24.5.08

Facebook Cymraeg ar y ffordd

Mae'r Gymraeg ar agor i gael ei gyfieithu! :-)

Mae'n broses fawr sydd ar hyn o bryd dim ond gyda 84 o bobl yn rhan o'r prosiect er fod miloedd o Gymry Cymraeg ar Facebook. Os nad ydych chi ffansio gwneud unrhyw gyfieithu yna peidiwch a phoeni oherwydd yr hyn sydd angen ydy defnyddwyr i bleidleisio ar y cyfieithiadau gorau fydd yn cael eu derbyn ac fe all bawb wneud hynny.

Ar hyn o bryd mae'r 133 o dermau craidd wedi eu cyfieithu ond maen rhaid i ni gael pobl i bleidleisio dros y termau i'w derbyn yn swyddogol cyn mynd ymlaen i gyfieuthu y cymal nesaf sy'n 20,000 o frawddegau!! Felly ymunwch yn y dasg - wnaiff pleidleisio dros y 133 term dechreuol ddim cymryd mwy na 15 munud i chi.

Ewch yma, a dewisiwch Cymraeg i helpu gyda'r gwaith

2 comments:

Huw said...

Pa gamera fideo ti'n ei ddefnyddio ar gyfer dy vlog?

Rhys Llwyd said...

Sony DCR-HC51E Mini DV Handycam with X40 Zoom

Fe brynais i trwy Curry's oherwydd ar y pryd roedden nhw'n cynnig bundle: y camera+12 casset DV+casyn+fire wire cable am £184.99 oedd yn dda iawn oherwydd ar y pryd roedd y camera ar ben ei hun yn £159.

Dyma'r linc iddo fe ar Amazon:
http://www.amazon.co.uk/Sony-DCR-HC51E-Mini-Handycam-Zoom/dp/B0011UBI6S/ref=sr_1_1?ie=UTF8&s=electronics&qid=1211752726&sr=8-1

Yr unig beth dwi ddim yn arbennig o hapus gyda yw diffyg input ar gyfer meic allanol ond maen rhaid i ti dalu rhai cannoedd am un da sy'n cynnig y fath ategyn felly am y pris dwi'n hapus iawn.