11.5.07

Newyddiaduraeth Cymraeg/Saesneg - trafodaeth Ciaran

Diolch i Ciaran am ymateb i fy mhostiaid diwethaf. Mae e'n dweud mae'r unig beth pwysig am y golofn yw fod hi'n un “dda”. Wrth gwrs fod hynny yn bwysig ond mae hynny yn awgrymu fod dim ots pa iaith yw hi, neu pa iaith yw'r blog. Dwi'n anghytuno. Mae cyhoeddi mewn iaith leiafrifol yn bwysig ac yn benderfyniad gwleidyddol, i mi beth bynnag. Mae Ciaran yn mynd ymlaen i ddweud:

"Os ydyn ni am gael Cymru deinamig a dwyieithog, rhaid i ni erfyn pobl i weithtio trwy gyfrwng y dwy iaith . Yn delfrydol, dylai fod dim siwt beth a newyddiadurwr 'Cymraeg' a newyddiadurwr 'Saesneg'. Mae'r ffaith bod pobl dal yn gwneud y gymhariaeth yn dangos pa more bell sydd 'da ni i fynd."

Deall ei bwynt i raddau ond pam y dyliwn i fod yn newyddiadura yn Saesneg yn ogystal a'r Gymraeg i gael credentials? Mae'r ffaith bod sgiliau Saesneg gyda mi mynd i fy ngwneud i'n newyddiadurwyr Cymraeg gwell na Cymro uniaith Gymraeg ydy – ond dwi ddim yn derbyn fod rhaid i chi ymarfer eich crefft yn Saesneg, hefyd, i brofi eich hun. Mae yna rhywbeth eithaf taeog yn y feddylfryd yna.

Fodd bynnag mae geiriau Ciron yn bwysig ond credaf mai ochr Saesneg BBC Llandaf sydd angen arwain y ffordd. Cam mawr ymlaen gyda cyfryngau Cymraeg/Saesneg yng Nghymru fyddai perswadio Wales Today i adael pobl i siarad yn Gymraeg ar eu rhaglenni gan roi is-deitlau neu over-dub mlaen (sef beth sy'n digwydd os ydy Prif Weinidog Iran neu pwy bynnag yn siarad). Rwy'n deall fod pobl fel John Meredith wedi bod yn pwyso am hyn ond fod BBC Llandaf (ochr Saesneg) wedi gwrthod.

Tan y bydd Wales Today yn fodlon i bobl siarad yn Gymraeg (gyda subtitles neu over-dub) bydd yna wastad split yn bodoli yn anffodus gan fod Wales Today yn wasanaeth lle mae'r Gymraeg yn cael ei sensorio.

2 comments:

hafod said...

Yn anffodus Rhys, rwyt ti'n bell o fod yn newyddiadurwr.
Mae dy adwaith eithafol i Gymro Cymraeg o'r Cymoedd yn cael colofn yn Golwg yn siarad cyfrolau. Nid taeogrwydd yw gweithio'n Saesneg ond realiti. Felly hefyd defnyddio Saesneg ar fwletinau newyddion Cymraeg - mae'r Cymry Cymraeg yn ddwyieithog. Rhywbeth i lawenhau ynddi, dybiwn i.

Rhys Llwyd said...

Dwi'n gwbod nad ydw i'n newyddiadurwr BBC aidd, dwi'n meddwl byddai hi bron a bod yn amhosib i rywyn a barn mor bendant ar gymaint o bethau fel fi fod yn newyddiadurwyr yn y Gymru sydd ohoni.

Problem newyddiaduraeth yng Nghymru heddiw, yn fy nhyb i, yw fod diffyg safbwynt gan newyddiadurwyr. Wrth gwrs y rheswm am hyn yw monopoli y BBC - rwy'n disgwyl mlaen i weld y BYD yn cael ei lansio lle bydd posib i sylwebwyr ddweud ei dweud yn blaen a thrwy eu llygaid hwy heb fod yn gaeth i orchmynion y BBC.

Pam na ddyliwn i gael siarad Cymraeg ar Wales Today?