25.4.08

Dylanwad (negyddol?) Martin Lloyd-Jones

I rywun fel fi sydd wedi fy magu yn y traddodiad efengylaidd does ond un Doctor sef Dr. Martin Lloyd-Jones. Ef oedd yr arwr mawr ac ef oedd y Moses a arweiniodd ei bobl drwy ddegawdau anodd ac unig yr Ugeinfed Ganrif. Fe, maen debyg, oedd y Piwritan olaf. Roedd ei ddylanwad ar y byd ceidwadol efengylaidd bron a bod yn absoliwt ac fe ddaeth y cyfan i ben yn 1966 pan alwodd ar bobl efengylaidd i 'ddod i benderfyniad' – y 'call to decision enwog' – a gwneud y safiad a gadael yr hen gyfundrefnau crefyddol a sefydlu eglwysi newydd diwygiedig. Er i lawer ei ddilyn gan gynnwys rhai Cymry Cymraeg a aeth ymlaen i sefydlu eglwysi newydd yn Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, Caerfyrddin, Llangefni, Bae Colwyn, Waunfawr a Talsarnau, fe wnaeth llawer wrthod a hynny ar egwyddor. Yr enwocaf mwy na thebyg o bobl wrthododd ddilyn MLl-J oedd John Stott yr arweinydd efengylaidd mwyaf blaenllaw o fewn yr Anglicaniaid. Ar y noson lle galwodd MLl-J ar bobl efengylaidd i ddod i benderfyniad Stott oedd yn llywyddu – ar ôl i anerchiad MLl-J ddod i ben yn hytrach na chau y cyfarfod gyda gair o weddi fe aeth Stott ati i amlinellu ei wrthwynebiad pendant i'r safbwynt yr oedd MLl-J newydd ei amlinellu a dyna gychwyn rhwyg rhwng pobl efengylaidd sy'n parhau heddiw.



Yn anorfod pan fo rhwyg yn digwydd mae'r ddwy garfan yn pwyso ac yn edrych tuag at eu harweinydd am ysbrydoliaeth ac am arweiniad a chyngor ar bron a bod popeth a dyna, yn fy nhyb i, sydd i gyfri am ddylanwad rhyfedd, anghyffredin ac absoliwt MLl-J ar y byd efengylaidd ceidwadol. Fy niddordeb arbennig i yn MLl-J yw ei gyferbynnu gyda'r cawr arall o Gymro efengylaidd gydol yr Ugeinfed Ganrif sef R. Tudur Jones, gŵr sy'n destun i fy noethuriaeth. Y gwahaniaeth sylfaenol ac amlwg rhwng MLl-J ac RTJ yw eu ymwneud a'r sffêr gyhoeddus - ar un llaw roedd RTJ yn pledio achos Cymdeithas yr Iaith ac yn Is-Lywydd ar Blaid Cymru tra oedd MLl-J, ar y llaw arall, i bob pwrpas yn bietydd. Ac rydw i yn cytuno gyda Bobi Jones fod pietistiaeth yn ddim byd llai na heresi.

Ond a oedd MLl-J wir yn bietydd? Mi fyddai ei ddilynwyr ffyddlon yn gwadu fod eu dyn mawr nhw yn bietydd gan ddadlau mae'r oll oedd yn dweud oedd na ddylai'r gweinidog a'r offeiriad, oherwydd y fuchedd neilltuedig, ymhél a gwleidyddiaeth ond fod lle i'r Cristion ymhél. Tan neithiwr roeddwn ni'n ddigon bodlon gyda'r dehongliad yna, fodd bynnag wrth bori trwy'r cofiant i MLl-J gan Ian Murray (sydd, yn fy marn i, yn ymylu ar fod môr an-wrthrychol a chofiant enwog E. Pan Jones i Michael D. Jones!) neithiwr fe ddois ar draw tystiolaeth fod safbwynt MLl-J tuag at ddiwinyddiaeth gyhoeddus yn fwy gwahanol i safbwynt RTJ nag oeddwn ni wedi dychmygu/sylwi yn wreiddiol. Nid gwahaniaeth bach neu wahaniaeth pwyslais sydd rhwng safbwyntiau'r ddau yn fy nhyb i, maen wahaniaeth llawer mwy sylfaenol.

Yn 1980, ar ddiwedd gweinidogaeth MLl-J, pan holwyd iddo gan ohebydd i Christianity Today y cwestiwn 'what do you think Christianity ought to say to the economic situation today?' roedd ei ateb fel a ganlyn:

"I think the great message we must preach is God's judgment on men and on the world... The main function of politics, culture, and all these things is to restrain evil. They can never do an ultimately positive work."


Mae'r pwyslais yn y dyfyniad yn gwbl eglur, mewn cyd destun negyddol ac i negyddu pechod y mae MLl-J yn edrych ar bethau'r sffêr gyhoeddus ac nid mewn cyd destun cadarnhaol i foli a mawrygu'r Duw byw. Ag ystyried dylanwad bron a bod absoliwt MLl-J, oliaf tan yn ddiweddar iawn, ar yr eglwysi efengylaidd ceidwadol (sy'n cynnwys y rhai Cymraeg a nodwyd uchod) does dim syndod mod i wedi fy magu mewn hinsawdd Gristnogol oedd, ar y cyfan, yn bietistaidd ag eithrio lleisiau proffwydol, ac mewn gwirionedd unig, gwyr fel Bobi Jones ac R. Geraint Gruffydd.

1 comment:

Rosyrp said...

A'i Cristnogaeth sydd fod dylanwadu ar gymdeithas a gwleidyddiaeth ayyb, neu Cristnogion? Beth am hanes rhai fel Shaftesbury? Newton? Cadbury? ayyb Neu ydi e'n gwestiwn o'r cyw a'r wy?