14.12.07

BBC Wales dal i drin Cymru fel rhanbarth yn hytrach na cenedl

Mae wedi fy nharo i droeon sut y mae BBC Wales yn trin Cymru fel rhanbarth o Brydain yn hytrach na fel cenedl. Cymharwch Wales Today gyda'r 6 o' clock news o Lundain – nid yw Wales Today, ein rhaglen newyddion genedlaethol, yn trin Cymru fel cenedl ond yn hytrach mae jest fel rhaglen newyddion unrhyw ranbarth arall yn Lloegr. O bell ffordd y brif stori newyddion yng Nghymru heddiw oedd bod 600 wedi troi allan i brotestio yn erbyn cynlluniau cyngor Gwynedd i gau ysgolion – 600! Does dim 600 wedi troi allan ar y strydoedd yng Nghymru ers blynyddoedd lawer, ddim yn fy oes i beth bynnag. Cymharwch lleoliad y stori ar wefan BBC Cymru a BBC Wales. Maen brif stori gan BBC Cymru chwarae teg ond sylwch ar ei leoliad gan BBC Wales. British Broadcasting Corporation yn wir! Beth sydd tu ôl i'r penderfyniad golygyddol yma? Gan nad ydy Gwynedd o fewn tafliad carreg i bencadlys BBC Wales yn Llandaf maen debyg nad ydy'r stori yn bwysig.

BBC Cymru:


OND, BBC Wales:


Yn fy nhyb i y BBC ydy un o'r sefydliadau sydd wedi methu ag addasu mwyaf i ddyfodiad datganoli, mae unigolion o fewn y sefydliad wedi ei deall hi (clic, clic) ond fel corfforaeth mae'r BBC wedi methu yn llwyr ac addasu. Mae'r fformat Wales Today yr union yr un peth ag oedd cyn 1997 – newyddion bach rhanbarthol ar ôl y newyddion cenedlaethol Prydeinig. Maen hen bryd i BBC Wales lansio gwir newyddion cenedlaethol Saesneg (ac ehangu ar y Gymraeg) yn hytrach na rhyw after thought rhanbarthol ar ôl y newyddion Prydeinig.

3 comments:

Rhys Wynne said...

Allai'm gweld yn iawn beth sydd ar y sgrinlun, ond mae nhw wedi ffeidio lle i rhoi llun Carlo arno.

Rhys Llwyd said...

sori, doedd y sgrin luniau ddim yn glir iawn ond yn syml y pwynt oeddw ni'n trio ei wneud oedd fod e'n brif stori ar yr ochr Gymraeg ond fod e jest ar waelod o golofn 'other news' ar y wefan Saesneg.

Rhys Wynne said...

Dwi'n deall (a chytuno â) dy bwynt, mond nodi bod rhywbeth yn ymwneud â 'ein tywysog ni' yn cael blaenoriaeth. A'i stori ei fod am wneud rhan o'r neges nadolig yn Gymraeg neu rhywbeth ydi sgwn i (mae cofnod ar flog Emma Rees am y peth digwydd bod, neu fel arall fyddwn i ddim callach - nac yn dymuno bod)