Dylunio crys-t Y Gorlan 2008
Dwi wedi bod yn gwneud lot o waith dylunio dros y penwythnos, ddoe a bore ma; y rhan fwyaf mewn paratoad i waith llawer o fudiadau i'r Eisteddfod yng Nghaerdydd. Bore ma dwi wedi bod yn dylunio Crys-T i'r Gorlan, mi fydd mynnychwyr ffyddlon y Gorlan wedi hen arfer gyda'r crys-t thematic blynyddol y mae'r staff yn gwisgo. Thema'r Gorlan eleni ydy Datguddiad 21 a'r syniad am nef a dear newydd sy'n rhydd o unrhyw ofid a phoen. Dyma'r dyluniad/drafft cynta o'r crys-t wnes i weithio arno bore ma:
Gwefan y Gorlan
Gwefan fy ngwaith dylunio
3 comments:
Edrych yn neis.
Fyddwch chi'n eu hargraffu ar crys-t masnach deg/organig neu'r rhai rhata sydd i'w cael? Mae yna gwmni o Aberhonddu (neu wedi eu cofrestru yno o leiaf) sy'n gwerthu crysauT 'sweat shop free ac organic, or enw Tonic.
diolch rhys wynne. rydym ni'n arfer argraffu a chynhyrchu gyda Cowbois, rhaid mi gyfaddef mod i ddim yn siwr beth yw eu polisi "masnach deg" ond o leia maen nhw'n fusnes Cymraeg ac yn cyflogi pobl yn ardal y Bala, ardal sy'n brin o swyddi.
edrych yn dda :)
Post a Comment