

Bratiaith said...

Dwi'n wastad yn cael y trafodaeth yma:
fi: Dwi ddim yn pabydd erbyn hyn
nhw: Ti'n babydd am wedill dy oes
fi: nacdw dwi yn erbyn crefydd
Nhw: ti'n dal yn pabydd
fi: yn ddiwylliannol efallai ond ddim yn credu dim
Nhw: YLI! TI'N BABYDD!

Dwi ddim yn gweld unrhyw "argyfwng Christnogaeth" Rhys. Mae Christnogaeth yn gredo personol. Pan mae christnogion ffyddlon o didwyll megis ti, mae christnogaeth yn fyw. Er fy mod i'n debyg o sarhau "CREFYDD" Mae 'da fi Parch enfawr at Ffydd personol unogolion.