8.6.07

Dad-Drefedigaethu'r Meddwl


Dwi wedi cael tridiau o ddad-drefedigaethu'r meddwl – antidôt cwbl anghenrhaid ag ystyried y seremonïau cyfoglyd a ddigwyddodd yng Nghymru wythnos yma. Nos Fawrth roedd Ngũgĩ wa Thiong'o yn siarad yn adran y Gymraeg Bangor, maen awdur,bardd a beirniad llenyddol ôl-drefedigaethol. Menna oedd a'r diddordeb (theori ôl-drefedigaethol yw ei 'thing' hi) ond fe es i am dro hefyd i wrando ac roeddwn ni'n falch iawn mod i wedi mynd i wrando.

Ganwyd a magwyd Ngũgĩ yn Kenya ac fe'i fedyddwyd a'r enw 'James Ngũgĩ'. Graddodiodd a BA Saesneg yn Uganda ac yna fe aeth ymlaen i astudio ym Mhrifysgol Leeds, Lloegr, lle cyhoeddodd ei nofelau Saesneg cyntaf. Fodd bynnag syrthiodd mewn i argyfwng hunaniaeth ac fe sylwodd o'r newydd ei fod wedi bod yn wrthrych ac offeryn is-raddol mewn trefn drefedigaethol. Peidiodd ac ysgrifennu mwyach yn y Saesneg gan fyny cyhoeddi yn ei fam-iaith yn unig, Gĩkũyũ. Gollyngodd yr enw a roddwyd arno pan y'i bedyddiwyd, James Ngũgĩ , a mabwysiadodd yr enw Ngũgĩ wa Thiong'o. Fe'i arestiwyd yn 1977 oherwydd i'w lenyddiaeth gynnwys cysyniadau gwleidyddol nad oedd at ddant y wladwriaeth ond fe fanteisiodd ar ei gyfle yn y carchar i ysgrifennu'n helaethach a hynny ar bapur tŷ bach. Wedi iddo gael ei ryddhau ni chynigwyd ei swydd yn ôl iddo ym Mhrifysgol Nairobi ac fe fudodd i'r UDA lle y'i dyrchafwyd i gadeiriau personol yn Mhrifysgol Efrog Newydd a Chalifornia, Irvine.

Er ei fod bellach yn byw a gweithio yn y Gorllewin maen parhau i gyhoeddi yn ei famiaith yn unig gan gyfieithu neu ganitâu i eraill gyfieithu ei weithiau i ieithoedd eraill maes o law. Y llyfr lle maen gosod ei stondin ac yn esbonio ei theori ôl-drefedigaethol ac yn esbonio pam ei fod yn cyhoeddi yn ei famiaith yw 'Decolonising the Mind: The Politics of Language in African Literature' (1986). Mae'r gŵr hynod yma yn ysbrydoliaeth ac yn arwr.

Ddoe, trip undydd i Ddulyn o Gaergybi. Teimladau cymysg yn ôl yr arfer sydd genai i wrth ymweld a'r Weriniaeth rydd. Edmygedd ar un llaw a cyffro wrth weld y wlad fach yn llwyddo ac yn cadw'r gobaith yng nghyn y gallasai Cymru, rhyw ddydd, ddilyn. Ond tristwch wrth gofio'r gwaed a dywalltwyd ar hyd y daith a'r ffaith mai cyfaddawd yn y bôn yw'r setliad presennol gan fod y gogledd dal yn sownd wrth y brawd mawr. Trist hefyd mai Saesneg yw'r brif iaith a hynny o bell ffordd. Wedi dweud hynny roedd yna deimlad ecstatig o 'fod yn rhydd', breuddwyd sydd, ers yr etholiad, wedi dod yn fyw eto i ni'r Cymru.

A dyma fi heddiw yn ôl yng Nghymru. Pwy oedd y gŵr gwadd ym Mhrifysgol Bangor? Ie, Carlo, darpar Frenin Lloegr. Pwy oedd yn agor ein Senedd cenedlaethol ni ddydd Mawrth a fu? Ie, Elisabeth, Brenhines Lloegr.

Oes mae gyda ni'r Cymru lawer iawn iawn o ffordd i fynd tuag at ddad-drefedigaethu'r meddwl Cymreig yn llwyr. Yn y cyfamser gadawed i ysbryd Ngũgĩ wa Thiong'o ac arwyr Gwrthryfel Pasg 1916 (er na fynnwn gefnogi eu trais) ein hysbrydoli!

4 comments:

Aran said...

Argh - o'n i'n meddwl bod chdi wedi cael dy buro ar ran defnyddio lluniau maint cywir, yn hytrach na gadael i blogger eu gorfodi i fewn i focs (ac wedyn iddynt neidio allan yn eu llawn gogoniant ar y blogiadur!)...;-)

Diolch am adroddiad difyr am ddigwyddiad arbennig iawn...

Rhys Llwyd said...

Maddeuant Aran - fe geisia i ddefnyddio fflicr o hyn allan gan opsgoi defnyddio cod o wefanau eraill.

Aran said...

Diolch ti...:-)

Does 'nam modd llwytho lluniau ar blogger ei hun?

Ond ta waeth - mae 'hotlinking' yn bechod...;-)

Anonymous said...

Oes gen ti syniadau ar gyfer y Welsh Blog Awards 2007?