27.7.08

The Irresistible Revolution



Heddiw dwi wedi dechrau darllen 'The Irresistible Revolution' gan Shane Claiborne. Mae Shane yn perthyn i'r ysgol honno o'r byd efengylaidd sydd wedi cael llond bol a'r heijack y dde-gwleidyddol o'r label "efengylaidd" ar un llaw ac ar y llaw arall maen perthyn i'r ysgol honno o'r byd ymgyrchol gwleidyddol sydd wedi cael llond bol ar yr agenda seciwlar anffyddiol sy'n gwrthod mynd i'r afael a chwestiynnau dyfnaf dyn. Meddai Shane yn y rhagarweiniad: "I don't really fit into the old liberal-conservative boxes, so it's a good thing we are moving on to something new. My activist friends call me conservative, and my religious friends call me liberal." Ac yn hynny o beth mae genna i a Shane rhywbeth yn gyffredin felly mi ddarllena i mlaen ag awch... adolygiad llawn ar y blog ar ol i mi orffen darllen.

1 comment:

alaw said...

Hei Rhys!
Wedi darllen y llyfr yma. Ma'n wych!
Gwneud i rywun edrych ar y ffordd ma'n byw go iawn.