5.3.06

Can i Gymru a'r hyn a welais yno

Wel, fe gyrhaeddais Afan Lido a Chan i Gymru yn weddol ddi drafferth. Canfod fy hun ar yr un trên ac Arfon Wyn o Gaerdydd i Bort Talbot yna rhannu tacsi draw i'r sdiwdio yn Afan Lido. Roedd e'n gymeriad reit hoffus rhaid mi ddeud – tipyn o gomedian naturiol.

Roedd y caneuon i gyd yn swnio'n weddol dda yn y stiwdio – system sain heb ei ail a band sesiwn gwych gyda neb llai na Mal Pope yn canu cefndir (random ta be?). Ond tra roedd y rhaglen yn mynd yn ei blaen roedd y negeseuon testun yn llifo fewn i fy mhoced dde:

“Ydi o n swnio n ofnadwy fanna?”

“Ma fe n swnio hollol allan o diwn a distorted!”

“Wedi gweld ti, odd y gan agoriadol a'r gan gynta gyda nam sain difrifol. On i'n meddwl fod catrin finch yn chware schonenberg”

“Be tn meddwl am y noson? Swnon echrydus ar tv!”

A dyna ni – fel un oedd yna ro ni'n meddwl fod mwy o raen ar y sioe leni na sydd wedi bod (er rhaid mi gyfaddef mod i heb wylio ers rhyw dair blynedd, ac yn eironig tair blynedd yn ôl ro ni allan yn gwylio Rayland Teifi yn chwarae yn Scholars pan oedd CIG mlaen!) OND yn anffodus i'r gwylwyr adre doedd dim cynydd a gwellhad yn y safon.

Ma hi'n 10.15 nos Sadwrn steddfod Ryng-gol – dwi ddim wedi mynd lawr yn amlwg. Pam? Wel dwi wedi ymroi i lawer o weithgarwch allgyrsiol tymor yma (ac mae llawer eto i ddod) ac mi gredaf fod hyn wedi gadel ei effaith ar fy iechyd (dwi wedi blino a newydd ddod dros ddos trwm o anwyd) ac hefyd ar fy waled, ac ar ôl y trek ganol wythnos i Gaerdydd a Phort Talbot penderfynais mae'r peth callaf yn ariannol a yn flinderol oedd aros yn Aber a chael penwythnos diog.

Mi fasw ni'n sôn rywfaint am yr etholiad sydd mlaen yn Aber ar hyn o bryd OND gan fy mod i'n aelod gweledol o dim ymgyrchu un o'r ymgeiswyr rhaid i mi atal sylwebu am y tro rhag ofn i mi dorri rheol etholiadol! Caf adrodd peth hanesion wedi i'r ymgyrchu ddod i ben dydd Iau!

2 comments:

Rhys Llwyd said...

Hia Annes braf dy weld, gobeithio fod pob dim yn oce - be w ti'n gneud dyddia yma, ti dal yn coleg?

Sion, dydy doethineb dy Daid yn ddim byd newydd! Ond y cwestiwn ydy sut mae diffinio study? Credaf fod rhaid troedio allan o'r llyfyrgell weithiau i stydio a treiddio mewn i bethau a phynciau go iawn!

Rhys Llwyd said...

Hia Annes braf dy weld, gobeithio fod pob dim yn oce - be w ti'n gneud dyddia yma, ti dal yn coleg?

Sion, dydy doethineb dy Daid yn ddim byd newydd! Ond y cwestiwn ydy sut mae diffinio study? Credaf fod rhaid troedio allan o'r llyfyrgell weithiau i stydio a treiddio mewn i bethau a phynciau go iawn!