5.3.08

Beth sy'n bosib mewn saith diwrnod? Creu byd?

Mwy o bigion maes-e...

Macsen (maes-e): "Ond onid wyt ti'n dal i gredu bod y byd wedi ei greu gan Dduw mewn saith diwrnod ychydig filoedd o flynyddoedd yn ôl? Mae hynny i fi hefyd yn rwtsh. Croeso i ti fy nghywiro os nad wyt ti!"


I mi nid y cwestiwn creiddiol yw 'wyt ti'n credu ddaru Duw greu y Byd mewn Saith diwrnod?' Mae yna sawl cwestiwn tipyn pwysicach sydd angen eu hystyried yn gyntaf cyn dod at gwestiwn y cread. A'r ddau brif gwestiwn sydd angen ateb iddyn nhw cyn dod i drafod y cread ydy'r ddau gwestiwn yma: wyt ti'n credu fod Duw yn holl-alluog a phwerus? Fy ateb i yw ydw. Ac yn ail: wyt ti'n credu mewn gwyrthiau? Fy ateb i yw ydw. Os yw eich atebion i'r ddau gwestiwn yna yn myn tu hwnt gwyddoniaeth, hynny yw ateb yn bositif iddynt, yna rydych chi mynd i ddod at gwestiwn creadigaeth o safbwynt unigryw a gwahanol. Felly o fynd nol at y cwestiwn gwreiddiol: 'wyt ti'n credu ddaru Duw greu y Byd mewn saith diwrnod?' Yn hytrach nag ateb 'ydw' fy ateb i ar sail fy nghred mewn Duw holl alluog a bodolaeth gwyrthiau ydy 'pam lai?' sydd, credaf, yn yn wahanol i 'ydw' plaen oherwydd mod i wedi dod at yr ateb yn resymegol ac nid o ffydd ddall fel petae.

Ond beth am yr holl dystiolaeth sy'n profi fod y byd yn filiynau ar filiynau o flynyddoedd oed, y ffosils, deinasoriaid ayyb... Fy marn bersonol i yw ei bod hi'n ddigon posib, gan ei fod yn holl-alluog, fod Duw wedi creu y Byd eisioes mewn cyflwr o aeddfedrwydd yn yr un modd a bu iddo greu Adda ac Efa yn ddau oedolyn ac nid yn ddau faban. Y lle dwi'n pellhau fy hun o safbwynt Creationists America a mudiadau fel Answers in Genesis yw mod i'n cyfaddef nad ydy fy nehongliad i yn un gwyddonol tra fod Answers in Genesis yn ceisio defnyddio gwyddoniaeth i brofi gweithred wyrthiol - they miss the whole point yn fy marn i. Mewn ffordd dwi'n gyndyn i gyfrannu i drafodaethau ar greadigaeth oherwydd dwi'n greiddiol, fel nodesi uchod, fod yn rhaid i bobl holi ac ateb cwestiynau eraill a rheiny yn rai llawer mwy creiddiol am fodolaeth Duw cyn dod at y cwestiwn hwn.

3 comments:

gethin said...

hmm. diddorol.
y peth ydi - fyswn i'n dweud mai ar sail pethau megis y ffaith ei fod wedi creu'r byd yr ydw i'n credu fod Duw yn hollalluog. dwi'n meddwl os mai man cychwyn fy ateb ydi fy nghred i, wnai fynd mewn i ddadl gylchol (oes na derm go iawn am 'circular argument'?) sy'n caniatau fi i gredu un peth a person arall i gredu rhwbeth arall.
-->
mr x:wyt ti'n credu naeth Duw greu'r byd mewn 6 diwrnod?
fi: ydw
mr x: pam?
fi: achos mae'n hollalluog
mr x: sut wyt ti'n gwbod?
fi: achos naeth o greu'r byd mewn 6 diwrnod ayyb

ar y llaw arall, os dwi'n mynd at ysgrythur fel yr awdurdod sydd uwchlaw fy nghred i e.e. gair Duw, mae'n gliriach.
mr x: wyt ti'n credu naeth Duw greu'r byd mewn 6 diwrnod?
fi: ydw
mr x: pam?
fi: achos naeth o ddweud wrtha i yn y Beibl mai dyna naeth o

be ma pobl sy'n dibynnu'n ormodol ar brawf gwyddoniaethol yn neud ydi mynd yn rhy bell yr ochr arall a rhoi awdurdod uwchben y Beibl sy'n golygu nad y Beibl ydi'r awdurdod ucha.

mr x: pam wyt ti'n credu be ma'r Beibl yn dweud
mr gwyddonydd: achos mae gen i goeden yn mynd trwy sawl haen o ffosiliaid

Rhys Llwyd said...

Dwi'n deall dy bwynt Gethin ond Duw sy'n ddwyfol ac nid y Beibl - datguddiad o'r dwyfol yw'r Beibl ac nid y dwyfol ynddoi hun. Hefyd yng nghyd destun deialog gyda pobl nad sydd o'r rheidrwydd yn credu mewn Duw y Cristion nid yw ymresymu drwy ddweud "achos maen dweud yn y Beibl" yn help o gwbl oherwydd ni fydd rhywun nad sy'n credu ac ymddiried yn Nuw yn credu yn y syniad o ysbrydolrwydd y Beibl.

gethin said...

O ie dwi'n cytuno - fyswn i ddim yn gadel o jyst efo "achos mae'n dweud yn y Beibl a mae disgwyl i ti gredu o (bash!)". fyse hwnna'n sicr ddim yn helpu - wel, dim lot beth bynnag.
jyst y cam cynta byse dweud hwnna - dim ond dweud bod angen sail i be dwi'n credu ar wahan i ... be dwi'n credu. jyst dangos fod sail fy nghred yn natguddiad Duw yn y Beibl a mod i'n derbyn hwnna fel y gwirionedd - wedyn galla i roi mwy o resymau pam dwi'n credu'r Beibl - a'r prif reswm ydi'r efengyl.