Y Cyfaddawd Protestannaidd? [ymateb i flog Menai]
Wedi darllen y blogiad diddorol tu hwnt yma gan Menai dan y teitl profoclyd ond eto digon teg 'Pam bod Islam yn mynd o nerth i nerth, tra bod yr Hen Gorff yn gorff?' dwi'n teimlo fel bod yn rhaid i mi roi ymateb i ddau gam-sylwad ganddo/i am Gristnogaeth Ddiwygiedig yn y blogiad. Yn gyntaf mae Menai yn dweud:
“Wedi’r cwbl cyfaddawd efo seciwlariaeth ydi Protestaniaeth yn ei hanfod – gwahoddiad agored i ddyn ddod o hyd i Dduw ar ei ben ei hun."
Mae ail hanner y frawddeg uchod yn gywir – yn ei hanfod un o egwyddorion creiddiol Protestaniaeth oedd fod dyn i ddod at y Gair, Ysgrythur a Duw drosto ef ei hun ac nad oedd yr Eglwys (Babyddol) a'i ddefodau yn gyfrwng angenrheidiol i ddod at Dduw. Roedd y diwygiad Protestannaidd yn dysgu y bod yn rhaid i bawb ddod i gyfri ac edifeirwch a ffydd bersonol a hynny yn gwbl annibynnol o gyfrwng yr Offeiriad, y Cymun a'r “cyfryngau” Pabyddol eraill at Dduw. Mae Menai hefyd yn gywir i nodi fod y gwahoddiad o dy y Protestaniaid yn un “agored”, yn wir dyma oedd yr allwedd i lwyddiant cenhadaeth fawr y diwygiad sef fod y Protestaniaid wedi mynd ati yn ddygn i ddarparu Gair Duw i bobl llawr gwlad yn eu hiaith nhw eu hunain er mwyn iddynt ddod at Dduw trostynt hwy eu hunain.
Ar y llaw arall roedd yr Eglwys Babyddol yn gyndyn i roi gair Duw i bobl llawr gwlad ac yn hytrach roedd rhaid i bobl wrando arno yn unig mewn gwasanaethau Pabyddol a llawer o'r darllen ysgrythurau yn Lladin, Groeg a Hebraeg, iaith na fyddai pobl llawr gwlad yn ei ddeall! Wrth gwrs roedd awdurdodau'r Vatican yn gwybod yn iawn y byddai rhoi gair Duw i bobl ddarllen trostynt hwy eu hunain yn peryglu sylfaen y Babaeth gan y byddai pobl (fel y gwnaeth Luther trwy ras Duw) yn darganfod yn ddigon sydyn y bod dysgeidiaeth y Babaeth ar sawl peth megis purdan ac yn fwyaf arswydus y maddauebau yma yn lol ofergoelus ac yn amhosib eu canfod yn yr ysgrythurau Sanctaidd. O ran haeriad Menai fod Protestaniaeth yn gyfaddawd a seciwlariaeth – diddorol byddai clywed ei rhesymeg tu ôl i'r sylwad syfrdanol yma ond o edrych nol ar y cyfnod does dim gwadu y bod y maddauebau yma a'r simony oedd yn rhemp trwy'r Eglwys Babyddol yn ddim byd llai na cyfaddawd a'r ofergoeliaeth (seciwlar) baganaidd y cyfnod ac yn porthi nid y Duw Byw ond yn hytrach duw Mamon.
Ac yna ymlaen at ail frawddeg Menai oedd yn sefyll allan:
“...ac wrth gwrs mae’r traddodiad Protestannaidd yn gwahodd pobl i ddiffinio eu Duw eu hunain.”
Roedd arwyddair y diwygiad Protestannaidd yn ddigon clir 1. Sola scriptura ("by Scripture alone"), 2. Sola fide ("by faith alone"), 3. Sola gratia ("by grace alone"), 4. Solus Christus ("Christ alone") a 5. Soli Deo gloria ("glory to God alone"). Er y bu i un traddodiad niweidiol yn yr Eglwys Brotestannaidd a ddaeth i'w oed yng ngwaith Schleiermacher ac erbyn yr G20 yng ngwaith Tilich wadu hyd yn oed awdurdod yr ysgrythur ar y cyfan ac yn sicr yr adain o Brotestaniaeth yng Nghymru a oroesodd ddymchwa ail hanner yr Ugeinfed Ganrif oedd y traddodiad 'efengylaidd' (yn ei ystyr lythrennol a thraddodiadol ac nid yn ei gyswllt ddiwylliannol gyfoes o ran crefydd-gwleidyddiaeth adain dde UDA) ac nid yw'r traddodiad efengylaidd-Brotestannaidd yma yn gwahodd pobl i ddiffinio eu Duw eu hunain, ddim o gwbl. Rydym yn gwahodd pobl i ddod at Dduw drostynt hwy eu hunain ydym, ond at y Duw sydd wedi ei ddatguddio i ni yn yr ysgrythurau sef Iesu Grist, y Duw sy'n ein derbyn fel ag yr ydym, y Duw sy'n gofyn am ddim byd ond am ffydd. Dim ond ar bapur y mae pobl fel Aled Jones-Williams yn perthyn i'r Eglwys Brotestannaidd o ran credo maen amheus a yw hyd yn oed yn arddel theistiaeth heb sôn am fod yn Gristion Protestannaidd bellach.
'Ac nid oes iachawdwriaeth yn neb arall, oblegid nid oes enw arall dan y nef, wedi ei roi i'r ddynolryw, y mae'n rhaid i ni gael ein hachub drwyddo.' (Actau 4:12)
Gan gofio fod Protestaniaid (y rhai sydd wedi cadw'n driw i bump 'sola' y diwygiad o leiaf) yn dilyn yr adnod uchod afraid dweud fod honni fod Protestaniaeth yn ffydd anything-goes yn dra gamarweiniol.
1 comment:
Diolch i ti am ymateb Rhys.
Does yna ddim llawer o bwynt cynnal dadl estynedig - dydan ni byth am gytuno ar hyn - ond hoffwn wneud sylw neu ddau:
(1) Cryfder Islam yw ei symlder a'r ffaith nad oes lle i gredinwyr ddehongli rhyw lawer. Mae'n grefydd ddidactic. Dydi hyn ddim yn golygu mai Moslemiaid sy'n gywir wrth gwrs - ond mae synwyr i grefydd o'r fath o safbwynt seicolegol.
(2) Mae'r holl amrywiaethau ar Gristnogaeth yn gymhleth - ond o leiaf gyda Phabyddiaeth mae'r ffaith mai'r Pab sy'n gyfrifol am y dehongli diwynyddol, ac nid yr unigolyn yn rhoi siap a chyfeiriad bendant i'r ffydd. Mae Protestaniaeth yn rhoi gormod o raff i bobl ddod i'w casgliadau eu hunain.
Post a Comment