18.6.08

Ysblander Frenin Nef (cyflwyno emyn newydd)

Dyma un o fy hoff emynau cyfoes ar hyn o bryd Ysblander Frenin Nef (The Splendor of the King) gan Chris Tomlin. Recordiad o fand addoli Llanw ydyw - nid yw safon y sain yn y fideo yn dda o bell ffordd ond gobeithio y bydd yn rhoi rhyw syniad i chi o'r emyn.



YSBLANDER BRENIN NEF,
Mawredd sy’n Ei wedd,
Gadewch in lawenhau, dewch i lawenhau,
Mae’n gwisgo golau pur
Mae’n treiddio’r tywyll-dir
Sy’n crynu’n sŵn Ei lais, yn crynu’n sŵn Ei lais.

Mor fawr yw ein Duw,
cenwch fry
Mor fawr yw ein Duw,
fe welwn ni
Mor fawr, mor fawr yw ein Duw.

Fe saif o oes i oes;
Mewn grym teyrnasa’n ddoeth
O’r dechrau a hyd byth, dechrau a hyd byth
Yn Drindod, Ef yw’r Tad,
Y mab a’r Ysbryd Glân
Y llew a’r oen yn un, y llew a’r oen yn un.

Enw’r uchaf Un,
Haedda’n mawl i gyd
Fe ganwn ni
Mor fawr yw ein Duw

Chris Tomlin, Jesse Reeves & Ed Cash
cyf. Martyn Geraint ac Arfon Jones

2 comments:

Emma Reese said...

Gwych! Dan ni'n canu'r emyn ma'n aml yn ein eglwys ni hefyd. Hyfryd cael clywed fersiwn Cymraeg.

Emma Reese said...

Cyfieithiwyd gan Arfon Jones, wrth gwrs!