19.1.08

Gosod Leopard


Mae fy nghath i wedi newid ei sbotiau heddiw, fe drodd y Teigr yn Leopard. I chi sy'n parhau am ryw reswm i ddefnyddio Windows XP neu Vista gwell fydda i mi esbonio. Mathau gwahanol o gathod y mae Apple yn galw eu sustemau gweithredu, Puma (10.1), Jaguar (10.2), Panther (10.3), Tiger (10.4) a'r diweddaraf Leopard (10.5). I ddefnyddwyr Windows mae system weithredu newydd yn ddigwyddiad an-aml iawn, llynedd rhyddhawyd Windows Vista ond cyn hynny roedd defnyddwyr Windows wedi bod yn styc gyda XP ers 2001. Tra bod defnyddwyr Apple wedi mwynhau anwesu'r holl gathod roedd defnwyddwyr PC's yn sownd yn syllu allan o'r un hen ffenestr ddiflas.



Mae'r cysyniad o osod sustem weithredu newydd ar gyfrifiadur yn gysyniad hollol estron i ddefnyddwyr PC oherwydd ni fydd bywyd oes unrhyw PC yn medru goroesi hyd y Windows nesa - ar y llaw arall mae fy Afal i yn ddwy a hanner oed bellach ac maen llythrennol fel newydd ohyd - yn gyflym - yn ddibenadwy ac bellach a sustem weithredu newydd wedi ei osod a phob peth yn gweithio o fewn dwy awr o lwytho. Dim angen poeni am lwytho drivers di-ben draw i sawl trydedd parti fel ag sydd yn rhaid i ddefnyddwyr Windows boeni amdano.


Mae'r fideo yma yn dweud y cyfan:



[Oce, oce, efallai nad oedd hi mor hawdd a hynny i uwchraddio i Leopard. I ddechrau roedd rhaid i fi uwchraddio fy becynau meddalwedd Adobe o 7.0 i fyny i CS2, roedd angen i mi wneud hynny beth bynnag. Ac wedi uwchraddio i Leopard nid oedd NeoOffice 1.4 yn gweithio felly roedd rhaid uwchraddio i 2.2, ond unwaith yn rhagor roedd angen gwneud hynna ta beth.]

3 comments:

Emma Reese said...

Falch o wybod bod rhywun arall yn hoff o MAC hefyd. Faswn i ddim medru defnyddio cyfrifiadur oni bai amdano fo. Does dim rhaid poeni am firws chwaith hefo MAC.

Rhys Wynne said...

Pan yn prynnu gliniadur 12 mis yn ôl ystyriais MAC ond es i am un PC oherwydd y gwahaniaeth pris. Yn barod mae yna flychau 'rhybudd' wedi ymdangos am ddim rheswm, ac i rwbio halen yn y briw rydym wedi cael gliniaduron Mac ar gyfer prosiect yn y gwaith felly dwi'n gwbod yn iawn rwan beth dwi'n fethu (er daeth gyda Tiger er i ni i brynnu tua Hydref/Tachwedd). Dwi rhwng dau feddwl gwerthu'r gliniadur PC, ond mae'n siwr nai ddim.

Mae hen PC yn y tŷ rwan, ac efallai nai drio arbrofi gyda sustem weithredu Ubuntu arno, sydd yn ôl pob sôn ddim rhy anodd i rhywun di-glem fel fi - cawn weld!

Rhys Llwyd said...

Ni fuasw ni yn ffrind da pe na bawn ni yn gwneud pob dim medra i i stopio ffrind brynnu PC. I bawb, fel fi, sydd wedi newid dy chi methu coeli bo chi heb newid yn gynt - fel wyt ti dy hun wedi sylwi nawr Rhys.

Mae'r pris yn realative - mi elli di gael laptos PC am mor rhad a £250 nawr tra bod y Mac laptop rhata yn £600. Ond you pay for what you get. O fewn blwyddyn mi fydd y laptop £250 PC bron am bod yn an-ddefnyddadwy i ddim byd mwy na syrfio'r we a prosesu geiriau tra bydd y MAC yn rhedeg fel newydd am o leia tair blynedd a mwy. A dydy PC ddim wirioneddol yn rhatach oherwydd i gael Laptop PC cystal ag yr un Mac am £600 byddai rhaid i ti wario o leia £1500 i gael y top end PC Laptop. Trash yw unrhywbeth PC sydd dan £1000 tra fod stwff Apple yn gwbl ddibynadwy hyd yn oed y stwff rhata am £600 (neu'r Mac Mini am £350 hyd yn oed).