21.6.07

Golwg aeth a sisiwrn at fy epistol

Rwy'n ddiolchgar iawn i Golwg am gyhoeddi fy llythyr yn eu rhifyn heddiw. Fodd bynnag fe'm synwyd eu bod wedi tynnu un frawddeg allan a hwnw yn un go allweddol i rediad fy nadl. Mae'r frawddeg gafodd ei hepgor wedi ei oleuo yn y paragraff isod:

Serch hynny, rhaid cytuno ag ef ar un pwynt, sef mai '...nutces yw unrhyw un sy'n meddwl fod gan enwadaeth Cymru unrhyw ddyfodol', fel y mae pethau ar hyn o bryd o leiaf. Yma yn Aberystwyth mae criw o Gristnogion ifainc sydd, yn ogystal â pharhau i addoli yn eu capeli a’u heglwysi eu hunain, wedi cymryd eu ffydd allan o'r adeiladau traddodiadol, gan geisio mynd â’r Efengyl i’r priffyrdd a’r caeau, neu, yn ein hachos ni, y caffis a’r tafarnau. Bob nos Fercher cynhelir Cwrs Alffa, lle daw pobl o bob cefndir crefyddol, gan gynnwys rhai anffyddwyr o argyhoeddiad, i holi a thrafod rhai o bynciau canolog y ffydd Gristnogol. Trwy'r genhadaeth yma mae llond dyrnaid o Gymry ifanc wedi dod i berthynas real â’r Iesu eleni. Ar nos Sul cynhelir cyfarfod yn Nhafarn y Cŵps lle rhennir adnodau o'r Beibl, offrymir gweddi a cheir cyfnod o ganu emynau modern mewn awyrgylch anffurfiol.


Rwy'n ymwybodol fod perffaith hawl gan y Golygydd i olygu llythyron, yn bennaf i'w byrhau. Ond ni ellid ond synnu ei fod wedi tynnu y frawddeg uchod allan, un cwbwl allweddol i rediad fy nadl. O dynnu y frawddeg uchod allan mae e fel cyflwyno yr arbrawf heb ddatgelu canlyniadau'r arbrawf. Hynny yw, y ffaith fod yna rai wedi dod i gredu sy'n brawf fod Duw wedi gweithio a defnyddio y cyfarfodydd ar cyfrwng newydd yma. Amwni fod 'troedigaeth' a 'sicrwydd ffydd' yn gysyniadau tramgwyddus ochr yn ochr a 'ffwndamentalaidd' a 'terfysgaeth' yn y Gymru seciwlar sydd ohoni – trist.

Diolch fodd bynnag i bawb, rhai ffigurau blaenllaw ym myd Diwinyddiaeth a Crefydd yng Nghymru, sydd wedi anfon negeseuon o gefnogaeth a diolchgarwch i mi am lunio'r ymateb.

4 comments:

Huw said...

Mae'n syndod i mi pam fod Golwg wedi tynnu'r frawddeg penodol ene.

ardibeltza said...

Cafodd mwy na'r frawddeg yna ei docio o'r llythyr gwreiddiol - a'i docio er mwyn gofod yn unig.
Pa un o'r pump brawddeg yn y darn arbennig yna o'r llythyr y gellid ei docio heb golli sens y peth?

Rhys Llwyd said...

Digon teg fod y tocio wedi digwydd oherwydd diffyg lle, ond roedd y dewis brawddeg yn anghywir yn fy nhyb i.

Byddai tynnu: "... lle rhennir adnodau o'r Beibl, offrymir gweddi a cheir cyfnod o ganu emynau modern mewn awyrgylch anffurfiol." heb dynu o rhediad y llythyr.

Anonymous said...

Erm, pam ydy pyst dy flog bob amser ar brig y blogiadur? Mae'n eitha chwithig a dweud y gwir.
;)