11.8.08

Llyfrau o'r Steddfod

Mae'r Eisteddfod yn tueddu i fod yn wythnos ddrud i bawb rhywsut, y ddiod gadarn sy'n gwagio'r banc i'r rhan fwyaf o bobl ond i mi y doreth o lyfrau sydd ar werth sy'n dwyn fy arian prin. Dyma'r llyfrau wnes i brynu yn yr Eisteddfod eleni:

1. 'Ffiniau' gan Dewi Z. Phillips. Cyfrol ddiweddaraf ac olaf Dewi Z, wedi iddo farw y llynedd fe gymerodd Hywel Teifi Edwards y dasg o'i olygu yn barod i'r Lolfa ei gyhoeddi. Yn y gyfrol hon mae Dewi Z yn trafod Llenyddiaeth Cymru o safbwynt yr athronydd. Mae hon yn debyg o fod yn un drom – cha i ddim cyfle i'w darllen am y tro.

2. 'Tu Chwith 29'. Menna oedd yn golygu'r gyfrol hôn ac mae hi wedi gwneud jobyn da ohoni a da o beth felly gan mod i'n gwybod mwy na neb yr amser y treuliodd hi'n hel cyfranwyr, golygu drafftiau a chraffu ar broflenni – dwi'n falch iawn drosti fod hon yn gyfrol mor dda. Ymysg y cyfranwyr mae yna erthygl fechan gan ryw Rhys Llwyd yn trafod y feirniadaeth o Bietistiaeth yng ngwaith Pennar Davies a Bobi Jones.

3. 'Credu a Chofio: Ysgrifau Edwin Pryce Jones' gol. R. Tudur Jones. Roedd Edwin Pryce Jones yn un o gyfeillion pennaf Dr. Tudur, testun fy ymchwil, ac roedd EP Jones hefyd yn ddylanwad arno maen rhaid. Felly pan welais hwn ym mwced “bargeinion” stondin Cyhoeddiadau'r Gair roedd rhaid i mi ei brynu. Maen cynnwys anerchiadau enwog EP Jones 'Her yr Athrawiaethau'.

4. 'Beth yw pwrpas llenydda?' gan Bobi Jones. Llyfr bach ond pwysig yn nhraddodiad Dooywerd, pwysig iawn i ddeall Calfiniaeth a rational llenyddol Bobi. Ches i hwn o stondin Gwynedd Williams.

5. 'Cristnogaeth a Chenedlaetholdeb' gan J.R. Jones. Pwysig i mi ymgyfarwyddo fy hun a syniadau sy'n wahanol i rai R. Tudur Jones yn enwedig syniadau gwahanol sy'n hawlio'r teitl “Cristnogol” yn ogystal. Ches i hwn hefyd o stondin Gwynedd Williams.

6. 'Amddiffyniad i'r Methodistiaid Cymreig mewn atebiad i gyhuddiad yn eu herbyn, mewn dau draethodyn dienw' gan Thomas Charles y Bala. Dwi wrth fy modd gyda llyfrau bach Thomas Charles, maen nhw'n glasuron i gyd! Yn y llyfryn bach hwn mae Thomas Charles yn mynd i ddadl gyda'r Eglwyswyr sy'n beirniadu'r Methodistiaid Calfinaidd am dorri cwys newydd ac annibynnol. Meddwl oeddwn ni y byddai yna dipyn yn berthnasol i ni heddiw sy'n ceisio torri cwys newydd ac annibynnol o'r hen gyfundrefnau crefyddol. Hen eto o stondin Gwynedd Williams.

7. 'Evanglical Review of Theology'. Ches i hwn gan Dewi Arwel Hughes, ymgynghorydd Diwinyddol Tearfund. Roedd Dewi yn gweithio ar stondin Tearfund gyda Menna rai diwrnodau yn ystod yr wythnos.

Llawer i ddarllen felly!

2 comments:

Ifan Morgan Jones said...

Ti wedi anghofio un pwysig! :P

Rhys Llwyd said...

ha! Paid a phoeni, 3 copi wedi cyraedd comins Coch, meddwl byddai 4 chydig bach dros ben llestri ;-) dwi ddim yn un i ddarllen ffuglen ond dwi'n addo rhoi go i'r gyfrol!