11.6.08

Cenedlaetholdeb Gristnogol: ateb dadl "hen ferchetan"

Ar y blogiad yma yn trafod Cenedlaetholdeb Gristnogol R. Tudur Jones fe adawodd hen ferchetan y sylwad diddorol a heriol canlynol:

Allaim gweld unrhyw gyslltiad o gwbwl Rhys. Doesna ddim cysylltiad amlwg rhwng Cristnogaeth a Chenedlaetholdeb - mae'r syniad fod yr hen athiestaid na wedi pylu y gefnogaeth i genedlaetholdeb yn nonsens.


Rhydd i bawb ei ddehongliad ond ni all neb sydd ond wedi gwario cyn lleied a phum munud yn astudio Hanes Cymru wadu fod cysylltiad cryf os nad an-wahanadwy rhwng Cristnogaeth a Chenedlaetholdeb yng Nghymru. Cymer er enghriafft yr olyniaeth yma sydd yn cael ei chyfri fel un olyniaeth o Genedlaetholdeb Gymreig:

Dewi Sant>John Penry>Griffith Jones>Michael D. Jones>Emrys ap Iwan>Saunders Lewis>Lewis Valentine>J.E. Daniel>Gwynfor Evans>R. Tudur Jones


Maen nhw oll yn Gristnogion ac, yn fwy pwysig, eu ffydd Gristnogol oedd sail eu cenedlaetholdeb. Er nad oedd rhyw lawer o bragmatiaeth yn perthyn i genedlaetholdeb R. Tudur Jones a chyn hynny Saunders Lewis does dim gwadu fod eu cenedlaetholdeb o rîn dyfnach na chenedlaetholdeb Plaid Cymru heddiw, ac i mi y symud oddi wrth genedlaetholdeb Gristnogol i genedlaetholdeb seciwlar sydd i gyfri ac esbonio hyn.

6 comments:

Emma Reese said...

"Maen nhw oll yn Gristnogion ac, yn fwy pwysig, eu ffydd Gristnogol oedd sail eu cenedlaetholdeb."

Cyntuno'n llwyr. Ella Rhys, bod rhaid i ti ail-bostio araith Arfon Jones yn Aberystwyth.

Hen Ferchetan said...

Mae'n wir fod na gristnogion selog wedi bod yn bobl bwysig iawn o fewn y Blaid, ond dydi hynny ddim yn golygu fod na gysylltiad rhwng y ddau sy'n gwneud i gristion fod yn fwy tebygol o fod yn genedlaetholwr na athiest.

Ella fod fy ymateb yn "heriol", ond i fod yn onasd dyna oedd y dôn gesio ddarllan y post gwreiddiol. Canolbwynt y post oedd ma'r rheswm fod y Blaid yn sharad cyn llead am annibyniaeth dyddia yma ydi fod na gymaint o ddi-gredwyr yn ei plith. Ma hunna yn heriol iawn i an-ffydwyr ac yn hollol ddi-sail ar unrhyw dystiolaeth.

Mae na lot o resyma pam fod y Blaid yn siarad llai am annibyniaeth erbyn hyn, doesnam un ohonu nhw unrhywbeth i neud efo Cristnogaeth.

Rhys Llwyd said...

Diolch am y sylwad eto hen ferchetan. Ond i brofi fy mhwynt ym mhellach byddai'n rhaid i mi ddechrau enwi enwau a dwi ddim am syrthio i'r trap o wneud hynny. Yr unig beth fuasw ni'n dweud ydy i ti edrych ar yr agenda newydd sy'n rhoi sosialaeth cyn annibyniaeth/cenedlaetholdeb ac fe weli di fod yr arweinwyr hynny yn atheists agored.

Hen Ferchetan said...

Digon posib Rhys, ond ma na dwtsh o "Post hoc ergo propter hoc" yn dy resymeg.

Dydi'r ffaith fod y bobl sy'n arddel Sosialaeth cyn Cenedlaetholdeb YN athiest ddim yn golygu ei bod nhw'n arddel Sosialaeth cyn Cenedlaetholdeb ACHOS bo nhw yn athiests.

Mae hynnu fel trio dweudfod y pedair wnaeth brotestio yn erbyn yr Enfys yn ferched a felly fod hi'n amlwg fod merched yn casau Toriaid mwy na dynion.

Rhys Llwyd said...

Dydy e ddim yn dilyn yn ddi-eithriad na. Ond roedd Gwynfor, Tudur Jones ayyb... yn genedlaetholwyr oherwydd eu bod nhw'n credu ei fod yn rhan o drefniant Duw, mae'r greater ethic yna o fod yn ostyngedig i drefn Duw ar goll mewn aethists marcsaidd oherwydd mae eu prif ffocws nhw yw dilyn theori atheistaidd marx o wleidyddiaeth dosbarth.

Hen Ferchetan said...

mae'r greater ethic yna o fod yn ostyngedig i drefn Duw ar goll mewn aethists marcsaidd oherwydd mae eu prif ffocws nhw yw dilyn theori atheistaidd marx o wleidyddiaeth dosbarth.


Wel yndi, ma aethists marcsaidd yn foccwsio ar theri marx o wleidyddiaeth dosbarth, ond dydi bod yn athiests ddim yn golygu bod yn farcsaidd, mai union rhyn mor hawdd bod yn athiest cenedlaetholwr sydd efo dy brif ffocws ar genedlaetholdeb.

Pan wti'n cofio fod Cristnogion selog yn uniolaethwyr mawr yn ogystal a cenedlaetholwyr mawr dydi dy ddadl di ddim yn dal lot o ddŵr.