1.12.05

Gwariant Plediau Gwleidyddol

Yn anffodus mae'r gyfres ar Hanes Cristnogaeth yng Nghymru wedi colli stem yn barod a hynny ond ar ol un postiad. Gobeithio fedrai atgyfodi hi rywbryd.

Yn y cyfamser dwi wedi bod yn astudio gwariant y pleidiau Gwleidyddol yng Nghymru yn ystod Etholiad Cyffredinol 2005. Dwi wedi cael y data oddi ar wefan yr Electoral Commision. Mae'r data yn ddiddorol.

Dwi wedi menbynnu y data i edrych sut gwnaeth y pleidiau wario eu harian yn wahanol i'w gilydd. Ceir dadansoddiad pitw dan y graffiau. Dyma'r graffiau:






Fe welir yn y graffiau fod gwarian Llafur fel pe bae yn fwy cyson ym mhob maes na rhai gweddill y pleidiau sy'n amlwg wedi rhoi eu holl wyau mewn un basged.

Plaid Cymru yn ddiddorol, wedi gwario llawer mwy ar gyfartaledd na gweddill y pleidiau ar Ymchwil a Canfasio.

Lib Dems yn ddiddorol wedi gwario mwy ar gyfartaledd ar drafnidiaeth. Tybed pam? Efallai oherwydd nad oedd eu ymgeiswyr yn byw yn yr etholaethau. e.e. roedd rhaid iddyn nhw roi pres petrol i Mark Williams ddod lan a lawr o Aberhonddu i Aberystwyth bob dydd am fis!!!

Ceidwadwyr - sylwed eu bod nhw heb wario dim byd ar ganfasio i bob pwrpas. Ateb posib - diffyg aelodau llawr gwlad i wneud y gwaith canfasio mae'n siwr.

2 comments:

Rhys Wynne said...

Diddorol, a diolch am y siartiau - dwi'n licio siartiau!

Ray Diota said...

Eiliaf. Siartiau diddorol iawn.