Plaid Cymru a moesoldeb Gristnogol
Yn archifau Dr. Tudur bore me dois ar draws llyfr nodiadau gyda anerchiadau ac areithiau o'i eiddo mewn llaw fer a draddododd mewn ralîau a chyfarfodydd Plaid Cymru yn ry 1950au. Dyma fy ffefryn i:
Nid rhywbeth a dyfodd dros nos yw bwyd cenedl ond tyfiant araf dros y cenedlaethau. Y mae gwin y gorffennol wedi ei gostrelu yn ein harferion, a'n hiaith a'n dull o fyw. Ac os collir y gwin hwn collir rhywbeth na ellir byth ei ail gynhyrchu. Y peth tristaf ynglŷn â Chymru ar hyn o bryd yw'r perygl enbyd i'r cwbl yma fynd ar goll. A hynny oherwydd y gwrthodir inni'r rhyddid teg i fynegi cyfoeth ein traddodiad. Atelir ni ymhob rhyw fodd...
Beth allwn ni ei wneud? Sylwch mai cwestiwn moesol yw hwn, cwestiwn ynglŷn â'n hagwedd at fywyd dyn ar y ddaear, at gymdeithas a dyfodd dros lawer o genedlaethau. A ydym am helpu i ddiffodd y gymdeithas hon ai peidio? Mwy na hynny, i ni sy'n etifeddion y traddodiad Cristnogol, y mae llawer o nodweddion y gymdeithas Gymreig yn gynnyrch uniongyrchol y ffydd Gristnogol ei hun. Yn awr, fe gytunwn y profir ansawdd ein ffydd Gristnogol ni yn ein ymwneud â dynion ac â phethau. Cytunwn yn barod fod awydd Hitler i ddileu'r cymdeithasau hynny a safai ar ei ffordd yn rong. Yr oedd yn beth i'w gondemnio yn enw Duw. Cwestiwn moesol oedd hwnnw. Cytunwn fod gwaith Mussolini yn mygu rhyddid barn yn yr Eidal yn beth annuwiol. Cytunwn fod gwaith Rwsia yn Hwngari yn anghywir. Hynny yw, cwestiynau moesol a Christnogol yw'r rhain i gyd. Yn awr, cwestiwn moesol a chrefyddol yw cwestiwn Cymru hefyd. Un o egwyddorion mawr sylfaenol y ffydd Gristnogol yw parch at ddyn fel dyn, ac at y cymdeithasau y mae dynion yn eu ffurfio. Yma, fe olyga hynny, ein hagwedd ni at y gymdeithas yr ydym yn aelodau ohoni. (Gwŷl Ddewi, 1957 [Ffeil 74])
I mi, mater moesol sy'n deillio o fy ffydd Gristnogol yw Cenedlaetholdeb o hyd. Ac dwi ddim yn meddwl mod i'n siarad ar fy nghyfer wrth ddweud fod symud Plaid Cymru oddi wrth egwyddorion craidd Cenedlaetholdeb wedi dod law yn llaw a pylu ar y dylanwad Cristnogol a twf atheistiaid oddi fewn i'r Blaid.
2 comments:
Allaim gweld unrhyw gyslltiad o gwbwl Rhys.
Doesna ddim cysylltiad amlwg rhwng Cristnogaeth a Chenedlaetholdeb - mae'r syniad fod yr hen athiestaid na wedi pylu y gefnogaeth i genedlaetholdeb yn nonsens.
Ni all neb sydd ond wedi gwario cyn lleied a phum munud yn astudio Hanes Cymru wadu fod cysylltiad cryf os nad an-wahanadwy rhwng Cristnogaeth yng Nghymru.
Cymer er enghriafft yr olyniaeth yma sydd yn cael ei chyfri fel olyniaeth Cenedlaetholdeb Cymreig:
Dewi Sant>John Penry>Griffith Jones>Michael D. Jones>Emrys ap Iwan>Saunders Lewis>Lewis Valentine>J.E. Daniel>Gwynfor Evans>R. Tudur Jones
Maen nhw oll yn Gristnogion ac yn fwy pwysig eu ffydd Gristnogol oedd sail eu cenedlaetholdeb. Er nad oedd rhyw lawer o bragmatiaeth yn perthyn i genedlaetholdeb R. Tudur Jones a chyn hynny Saunders Lewis does dim gwadu fod eu cenedlaetholdeb o rîn dyfnach na chenedlaetholdeb Plaid Cymru heddiw, ac i mi y symud oddi wrth genedlaetholdeb Gristnogol i genedlaetholdeb seciwlar sydd i gyfri ac esbonio hynny.
Post a Comment