10.11.05

Traffordd drwy Gymru am £4.6 biliwn


Ydych chi'n cofio 'Dewis'? Wn i ddim be ddigwyddodd iddyn nhw na pha effaith y cafodd y stynt ar Blaid Cymru. Ond dwi'n cofio mae un o'i pwyntiau nhw oedd bod angen priffordd dda/fawr i gysylltu y gogledd a'r de! Wel wrth gwrs y bod yna – felly pam nad ydy hyn wedi ei ddatblygu yn syniad go-iawn gan bleidiau gwleidyddol? Byddai'n gwneud gwyrthiau i economi Cymru. Dwi wedi gwneud ychydig bach o ymchwil. Wele ar y map y llwybr arfaethedig o Gaerdydd i Gaernarfon ac isod fe welir fy ymchwil i fewn i'r gost.

Yn ôl y wefan multimap mae'r llwybr yn 161 o filltiroedd. Yn ôl y wefan yma cost ar gyfartaledd adeiladu traffyrdd ym Mhrydain ar hyn o bryd ydy 28 miliwn y filltir.

Felly cost adeiladu y draffordd yma byddai – £4,508,000,000.

Ie dyna chi ychydig dros £4.5 biliwn!!!

Ond i'w roi mewn cyd-destun mae Prydain yn gwario £28 biliwn y flwyddyn ar hyn o bryd ar 'amddiffyn'.

Ma £4.5 biliwn yn dipyn o bren yn dydi? (heb sôn am gladdu twnnel rhwng Dinas Mawddwy a Cross Foxes!)

3 comments:

G.B.E. said...

Os oes yna briffordd ddeuol am fod rhwng y gogledd a'r de (a mae rhaid cael un), dylai o fod gyntaf rhwng y gogledd ddwyrain (Wrecsam/Glannau Dyfrdwy) a'r De Ddwyrain (ardal y cymoedd/Caerdydd). Mi geiff hynny impact llawer mwy ar undod economaidd a gwleidyddol Cymru nag unryw ffordd gogledd-de arall, o leiaf ar y cychwyn. Ar ol hynny, mae hefyd angen edrych ar ddatblygu coridor gwell rhwng Bangor, Aberystwyth a Chaerfyrddin.

Rhys Llwyd said...

Anghytunaf - mae fwy o fyrder i gael coridor trwy'r ardaloedd amcan un (gorllewin Cymru a'r cymoedd).

Byddai cael priffordd yn unrhyw le arall jest yn gwaethygu cyflwr economaidd ardal amcan 1

G.B.E. said...

Wrth gwrs bod angen priffordd gyswllt (coridor os mynni di) i lawr yr arfordir orllewinnol. Be dwi'n ei ddeud yw ei bod yn wleidyddol haws yn y tymor byr cyfiawnhau ffordd gyswllt rhwng y gogledd ddwyrain a'r de ddwyrain, gan bod:
(a) mwy o boblogaeth yn y ddwy ardal honno o Gymru nag unman arall;
(b) angen i glymu enconomi a chymdeithas y gogledd ddwyrain yn agosach at weddill y wlad, er mwyn stopio'r ardal rhag wyro ymhellach at economi (a hunaniaeth!) gogledd orllewin Lloegr; a
(c) Bydd yr hygyrchedd ychwanegol rhwng y gogledd ddwyrain a'r de ddwyrain yn cryfhau'r ymdeimlad o undod a Chymreictod rhwng ardaloedd llai Cymraeg dwyreiniol Cymru (ac yn ffordd o agor Powys i fyny at ddatblygu economaidd mwy effeithiol).

Yn ddelfrydol, wrth gwrs, dylid datblygu'r ddau goridor yma ar y pryd. Ond dwi'n amau yn gryf os oes gan Lywodraeth y Cynulliad yr adnoddau (neu'r ewyllys) i wneud gymaint o fuddsoddiad gogledd-de dros nos.