5.10.05

UMCA - yr SAS Cymraeg

Cawsom ni gyfarfod reit danllyd nos Lun yng Nghyf. Cyff. Urdd Myfyrwyr Aberystwyth.

Rhoddodd UMCA gynnig ger bron i'w gwneud hi'n bolisi i'r undeb ymgyrchu o blaid galw adeilad newydd yr adran Wleidyddiaeth yn 'Adeilad Gwynfor'. Roeddem ni'n gwybod y byddai yna dipyn o wrthwynebiad i'r syniad felly yn debyg iawn i chwipiaid y Blaid Lafur netho ni'n siŵr fod ni'n mynd a digon o aelodau UMCA fyny i'r cyfarfod i ffurfio mwyafrif fel bod y cynnig yn cael ei basio.

Y mesur yna oedd y cyntaf ar yr agenda ac wedi iddo gael ei basio dechreuodd ein rent-a-croud ni gerdded allan! Wedyn aeth pethau ychydig yn flêr.

Roedd ein gwrthwynebwyr yn flin iawn fod ni di cal criw i'r cyfarfod yn benodol i basio'r cynnig yma ac wedyn eu bod nhw wedi gadael, hynny yw ddim a diddordeb mewn dim byd arall. Er mod i wedi disgwyl y byddai y Cymry yn gadael wedi iddynt wireddu eu pwrpas roeddwn ni dal yn flin am rai rhesymau:

1. Roedd yn gwneud i'r Cymry ymddangos yn gul. Hynny yw mae eu hunig ddiddordeb oedd materion uniongyrchol i wneud a'r iaith a'u hunaniaeth.

2. Roedd fel petaem ni yn gneud sbort ar ddemocratiaeth – yn yn gwneud i ni edrych fel petaem ni'n defnyddio tactegau y pleidiau Prydeinig i fynnu polisïau ar Gymru o San Steffan.

3. Ar ôl i'r mass adael roedd yna gynnig pwysig ar fanio gwerthu nwyddau Nestle o'r undeb – yn anffodus fe syrthiodd y mesur. Pe tase'r Cymry dal yna base ni wedi medru pasio'r mesur hwnnw yn ogystal.

Ond ddiwedd dydd dwi'n ymfalchïo ein bod ni fel UMCA yn llwyddo i fobaleiddio ein haelodau bob tro mae angen. Dwi'n meddwl i raddau fod holl garfannau eraill y Coleg (Lib Dems, Amnesty, Conservative Future ayyb...) yn eiddigeddus iawn ein bod ni yn fataliwn mor effeithiol. Mi o ni'n trio esbonio i gyfaill o Loegr ar ddiwedd y cyfarfod – dy ni ddim eto yn rhydd! Wedi i ni ennill ein rhyddid efallai wedyn y bydd mwy o Gymry yn dechrau poeni am bethau ehangach na jyst yr iaith ac enwi adeiladau ar ôl eu harwyr. Ein iaith a'n rhyddid yw ein blaenoriaeth a dwi ddim yn meddwl bod angen ymddiheuro am hynny.

2 comments:

Rhys Wynne said...

Gallai weld pam dy fod yn flin. Y gwirionedd yw mai % fechan iawn o fyfyrwyr (o bob cefndir) sydd ag unrhyw fath o ddiddordeb mewn gwleidyddaieth o unrhywfath na mewn phwyllgora, a dyw Cymru Cymraeg ifanc dim gwahanol. Ond yn rhyfeddol fel ti'n dweud mae hyd yn oed y Cymro Cymraeg mwy apathetig yn fodlon codi oddi ar ei dîn i wneud rhywbeth dros ei iaith a'i genedl. Ond mae'r ffaith na lwyddwyd i'w darbwyllo i aros i bleidleisio ar bethau eraill yr un mor bwysig yn anffodus. Mae'r ymgyrch yn erbyn Nestle yn agos iawn i'm calon innau hefyd. Roedd gwaharddiad ar eu sothach yu Undeb Prifysgol Bangor pan oeddwn yn fyfyriwr yno, a gobethio ei bod felly rwan hefyd.

Rhys Wynne said...

Yn rhyfedd ddigon, wedi i mi ddarllen y post yma gennyt trwy ymchwiliad Technorati, dyma fi'n dod ar draws hwn gan fyfyiwr arall o Aberystwyth. Mae'n dweud yr un stori on mewn ychydig bach mwy o fanylder:
http://aberystwyth-nights.blogspot.com/2005/10/arrogant-english-and-seige-mentality.html