3.3.08

Profiad Dyn - Datguddiad Duw?

Sgwenesi y sylwadau yma i ddechrau ar maes-e mewn trafodaeth oedd yn trafod pam fod trafodaethau yn y seiad 'Ffydd a Chrefydd' wastad yn troi allan yn ryfel mawr rhwng safbwyntiau ffwndamentalaidd di-gred a ffwndamentalaidd Gristnogol. Dyma oedd rhai o fy sylwadau athronyddol grefyddol, maen gymhleth ydy ond triwch ddilyn y ddadl er mwyn gadael sylwadau, bydd yn ddifyr!:


Difyr. Des i ar draws grwp o'r enw "We are not "believers", we are those who know the TRUTH" ar Facebook pwy ddiwrnod. Gwnaeth e i fi feddwl. Penderfynesi beidio ymuno a hynny am resymau tactegol (hy ddim ishe bobl feddwl mod i'n fwy o ben-bach nag ydw i'n barod!), fodd bynnag yn ôl dysgeidiaeth y Beibl/Cristnogaeth mae yn ddatganiad cywir. Dwi wedi pwysleisio dro ar ol tro ar y maes mae dim ond hyn a hyn o ffordd fedra i fynd yn esbonio a rhesymu dros Gristnogaeth ac fod yna bwynt yn dod lle maen rhaid cael ffydd - y 'leap of faith' os liciwch chi. Ond i bobl sydd wedi dod i adnabod Iesu mae'r ffydd yn peidio bod yn blind faith ac maen dod yn synnwyr cyffredin oherwydd eich bod chi wedi gweld a phrofi y gwirionedd.

Dwi'n gwybod ac nid credu fod Cristnogion yn bobl sydd yn gwybod y gwirionedd, ond wnes i ddim ymuno a'r grwp ar facebook oherwydd nad ydw i'n gwybod a deall popeth am y gwirionedd.

Ac o fynd nol at bwynt gwreiddiol yr edefyn sef trafodaethau loggerheads yn y seiat 'Ffydd a Chrefydd' - dyma yw'r ddeilema mawr wrth i Gristnogion a'r di-gred drafod ffydd - mae'r Cristnogion yn gwybod eu bod nhw'n iawn ac yn mynd yn rhwystredig nad ydy nhw yn gallu profi hynny i bobl sydd heb ffydd. Ac oherwydd fod y di-gred heb ffydd maen nhw, yn ddi-ymwybod iddyn nhw eu hunain, yn eiddugeddus o'r hyn sydd gan Gristnogion ac felly yn diystyru safbwynt y Cristion fel un ffol a di-reswm. Bendith a phroblem dyn ar yr un pryd yw ein bod ni'n dilysu popeth ar sail ein profiad ni ein hunain.

Anghredadyn = dim profiad o Dduw = dim Duw.

Cristion = profiad o Dduw = mae Duw.


Ond dyma lle mae gan y Cristion yr uper-hand, uper-hand y mae dyletswydd arno ei defnyddio yn i.) gall, yn ii.) ddoeth a iii.) graslon, rhywbeth nad ydyw Rooney (enw ffug Cristion Ffwndamentalaidd sydd ar maes-e) wedi ei feistroli yn anffodus (testun gweddi bid siwr). Yr uper-hand ydy fod y Cristion, yn ei hanes, wedi bod yn esgidiau yr Anghredadyn ac felly yn medru deall profiad yr anghredadyn tra nad ydy'r anghredadyn wedi bod yn esgidiau y Cristion ac felly ni all ddeall profiad y Cristion.

Oherwydd y ddeilema yma sy'n codi o roi'r pwys ar brofiad dyn mae diwinyddion o sylwedd wastad wedi rhoi y pwys ar ddatguddiad Duw yn hytrach na phrofiad dyn, oherwydd fod profiad dyn wastad yn berthynol (relative), tra ar y llaw arall fod datguddiad Duw yn wrthrychol. Yr amlycaf oedd Karl Barth. Wrth gwrs dwi'n saethu fy hun yn fy nhroed wrth ddweud fod fy mhrofiad o wrthrychedd Duw yn ddilys - ond y mae! Tystio y mae fy ffyd o ddatguddiad Duw ac nid y ffordd arall i.e. y syniad o ddatguddiad Duw yn ffitio fy mhrofiad. Fe ddaeth y datguddiad er mwyn i mi a chyn i mi gael y profiad.

Cymleth? Ydy! Ond wedyn dwi'n meddwl taw Athanasius Anselem (diolch am fy nghywiro Jean Calvin!) ddywedodd mae'r diffiniad o beth yw diwinyddiaeth yw: "ffydd yn ceisio deall"!

5 comments:

Jean Calvin said...

Hmm, diddorol, ond nid heb problem yw'r gosodiad "We are not "believers", we are those who know the TRUTH". A yw'r Cristion yn gwybod y gwirioned neu'n ei adnabod? Jyst bod y fersiwn Saesneg yn swnio'n braidd yn glib.

Jean Calvin said...

... wrth law Anselm ddywedodd mae'r diffiniad o beth yw diwinyddiaeth yw: "ffydd yn ceisio deall"!

Rhys Llwyd said...

Diolch am y sylwadau Jean! Typed pwy wyt ti? Yn llyfr Robert Pope y des i ar draws y gyfeiriadaeth at y dyfyniad o eiddo Anselm, dwi'n hoff iawn ohono. A'i yn llyfr Robert y des di ar ei draws hefyd?

gethin said...

Mae profiad personol yn bwysig ond mae'n bwysicach cofio sail cred. Nid rhyw deimlad 'mystic', haniaethol ydi o ond credu mewn ffeithiau go iawn ac ymddiried mewn person go iawn sy wedi datguddio'i hun i ni yn y Beibl. Mae'r hyn mae'r Beibl yn ei ddweud yn hanesyddol gywir - wnaeth Iesu farw ac atgyfodi - a mae'n rhaid i ni gyd gael ateb i hwnna.
Yr upper-hand sy gan y Cristion ydi'r Ysbryd Glan - ei fod wedi agor ein llygaid a rhoi bywyd i ni. Gras Duw ydi'r upper-hand - felly, fel ti'n dweud, mae'n hanfodol bwysig cofio hwnna wrth gyflwyno hwn i eraill. Dwi'n cofio rhywbeth wnaeth Roger Carswell ddweud yn y gynhadledd yn Aber llynedd: "Don't be angry with unbelievers, they are what you once were."
Felly, yn fyr - dwi'n cytuno, ac mae'n bwysig cofio fod y ffaith mod i'n 'gwbod', nid jyst 'credu', yn reswm i fod yn fwy llawn o ras efo anghredinwyr achos dwi'n gwbod be ydi'r profiad personol yna.

Ifan Morgan Jones said...

Comic arall gan yr un artist: http://imgs.xkcd.com/comics/beliefs.jpg ;)