25.12.07

Ydy Cristnogion yn patronising?

Ydy Cristnogion yn patronising? Ydyn yn sicr! Dwi'n meddwl mae un o brif broblemau'r eglwys, Cristnogaeth ac un o fy brif broblemau personol i ydy bod yn hunangyfiawn a dilornus o safbwyntiau gwahanol. Mae Cristnogaeth a Christnogion yn euog ar adegau o ddod drosodd yn patronising ac ar lawer adeg mi ydw i'n syrthio i'r twll ac yn fwy euog na neb am ddod drosodd yn patronising. Rwy'n cael fy hun yn aml yn gorwedd yn y gwely yn cicio fy hun am ddweud yr hyn ar llall mewn ffordd anraslon wrth rhywun, yn amlach na pheidio ar maes-e. Dwi'n gobeithio fod pobl sy'n fy adnabod yn y cigfyd yn gwybod yn iawn fod fy nghyfarth ar maes-e ac ar bapur (ac ar y blog hwn) yn fwy na'm brathiad. Ddim bod hynny wrth gwrs yn esgus am y troeon llawer lle dwi wedi bod yn ffyrnig o ymosodol tra'n dadlau am bethau yn enwedig felly am fy ffydd. Yr unig beth fedrai wneud ydy gwrido, edifarhau ac ymddiheurio. Wedi'r cyfan fe ddoith neb i berthynas a Iesu oherwydd iddyn nhw fethu a'm trechu i mewn dadl – yn yr un ffordd ag yr ydw i'n parhau i gredu yn Iesu er i mi gael fy llorio mewn dadleuon droeon ar y maes. Nid yw ffydd a wnelo dim gyda ennill a cholli dadleuon, rydw i'n anghofio hynny yn aml ac mae'r eglwys yn gyffredinol yn anghofio hynny hefyd.

Y broblem gyffredinol gyda Christnogaeth a Christnogion fel fi yw ein bod ni yn rhy hung-up ar grefydd – dy ni'n rhoi gormod o bwyslais ar ein cyfundrefn meddwl; yn y bon dy ni rhy grefyddol ac ddim yn ddigon duwiol. Dwi o'r farn mae prif nodwedd person duwiol ydy bod yn ostyngedig (h.y. 'humble'), fy nyhead dwfn i ydy bod yn Gristion mwy gostyngedig. Amwni mae'r ffordd ymlaen ydy gollwng Cristnogaeth fel crefydd a son mwy am Iesu Grist y gwaredwr, y dyn mwyaf gostyngedig a lleiaf patronising a fu erioed. A dyna yw fy neges i heno ma, noswyl gwyl dathlu geni Iesu; wrth edrych arnaf i maddeuwch i mi am fy amryfal frathiadau anraslon ac maddeuwch rhai o fy sylwadau patronising ac edrychwch yn hytrach ar Iesu ei hun – dyn heb ronyn o gasineb na penstiffrwydd; er mod i'n ceisio dilyn Iesu fe wridaf wrth gyfaddef nad ydw i'n rep. da iddo'n aml.

Os cewch chi gynnig mynd am wyliau yn rhad ac am ddim i Barbados trwy'r post peidiwch a chael eich troi i ffwrdd ar sail y ffaith y bod y dyn post a ddosbarthodd y neges am y cynnig yn haerllug a patronising. Negesydd ceiniog a dimau ydw i ac rydw i'n boenus o ymwybodol fod fy methiannau i fel crediniwr digon cyffredin ac an-ostyngedig yn debygol o beidio gwneud cyfiawnder ag Iesu. Felly ceisiwch edrych heibio i'r Cristion patronising yna (fi efallai?!) a aeth ar eich nerfau ac edrychwch arno Ef, Iesu Grist, yn lle ac ystyriwch. Nadolig Llawen.

1 comment:

Anonymous said...

Dwi’n gwerthfawrogi dy onestrwydd fan hyn o lawer; mae’n drist bod neges mor hyfryd a syml ag un Iesu’n cael ei difetha mor aml gan ei ddilynwyr. Anffyddiwr dwi, ond dwi’n edmygu ysbryd a gwerthoedd gwreiddiol Cristogaeth. Ond yn aml dwi’n meddwl am y dywediad ’na: Lord, save me from your followers. Fel dwedest ti, doedd neb erioed wedi cael ei argyhoeddi gan brygethu. (A dyna wir mewn pob maes: rhyfedd pa mor debyg ydy trafodaethau crefyddol a thrafodaethau gwleidyddol...)