20.5.07

Sadwrn Slobaidd


Dwi wedi cael diwrnod hollol ymlaciol heddiw, neu fel y byddai Mam yn disgrifio'r diwrnod; “Rhys, ti jest di bod yn slob heddiw.” Weithiau maen rhaid i chi gael diwrnod o beidio mynd i nunlle a pheidio gwneud dim byd o bwys yn toes? Dwi wedi bod yn cael ychydig o nostalgia heddiw drwy chwarae gemau cyfrifiadur – dwi byth yn cael cyfle i 'chwarae' ar y cyfrifiadur yn aml (er mod i ar y cyfrifiadur yn gwneud rhywbeth bob munud o'r dydd) ond pan dwi yn cael cyfle dwi'n gallu mynd yn hooked – chwarae am dridiau solet yna peidio cyffwrdd a gem am fisoedd. Ar hyn o bryd dwi yng nghanol y tridiau solet ond cyn y penwythnos yma doeddwn ni heb gyffwrdd a gemau ers cyn y Nadolig. (Dyna fy ymwadiad allan o'r ffordd rhag ofn fod fy nghariad neu fy nghyfarwyddwr ymchwil yn darllen hwn!)

Y gem heddiw oedd 'Medieval II: Total War', y gem gafodd sylw yn Golwg yn ddiweddar gan eich bod chi'n medru brwydro yn enw Owain Glyndŵr a Llywelyn – i ddweud y gwir bai Golwg yw y binge gemau dwi yn ei ganol ar hyn o bryd oherwydd oni bai i mi ddarllen am y gem yn Golwg ni fuaswn wedi syrffio draw i Amazon a'i archebu!

Ond mae yna elfen addysgol, o ryw fath, yn perthyn i'r gem. Dy chi'n rheoli brwydrau nid annhebyg i'r rhai yr oedd Vavasor Powell ac Oliver Cromwell yn eu canol yn y Rhyfel Cartref. Sydd yn dod a mi at y llyfr dwi wedi bod yn darllen penwythnos yma pan fo'n llygaid yn gwaeddi “Dim mwy o syllu ar sgrin plîs Rhys!”, 'God's Englishman' gan Christopher Hill.

Dwi wedi cwyno ar y blog yma o'r blaen am lyfrau Thomas Richards ar y cyfnod Piwritanaidd a'r gorfodaeth sydd arnaf i weithio trwyddynt oll yn araf bach. Wel, i leddfu'r boen dwi'n darllen llyfrau gan awduron eraill am yr un cyfnod run pryd. Llyfr Christopher Hill yw'r 'companion to Thomas Richards' diweddara, llyfr penodol am Oliver Cromwell. Mae'n lyfr campus, syml ond yn llawn ffeithiau angenrheidiol (mae llyfrau Thomas Richards yn llawn ffeithiau nad sydd o'r rheidrwydd yn angenrheidiol ag ystyried mod i'n bwriadu ysgrifennu PhD ar Ddiwinydd oedd yn byw dair canrif yn ddiweddarach!) ac yn dod a'r cyfnod yn fyw, rhywbeth y mae Thomas Richards yn methu'n drychinebus a gwneud.

Yn ôl i faes y gad yn awr, at Cromwell heno dwi'n meddwl cyn mentro yn ôl at y gem yfory – ar y Sabath, twt lol.

1 comment:

Ifan Morgan Jones said...

Mae'n ddrwg gen i am wastraffu tair dwirnod o dy amser di Rhys. Fy mai o oedd yr erthygl 'na am Total War yn Golwg, wedi i mi gael y gem am fy mhenblwydd!

Ond i gywiro un camsyniad cyn i neb arall redeg allan i'w phrynu hi, dim ond yn yr expansion pack mae modd chwarae fel Llywelyn, fel wedais i'n yr erthygl - fydd hwnnw ddim ar gael nes y Hydref!