5.7.07

Llafur-Plaid: dwi ddim wedi fy argyhoeddi

Dydw i heb sylwebu ar wleidyddiaeth Cymru na chlymbleidio ar y blog ers rhai wythnosau ond dwi wedi fy nghymell i wneud heddiw. Roeddwn ni'n darllen ar flog Vaughan Roderick fod yna bedair AC o'r Blaid Lafur wedi dod allan yn gryf yn erbyn clymblaid gyda Phlaid Cymru. Eu dadl nhw, yng ngeiriau Vaughan, ydy; '...y byddai'r bwriad i ymgyrchu dros bleidlais Ie mewn refferendwm ar bwerau llawn yn llesteirio’r gwaith o sicrhâi cyfiawnder cymdeithasol.' Nawr dyma'r hen rethreg Llafur dwi wedi hen hen flino ei glywed. Y sglodyn enfawr 'ma sydd ganddyn nhw ar eu ysgwyddau fod bod yn genedlaetholwr gyfystyr a pheidio poeni am gyfiawnder cymdeithasol/economaidd.

Plaid unoliaethol ydy'r Blaid Lafur, ac os oes yna rai oddi mewn iddi yn ddatganolwyr datganolwr reactionary ydyn nhw – dydy nhw ddim yn gweld gwerth i'r Genedl ei hun dim ond, o bosib, fel cyfrwng i hybu eu agenda economaidd, llenwi gwacter democrataidd ayyb... Dwi'n cyfaddef fod yna bethau 'cenedlaetholgar' cryf yn y ddogfen Llafur-Plaid, fodd bynnag, rhaid holi o ddifri os ydy'r Blaid Lafur wir am wireddu rhain ynteu rhyw 'take what every you want but don't touch my face' i aros mewn pŵer yw'r addo yma o Gomisiynydd Iaith, Coleg Ffederal Cymraeg, Refferendwm ar bwerau llawn ayyb...

Roeddwn ni'n gefnogol ac yn bleidiol i'r Enfys, ac fe glywai chi'n dweud nawr 'Rhys bach, mae'r Ceidwadwyr yn unoliaethwyr hefyd.' Ydyn maen nhw, ond NI, Plaid Cymru fyddai yn arwain y llywodraeth – Ieuan Wyn Jones, y cenedlaetholwyr fyddai'n Brif Weinidog. Gwahaniaeth sylfaenol felly rhwng gweithio mewn llywodraeth gyda phlaid unoliaethol (Ceidwadwyr) oddi tanom ni i fod yn gwn bach mewn llywodraeth a phlaid unoliaethol (Llafur) yn ein rheoli ni.

Dwi'n mynd i wrando ar Ieuan Wyn Jones nos Iau yn Aberystwyth gyda meddwl agored. Fodd bynnag mi fyddaf yn ail-ystyried fy lle ym Mhlaid Cymru os na argyhoeddith Ieuan Wyn Jones fi yn wahanol nos Iau. Alla i ddim gweld lle i mi mewn plaid sy'n cadw pobl gwrth-Gymreig fel Ann Jones, Karen Sinclair ac Irene James mewn llywodraeth.

Fyddai ddim yn ymaelodi a'r Ceidwadwyr fel y mai rhai (ffôl a naîf) wedi darogan fodd bynnag byddaf mwy na thebyg yn rhoi terfyn i fy nghyfraniadau ariannol (nad sydd yn fawr cofiwch, dwi'n fyfyriwr!) ac yn peidio bod yn aelod gweithredol. Sy'n biti mawr gan mod i wedi rhoi peth wmbreth o amser i mewn i'r ymgyrch lwyddiannus i ail ethol Elin Jones yng Ngheredigion (dwi dal heb ddal fyny gyda fy ngwaith ymchwil yn iawn) ac wedi mwynhau y gwaith yn fawr iawn – a beth oedd ein blurb yma yng Ngheredigion? 'Lib Dems are in talks with Labour all ready to keep Labour in power.' Bydd dim wyneb gennai wynebu etholwyr Ceredigion mwyach. Ac fe dybiaf fod unrhyw obaith oedd gan Seimon Thomas i ail-ennill y sedd wedi ei golli.

5 comments:

Unknown said...

Rhys, I suggest that you listen very carefully to the arguments put forward by Ieuan Wyn. You will see that the decision was a wise one and is in the best interest of Plaid and Cymru. I have predicted that the vote will be Yes, and there are sound reasons for this. Gwela fy mhlog fi os gwelwch yn dda :
"Plaid in Rainy Carmarthen"
http://alanindyfed.blogspot.com

Bonheddwr said...

Plaid Cymru ar y ffordd i sicrhau:

Senedd go iawn i Gymru
Deddf Iaith Newydd
Coleg ffederal
ayb, ayb...

A ti'n sôn am adael y Blaid? :-s

Rhyfedd o fyd.

Anonymous said...

Rhyfedd o fyd.

Dim ond os ti'n anwybyddu beth sy'n digwydd yn y Blaid Lafur. Ni all Rhodri Morgan warantu dim byd o gwbl. Dydd Mercher cawsom weld sut mae Plaid yn barod i neud cyfaddawdau diog er mwyn plesio Llafur.

Rhys Llwyd said...

Hedd,

Sut fydde ti'n ateb etholwyr Ceredigion te Hedd?

Wrth gwrs fod cynnwys y pethe na yn bwysig ond smo fe'n golygu iot o ddim byd i etholwyr cyffredin Ceredigion.

Rhys

Unknown said...

Llongyfarchiadau Rhys.
Yr wyf wedi gwybod y darlith oddi wrth Ieuan gwneud argyhoeddiad i chwi. ;-)

Alan in Dyfed