15.5.07

Ateb posib i'r ddeilema Ryder Vs Wigely


Dwi wedi bod yn meddwl mwy am y busnes ym o ferched ar dop y rhestrau a gwleidydd rhagorol fel Wigely yn methu cael ei ethol oherwydd hynny. Fuesi yn siarad gyda aelod benywaidd hyn o'r Capel ddoe ac roedd hi'n gwrthwynebu'r polisi'n llwyr a hynny ar sail eitha ffeminyddol sef fod y polisi yn difrio merched oherwydd ei fod yn gosod y cynsail nad yw merched ddigon da heb bolisi o gam-wahaniaethu - dadl ddiddorol a chryf yn fy nhyb i.

Pan yn astudio un y gyrsiau Roger Scully yn yr Adran Wleidyddiaeth yn Aberystyth dwi'n ei gofio'n rhoi sampl i ni o sawl bapur pleidleisio o wahanol wledydd. Roedd rhyw of gennyf fod un ohonyn nhw yn cynnig ffordd o ddewis eich hoff ymgeisydd o fewn pleidlais restr. Wedi gwneud chydig bach o ymchwil dwi wedi ffeindio enghraifft o bapur pleidleisio o'r fath ar y we (cliciwch arno i'w wneud yn fwy) o Awstralia.

Tybed a'i dull pleidleisio o'r fath yw'r ffordd ymlaen i Gymru?

3 comments:

Unknown said...

Pam fod Max Ciaccia lawr ddwywaith yng ngholofn B?

seiriol said...

Mae'r yn ddigon mawr fel mae hi, heb ychwanegu yr holl enwau ychwanegol yma ato!

Ap Blog said...

Er fy mod yn deall cymhlethdod y ddadl dros roi safle breintiedig i ferched, i ryw raddau mae PC wedi creu y broblem yma iddyn nhw eu hunain.

Roedd pawb yn deallt y rheolau - system yw'r rhestr ranbarthol i geisiau cyfartalu'r bleidlais boblogaidd efo nifer addas o seddi i bob plaid.

"Top up", o fath, sy'n hollol ddibynnol ar fethu ennill seddau'n uniongyrchol. Oherwydd y dull o rannu pleidlais plaid efor 1+Nifer o seddi uniongyrchol, mae hyn yn golygu fod llwyddiant yn y seddi hynny yn lleihau'r siawns o gael rywun i fewn drwy'r rhestr - felly, roedd rhoi Wigley'n ail mewn rhanbarth lle'r oedd gan y Blaid siawns dda yn y seddi uniongyrchol yn siwr o olygu mai dim ond trwy fethiant ymgeiswyr eraill y byddai'n mynd i fewn. Nid bai Janet Ryder ydi hyn. I gael Wigley i fewn, roedd raid rywsut i Blaid beidio ag ennill gymaint o seddi, sy'n ffordd braidd yn od o fynd ati.

Os mai bwriad PC oedd cael Wigley yn y senedd, fe ddylent fod wedi ei roi ar restr rhanbarthol lle nad oedd gobaith i PC ennill sedd uniongyrchol (ac felly efo gobaith o gael dau i fewn drwy'r rhestr), neu ei roi mewn sedd saff. Wrth ei roi o yn gogledd, lle'r roedd siawns go dda o gael nifer o seddi, roedd PC yn gwarantu na fyddai'n mynd i fewn ar y rhestr heb orfod tanseilio un o'u hymgeiswyr ei hunain.