15.1.08

BBC iPlayer


Ydych chi wedi cychwyn defnyddio BBC iPlayer? Sustem ar-lein am ddim ydyw gan y BBC sy'n eich galluogi i ail-wylio (neu am y tro cyntaf os colloch y gwreiddiol!) y rhan helaeth o raglenni'r BBC gafodd eu darlledu dros y saith diwrnod diwethaf. Mae S4C wedi bod yn cynnig rhyw fath o wasanaeth tebyg, S4C Gwyliwch eto, ers rhyw flwyddyn ond dwi'n meddwl fod sustem a meddalwedd iPlayer y BBC yn well - maen sicr yn llwytho yn gynt. Byddai'n fanteisiol i S4C dwi'n meddwl drosi i ddefnyddio system fwy tebyg i iPlayer y BBC.

Dwi'n meddwl fod hwn yn ddatblygiad pwysig oherwydd maen anorfod y bydd mwy a mwy o gyfryngau yn troi i ddosbarthu dros bandllydan yn hytrach nag analog a lloeren. Yn fy fflat i does dim signal teledu analog da ac nid oes signal digidol o gwbl felly mae fy sefyllfa yn fy ngwthio fwy fwy i ddibynnu ar y rhyngrwyd i gael gweld y newyddion ayyb... Gyda broadband wedi cyraedd bron a bod bobman a signal digidol da ddim i'w ganfod mewn trefi mawr fel Bangor ac Aberystwyth hyd yn oed dwi'n rhagweld mwy a mwy yn troi tuag at wasanaethau fel iPlayer.

Wrth gwrs anfantais iPlayer yw fod popeth yn ymddangos arno rai oriau yn hwyr, hynny yw nid yw'n darlledu teledu byw - tan ei fod e'n gwneud hynny dwi'n meddwl fod tennyn reit dyn gan y BBC ar y gwasanaeth a does dim rhaid i wneuthurwyr a gwerthwyr setiau teledu confensiynol ddechrau poeni. Ond mater o amser fydd hi dwi'n meddwl cyn bod y BBC a chorfforaethau eraill yn cynnig gwasanaeth llawn a byw dros fanllydan - rwy'n disgwyl mlaen.

2 comments:

gethin said...

dim signal ym mangor?
o wel, neith arbed amser ag arian i mi flwyddyn nesa!

ond am iplayer yn eitha da, rhaid dweud. er does dim wir gwyn gen i yn erbyn gwasanaeth sbec - ond falle bod hwnna achos mod i dim ond yn ei ddefnyddio pan dwi'n y coleg a ma na ethernet yma felly mae'n reit gyflym.

Rhys Wynne said...

Wedi defnyddio iPlayer am y tro cyntaf ar y penwythnos. Cytuno ei fod yn llwytho'n gynt, ond rhywbeth wnaeth daro fi oedd bod y 'screen saver' yn ymddangos' sawl tro yn ganol rhaglen, tra wrth wylio Y Pris ar wasanaeth gwe S4C, does dim amhariad. Wrth gwrs gallaf newid gosodiadau fy nghyfrifiadur,ond ni ddylwn orfod gwenud.
Mae'r modd mae rhaglenni wedi ei dosbarthu ar wefan S4C yn haws dod o hyd i rifyn arbennig o gyfres penodol hefyd dw'n meddwl gyda tudaeln i bob rhaglen/cyfres a rhestr o pob rhifyn a'r dyddiad nesa ato, tro mae iPlayer yn dangos pob rhaglen gyda'i gilydd (yn ôl llythyren neu fath) ond rhaid rhoi'r saeth dros pob rhaglen i weld y dyddiad.